Enw siop yn Gaiman yw ‘De Todo un Poco’, sy’n yn golygu ‘tipyn bach o bopeth’. Ond ma fe hefyd yn adlewyrchu’n amser i ym Mhatagonia hyd yn hyn – felly dyma bigion o’r hyn dwi wedi’i neud ers cyrraedd...
Ddeuddydd ar ôl i fi gyrraedd Gaiman, cyrhaeddodd fws llawn pobl o’r Unol Daleithiau i glywed Tegai Roberts yn rhoi sgwrs ar hanes y Wladfa yng Nghapel Bethel. Er mai’r bwriad o’dd eistedd yn y cefn yn gwrando, ges i ngalw i ddarllen Salm 23 iddyn nhw yn Gymraeg, cyn rhoi cyflwyniad byr o ngwaith gyda Menter Patagonia, ac ateb eu cwestiynau!
Ma Côr Gaiman yn ymarfer am 9.00 bob nos Lun a nos Fercher yn yr Ysgol Gerdd, a fi yw’r aelod diweddara - contralto! Dwi ddim am ddweud unrhyw beth pellach am hyn, heblaw mod i’n mwynhau bod yn rhan o’r côr, achos bydd Eisteddfod Trevelin yn ca’l ei chynnal ddiwedd Ebrill, a dwi ddim am i gorau eraill ddwyn unrhyw syniadau!
Dwi’n cynnal ambell wers yn ystod yr wythnos, ac wedi gwneud dau ddosbarth ôl-feithrin hyd yn hyn – un yn y Gaiman ac un yn Nhrelew. Ma oedran y plant yn amrywio o 5 i 9, ac yn hytrach na’u dysgu nhw, fy swydd i yw chwarae gyda nhw’n Gymraeg – gwych!
Wrth gwrs, ro’dd Cymru yn herio Ffrainc yng ngêm ola’r Chwe Gwlad, felly benderfynais i y bydde’n syniad da ca’l criw at ei gilydd i’w gwylio hi. Dewiswyd ‘Touring’ yn Nhrelew fel lleoliad, a 4.30 yn amser cwrdd. Ry’n ni deirawr tu ôl i Gymru – pedair ers troi’r clociau! Wel, ar ôl i griw bach ohonon ni gyrraedd ’na, sylweddolwyd fod y gêm yn ca’l ei dangos ‘as live’ ar ESPN+ am 7.00. Felly yn lle hynny, gethon ni ein tywys i’r ystafell wely yn y gwesty lle mae’n debyg i Butch Cassidy aros ynddi un tro – o be wi wedi’i glywed am y gêm, weden i fod hynna wedi bod yn 80 munud llawer mwy diddorol...
Ro’dd Cynog a Llinos Dafis, a Gareth a Gina Miles yn ymweld â Phatagonia ddechre’r wthnos diwethaf, felly manteisiodd Menter Patagonia ar hyn. A chytunodd Cynog Dafis a Gareth Miles i roi sgwrs fach yn Salon Cultural Gaiman nos Lun – y naill ar ddatganoli yng Nghymru, a’r llall ar fywyd llenor. Ro’dd hi’n noson ddifyr iawn, gyda rhyw 30 o bobl yn bresennol, a Ricardo Iranni yn cyflwyno copïau o’i lyfr ‘1865’ i’r ddau i gofio’r noson. A phrynhawn Mawrth siaradodd Llinos Dafis yn Ysgol Camwy ar ei gyrfa hi ynghlwm wrth ddwyieithrwydd yng Nghymru. Ma Cynog a Llinos Dafis yn byw yn Bow Street, felly cafon nhw groeso brwd iawn!
Brynhawn Gwener, fues i am dro i Radio Chubut er mwyn gweld Tegai Roberts a Luned Gonzalez yn gwneud eu rhaglen radio wythnosol – rhyw awr o hyd yn adrodd cyfarchion amrywiol a chwarae caneuon Cymraeg. Bydda i’n ca’l fy nghyfweld ar y rhaglen mewn ychydig wythnosau!
A nos Wener ro’dd cyfarfod cyntaf ‘Clwb’ yn Gaiman ar gyfer y bobl ifanc. Wyth ohonon ni o’dd ’na, gyda phawb yn dod â bwyd (cacennau yn bennaf - hwre!) a diodydd, a gwylio ‘Separado’. Do’n i ddim wedi gweld y ffilm, ac ro’dd hi’n ddiddorol ei gwylio ym Mhatagonia a finnau bellach yn ’nabod rhai o’r bobl a’r lleoliadau! Ond siom fawr o’dd fod y ffilm yn targedu cynulleidfa Saesneg, a’i bod hi’n eithaf anodd ei dilyn os nag y’ch chi’n deall Saesneg. Ro’dd hi’n noson dda, a gobeithio bydd y clwb yn parhau’n un wythnosol, gyda bwriad o ddechrau un yn Nhrelew hefyd.
Felly dwi yn gweithio draw ’ma! Fydd hi ddim yn wyth mis o galafantio – ddim yn llwyr ta beth...
No hay comentarios:
Publicar un comentario