Wel, mae’n hen bryd i fi sôn rhywfaint am y lle dwi’n byw - Gaiman.
Dwi ddim am roi hanes Gaiman a sefydlu’r Wladfa, achos ma pobl llawer mwy cymwys na fi eisoes wedi ’neud hynny! Felly dyma gyflwyniad byr...
Pentre yn Nyffryn Camwy yw Gaiman, sydd â phoblogaeth o ryw 6,000. Mae e dipyn mwy o ran maint nag o’n i wedi’i ddisgwyl, mewn gwirionedd – mae’r adeiladau a’r strydoedd ychydig ar wasgar, ac Afon Camwy yn llifo drwyddo. Mae Gaiman 18km o Drelew sydd i’r dwyrain, a 21km o Ddolavon sydd i’r gorllewin, ac felly’n ganolog iawn ar gyfer fy ngwaith. Yn y Dyffryn glaniodd y Cymry gyntaf yn 1865 - ym Mhorth Madryn, sy 85km o Gaiman – cyn symud yn bellach i’r gorllewin.
Dyma bwt yn llyfr Mari Emlyn, ‘Stori’r Wladfa’ ar hanes Gaiman:
‘Dyma enw’r Indiaid ar y man lle’r ymsefydlodd y Cymry yn Nyffryn Camwy. Ystyr y gair yw “lle cul” neu “carreg hogi”. Codwyd tŷ cynta’r Gaiman yn 1874 [gan David D. Roberts]. Erbyn Mai 1876, dywed y Parch. Abraham Matthews, fod “pentref bychan yn dechrau cael ei ffurfio yn y Gaiman”. “Pentref sydyn” oedd enw’r Cymry ar y Gaiman yn ystod y blynyddoedd cynnar, gan adlewyrchu pa mor sydyn y datblygodd.’
Dros 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ma cymuned Gymraeg weddol gref yn dal i fodoli yn Gaiman. Fis ar ôl i fi gyrraedd, dwi’n dal i gwrdd â mwy o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg! Gallen i dreulio diwrnod cyfan yma heb yngan gair o Castellano (yr enw ar Sbaeneg yma) – oni bai am ambell ‘hola’, ‘buenos dias,’ ‘gracias’ ac ‘hasta luego’. Efallai mai’r swydd sy bennaf gyfrifol am hyn, ac y byddai angen i ymwelwyr chwilio am y siaradwyr Cymraeg. Ond ma hynny hefyd yn wir am Gaerdydd, neu hyd yn oed Bow Street - felly ma’n anhygoel ei fod yn bosib mor bell o Gymru!
Ond hyd yn oed i’r ymwelydd, ma olion cryf o’r Gymraeg a’r Cymry alltud i’w gweld yn amlwg yn Gaiman, a hynny ar ffurf arwyddion yn bennaf. Y gair Cymraeg cyntaf welwch chi wrth gyrraedd Gaiman yw ‘Croeso’.
Ac ar hyd y lled y pentre ma ’na strydoedd sydd wedi cael eu henwi ar ôl rhai o’r ymfudwyr – Heol Michael D. Jones, Heol Abraham Matthews, a dwi’n byw ar Stryd Eluned Morgan.
Wedyn ma’r arwyddion sy’n nodi gwahanol sefydliadau - Policia/Heddlu, ac Informes/Gwybodaeth – a sefydliadau hanesyddol – yr amgueddfa, Llyfrgell Richard Jones Berwyn, a’r tŷ cyntaf.
Heb sôn am y rhifedi o enwau siopau, bwytai a thai te – Siop Bara, Gwalia Lân, Teganau, Crefft Werin, Cornel Wini, Gardd, Gwahanol, a Phlas-y-Coed, i enwi ond ychydig. Felly i drigolion Gaiman – os y’n nhw’n gallu siarad/deall Cymraeg ai peidio – ma’r enwau hyn yn rhan o fywyd bob dydd. Dwi’n aml yn clywed hysbyseb mewn siop neu ar y bws sy’n llawn brawddegau Sbaeneg cyflym ac yn sydyn reit – ‘Siop Bara. Pan, tortas, helados... Siop Bara, Avenida Eugenio Tello.’ Dwi’n chwerthin bob tro!
Eugenio Tello yw enw prif stryd Gaiman, gyda rhewl go lydan sy’n aml yn troi’n bedair lein wrth i bobl oddiweddyd ei gilydd. Arni ma llefydd fel Yr Ysgol Gerdd, Siop Bara a’r Ysgol Feithrin, a ma hi’n rhedeg o naill ben y pentre gan arwain at Gaiman Newydd y pen arall. Dyw’r ardal ddim mor newydd â hynny, mewn gwirionedd – ro’n i’n siarad gyda rhywun yn ddiweddar sy’n byw ’na ers 30 mlynedd!
Ac oddi ar y stryd hon ma ’na strydoedd llai, er enghraifft Heol Michael D. Jones (Ysgol Camwy a Thŷ Camwy ar hon), Sarmiento (stryd yr amgueddfa), a JC Evans (y banc, y llyfrgell a’r swyddfa bost). Ma JC Evans yn arwain heibio i’r plaza, dros Afon Camwy ac allan i’r wlad – ond os y’ch chi’n teithio ar droed, ma’n rhaid i chi gerdded dros bont bren sigledig i groesi’r afon (wele Iwan arni).
Deg person yw’r mwyaf sy’n cael bod arni ar yr un pryd. Dwi’n byw yr ochr arall i’r bont, ac felly’n cerdded drosti sawl gwaith y dydd – ro’n i’n dal ar yr ochrau i ddechrau, ond dwi wedi bod arni gyda dros ddeg o bobl eraill erbyn hyn, a hyd yn oed redeg drosti gwpl o weithiau!
Ma llawer mwy y gallen i ei ddweud am Gaiman, mewn gwirionedd, ond ma hyn yn rhoi syniad i chi! Dwi wedi teimlo’n gartrefol iawn yma o’r cychwyn cyntaf, gan fod pawb mor groesawgar a chyfeillgar - a mod i’n gallu siarad Cymraeg yma.
Felly dyna Gaiman i chi – Bow Street Patagonia!
No hay comentarios:
Publicar un comentario