viernes, 6 de mayo de 2011

Curo'r gelyn yn Nhrevelin

O’r diwedd, daeth penwythnos Eisteddfod Trevelin – a chyfle i weld y paith!



Ma’r pellter rhwng Gaiman a Threvelin yn ymestyn dros ryw 582km, a’r rhan helaethaf ohono’n ddiffeithwch. Felly llwytho’r car, a bant â ni! Dywedodd sawl person y bydden i’n gweld amrywiaeth o anifeiliaid ar hyd y paith, ond ro’dd yr anifail cyntaf welon ni braidd yn annisgwyl – iâr! Ymddangosodd guanacos (tebyg i’r lama), adar tebyg i’r estrys, geifr, gwartheg, ceffylau a defaid fan hyn a fan draw. Gyda’r awyr yn las a’r haul yn gwenu’n braf, ro’dd y golygfeydd yn odidog – a rhai yn fy atgoffa o Gymru. Ac wrth i’r haul araf ddisgyn i’r tywyllwch, cododd gwasatedd eang Dyffryn Camwy yn fynyddoedd cadarn Cwm Hyfryd.


Hanes yn fras...

Yn 1885, ugain mlynedd ar ôl i’r Cymry cyntaf gyrraedd Patagonia, gadawodd naw ar hugain o ddynion a’u ceffylau Ddyffryn Camwy i chwilio am dir ffrwythlon wrth odre’r Andes. Rhyw 400 milltir a rhai wythnosau’n ddiweddarach, gyrhaeddon nhw ben eu taith - wrth weld yr olygfa o’i flaen, mae’n debyg i Richard G. Jones ddatgan, ‘Dyma gwm hyfryd!’ ac felly mae’n cael ei adnabod hyd heddiw. Yn 1891 ymsefydlodd y teuluoedd cyntaf yno, ac ar yr 28ain o Ebrill 2011, wedi taith o ryw chwech awr mewn car, gyrhaeddon ninnau Gwm Hyfryd.


Dros ginio o nocchis a guanaco ddydd Gwener, o’dd digwydd bod yn Ddiwrnod y Nocchis,cefais wybod y byddwn i’n beirniadu dawnsio gwerin y plant yn y prynhawn! Felly draw i Glwb Fontana, lle’r oedd ’na sedd yn aros amdana i wrth fwrdd y beirniaid.



Dyma drefn y beirniadu: ysgrifennu nodiadau am bob perfformiad a llunio beirniadaethau unigol fyddai’n cael eu cyfieithu i’r Sbaeneg, cyn eu darllen dros y meicroffô, a chyhoeddi’r canlyniad. Ro’dd cystadlaethau tebyg i eisteddfodau Cymru - adrodd, unawdau, a chorau – ond ro’dd categorïau Sbaeneg hefyd!

Gwahaniaethau mawr eraill rhwng hon ac eisteddfodau Cymru oedd absenoldeb brawddegau fel ‘caewch y drysau yn y cefn’ a ‘pob chwarae teg i’r cystadleuydd nesaf’, a’r ffaith fod pob cystadleuydd yn derbyn gwobr. Pan fyddai’r plant yn gadael y llwyfan ro’n nhw’n derbyn bag o ddanteithion, a byddai losin, llyfr, neu binau ffelt yn wobr bellach i’r cyntaf, ail a thrydydd! A thystysgrif, wrth gwrs. Daeth cystadlu’r plant i ben tua naw o’r gloch y nos.


Ar ôl treulio fore Sadwrn gyda’n pasborts yn Chile, nôl â ni i Glwb Fontana ar gyfer yr ail ddiwrnod o feirniadu – dawnsio gwerin ac adrodd hŷn! Er mod i dal yn siomedig nad o’dd bathodynnau pwrpasol ar ein cyfer ni, roedd bendant perks i fod yn feirniad. Yn ogystal â phlataid o losin a photeli o ddŵr, roedd ’na baneidiau, bisgedi a brechdanau yn dod i’r bwrdd bob hyn a hyn. Ond dwi’n credu mai’r uchafbwynt oedd y te prynhawn yn Nhŷ Te Nain Maggie - bara menyn gyda jam a chaws, sgons, teisen ddu, teisen blat afal, teisen hufen, a thebotiaid o de!

Ond mae ’na hefyd wedd negyddol i feirniadu. Bron iawn i fi orfod cerdded nôl i Gaiman ar ôl rhoi’r ail wobr i Ysgol Gerdd Gaiman yn y dawnsio gwerin!


Ro’n i hefyd yn cystadlu ddydd Sadwrn. Er cymaint dwi wedi cystadlu gydag Ysgol Rhydypennau ac Ysgol Penweddig ar hyd y blynyddoedd, dwi erioed wedi cyrraedd y brig ar lwyfan eisteddfod. Ond diolch i Gôr Gaiman, enillais i bedair cystadleuaeth yn Eisteddfod Trevelin!



Cyflwynwyd Cadair Goffa Rhobert ap Steffan i’r eisteddfod yn hwyr y prynhawn (http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9460000/newsid_9465100/9465173.stm), cyn y Coroni a’r Cadeirio. Yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron am ei cherdd Sbaeneg oedd Silvia de Roca o Gaiman, ac am ei gyfres o benillion Cymraeg heb fod dros 60 llinell, cipiodd Owen Tudur Jones o Drelew y Gadair. Do’dd dim ffanffêr i’w gwahodd i godi ar eu traed, ond roedd bri mawr yn perthyn i’r ddwy gystadleuaeth a’r seremoni – a hyd yn oed ddawns y blodau i’w hanrhydeddu!




Ymlaen â’r cystadlu, gan gynnwys dawns ‘El Ecuador’ (ma’n well gen i hon na dawns greadigol neu ddisgo), canu gwerinol yr Ariannin, ac och a gwae, dwy gystadleuaeth ganu Saesneg! Ac am un o’r gloch y bore, aeth ias i lawr fy nghefn wrth i’r neuadd gael ei llenwi gan ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Ond nid dyna ddiwedd Eisteddfod Trevelin. O na. Bant â ni wedyn i ga’l swper mewn ysgol leol, cyn dawnsio salsa tan dri o’r gloch y bore! Tybed a ellir cymharu hyn gyda Maes B...


Y bore canlynol cynhaliwyd Cymanfa Ganu yng Nghapel Bethel gyda chanu gwefreiddiol. A gyda’n boliau’n llawn asado buddugoliaethus gyda’r côr yn Nhrevelin, taith faith arall ar y paith tua’r Dyffryn.


Bydd rhyw bump eisteddfod arall yn cael eu cynnal ’ma rhwng nawr a mis Tachwedd, a dwi methu aros am ragor o gystadlu a beirniadu – ac ennill, gobeithio!

No hay comentarios:

Publicar un comentario