Bois bach, dwi ym Mhatagonia ers bron i dri mis! A dwi wedi cael amryw brofiadau dros yr wythnosau diwethaf. Felly heb oedi rhagor…
Día de la Patria
Ma’r 25ain o Fai (Día de la Patria) yn ddiwrnod pwysig yn yr Ariannin, yn nodi dechrau’r broses o ennill annibyniaeth i’r wlad nôl yn 1810. Felly ro’dd hi’n ddiwrnod o wyliau. Hwrê! Am 11.00 ro’dd ’na acto (seremoni) yn y gimnasio – canu’r anthem, codi’r faner, cynrychiolwyr o’r ysgolion lleol yn cario baneri, anerchiadau, ac yfed siocled poeth i orffen. Ma’r siocled poeth yn rhan o’r traddodiad! Ma’n ddiwrnod i’w dreulio gyda’r teulu a bwyta bwydydd penodol. A chwarae teg, ges i wahoddiad i fwyta empanadas gyda theulu Ana! Pasteiod yw empanadas, gyda gwahanol lenwadau posib – cig, ham a chaws, india corn hufennog – ac maen nhw naill ai’n ca’l eu ffrio neu eu coginio yn y ffwrn. Gan ei bod hi’n ddiwrnod o ddathlu, gethon ni rai wedi’u ffrio! Que rico estaban!
Ac yn y nos, bwyta locro gyda theulu arall. Dim ond ar 25 Mai a 9 Gorffennaf (Diwrnod Annibyniaeth) mae locro’n ca’l ei fwyta, ac amrywiol yw’r teimladau tuag ato. Felly cyn ei flasu, gofynnais i Gladys be yn union yw locro? ‘Wel, mae e’n debyg i stiw gydag india corn, pwmpen a ffa gwyn, a chig moch – rhan o’r stumog, croen y mochyn, ac ma’n ca’l ei goginio gyda thraed moch i’w dewhau.’ ‘O, iawn!’ ddywedais i, gan ddifaru gofyn. Ond bois bach, ro’dd e’n flasus. A ges i ail blataid! Bwyd ar gyfer y gaeaf yw locro mae’n debyg, gan ei fod e’n ychwanegu haenen o fraster i gadw’n gynnes. Felly ar ôl tri empanada wedi’u ffrio a dau blataid o locro, dechreuodd y 26ain o Fai gydag ymweliad â'r gampfa!
Pen Blwydd Patagonaidd
Ymweld â’r gampfa wnes i ben bore fy mhen blwydd hefyd, a siarad gyda’r teulu hoff ar Skype cyn dechrau ar y dathlu! Y weithgaredd gynta' oedd cynnal ffug arholiad llafar yng Ngholeg Camwy gyda rhai o’r arddegau (da iawn nhw!) cyn dal y bws i Drelew. Ro’dd hi’n Wythnos yr Ysgolion Meithrin, felly cynhaliodd meithrin Ysgol yr Hendre barti pen blwydd arbennig - a chefais innau wahoddiad. Roedd y plant yn chwarae tu allan pan gyrhaeddais i, lle ro’dd ’na gastell bownsio! A do wir, ges i ganiatâd i fownsio gyda nhw! Dwi ddim yn siŵr a laniais i ar un o’r plant, ond gadawodd pawb mewn un darn…
Ro'dd 'na hefyd de parti gydag wyth cacen pen blwydd, a do’s gen i ddim cywilydd o gwbl i gyfaddef mod i wedi ca’l darn bach o bob un! Canodd y plantos ‘Pen Blwydd Llawen’ wrth i fi chwythu’r un gannwyll fach (arwydd amlwg o henaint) ar y gacen siocled a jam llaeth ro’dd Nia ac Ana wedi’i gwneud - cyn i Nia a fi fynd i gaffi cyfagos ac eistedd mewn cornel lan lofft er mwyn palu mewn i’r gacen yn slei bach. Wedyn nôl i Gaiman a cha'l hufen-iâ gyda chriw 'Clwb'. Hyd yn oed os y’ch chi’n gofyn am y côn lleiaf ma ’na ddau sgŵp anferthol o hufen-iâ yn ca’l eu pentyrru arno – a thawelwch mawr tra bo pawb yn canolbwyntio ar ei fwyta cyn iddo doddi, neu gwympo! Tiramisu a lemon pie o’dd fy newis i. Iym. A jyst pan o'ch chi'n meddwl mod i wedi bwyta llond fy mol, gorffennais i, Judith a Nia'r diwrnod mewn steil yn Nhrelew gyda phlataid o sglodion! Dwi yn ‘Dafydd’ wedi’r cwbl! Parhaodd y dathlu, a'r bwyta, y diwrnod canlynol, gyda gwragedd Sgwrs Sadwrn wedi paratoi te parti bach ar gyfer y sesiwn. Ac yn rhan o gyhoeddiadau Capel Bethel fore Sul, canodd pawb 'Feliz Cumpleaños/Pen Blwydd Llawen'! Ges i amser bendigedig, a ma'n rhaid dweud fod hyn i gyd wedi lleddfu rhywfaint ar y boen a'r tristwch o droi'n chwech ar hugain...
Playa Unión
Dwi ddim wedi ca’l cyfle i ymweld â llawer o lefydd dros y tri mis diwethaf, helbaw Porth Madryn a Threvelin, ond ddydd Sadwrn dreuliais i ryw hanner awr gydag Ana a Nia yn Rawson a Playa Union. Trerawson oedd y dref gyntaf ym Mhatagonia. Mynd â merch Ana i barti pen blwydd o’n ni, ac ethon ni yn y car ar hyd y prom i gael gweld mwy o’r lle – cyn stopio’n sydyn! Ro’dd ’na fan ar ochr y ffordd yn gwerthu ‘Cubanitos’ – fel fan hufen-iâ - felly ro’dd yn rhaid i ni stopio i’w blasu. Dwi’n dyfalu mai tarddiad yr enw yw’r ffaith eu bod nhw’n edrych fel ‘Cuban cigars’ – rholyn o ‘waffle’ wedi’i lenwi gyda jam llaeth. Gall fod yn blaen, wedi’i orchuddio mewn siocled gwyn neu siocled tywyll. Ges i un o bob un, wrth gwrs! A’u bwyta ar y traeth yn y gwynt. Ro’dd e’n fy atgoffa i rywfaint o Aberystwyth, gan fod y gwynt yn chwythu a’r tywod yn debycach i gerrig mân! Be well? Yn anffodus, dim ond yn Playa Unión ma Cubanitos yn ca’l eu gwerthu. Dwi’n credu y bydda i’n ymweld â’r ardal yn eithaf aml o hyn ymlaen…
Clwb Darllen
Dwi wedi dechrau dau glwb darllen yn ddiweddar – y naill yn Gaiman, a’r llall yn Nhrelew. Ry’n ni’n cwrdd am yn ail nos Fawrth, ac yn darllen ‘Pantglas’ gan Mihangel Morgan – adref yn gyntaf, yna gyda’n gilydd cyn bwrw ati i drafod. Ry’n ni wedi bod yn ca’l hwyl fawr yn dod i adnabod cymeriadau pentref Pantglas yn y penodau agoriadol, a phawb yn rhoi cynnig ar ddarllen y Wenhwyseg! Cawson ni neges o gyfarchion wrth Mihangel Morgan ei hun yn ddiweddar, sy wrth ei fodd gyda bodolaeth ein clybiau darllen.
Clecs Camwy
Ma gyda Dyffryn Camwy bapur bro newydd – ‘Clecs Camwy’. Ac o’r diwedd, ar ôl trafferthion argraffu a deuddydd i drefnu, ma’r papur wedi ca’l ei lansio! Cawson ni noson gerddorol yn Gaiman, gyda Gonzalo’n canu’r ffliwt, a Sylvia, Billy a Roberto’n canu unawdau, cyn prynhawn o adloniaint yn Neuadd Dewi Sant, Trelew. Roedd sgyrsiau difyr gan y llenor lleol Owain Tydur Jones ar ei waith a hanes papurau bro’r Wladfa, a Camila Molina yn siarad am ei chyfnod hi yn Llanymddyfri ddechrau’r flwyddyn. Dawnsiodd grŵp gwerin Gwanwyn, canodd Mercedes ‘Suo-gân’, a rapiodd Irupe ei fersiwn hi o ‘Briallu’. Diolch o galon i bob un a gymerodd ran a dod i gefnogi, ac i gyfrannwyr a noddwyr y rhifyn cyntaf!
Bydd ‘Clecs Camwy’ yn cael ei gyhoeddi bob mis gyda’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf o Ddyffryn Camwy, yn ogystal ag amryw luniau, posau i blant ac oedolion, geirfa’r mis, a ryseitiau blasus. Cyri cyw iâr yw ryseit arbennig y rhifyn cyntaf, ac mae cyfle i un plentyn lwcus ennill gwobr trwy liwio llun o Sali Mali! Mae’r papur yn rhad ac ddim er mwyn iddo fod ar gael i bawb, os y’n nhw’n siarad Cymraeg ai peidio – hyd yn oed os ydyn nhw’n ei bigo lan mewn caffi neu siop, a’i roi lawr eto cyn darllen gair. Nawr mae gen i'r swydd o’i ddosbarthu – diolch byth am y beic! Mae ‘Clecs’ hefyd ar gael i'w ddarllen ar y we – www.menterpatagonia.org – felly gallwch chi gadw eich bys ar byls Patagonia o bedwar ban byd. Mae’r gwaith ar y rhifyn nesa eisoes wedi dechrau...
Lludw
Wel, ma Gaiman dan flanced wen. Na, nid eira - lludw. Ffrwydrodd llosgfynydd yn Chile dros y penwythnos, ac mae'r lludw wedi ca'l ei gario'r holl ffordd draw fan hyn! Wel, mas â fi a cherdded ynddo i'r capel. Cafodd y cwrdd nos ei ohirio, a dywedodd ambell berson wrtha i am beidio â mentro o’r tŷ os nag o’dd gwir angen. Ond ro’dd gwir angen paned o de arna i, a dim llaeth yn y tŷ, felly mentro i'r siop oedd raid! Cefais hefyd gyngor i orchuddio ’nheg a nhrwyn, a gofalu nad o’dd unrhyw ludw’n mynd i’r llygaid. Felly ’na le o’n i'n cerdded i'r siop yn gwisgo sbectol haul ac yn gwasgu’n sgarff dros fy nhrwyn a ngheg – achosai hyn i'r sbectol haul stemio! Ro’dd Gaiman yn union fel pan ma ’na eira yng Nghymru – yn dawel fel y bedd, gydag olion traed unig ar y llawr, ac olion ambell i gerbyd mentrus ar y ffordd. Ac ro’dd bod yn y siop fel bod ynghanol cyfnod o eira, ond heb y panig – pobl wedi gwisgo fel mai prin ro’dd darn o groen yn weladwy, yn siarad am y tywydd, ac yn stoco lan. Dwi ddim wedi gadael y tŷ ers dychwelyd o’r siop! Ma’r ysgolion ar gau heddiw, a dy’n ni ddim yn gwybod eto tan pryd – tebyg i ‘ddiwrnod eira’. Ond go brin fydd unrhyw un yn mynd mas i greu dyn lludw, sledio, taflu peli lludw na ’neud angylion lludw. Er bod y pedwar wedi croesi meddwl i!
No hay comentarios:
Publicar un comentario