Dwi bellach wedi goroesi´r pythefnos cyntaf o waith! Wel doedden nhw ddim yn wythnosau arferol o waith, a dweud y gwir, gan nad yw´r amserlen yn derfynol eto a mod i wedi cael fy siarsio i fwynhau wythnos gyntaf dawel er mwyn dadflino ac ymgartrefu unwaith eto. Er hynny, mae wedi bod yn gyfnod prysur! Wele ddetholiad...
Gaiman dan gerdded
Dechreuais i weithio ar brynhawn Sadwrn y 7fed o Ebrill mewn gwirionedd, wrth i fi ac Elliw gynnal taith gerdded o amgylch y Gaiman ar gyfer Pat McCarthy. Mae e´n gwneud taith o Ushuaia i Alaska ar gefn ei feic modur, Idris, er budd Unicef (http://patonabike.blogspot.com.ar/), ac roedd arno eisiau gweld ‘popeth’ yn y Gaiman. Doedd awr a hanner ar brynhawn Sadwrn y Pasg ddim yn amser delfrydol i weld ´popeth´, ond wnaethon ni’n gorau – y twnel (y trydedd gwaith i fi fentro i’r tywyllwch, a’r ail waith i fi gyrraedd goleuni’r pen draw), Ysgol Camwy, Tŷ Camwy, Capel Bethel, Cylch yr Orsedd, yr Ysgol Feithrin, a Thŷ Cyntaf y Gaiman. Er i mi ei edmygu o’r tu allan lawer tro, hwn oedd y tro cyntaf i mi gamu dros drothwy’r tŷ cyntaf a adeiladwyd gan David Roberts yn 1874. Pedair ystafell gweddol o faint sydd ynddo – y cyntedd/cegin/ystafell fwyta, yr ystafell wely (lle cysgai teulu o bump), y pantri lle cynhyrchid caws a menyn, a’r swyddfa. Yr unig beth o eiddo David Roberts ei hun yno oedd cist fawr ddu a gariodd gydag ef o Gymru, ac roedd gweddill y celfi a´r offer yn deillio o tua´r un cyfnod. Ac ystyried mai hwn oedd yr unig dŷ a safai yn y Gaiman pan y’i hadeiladwyd, mae bellach mewn man digon diarffordd a chuddiedig rhwng tai a thyfiant. Mae nifer o olygfeydd y ffilm ´Poncho Mam-gu’ wedi cael eu ffilmio yn y tŷ! Roedd hi´n braf ailymweld â’r llefydd hyn, a theimlwn fel tipyn o arbenigwraig ar y Gaiman a’r Wladfa wrth dywys ein cyfaill o un lle i’r llall gan adrodd gwahanol hanesion - er nad ydw i’n hollol siŵr a oedd fy ffeithiau’n gywir bob tro!
Côr Merched
Ddydd Llun fues i yn ymarfer y Côr Merched, a chefais groeso braf yn yr Ysgol Gerdd. Efallai mai’r bag o Mini Eggs oedd gen i’n anrheg ar gyfer y merched oedd y rheswm dros hynny! Er bod chwe mis tan Eisteddfod y Wladfa, mae’r côr wedi dechrau ymarfer caneuon ar ei chyfer yn barod, ac ro’n i wedi anghofio mor anodd yw hi i ddysgu cân Sbaeneg o’r newydd, yn enwedig un sydd â thipyn o fynd iddi. Erbyn mis Rhagfyr y llynedd ro’n i wedi meistroli sawl cân Tango a hyd yn oed wedi dysgu ambell i gân ar fy nghof. Ond ro’n i’n baglu dros fy ngeiriau fan hyn, fan draw, a fan ‘co ddydd Llun! Diolch byth fod cymaint o amser tan yr eisteddfod!
Noson Groesawu
Y noson honno cynhaliwyd noson groesawu gyfrinachol i fi ac Elin Rhys, sy’n ymweld â’r Wladfa am y tro cyntaf ers iddi fod yn athrawes yma yn 2007. Felly ar ôl cytuno i fynd gydag Ariela i brynu ham a chaws, aeth hi â fi i Breuddwyd lle’r oedd llond y lle o bobl, hwyl a bwyd yn ein disgwyl! Am syrpreis hyfryd, a chyfeillion nad oeddwn i wedi eu gweld ers dychwelyd. Felly bu llawer o sgwrsio, bwyta a chwerthin! Diben arall y noson oedd tynnu raffl mawreddog. Mae pobl (Esyllt, Ana, ac Elliw yn bennaf) wedi bod yn brysur ers wythnosau’n gwerthu tocynnau raffl a chasglu gwobrau er mwyn codi arian i brynu peiriant golchi newydd i Dŷ Camwy. Cefais i ac Elin y fraint o dynnu’r enwau lwcus o’r ‘het’, a phlymiais fy llaw i ganol y degau ar ddegau ar ddegau o docynnau disgwylgar, gan wirioneddol dwrio cyn tynnu un allan. Rhoddais waedd o chwerthin cyn cyhoeddi’r enw... Lois Dafydd, Tŷ Camwy! Er i mi fynnu eu bod yn tynnu eto, mynnodd Esyllt mod i’n derbyn y wobr, sef cacen o siop gacennau Blasus - roedd pob briwsionyn ohoni wedi diflannu o fewn deuddydd!Ymhlith y gwobrau eraill oedd sychwr gwallt, gwerth $200 o betrol, pryd i ddau yn Gwalia Lân, te Cymreig i ddau yn Nhŷ Gwyn, basged o ddanteithion o Blas-y-Coed, a $300 i’w wario yn siop El Pato. Ar ôl y cyffro a’r diolchiadau, aeth y noson rhagddi gyda chanu a sgwrsio. A da yw cyhoeddi fod y raffl wedi codi digon o arian i brynu peiriant golchi newydd! Tair bloedd i lendid, a diolch i bawb am eu cefnogaeth. Mae Tŷ Camwy’n prysur droi yn dipyn o balas gyda pheiriant golchi newydd, gwresogydd newydd (diolch i griw y Bwthyn), teledu, a gosodwyd wi-fi yma’r wythnos diwethaf – mae peryg na fydda i’n gadael y tŷ eleni, heb sôn am gyflawni unrhyw waith...
Ôl-feithrin
Mae´r dosbarthiadau ôl-feithrin wedi ailddechrau yn y Gaiman ac yn Nhrelew. Dwi´n mynd i chwarae gyda phlant rhwng 5 a 9 oed yn Ysgol yr Hendre bob prynhawn dydd Mawrth, ac ry´n ni wedi bod yn cael tipyn o hwyl yn rasio mewn gwahanol ffyrdd - neidio, dawnsio, hercian, hedfan - a chwarae ´Oer / Poeth´ gyda charreg. Bu´r plant yn chwerthin cryn dipyn wrth fy ngweld i´n dringo´r ffrâm ddringo i chwilio am y garreg mewn coeden! Ac am ddwy awr ar brynhawniau Iau dwi´n chwarae gyda phlant rhwng 8 a 12 oed yn Ysgol Camwy. Ry´n ni´n dechrau trwy ymarfer siarad gan ofyn cwestiynau i´n gilydd er mwyn ymarfer ein Cymraeg, a´r wythnos hon benderfynon ni fabwysiadau gwahanol bersonoliaethau - yn ein plith oedd Sali Mali, Bufanda (sgarff), Cristina Kirchner, Patricia Sosa a Susana Gimenez! Yn dilyn hyn chwaraeon ni amryw o gemau, gan gynnwys cuddio, Y Cawr yn y Castell, a´r parasiwt lliwgar yw´r ffefryn, cyn mynd ati i ymarfer darn adrodd ar gyfer y Cwrdd Diolchgarwch.
Dolavon
Dyw´r gweithgareddau yn Nolavon heb ailddechrau eto, ond bûm am dro yno am y tro cyntaf yr wythnos hon gyda Luned a Tegai. Bydd y ffosydd yn cael eu cau ddechrau mis Mai, felly roedd hi´n gyfle i weld y melinau dŵr ar waith cyn i hynny ddigwydd. Aethom i ymweld â gwraig sy´n byw yno ac yn dipyn o arbenigwraig ar bobi teisen ddu, felly cawson ni sgwrs ddifyr ar ei hanes a´r dull o´i phobi. Mae´r deisen ddu yn tarddu o fara brith - dyw bara brith ddim yn bodoli yn y Wladfa - ond mae hi´n fwy o deisen, ac yn cynnwys cnau, mwy o amrywiaeth o ffrwythau sych, a rhywfaint o alcohol. Roedd gan bob teulu Cymreig eu rysáit eu hunain ar gyfer y deisen hon, a nifer ohonyn nhw wedi cael eu pasio´n gyfrinachol o un genhedlaeth i´r llall, felly mae hi´n anodd cael gafael ar rysáit. Cawson ni deisen ddu fawr yn anrheg gan y wraig yn Nolavon, a ches i ddod â´i hanner hi adref i Dŷ Camwy. Hon yw fy hoff deisen Batagonaidd, felly ro´n i wrth fy modd! Ac afraid dweud fod pob briwsionyn o hon wedi hen ddiflannu erbyn hyn hefyd. Dwi bron â marw eisiau rhoi cynnig ar pobi teisen ddu, a bellach wedi cael amryw ryseitiau ar ei chyfer. Felly efallai fydd gen i rysáit gyfrinachol ar gyfer cenedlaethau i ddod cyn bo hir...
Clecs Camwy
Mae Clecs Camwy cynta´r flwyddyn wedi cael ei gyhoeddi! Er mawr syndod i fi, ro´dd gweithwyr yr argraffdy (siop lungopïo yn Nhrelew) yn fy nghofio i a´r papur, felly doedd dim angen i fi drio esbonio´r hyn ro´n i ei eisiau. Er hynny, a´r ffaith fod y deg rhifyn diwethaf wedi cael eu hargraffu yno, deuai´r papur allan o´r peiriant bob siâp! Bob yn ail dudalen wyneb-i-waered, wedyn dim ond y dudalen gyntaf yn cael ei hargraffu ddeg o weithiau, cyn i bob tudalen ymddangos yn gymysgfa lwyr! Roedd hi´n amlwg fod y dyn mewn penbleth, ond yn gwrthod cyfaddef hynny wrtha i, a phenderfynodd mae o law mai llungopïo 200 o gopïau (2,000 tudalen) oedd yr unig ffordd. A threuliais i´r bore canlynol yn stafflo´r 200 copi cyn eu dosbarthu o amgylch Dyffryn Camwy. Mae fersiwn pdf o Clecs Camwy mis Mawrth ar gael i´w ddarllen ar wefan Menter Patagonia - www.menterpatagonia.org
No hay comentarios:
Publicar un comentario