Roedd y penwythnos diwethaf yn ‘fin de semana larga’, sef penwythnos hir gan fod y dydd Llun a’r dydd Mawrth yn ddiwrnodau o wyliau. A dyma pam...
Ar y 30ain o Ebrill mae Chubut gyfan yn cofio’r ‘Plebiscito’, sy’n nodi digwyddiad pwysig yn hanes yr Ariannin gyfan, mewn gwirionedd. Ar drothwy´r 20fed ganrif, roedd anghydweld ynglŷn â lle’r oedd y ffin rhwng yr Ariannin a Chile. Honnai rhai y câi’r gwledydd eu diffinio yn ôl rhediad mynyddoedd yr Andes tra mynnai eraill mai llif yr afon oedd y ffin. Byddai’r penderfyniad yn effeithio ar ddyfodol cymunedau Cymreig yr Andes, gydag un yn cadw´r cymunedau yn yr Ariannin a´r llall yn golygu eu bod bellach yn rhan o Chile. Ar 30 Ebrill 1902, pleidleisiodd y bobl leol (sef y Cymry) o blaid aros yn yr Ariannin. Felly ar y 30ain o Ebrill bob blwyddyn mae acto yn cael ei gynnal yn Nhrevelin i gofio’r digwyddiad hanesyddol hwn, gan ddiolch i’r Cymry mai Archentwyr ydyn nhw o hyd. Ac mae gweddill y dalaith yn mwynhau diwrnod o wyliau. Enw arall ar y 1af o Fai yw Diwrnod y Gweithiwr, sy’n golygu fod gweithwyr yr Ariannin yn cael diwrnod o wyliau. Roedden ni’n bwriadu treulio’r gwyliau yma yn yr Andes, ond yn anffodus golygodd salwch nad oedd unrhyw siâp arnom ni i deithio ar hyd y paith. Felly arhoson ni yn y dyffryn, ac ar ôl deuddydd o orffwyso yn YsbyTŷ Camwy, cawson ni gwpl o ddiwrnodau i’w cofio hefyd...
Fel y nodais yn y blog diwethaf, mae 16 o ‘gapeli Cymreig’ yn y dyffryn a dwi’n credu mod i wedi bod i dri ar ddeg ohonyn nhw hyd yn hyn. Fuon ni´n ´Cropian y Capeli´ brynhawn Llun er mwyn ychwanegu dau arall at y rhestr, sef Capel Ebeneser a Chapel Bethel Tir Halen. Ond cyn hynny aethon ni i Fethel y Gaiman am snŵp gan fod criw ffilmio yn addurno’r festri ar gyfer un olygfa! Maen nhw wrthi’n ffilmio cyfres deledu yn seiliedig ar hanes John Daniel Evans, sef un o’r rifleros a sefydlodd Gwm Hyfryd yn yr Andes. Roedd y criw wrthi’n trawsnewid y festri yn lleoliad parti a gynhaliwyd yn Rawson i groesawu’r rifleros yn ôl o’u hantur yn 1886, felly roedd yno faneri Cymru, ac addurniadau coch, gwyn, a gwyrdd. Cawson ni gyfle i holi un gweithiwr oedd yn ffan mawr iawn o Gorky’s Zygotic Mynci, ond ar ôl treulio mis hir (ac un mis i fynd) ar y gyfres hon doedd e ddim yn rhy hoff o unrhyw beth arall sydd ag unrhyw gysylltiad â Chymru a braidd yn ddifrïol o´r Gymraeg wrth ei chymharu â´r hieroglyff – a doedd e ddim yn rhy swil i ddatgan hynny. Wel do’n ni ddim yn rhy hapus o glywed hynny a dweud y lleiaf, a bant â ni!
Mae ffermydd y dyffryn wedi cael eu rhannu’n sgwariau mawr, gyda ffyrdd caregog yn rhedeg rhyngddyn nhw. Felly mewn ardal eang a gwledig fel Tir Halen mae’r corneli i gyd yn edrych yn hynod o debyg – a doeddwn ni ddim yn gwybod ar ba gornel safai Capel Ebeneser! Ond daethon ni o hyd i Gapel Bethel yn ddidrafferth, er bod hwn hefyd ar ei ben ei hun y tu ôl i goed ar gornel pellennig. Er bod mwyafrif y capeli mewn lleoliadau diarffordd, mae ganddyn nhw osgo mor urddasol a chadarn sy´n ennyn parch ac edmygedd wrth i chi agosáu atyn nhw. O’r fan hon aethon ni i fynwent Tir Halen, sy wirioneddol yn bell o bob man. Yn ôl y sôn, dywedodd un dyn nad oedd e am gael ei gladdu ym Mynwent Tir Halen rhag ofn na fyddai’n gallu clywed y corn olaf! Dyw’r fynwent ddim yn fawr iawn, ac roedd yno feddi Cymraeg, Sbaeneg a Saenseg– mae’n debyg fod un garreg fedd Gymraeg yn denu ymwelwyr, sef un Jeremiah Jeffries (os dwi´n cofio´r enw´n iawn!) gafodd ei daro gan fellten pan oedd wrth ei waith yn trin y tir.
Amgueddfa Tir Halen oedd ein stop nesaf, sy’n un ystafell fawr yn llawn hanes y Cymry ym Mhatagonia. Eu ffordd o fyw, addysg, Cristnogaeth, diwylliant, gwisgoedd a gwaith, ac mae yno bob math o bethau sydd wedi cael eu rhoi i’r amgueddfa gan wahanol bobl, yn bennaf oll pobl o ardal Tir Halen - celfi (popty, gwely, cadeiriau, cypyrddau), offer cegin a llestri, peiriannau gwnïo, llyfrau, mapiau, a lluniau, ymysg nifer o bethau eraill. Mae’n lle diddorol dros ben, sy’n dangos cymaint mae nifer o drigolion yn ymfalchïo yn eu hunaniaeth Gymreig sydd mor gyfoethog.
Wrth i ni droi’n ôl am y Gaiman rhoddon ni un cynnig arall ar Gapel Ebeneser, gan gyrraedd y cornel cywir y tro hwn! Fyddwn i fyth wedi dod o hyd iddo y tu ôl i’r coed, ac edrychai fel tŷ ar droi’n adfail gyda phentwr o friciau ac offer y tu allan. Ond y rheswm dros hyn yw fod Capel Ebeneser yn cael ei atgyweirio ar hyn o bryd. A gan nad oes drysau i’r adeilad ar hyn o bryd, mewn â ni. Dim ond y festri oroesodd llifogydd 1899, a dyna fu´r addoldy ers hynny. Mae rhywfaint rhagor o hanes Capel Ebeneser yn rhifyn Ebrill Clecs Camwy! Mae tipyn i’w wneud cyn i’r gwaith gael ei gwblhau, ac o weld y nenfwd pren crand mae’n argoeli i fod yn adeilad trawiadol.Bron i flwyddyn yn ôl ffrwydrodd llosgfynydd yng ngogledd Chile a phoeri lludw tua Dyffryn Camwy, a bob hyn a hyn mae’r awyr yn troi’n llwydaidd gan ei gwneud hi’n amhosib gweld amlinelliad y bryniau. A diwrnod ych-a-fi fel ´na fuodd hi ddydd Llun, gyda’r gwynt cynnes yn chwythu’r lludw i bob man. Ond erbyn i ni gyrraedd Capel Glan Alaw roedd yr haul wedi llwyddo i wthio´i fysedd trwy rywfaint o´r lludw, gan agor ffenest fechan ar gyfer yr awyr las. Glan Alaw yw’r capel lleiaf o’r capeli Cymreig, a bydd yn dathlu ei ben blwydd yn 125 ar y 15fed o Fai. Efallai fod rhai ohonoch yn ei adnabod o´r ffilm ´Patagonia´.
Ar y ffordd nôl i’r Gaiman alwon ni yn nhŷ Ieuan ac Irma Williams er mwyn gofyn cwestiwn ynglŷn â rhywbeth, ac arhoson ni yno am bron i ddwy awr yn cloncian, yfed sawl paned o de a bwyta sawl darn o deisen – teisen blât a theisen foron. Que rico! Dwi wedi cael rysáit y deisen foron ac yn edrych ymlaen yn fawr at roi cynnig arni... Ddydd Mawrth daeth Sara, sef athrawes newydd Ysgol yr Hendre i ymweld â’r Gaiman am y tro cyntaf, felly roedd pwysau mawr ar fy ysgwyddau i ac Elliw wrth i ni ei thywys o amgylch y pentref. Ond a hithau’n Ddiwrnod y Gweithiwr, roedd pob gweithiwr ar ei wyliau a phob man ar gau! Felly y bont bren, Afon Camwy, muriau allanol y Tŷ Cyntaf a’r Amgueddfa, a muriau mewnol y twnnel, yr orsaf betrol (yr unig le oedd ar agor) a Thŷ Camwy oedd y rhaglen! Aethon ni hefyd i sbecian ar y criw ffilmio yng Nghapel Bethel unwaith eto, ond sefyllian oedd pawb felly troesom am adref yn barod i´r gweithwyr ddychwelyd i´n gwaith y diwrnod canlynol.
No hay comentarios:
Publicar un comentario