Dwi yma bellach ers rhyw ddeufis a hanner, a dyma rywfaint o fy hynt a fy helynt dros yr wythnosau diwethaf...
Dolavon
Mae Cylch Chwarae Dolavon wedi ailddechrau, o'r diwedd! Dyw'r ystafell lle buon ni'n cynnal yr weithgaredd y llynedd ddim ar gael i ni eleni, ac ar ôl bron i ddeufis o chwilio a disgwyl ry'n ni wedi cael ystafell yn Ysgol William Morris y pentref. Ry'n ni wedi cwrdd bedair gwaith hyd yn hyn, a dwi wrth fy modd yn gweld selogion y llynedd yn dychwelyd - gyda gwên ar eu hwynebau! Penderfynais fod angen strwythur dynnach i'r Cylch Chwarae, felly bob wythnos ry'n ni'n dechrau trwy adolygu ac ymestyn brawddegau, e.e. 'Sut wyt ti?' 'Da iawn, diolch', neu 'Wedi blino', yn canu caneuon, megis 'Clap, clap - un, dau, tri', ac 'Un a dau a thri banana'. Cefais fy synnu gan gymaint roedd rhai ohonyn nhw'n ei gofio, a chefais fy ngwefreiddio gan eu diddordeb. Yn dilyn y dysgu daw'r chwarae, a'r hoff gêm ar hyn o bryd yw 'Faint o'r gloch ydy hi Mistar Blaidd?' - ond rhaid oedd treulio ychydig o amser yr wythnos hon yn sicrhau eu bod yn gofyn y cwestiwn yn gywir. Dyma nhw'n chwifio'r pensiliau Cymru a roddais iddyn nhw'n ddiweddar!
Clwb Trafod
Mae'r Clwb Darllen ro'n i'n ei gynnal bob pythefnos y llynedd wedi cael ei weddnewid yn Glwb Trafod wythnosol. Bob dydd Mawrth am 16.30 yn adeilad Ysgol yr Hendre yn Nhrelew ac am 20.30 yn Nhy Camwy yn y Gaiman mae criw bach ohonom yn dod at ein gilydd i drafod amryw bethau. Rhifyn cyntaf y gyfres 'Cof Patagonia' oedd pwnc trafod y cyfarfod cyntaf, sy'n gyfres am hanes y Cymry ym Mhatagonia ar ffurf cyfweliadau ond lluniau yn unig sydd i'w gweld. Roedd mynychwyr y ddau gyfarfod wedi mwynhau'r rhaglen yn fawr, a llais ambell un i'w glywed yn siarad dros yr amryw luniau a ymddangosai ar y sgrin i gyfleu'r hanes. Mae'r rhaglen gyntaf yn canolbwyntio fwy neu lai ar ddegawd gynta'r ugeinfed ganrif, gyda hanes y Plebiscito (Refferendwm) yn yr Andes, llifogyddion yn Nyffryn Camwy, ymfudo ac allfudo, a Chwmni Masnachol Camwy yn cael eu hadrodd. Cododd trafodaethau diddorol iawn o'r rhaglen wrth i bawb rannu'r hyn roedden nhw wedi'i glywed am yr hanesion hynny. 'Adra' gan Gwyneth Glyn oedd dan sylw yn yr ail gyfarfod. Dechreuon ni trwy wrando yn astud ar y gân er mwyn llenwi'r bylchau ar ddarn o bapur, a chododd dehongliadau diddorol ohoni yn ystod y drafodaeth. Gwrandawon ni arni sawl tro, a dwi'n credu ein bod ni i gyd bellach yn gwybod y geiriau gyd! Dechreuodd Clwb Trafod Dolavon yr wythnos diwethaf hefyd. Sgwrsio'n braf wnaethon ni yn y cyfarfod cyntaf, ac un o'r gwragedd yn meddwl mod i'n 17 oed! Dyna beth oedd dechrau da.
Arholiad
Mae nifer fawr o ddosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yng nghymunedau Cymreig Chubut - ac un yn La Plata, sy ryw bedair awr i'r gogledd o Buenos Aires. Yn achlysurol, mae rhai o'r myfyrwyr hyn yn sefyll arholiadau Cymraeg CBAC, a daeth tro pedwar o Ddyffryn Camwy ddechrau mis Mehefin. Cynorthwyais i arsylwi ac i arholi profion llafar y llynedd, ond gan fod Clare yn cynnal yr arholiad yn yr Andes ar yr un diwrnod eleni, cefais i'r cyfrifoldeb o'i gynnal yn y Gaiman. Caiff y papurau eu dosbarthu i'r gwahanol ganolfannau yng Nghymru ac felly gorchwyl yr arholwyr yno yw agor yr amlenni a dosbarthu'r papurau cyn ei casglu a'u rhoi yn yr amlenni drachefn. Ond wrth gwrs, dyw pethau ddim cyn hawsed a hynny ym Mhatagonia... Anfonwyd y papurau i gyd mewn ebost a olygai fod yn rhaid i ni eu hargraffu a sicrhau bod digon o gopïau ohonyn nhw, a gan mai Cymraeg/Sbaeneg yw'r paprau, lluniodd Clare gyfieithiad Sbaeneg o'r rhannau Saesneg ar gyfer yr ymgeiswyr Archentaidd. Wel, ro'dd pili-palas yn fy stumog i drwy'r wythnos yn poeni y byddai rhyw broblem gyda'r papurau - dim digon o gopïau, tudalennau ar goll, neu bapur 2011 yn lle 2012... Ond diolch byth, aeth popeth yn iawn gyda'r Darllen a Llenwi Bylchau, y Gwrando a'r Ysgrifennu! Wedyn daeth pob un i'r ystafell yn ei dro ar gyfer y prawf Llafar a gâi ei recordio ar beiriant MP3. Yr orchwyl nesaf oedd anfon y papurau a'r ffeiliau sain, ac roedd yn rhaid i fi gael llygad-dyst er mwyn sicrhau mod i wedi eu hanfon yn iawn! Dwi ddim yn siŵr pryd fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi, ond llongyfarchiadau mawr i'r pedwar am sefyll yr arholiad! Ac yn ystod wythnos lle'r oedd Prydeindod y Jiwbili yn cael ei rwbio yn wynebau'r Cymry adref, roedd y bore hwn yn un i wirioneddol godi calon. Diolch.
Wythnos yr Ysgolion Meithrin
Roedd yr 28ain o Fai hyd y 1af o Fehefin yn Wythnos yr Ysgolion Meithrin yma yn yr Ariannin, felly bu ysgolion meithrin ar hyd a lled y wlad yn cynnal gwahanol weithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr wythnos honno. Gan fy mod yn gweithio yn Ysgol Feithrin y Gaiman ddau ddiwrnod yr wythnos, ges i fod yn rhan o ddwy o'i gweithgareddau hi. Ar y dydd Mercher daeth y plant i'r ysgol mewn gwisg ffansi a chwarae teg, roedd pawb wedi gwneud ymdrech fawr. Yn y Dosbarth Gwyrdd roedd dau Spiderman, môr-leidr, Buzz Lightyear, a chwe thywysoges - ges i fod yn dywysoges hefyd! Doedd dim llawer o awydd dosbarth arnyn nhw, gyda'r tywysogesau yn hoffi dangos a chymharu eu dillad, y môr-leidr yn mwynhau saethu pawb, a Buzz Lightyear a'r ddau Spiderman yn rhedeg ac yn neidio o gwmpas yr ystafell! Y diwrnod canlynol, roedd yr ysgol feithrin Gymraeg yn ymuno ag ysgol feithrin Sbaeneg y Gaiman am y prynhawn. Y dasg gyntaf oedd cyrraedd yr ysgol arall, felly gyda phawb yn y dosbarth wedi gwisgo'n gynnes bant â ni am dro drwy'r Gaiman law yn llaw gyda'n gilydd. Buon ni'n canu ac yn adrodd dan gerdded, a'r plant wrth eu bodd yn gweld baneri'r Ariannin neu'r Ddraig Goch mewn gwahanol lefydd ar hyd y daith. Ar ôl cyrraedd Ysgol Feithrin 415, dechreuon ni i gyd ganu. Roedd hyn yn debyg i ryw gystadleuaeth, wrth i ni ganu cân Gymraeg ry'n ni'n ei chanu yn yr ysgol wedyn tro'r ysgol feithrin Sbaeneg a nôl a mlaen fel'na am rai munudau! Wedyn daeth hi'n amser coginio pice'r maen. Doedd hon ddim yn dasg hawdd gyda dros hanner cant o blant, ond cawson nhw lawer o hwyl yn chwarae gyda'r cynhwysion a thorri siapau o'r toes. Wrth i'r pice bobi ar y maen cawson ni sesiwn arall o ganu. Roedd yn rhaid i fi adael cyn i'r pice gael eu gweini, a diolch byth achos do'n i ddim wir ffansi eu blasu ar ôl i'r plant fod yn eu byseddu...
Bryn Gwyn
Mae'r dosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yn Ysgol Bryn Gwyn (neu Ysgol 61 neu Ysgol Abraham Mathews i roi ei henwau eraill arni) rhwng 1.00 a 3.00 bob dydd, felly dwi'n trio mynd yno ar ddiwrnod gwahanol bob wythnos i estyn help llaw. Yn ddiweddar cefais y cyfle i fynd yno ar brynhawn Gwener am y tro cyntaf, pan fydd plant y Meithrin yn cael gwers Gymraeg. Roedd y plant tair a phedair oed wrthi'n brwsio'u dannedd pan gyrhaeddais i a Virginia'r ystafell ddosbarth, a gyda cheg pawb yn ffres fe ffurfion ni gylch yn barod i ganu. Ond rhaid cyfarch yn gyntaf, ac ro'n i wrth fy modd gyda'r floedd o 'Prynhawn da' a atseiniodd fy nghyfarchiad i! Wedyn daeth y canu, ac roedd y plant - rhyw 20 ohonyn nhw - eisoes yn gwybod 'Pnawn da! Sut wyt ti?' 'Clap, clap - un, dau, tri' a 'Pen, ysgwyddau coesau traed' yn dda, gyda chais am 'mas rapido' ar gyfer y gan olaf - roedden nhw'n chwifio'u breichiau dros y lle i gyd pan gyflymwyd y tempo! Ynghanol y canu penderfynodd un bachgen tair oed weiddi 'Te amo' arna i drosodd a throsodd, cyn rhedeg draw a phlannu clamp o sws wleb ar fy moch! Wedyn aethon ni ati i ddysgu'r rhifau a'r gan 'Un a dau a thri banana', cyn mynd ati i liwio taflen ac arni'r rhifau. Dechreuodd rhai o'r plant gyfrif ar eu pen eu hunain, a gofyn i fi gyfieithu lliwiau'r crayons i'r Gymraeg ac ailadrodd o'u gwirfodd. Ar ddiwedd y deugain munud, aeth y plant ieuengaf drws nesaf wrth i'r ystafell lenwi drachefn gyda rhwng ddeg ar hugain o blant pump oed. Dilynwyd yr un drefn yn ystod y wers hon, ac ar ol canu llond llaw o ganeuon gofynnais i'r plant a wydden nhw unrhyw ganeuon Cymraeg eraill. 'Wachiturros' oedd ateb un ohonyn nhw, sef band Cumbia (math arbennig o gerddoriaeth) enwog iawn yn yr Ariannin ar hyn o bryd...
Y Ffair Lyfrau
Cynhaliwyd y Ffair Lyfrau yng Nghanolfan Hamdden y Gaiman dros benwythnos cyntaf mis Mehefin, lle'r oedd Menter Patagonia yn rhannu stondin gydag Ysgol Feithrin y Gaiman a'r Dosbarthiadau Cymraeg. Treuliwyd wythnosau lawer yn paratoi at y ffair - misoedd i rai - a ges i'r gwaith o lunio amserlen o'r holl ddosbarthiadau Cymraeg yn nhalaith Chubut ac yn La Plata. Bois bach, roedd hyn yn llawer iawn mwy o waith nag o'n i wedi'i ragweld a dwi wir yn gobeithio y bydd mwy yn mynychu'r dosbarthiadau ar ol i'r rhain gael eu dosbarthu. Os bydd un dysgwr Cymraeg newydd ym Mhatagonia, fydd yr holl waith wedi bod yn werth chweil! Cafodd y ffair ei hagor ar nos Iau y 7fed o Fehefin, a'r agoriad swyddogol oedd diben pennaf y noson hon - seremoni'r faner gyda chynrychiolwyr o'r gwahanol ysgolion lleol yn cario baner yr Ariannin, canu'r anthem, a nifer o bobl swyddogol yn siarad. Roedd nos Wener a dydd Sadwrn y ffair yn weddol dawel, a dweud y gwir. Ond roedd ein stondin ni'n brysur dros ben gan fod cyfle i blant ddod yno i liwio lluniau - y Ddraig Goch, Smot, Sam Tân, Sali Mali, Jac y Jwc - a phaentio eu hwynebau. Des i o hyd i daflenni o sticeri 'Dwi'n ffrind i Mistar Urdd' mewn bocs yn ddiweddar, ac fe'u dosbarthwyd i blant yn y Ffair Lyfrau. Dyw sticeri o'r fath ddim yn gyffredin yma felly doedd y rhan fwyaf o'r plant ddim yn siŵr beth i'w wneud gyda'r sticer - gwahanol iawn i mhrofiadau i o ruthro o un stondin i'r llall mewn eisteddfodau flynyddoedd yn ôl i orchuddio pob defnyn o nillad! Doedd gyda ni ddim paent addas i wneud campweithiau uchelgeisiol ar wynebau'r plant, ond roedd Mistar Urdd yn ddewis poblogaidd a sawl plentyn i'w weld yn crwydro'r neuadd gyda'i foch yn goch, gwyn, a gwyrdd. Ro'n i hefyd wedi ymuno yn y gweithgareddau oedd ar gael ac wrth i fi eistedd gyda'r plant i liwio llun o Sam Tân, trodd un ata i a gofyn i fi, 'vos hablas en un otro idioma?' ('wyt ti'n siarad mewn iaith arall?!')Ymunais yn hwyl y paentio hefyd gyda nifer o lygaid yn edrych arna i ddwywaith yn y siop lungopïau, fel pe baen nhw erioed wedi gweld rhywun mewn oed gyda blodau lliwgar ar un foch a'r ddraig goch ar y llall... Gwnes i'r camgymeriad dwl o roi rhwydd hynt i rai o'r plant baentio fy nwylo, a'r peth nesaf ro'n i'n edrych fel beiciwr modur gyda lluniau'n gorchuddio mreichiau A buan iawn y cofiais nad oedd dŵr wedi bod yn llifo o dapiau'r tŷ drwy'r dydd! Ond diolch byth roedd y sefyllfa wedi'i gwirio erbyn i fi gyrraedd adref, a ches i fynd i'r gwely gyda breichiau glân. Am dri o’r gloch ar y prynhawn Sadwrn cynhaliwyd panel o bedwar athro o’r Gaiman sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i fynd ar gwrs arsylwi yng Nghymru dros y flwyddyn diwethaf – Rebeca Henry, Caren Jones, Juan (Siôn) Davies ac Angelica Evans. Paratôdd y pedwar ohonyn nhw gyflwyniad yn olrhain eu profiadau a’u hargraffiadau o fyd addysg yng Nghymru (dim ond un yn Gymraeg); mae dipyn yn wahanol i’r system yma yn yr Ariannin. Cafodd pob un eu syfrdannu gan y byrddau gwyn rhyngweithiol, a hwythau wedi arfer ag ystafelloedd dosbarth moel heb unrhyw beth ar y waliau, heb sôn am dechnoleg o’r fath! Nid yn unig hynny, teimlai’r pedwar eu bod wedi elwa’n fawr o’r cyfle a bod hynny wedi cael dylanwad ar eu dull o ddysgu Cymraeg ers dychwelyd i’r Gaiman. Mae’n drueni nad oedd mwy o bobl wedi dod i wrando ar y pedwar, ond roedd y sawl a ddaeth wedi magu cryn ddiddordeb yn yr hyn oedd ganddyn nhw i’w ddweud a chododd trafodaeth ddiddorol o’r cwestiynau a holwyd i’r athrawon ar ddiwedd y sesiwn. Mae’r bont hon sy’n cysylltu Cymru a Phatagonia yn un werthfawr iawn, a gobeithio y bydd nifer o athrawon y dyfodol yn cael yr un cyfle.
Pen Blwydd Hapus Clecs Camwy!
Mae Clecs Camwy yn dathlu ei ben blwydd yn flwydd oed! Hip hip hwrê! Darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan Menter Patagonia: www.menterpatagonia.org
No hay comentarios:
Publicar un comentario