jueves, 26 de julio de 2012

Annibyniaeth, Buddugoliaeth, Cyngerdd a Chymanfa...

A minnau bellach wedi dychwelyd i Batagonia ers pedwar mis, dwi bron iawn â chyrraedd hanner ffordd! Roedd pwy bynnag ddywedodd 'mae amser yn hedfan' gyntaf yn llygad ei le, ac mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn llawn prysurdeb amrywiol, megis...

Eisteddfod MiniBethel
Bythefnos yn unig ar ôl MicroEisteddfod Camwy, cynhaliwyd ail eisteddfod y flwyddyn, sef Eisteddfod MiniBethel. Hen Gapel Bethel oedd cartre'r eisteddfod hon hefyd, a'r capel ei hun a'i threfnodd. Ro'n i ar bwyllgor yr eisteddfod, a dewisais y testunau llenyddiaeth Gymraeg a'r darnau adrodd Cymraeg - o'r herwydd, ni chystadlais ynddyn nhw. Ond ro'n i'n awyddus i fentro yn un o'r cystadlaethau coginio, sef y deisen foron. Yr unig broblem oedd fod yn rhaid mynd â'r danteithion i'r capel rhwng 5 a 7 ar y dydd Iau, ddeuddydd cyn yr eisteddfod, a dwi'n cynnal dosbarth yn y tŷ rhwng 5 a 7 bob prynhawn Iau. Penderfynwyd y byddai'r plant yn coginio ar gyfer yr eisteddfod yn ystod y wers honno, ac felly hysbysais gadeiryddes y pwyllgor y byddai'r pethau bach melys yn cyrraedd rhyw 5/10 munud yn hwyr. Cawsom bardwn! Felly pobais y deisen foron gyda'r bwriad o'i hanfon i'r capel gyda gwaith y plant. Roedd gwahanol gategorïau ar gyfer gwahanol oedrannau, a gan fod trawstoriad o oedrannau yn cael eu cynrychioli yn yr ôl-feithrin, trodd Tŷ Camwy yn ffatri! Ymunodd y dosbarth lleiaf sy fel arfer yn cael eu gwersi yn yr Ysgol Feithrin â ni i baratoi bisgedi cnau, ac aeth merched fy nosbarth i ati i wneud pepas, sef bisgedi bach gydag ychydig o jam arnyn nhw. Cyrhaeddodd un o'r bechgyn hynaf yn gynnar, felly dechreuodd e ar y magdalenas. Afraid dweud fod yr ystafell flaen yn edrych fel bod y fasged siopa wedi ffrwydro!
Daeth awr y merched i ben gyda'r tair yn llyfu'r llwyau a'r fowlen yn braf, ac yn bwyta'r jam oedd yn weddill heb gyfle i wneud y pice bach. Wedyn cyrhaeddodd gweddill y plant hŷn i orffen y magdalenas, a thra bo'r cacennau yn y popty aethon ni ati i ymarfer y cydadrodd, 'Y Gerdd Werdd' am y tro olaf, gan ychwanegu props a symudiadau. Erbyn diwedd yr ymarfer roedd y cacennau a'r bisgedi i gyd yn barod, ond cyn i fi droi rownd roedd un o'r athrawesau eraill wedi mynd â nhw i'r capel yn ei char. Felly a hithau bellach yn ddeng munud wedi saith, dyna lle safwn i yn yr ystafell flaen wedi fy amgylchynu gan flawd, siwgr, wyau, menyn, cnau a jam, a chlamp o deisen foron yn segur ar y bwrdd heb ffordd i'w chludo i'r capel. Ond daeth Esyllt a'i chamioneta i achub y dydd, ac am 7.45 (dri chwarter awr yn hwyr) gyrhaeddais i a fy nheisen foron y capel, lle'r oedd un o'r beirniaid yn aros amdanaf! Mae'r cystadlaethau hyn i fod yn anhysbys, ond dywedodd 'tyrd a fo yma' wrtha i cyn diflannu i'r gegin. Ynghanol holl brysurdeb y prynhawn ches i ddim cyfle i feddwl am ffugenw heb sôn am ei nodi, felly ymddangosodd beirniad drachefn i ofyn am ffugenw - Sali Mali ddaeth i fy meddwl i'n gyntaf! Doedd y canlyniadau ddim yn cael eu cyhoeddi tan yr eisteddfod ddydd Sadwrn, ond arhosais yno i gynorthwyo gyda'r addurno a pharatoi'r gwobrau.
Am 14.00 ar brynhawn Sadwrn y 30ain o Fehefin fe ddechreuodd eisteddfod MiniBethel ac roedd yr ystafell yn llawn dop o deuluoedd a ddaeth i gefnogi'r amryw blant fyddai'n ymddangos ar y llwyfan i ganu ac adrodd yn Gymraeg ac yn Sbaeneg. Gan nad o’n i’n berniadu nac yn cystadlu dreuliais i’r prynhawn yn ffilmio gwahanol gystadlaethau, ond symudais i'r sedd flaen pan oedd fy nghriw yn cydadrodd 'Y Gerdd Werdd'.
Ro'n i'n teimlo fel rhiant eisteddfodol! Gwnaethon nhw'n arbennig o dda, a chipio'r wobr gyntaf! Wel, nid ymddangosodd y ddau grŵp arall oedd wedi rhoi eu henwau i gystadlu - mae'n siŵr eu bod nhw wedi clywed ein bod ni'n cystadlu... Yn anffodus, prin iawn oedd y cystadleuwyr wrth i'r oedrannau fynd yn hŷn gyda rhai categorïau heb unrhyw gystadleuwyr o gwbl. Câi canlyniadau'r gwahanol gystadlaethau 'gwaith cartref' eu cyhoeddi o'r llwyfan drwy'r prynhawn, a daeth tro'r deisen foron. Roedd rhyw bum teisen wedi'u pobi at y gystadleuaeth ac yn ôl y beirniaid roedd y canlyniad yn un agos iawn, felly allwn i ddim credu 'nghlustiau pan ddywedon nhw mai Sali Mali oedd yn fuddugol! Dyma deyrnged i Mam, sef ein Brenhines Bobi ni sy wedi ennill amryw wobrau a thlws am bobi yn Sioe Rhydypennau, ac mae'r dystysgrif ar y silff ben tân. Doedd dim llawer o bobl ar ôl erbyn diwedd y prynhawn a gorffennodd yr eisteddfod yn gynharach nag arfer, am tua 7 o'r gloch. Ond llanwyd yr Hen Gapel gyda lleisiau angerddol yn canu 'Hen Wlad Fy Nhadau'.

Hogia'r Wilber
Noswyl Eisteddfod MiniBethel, cynhaliwyd cyngerdd arbennig yn nhŷ te Tŷ Gwyn. Hwn oedd y tro cyntaf i Hogai'r Wilber ganu yn y Gaiman ers iddyn nhw ailffurfio gydag aelod newydd. Efallai fod rhai ohonoch chi'n gyfarwydd â nhw yn ôl yr enw '4Patagonia' - rhyddhaodd Sain eu cryno ddisg rai blynyddoedd yn ôl, sy'n gymysgedd o ganeuon Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Roedd y tocynnau i gyd wedi cael eu gwerthu ymlaen llaw, a'r neuadd yn orlawn erbyn i ni gyrraedd - diolch byth fod Esyllt wedi cadw seddi ar ein cyfer ni.
Ychydig ddyddiau cyn y cyngerdd daeth un o'r hogia ata i gyda chopi Cymraeg o'r rhaglen i fi ei brawfddarllen erbyn y noson, a phan gyrhaeddon ni'r tŷ te cefais i, Sara ac Esyllt gopïau o'r rhaglen honno gan sylweddoli mai cyfieithiad o'r esboniadau y byddai'r hogia yn eu rhoi rhwng y caneuon ydoedd er mwyn sicrhau y byddwn ni'n deall popeth! Chwarae teg. Caneuon nhw amryw o ganeuon yn y tair iaith, yn bedwarawd ac yn unawdau, e.e. 'Eidelweiss', 'Las Golondrinas', 'Ti a dy ddoniau'. Wel, roedd y dorf wrth eu bodd a phawb ar eu traed yn cymeradwyo ar y diwedd! Dwi'n edrych ymlaen at eu perfformiad nesaf, fydd o fewn ychydig ddyddiau...


Diwedd Tymor
Tra bod plant ac athrawon Cymru yn edrych ymlaen at ddiwedd tymor yr haf a chwe wythnos o wyliau, cafodd plant ac athrawon yr Ariannin bythefnos o wyliau gaeaf fis Gorffennaf. Does dim y fath beth â hanner tymor yn bodoli yma; pan fydd yr ysgolion yn agor ddiwedd mis Chwefror fydd y drysau ddim yn cau tan ail wythnos Gorffennaf – heblaw penwythnosau a dyddiau gŵyl fan hyn a fan draw, wrth gwrs. Felly ar ôl dros bedwar mis, roedd pawb yn fwy na pharod am y gwyliau! Trefnodd amryw ysgolion a dosbarthiadau bartïon i ddathlu diwedd y tymor, a doedd ein dosbarth ôl-feithrin ni ddim yn eithriad.
Ar ôl rhannu tystysgrifau a gwobrau’r ddwy eisteddfod a bwyta bwyd parti, chwaraeon ni ambell gêm; y ffefryn o bell ffordd oedd ‘Delwau Cerddorol’. Roedd yn rhaid bod yn ofalus iawn yn chwarae’r gêm hon ar loriau pren Tŷ Camwy sy dros eu cant oed, ond cafwyd tipyn o sbort! A’r noson ganlynol trefnais i Noson Sosial yn Nhŷ Camwy i groesawu’r gwyliau ac yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd am sgwrs a hwyl cyfrwng Cymraeg. Roedd fy ffrind Mari Elin wedi dod i ymuno fel rhan o’i thaith o amgylch y byd, felly roedd yn gyfle da iddi hi gwrdd ag amryw o bobl. Roedd hon yn noson hwylus yn llawn bwyd a siarad, ac yn gyfle i ni ffarwelio â’n gilydd cyn y gwyliau.



Cymanfa Ganu Rawson
Cafodd Cymanfa Ganu Cymdeithas Dewi Sant ei chynnal yn Rawson fis Gorffennaf. Trerawson yw prifddinas talaith Chubut a’r dref gyntaf i’r Cymry ei sefydlu pan gyrhaeddon nhw Batagonia – nid Porth Madryn, fel mae nifer o bobl yn tybio. Ro’n i wedi bod i Rawson bedair gwaith yn y gorffennol – unwaith ar ein ffordd i Playa Union i brynu cubanitos (pethau blasus!), unwaith i’r sw, a dwywaith i stampio fy mhasbort. Felly roedd hi’n braf cael rheswm arall i fynd yno, a hwn oedd y tro cyntaf i fi fod i Gapel Berwyn. Nid hwn oedd capel cyntaf y dref, cafodd hwnnw ei ddifrodi gan lifogydd felly cyfrannodd Richard Jones Berwyn arian i adeiladu’r capel gwyn a'i ddrysau gwyrdd sy'n sefyll yno heddiw – a dyna i chi hanes yr enw hefyd. Mae Rawson ryw awr a hanner o’r Gaiman, ac roedd hi’n ddiwrnod braf i deithio drwy’r ffermydd a gweld y golygfeydd godidog nes cyrraedd ffyrdd unsyth y dref. Doedd dim llawer wedi teithio i Rawson ar gyfer y gymanfa, a dweud y gwir, ond wnaeth hynny ddim effeithio ar y canu. Yn ôl yr arfer, daeth gwahanol bobl i flaen yr ystafell i arwain y dorf mewn amryw emynau a'r rheini'n Gymraeg ac yn Sbaeneg; unwaith y mis dwi'n cael cyfle i ganu emynau Cymraeg mewn oedfaon, felly dwi'n aml yn canu pob emyn yn y cymanfaoedd yn Gymraeg, os oes fersiynau Cymraeg ohonyn nhw, wrth gwrs! Cafwyd hefyd ddarlleniadau, ond yn anffodus ni lwyddodd y pregethwr gwadd i gyrraedd er mwyn ein hannerch - rhywbeth i'w wneud gyda'r bysiau - felly canwyd mwy o emynau. Wrth i fi ysgrifennu'r pwt bach yma, dwi wedi bod yn trio cyfri'r nifer o'r capeli Cymreig dwi wedi ymweld â nhw. Ers dydd Sadwrn, dwi'n meddwl mai dim ond Capel Seion Bryn Gwyn sydd ar ôl...


Diwrnod Annibyniaeth
Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud mai’r 9fed o Orffennaf yw’r dyddiad pwysicaf ar galendr yr Ariannin, sef Diwrnod Annibyniaeth. Mewn tŷ yn Tucumán, gogledd y wlad, ar y dyddiad hwn yn 1816 wedi chwe blynedd ers dechrau Gwrthryfel Mai, cyhoeddwyd fod yr Ariannin yn wlad rydd ac annibynnol. Felly i nodi’r achlysur hanesyddol bwysig, mae seremonïau neu weithgareddau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad ar y 9fed bob blwyddyn, gan gynnwys y Gaiman. Eleni cefais i wahoddiad i gynrychioli’r Ysgol Feithrin yn yr acto (seremoni) oedd yn cael ei chynnal yn y ganolfan hamdden, a derbyniais yn llawen – cyn sylweddoli beth fyddai’n rhaid i ni ei wneud... Byddai athrawon, plant, a rhieni yr Ysgol Feithrin yn croesawu pobl i’r neuadd mewn gwisgoedd traddodiadol yr Ariannin! Wel, do’n i ddim yn gwybod beth fyddai pobl yn meddwl o ryw Gymraes benfelen wedi’i gwisgo fel 'dama antigua Argentina'(Archentwraig o’r ddeunawfed ganrif). Wel, bues i’n chwerthin ac yn chwerthin wrth edrych ar fy hun yn y drych y bore hwnnw – ond ar y llaw arall ro’n i eisiau cadw’r ffroc! Diolch byth mod i’n ca’l lifft draw at y ganolfan hamdden gyda Rebeca – ond ges i sioc wrth gerdded at y car achos bod rhyw ddyn wrth y llyw, cyn sylweddoli mai Rebeca ei hun oedd hi wedi’i gwisgo fel Archentwr o’r ddeunawfed ganrif! Gwych!
Felly cyrraedd y ganolfan hamdden gan sylweddoli ymhen hir a hwyr mai dim ond pedair ohonom ni athrawon oedd mewn gwisg, tri phlentyn, a dim un rhiant. Roedd wynebau’r bobl yn werth eu gweld wrth iddyn nhw gamu dros y trothwy a’n gweld ni’n sefyll yno, a thynnwyd sawl llun – dywedodd un fenyw dwi’n ei nabod wrtha i ei bod hi wrth ei bodd mod i’n dathlu eu diwylliant gyda nhw, felly do’n i ddim yn teimlo fel cymaint o ffŵl wedyn! Ein prif swyddogaeth oedd tywys y pwysigion i’w seddi ym mlaen y neuadd, gan gerdded fraich ym mraich at y rhes flaen cyn eistedd yn ein seddi ni oedd ar ochr y llwyfan. Roedd nifer o bobl eisoes wedi cychwyn ar eu taith am y gwyliau, ond roedd tipyn o bobl yn y neuadd i nodi’r achlysur. Ac ar ôl i’r maer godi’r faner gorymdeithiodd cynrychiolwyr o wahanol ysgolion lleol i flaen y neuadd yn cario baneri, fel sy’n digwydd ar ddechrau pob seremoni neu agoriad swyddogol, a chanwyd yr anthem genedlaethol. Dwi dal ddim yn gwybod y geiriau i gyd, ac ro’dd y camera teledu’n pwyntio aton ni ‘damas antiguas’ wrth i’r cyflwyniad hir gael ei chwarae; ond symudodd cyn i ni gymryd yr anadl gyntaf. Cenais y llinellau dwi’n eu gwybod yn groch gan dawelu yn y mannau ansicr, a chanu’r llinell olaf yn groch cyn i bawb gymeradwyo ac eistedd i lawr. Canolfan Diwylliant y Gaiman drefnodd yr adloniant, ac yn eu tro daeth dawnswyr tango, dawnswyr traddodiadol, a grŵp canu i’r llwyfan. Ar ddiwedd yr acto roedd siocled poeth yn cael ei weini yng nghefn y neuadd, sydd hefyd yn draddodiad!
Yn anffodus, daeth hi’n bryd diosg y wisg. A threuliais y prynhawn yn mynd am dro yn y car drwy’r dyffryn gyda Luned, Tegai ac Elliw, gan yrru ar hyd ffyrdd oedd yn anghyfarwydd iddyn nhw eu dwy yn ogystal ag ymweld â Pharc Paleontolegol Bryn Gwyn – aethon ni ddim mewn i'r parc, ond roedd yr olygfa o’r dyffryn yn odidog o dan yr awyr las.

Teimlais fraint fawr o gael bod yn rhan o ddathliad sydd mor bwysig i’r Ariannin a’i phobl. Ac mewn cyfnod lle’r oedd y Jiwbili yn cael ei ddathlu ym Mhrydain, y Gêmau Olympaidd a holl helynt ‘Team GB’ ar y gorwel, mae'n torri 'nghalon i nad oes gyda ni Gymry gyfle cyffelyb i ddathlu ein hunaniaeth - nac yn wir, annibyniaeth - a bod nifer fawr wedi dewis arddel eu Prydeindod yn hytrach na'u Cymreictod yn ddiweddar. Afraid dweud mod i'n hynod falch mai yng Ngwladfa Gymreig Patagonia ac nid yng Nghymru ydw i ar hyn o bryd. Ac mae hynny ynddo'i hun hefyd yn ddigon i dorri'r galon.


No hay comentarios:

Publicar un comentario