Cyn i fi ddechrau ar y blog yma, buasai'n well i fi ei gwneud hi'n glir mod i bellach yng Nghymru ers ychydig wythnosau. Tipyn o sioc i'r sustem o'dd gadael gwres llethol yr Ariannin am law ac oerfel Cymru, ond mae hi wedi bod yn braf treulio amser gyda theulu a ffrindiau dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Gyda'r prysurdeb arferol ym Mhatagonia, y Nadolig a pharatoi at adael, ches i ddim cyfle i nodi gweithgarwch fy misoedd diwethaf yno. Felly dyma grafu pen i ddod â'r rhain i'r wyneb a'u trosglwyddo i ddalen y blog, a chyfle hunanol i fi ddychwelyd i'r Wladfa unwaith eto...
Pencampwriaeth y Deisen Ddu
Gadewch i ni felly droi'r calendr yn ôl i fis Hydref. Ar yr 20fed o'r mis hwnnw mae Trelew yn dathlu ei phen blwydd, gan mai ar y diwrnod hwnnw yn 1874 y sefydlwyd y pentref sy bellach yn ddinas â phoblogaeth o ryw 100,000 o bobl. Yn rhan o'r dathliadau eleni cynhaliwyd Pencampwriaeth y Deisen Ddu ar ôl saib o ryw dair blynedd. Mae'n siŵr mod i wedi crybwyll fy hoffter o'r deisen ddu droeon yn y gorffennol, achos o holl arlwy'r te Cymreig Gwladfaol honno yw fy hoff deisen - mae hynny'n ddweud mawr gan mod i wrth fy modd gyda chacennau o bob math. Felly gallwch chi ddychmygu'r wên ar fy wyneb pan ges i wahoddiad i feirniadu yn y bencampwriaeth! Daeth 49 teisen o bob lliw a llun (yn anffodus, doedd pob un ddim yn ddu) i law felly cynhaliwyd rowndiau cyn-derfynol yn Neuadd Dewi Sant, a dyna lle es i a fy stumog wag ar yr ail o Hydref. Rhaid cyfaddef fod y digwyddiad yn un llawer mwy ffurfiol na'r disgwyl, sef bwyta teisennod a rhoi fy marn arnyn nhw. Ond nid felly'r oedd hi. Yn yr oruwchystafell gosodwyd bwrdd hir ar gyfer y beirniaid - pump ohonom - ac arno daflen werthuso yr un, darnau o bren â sgôr arnyn nhw, cwpan a soser. Ar fwrdd arall roedd 25 teisen anhysbys yn disgwyl eu tynged, roedd 'na ddyn mewn siwt yn cyflwyno'r cyfan a thair o fy ffrindiau - Virginia, Norwena ac Eryl - mewn gwisg Gymreig yn barod i weini'r teisennod hyn i ni. Dyma oedd trefn y beirniadu:
1. Pasio'r deisen gyfan o un beirniad i'r llall i'w gwerthuso yn ôl ei lliw, arogl, nifer y cnau a'r ffrwythau, a'i diwyg yn gyffredinol.
2. Blasu darn ohoni. Oedd hi'n sych neu'n wlyb? Faint o alcohol a sbeisys oedd ynddi?
3. Nodi marc (2, 2.5, 3, 3.5, 4, 4.5, 5 - does gyda fi ddim syniad pwy benderfynodd ar y rhifau hyn!) ar y daflen werthuso cyn codi'r darn pren gyda'r rhif hwnnw arno er mwyn i un o'r trefnwyr nodi pob marc ar ddarn swyddogol o bapur.
Wel roedd hon yn dasg anodd, yn enwedig gan y byddai marc pob teisen yn dibynnu ar farc y gyntaf. Roedd llawer i'w hystyried a hynny'n seiliedig ar ddarn bychan o'r deisen - efallai y byddwn i'n cael darn heb unrhyw ffrwythau a beriniad arall yn cael darn oedd yn frith ohonyn nhw. Rhoddodd bawb arall farc uchel i un deisen wrth i fi godi'r rhif 2 gan mai dim ond llosg y gallwn ei flasu - efallai mai fi oedd yr unig un i gael darn o'r gacen oedd wedi'i losgi... Yn bersonol, roedd un maen prawf amlwg - os nad oedd y deisen ddu, doedd hi ddim yn deisen ddu!Ar y cyfan, doedd dim on ohonyn nhw'n ticio pob blwch; efallai y byddai teisen yn edrych ac yn arogli'n dda, ond yn sych fel corcyn heb fawr o flas arni, neu i'r gwrthwyneb yn olau iawn heb fawr o ffrwythau ynddi ond bod iddi flas hyfryd. Erbyn y 10fed ro'n i'n fwy pendant fy meddwl ac erbyn y 25ain ro'n i wedi cael llond bol, yn llythrennol! Roedd yn brofiad da, ac yn un gafodd ei ailadrodd yr wythnos ganlynol gyda 24 teisen arall. Ac ar y 19eg o Hydref cynhaliwyd y rownd derfynol lle cafodd 24 o'r teisennau gyfle arall i'n plesio ni...
Clwb Racing Trelew oedd y lleoliad ac yno roedd bwrdd y beirniaid wedi cael ei ail-greu, ond ar gyfer deg ohonom. Yn ein plith y diwrnod hwnnw roedd yr Archentwraig o gogyddes enwog Dolly Irigoyen yn feirniad gwadd - mae ganddi raglen goginio boblogaidd ar sianel genedlaethol ac roedd y beirniaid eraill wedi eu cyffroi yn lân. Ac am sioe! Cafodd pob un ohonom ein gwahodd i'r bwrdd yn ein tro wrth i'r dyn mewn siwt ddarllen cyflwyniad byr amdanom ac roedd rhesi o gadeiriau wedi cael eu gosod ar gyfer aelodau o'r cyhoedd oedd eisiau dod i wylio'r ornest. Fel y dywedodd un o fy nghyd-feirniaid, druan ohonyn nhw'n eistedd yno am ryw ddwyawr yn ein gwylio ni'n bwyta cacennau ac yn yfed te! Yn wir, pwy sy eisiau gwylio deg o bobl yn arogli cacennau a'u blasu cyn codi darn o bren â rhif arno? Dilynwyd yr un drefn eto, ond ar ôl pob chwe theisen roedd 'na doriad yn gyfle i ddangos fideos am hanes y Wladfa a'r deisen ddu, dawnsio gwerin gan ddawnswyr bach Gwanwyn, a phlant Ysgol yr Hendre yn canu.Siom fwya'r achlysur i fi oedd y ffaith mai caneuon Saesneg megis 'Let It Be' a 'Bohemian Rhapsody' oedd yn cael eu bloeddio chwarae yn ystod y blasu. Ac unwaith eto, cawson ni feirniaid ein siomi gan safon y cacennau ar y cyfan. A dweud y gwir buaswn ni wedi gallu hepgor yr ugain teisen gyntaf gan mai'r olaf oll a ddaeth yn flaenaf, yr olaf ond yn un ail, a'r olaf ond tair yn drydedd! A chyhoeddwyd, ar ôl araith gan Dolly Irigoyen, mai menyw o'r enw Daiana Càrdenas oedd y gogyddes fuddugol a'i gwobr oedd taith i Buenos Aires. Cawson ni feirniaid hamper am ein cyfraniad i'r achlysur, oedd yn cynnwys siocled, jamiau, mêl, a cheirios mewn surop - yn rhyfedd iawn, er nad oeddwn i am weld briwsionyn du arall, doedd dim teisen ddu ynddi! Wrth i fi drio gadael y neuadd i ddal y bws dan lwyth yr hamper, ges i fy nal gan newyddiadurwraig oedd am i fi rannu fy mhrofiad fel beirniad ar gamera ar gyfer rhaglen sydd ganddi ar y we, a hynny yn Sbaeneg... Es i drwyddi, ond soniais i ddim wrth neb amdano rhag iddyn nhw chwilio am y cyfweliad - ychydig wythnosau yn ddiweddarach dywedodd un o fy ffrindiau iddo weld yr eitem ar y we. Methiant. Fel y dywedais yn y cyfweliad hwnnw fe fwynheuais i'r holl brofiad yn fawr - a dwi bellach yn gallu bwyta teisen ddu eto!
Playa Unión
Mae'r 12fed o Hydref yn ddyddiad o bwys hanesyddol byd-eang, gan mai dyma'r diwrnod yn 1492 y darganfu Christopher Columbus yr Amerig. O'r herwydd mae'r diwrnod hwn yn un o wyliau cenedlaethol yn yr Ariannin - dwi'n cymryd fod hyn yn wir am y mwyafrif, os nad pob gwlad ar y cyfandir. Fodd bynnag, o'r hyn dwi'n ei ddeall mae'r dathliad hwn wedi credu cryn dipyn o anghydweld a gwrthwynebiad, gyda nifer yn dadlau nad oedd Cristobal Colón (i roi ei enw Sbaenaidd arno) wedi darganfod yr Amerig gan fod pobl eisoes yn byw yno. Felly mae'r diwrnod bellach yn dwyn yr enw 'Día de la Raza', sef diwrnod i ddathlu'r gwahanol ddiwylliannau sydd bellach yn poblogi'r tiroedd. Dyw hynny ddim yn newid y ffaith fod 'na ddiwrnod o wyliau i'r genedl gyfan, ond cafodd hwnnw ei symud i ddydd Llun yr 8fed o Hydref am ryw reswm.Felly es i ac ambell ffrind am dro i Playa Unión, sef traeth tref Rawson a gafodd ei enwi ar ôl y llong Unión a ddrylliwyd yno mewn storm. Mae'r traeth ei hun yn fy atgoffa o Aberystwyth, gan nad tywod sydd yno mewn gwirionedd ond cerrig mân. Doedd hi ddim yn dywydd traeth na thorheulo mewn gwirionedd, ond braf iawn oedd ymlacio i sŵn a symudiad y môr a gwylio morlo yn chwarae cuddio rhwng y tonnau. Gallwch chi ddim mynd i Playa Unión heb fwyta 'cubanitos' sy'n cael eu gwerthu mewn fan oren a gwyn ar ochr y ffordd ac er bod hyn yng nghyfnod Pencampwriaeth y Deisen Ddu, fwyteais i dri ohonyn nhw!
Ymweliad o Buenos Aires
Ers blynyddoedd bellach mae disgyblion ysgol Gatholig yn Buenos Aires yn mynd ar daith addysgiadol i Ddyffryn Camwy, ac yn rhan o'r daith honno maen nhw'n ymweld â Chapel Bethel y Gaiman. Felly ar ôl oedfa un bore Sul crasboaeth ym mis Hydref cyrhaeddodd y bobl ifanc hyn, rhyw 40 ohonyn nhw, a'u hathrawon y capel lle ro'n i a Luned yn disgwyl amdanyn nhw. Yn dilyn cyflwyniad byr y tu allan ar hanes y capel a'r Wladfa Gymreig, aethon ni i gyd mewn i Bethel a chafodd y bobl ifanc gyfle i holi cwestiynau. Gan mai i'r eglwys Gatholig maen nhw'n perthyn roedden nhw'n llawn chwilfrydedd am Brotestaniaeth ac yn agored iawn eu cwestiynau, er enghraifft pam nad oes addurniadau a darluniau yn y capel, sut drefn oedd i'r cymun, a beth yw'r gred Brotestanaidd am Mair. Diddorol iawn. Wedyn codais i a Luned ar ein traed i gynnig ychydig o adloniant ar eu cyfer! Yn gyntaf, darllenodd Luned Salm 23 yn Gymraeg gydag un o'r disgyblion yn darllen y cyfieithiad Sbaeneg fesul adnod cyn i ni'n dwy ganu 'Diolch, diolch Iesu' iddyn nhw... hynny ar ôl penderfynu ar 'pitsh' oedd yn addas ar gyfer y ddwy ohonom. Taith addysgiadol oedd hon, felly dysgodd y plant a'u hathrawon y pennill hwn a 'Diolch Haleliwa' cyn i ni eu canu gwpl o weithiau gyda'n gilydd. Roedd hi'n hyfryd clywed ambell un yn canu'r gân neu' ei chwibanu y tu allan wedyn!
'Gormod o bwdin dagith gi' yw'r dywediad, a dwi'n meddwl fod hen ddigon o bwdin uchod i gnoi cil drosto am y tro. Ond mae mwy na digon i ddod eto...
No hay comentarios:
Publicar un comentario