Dyma beth arall sy wedi bod yn digwydd...
Patagonia
Fues i’n ddigon ffodus i wylio’r ffilm ‘Patagonia’ yng Nghaerdydd y noson cyn i fi hedfan allan ‘ma. Gallai’r canlyniad fod wedi mynd i un o ddwy ffordd – naill ai cynyddu fy nghyffro, neu achosi traed oer go iawn… Gallwn i ddim ond cyffroi o wybod y bydda i’n gweld y golygfeydd godidog hynny ymhen ychydig ddiwrnodau, ac ar bigau’r drain eisiau neidio ar yr awyren unwaith i deitlau olaf y ffilm ymddangos ar y sgrîn fawr! Dri mis a hanner yn ddiweddarach, a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i wylio’r ffilm eto. Roedd hi’n brofiad hollol wahanol i’w gwylio ym Mhatagonia, a finnau bellach yn gyfarwydd â’r golygfeydd godidog hynny, y llefydd, a rhai o’r bobl. Mae’r dyn sy’n gweini ar y cymeriadau yn y ‘Touring Club’ wedi gweini arna i droeon – a chwerthin yn groch un tro pan ddywedais i wrtho mod i’n hoffi cnau mwnci ac felly eisiau rhagor, por favor! Wrth wylio’r ffilm y tro cynta, roeddwn i wedi teithio drwy hanner Cymru’r diwrnod hwnnw a’r cof am y golygfeydd ac am fy annwyl Aberystwyth yn fyw. Felly doedd eu gweld ar y sgrîn ddim yn cael unrhyw effaith arna i, fel y cyfryw. Ond y tro hwn llefydd fel y Gaiman a Threlew oedd yn ffres yn y cof, ac felly’r golygfeydd o Gymru yn rhoi gwir wefr – y mynyddoedd, y llynnoedd, y caeau... Ac o, ro’dd Aberystwyth yn edrych yn fendigedig! Mae’n anhygoel jyst pa mor gyferbyniol yw’r ddau le – y mynyddoedd a chaeau gwyrdd ar y naill law, a’r paith eang ar y llall. Ond y ddau yr un mor hudolus â’i gilydd, ac yn rhoi'r un wefr. Mae’r ffilm yn arbennig, a dwi’n annog pawb i'w gwylio.
Cyfarfod Hanesyddol
Mathemateg: Angorodd y Mimosa ym Mhorth Madryn yn 1865, felly 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach… 2015. Ac yn ddiweddar, cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf i drafod y dathliadau! Roedd y cyfarfod yn Neuadd Dewi Sant, Trelew, a rhyw ddeugain o bobl yno i rannu eu syniadau a lleisio eu barn. Bydd nifer o gyfarfodydd yn cael eu cynnal dros y pedair blynedd nesaf - mae Patagonia yr un mor hoff o gynnal pwyllgorau â Chymru! Gan fod y cyfarfod yn un hanesyddol, tynnwyd ein llun - ac ymddangosodd yn y papur! Daw’r llun yma o wefan http://www.vistasdelvalle.com.ar/
Porth Madryn
Dwi wedi bod ar fy ail ymweliad â Phorth Madryn, ond yn rhinwedd fy swydd y tro hwn. Ac wrth gwrs, ddewisais i'r bore cyntaf iddi rewi i ddal y bws am 7 o’r gloch y bore – ro’dd haen o rew ar ochr fewn ffenestri’r bws, a chyrhaeddais i Fadryn ychydig yn ddiweddarach yn gwisgo dau bâr o fenig a dwy sgarff! Mae dau ddosbarth Cymraeg yn cael eu cynnal yno ar fore Sadwrn, sef y cwrs Pellach, ac WLPAN 1. Felly ymunodd Nia a fi â nhw. Roedd hi’n braf cael sgwrsio dros baned o de, ond dwi’n poeni mod i wedi codi ofn ar y dysgwyr gyda geiriau fel ‘ysgewyll’ ac 'erthyglau amaethyddol'...
Ar ôl teirawr o wersi aeth yr athrawes, Lorena, â ni am dro ar hyd y traeth ac am ginio. Mae’r morfilod wedi dechrau cyrraedd y môr ym Mhorth Madryn, ac ro’n ni’n gallu eu gweld nhw yn y pellter o’r bwyty! Ro’n nhw’n edrych fel eu bod nhw’n cael amser eu bywyd yn sblasho yn y dŵr ac yn taflu eu cynffonau i'r awyr.
Cafodd cwrs coginio bwydydd Cymreig ei gynnal yn y prynhawn. Hon oedd y drydedd wers, a 40 menyw yn bresennol! Dim un gŵr bonheddig. Dechreuwyd y sesiwn gyda gwers ar wneud croen oren wedi’i grisialu – ‘cascaritas’. Ond seren y sioe oedd y deisen ddu – ‘torta negra’, neu ‘torta galés’. Er bod hi’n cael ei galw yn deisen Gymreig, dyw hi ddim yn bodoli yng Nghymru! Mae hi’n deillio o’r bara brith, ond ar ffurf teisen ffrwythau gyda chnau ynddi, a thipyn yn dywyllach. Dyw bara brith ddim yn bodoli ‘ma, a’r rhan fwyaf o bobl heb glywed amdano. Maen nhw ar eu colled yn fawr, ond ma’r deisen ddu yn ffein tu hwnt hefyd! Roedd gan bob teulu eu rysáit unigryw eu hunain ar gyfer y deisen ddu yn ystod blynyddoedd cynnar y Wladfa, a’r rheini wedi cael eu pasio o un genhedlaeth i’r llall. A rhannodd dwy fenyw rysáit eu teuluoedd nhw gyda ni, gydag un ohonyn nhw’n cynnwys cynnau’r gymysgedd ar dân! A pha ffordd well o sicrhau fod y ryseitiau yma’n rhai gwerth eu halen, ond eu blasu?! Felly berwyd y tegell, taenwyd menyn ar y bara cartref, a gosodwyd y byrddau. Gallen i fod wedi bwyta teisen ddu nes bod dim un briwsionyn ar ôl yn y byd, ond ro’dd rhaid cadw lle i'r bara menyn, teisen blât, teisen hufen, bara brith, pice’r maen… Wel, roedd angen haenen ychwanegol i gadw’n gynnes yn y tywydd rhewllyd!
Deinosoriaid
Roedd mynediad i’r MEF, sef yr Amgueddfa Baeleontoleg yn Nhrelew, am ddim ar y 26ain o Fehefin. Dwi ddim yn gwybod pam, ond mae’n debyg eu bod nhw’n gwneud hyn unwaith y flwyddyn. Agorodd y drysau am 10 o’r gloch y bore, ac ymunon ni â’r ciw hirfaith am 3.30 y prynhawn. Wir, ro’dd y ciw fel . Er hynny, symudai’n ddigon cyflym – ond bod na fwy a mwy yn ymuno – a daeth ein tro ni i gamu i fyd y deinosoriaid. Gynta i gyd, wylion ni ffilm am ddarganfyddiad deinosor ddigwyddodd yn Nhalaith Chubut rai blynyddoedd yn ôl gyda’n ffrind, Virr, yn cyfieithu i Nia a fi – druan! Dyma’r unig ddiwrnod o’dd drysau’r labordai ar agor i'r cyhoedd, ac ro’dd un o’r archeolegwyr yno yn dad i blentyn yn Ysgol yr Hendre! Soniodd e ychydig am weithio gyda ffosilau, cyn i ddyn arall ddangos sut maen nhw’n ail-greu yr esgyrn ar gyfer yr amgueddfa. Wedyn cawson ni rwydd hynt i grwydro’r gwahanol arddangosfeydd. Roedd yr hanes yn ddiddorol iawn, a’r prynhawn yn un gwerth chweil.
Dydd Iau Crempog
Yn y blog diwethaf, roeddwn i’n pendroni dros beth i’w goginio nesaf gydag ôl-feithrin y Gaiman… be well na chrempog?! Dim byd. Dyw’r enw ‘crempog’ ddim yn gyffredin yma, ond yn hytrach ‘ffroes’. Beth bynnag am y gair, yr un yw’r blas – hyfrydwch pur! Roedden ni’n brin o flawd, llaeth, a jam llaeth, felly aethon ni ar drip ysgol i’r archfarchnad yn yr oerfel, cyn paratoi’r gymysgedd. Cawson ni un drychineb… cwympodd un ŵy ar y llawr! Paratôdd pob un ohonom ni grempogen yn ein tro, a llwyddais i daflu un ohonyn nhw yn yr awyr – a’i dal, diolch byth! Wedyn daeth y rhan pwysicaf, sef y bwyta. Y dewis o lenwadau oedd sudd lemwn, menyn, siwgr, jam llaeth, siocled gwyn wedi toddi, a siocled tywyll wedi toddi. Llenwais fy nghrempogen i gyda phob un ohonyn nhw, gyda gwên fawr ar fy wyneb. Iwm. Chawson ni ddim digon o amser i wneud mwy nag un yr un (ac un anferthol i’w rannu rhyngom ni), felly byddwn ni’n gwneud rhagor yr wythnos nesaf. Honno fydd y wers olaf cyn y gwyliau, ac mae ’na ddŵr yn cael ei dynnu i fy nannedd yn barod…
Cylch Chwarae Dolavon
Ar nos Lun, mae rhyw bymtheg o blant yn dod i adeilad melyn yr ysgol newydd ar gyfer y Cylch Chwarae – gyda chymaint o blant, ry’n ni’n chwarae gêmau pêl a gêmau parasiwt. Ond gyda’r tymheredd wedi gostwng cryn dipyn, roedd y niferoedd hefyd wedi gostwng y ddau dro diwethaf. Wel, dwi’n gobeithio mai’r diffyg yn y gwres ac nid diffyg yn yr hwyl oedd y rheswm! Daeth pump i’r sesiwn diwethaf, felly chwaraeon ni gêmau bwrdd, a gwneud jig-sôs. Buon ni’n dysgu enwau’r gwahanol anifeiliaid oedd ar y jig-sô, ac yn cael hwyl fawr yn dynwared eu gwahanol synau. Ar ddiwedd yr awr, roedd y ddau ieuengaf eisiau rhedeg o gwmpas y neuadd - felly rhedais i ar eu hôl dan weiddi, ‘Dwi’n mynd i dy ddal di!’ Wel sôn am sgrechfeydd, a’u coesau bach nhw’n rhedeg mor gyflym nes bod y ddau bron iawn â baglu dros eu traed eu hunain... Ond do, fe wnes i eu dal nhw!
Meicro
Hwrê, penwythnos arall o eisteddfota! Yn anffodus, ro’dd amgylchiadau’n golygu fod dwy eisteddfod wedi cael eu cynnal ar yr un diwrnod – y naill, Eisteddfod Mimosa, ym Mhorth Madryn, a’r llall, Meicrosteddfod Camwy, yn y Gaiman. Ro’n i’n siomedig o orfod colli un, a chefais gais i feirniadu yn y ddwy. Ond gan mai’r Meicrosteddfod ofynnodd yn gyntaf, arhosais i yn y Gaiman i feirniadu’r adrodd Cymraeg a’r dawnsio gwerin. Dwi wedi clywed fod y Mimosa wedi bod yn eisteddfod fendigedig, a llongyfarchiadau anferthol i Ana ar gipio’r Delyn am ei cherdd! Er gwaetha fy siom o golli Eisteddfod Porth Madryn, o leia do’dd dim rhaid i fi feirniadu rhagbrofion am 8.30! Felly ymlwybrais draw i Ysgol 100 erbyn 2 o’r gloch, a gosod fy hun wrth fwrdd y beirniaid – a chefais i fodd i fyw yn gwylio’r cystadlu o’r fan honno. Disgyblion Ysgol Camwy oedd wedi trefnu’r eisteddfod, a chwarae teg cafodd ei threfnu’n dda gyda’r cystadlu’n llifo’n eithaf llyfn. Golygai hyn hefyd mai eisteddfod i’r to iau oedd hon, hyd 25 oed, a chafodd nifer o ysgolion lleol eu cynrychioli yno – Ysgol Camwy, Ysgol Feithrin, Ysgol 100, Ysgol yr Hendre, Ysgol Lle Cul, Ysgol Feithrin 415, Ysgol Treorki… Ro’dd y cystadlaethau unigol i gyd yn rhai adrodd, ac eithrio ambell unawd ar y diwedd, a’r cystadlaethau grŵp yn rhai canu, a dwy gystadleuaeth recorder. Felly ro’dd digon o waith i nghadw i’n brysur - nodi pwyntiau wrth i bob cystadleuydd ymddangos ar y llwyfan, wedyn llunio beirniadaethau unigol i’w darllen ar y meicroffon, gyda’r canlyniad wrth gwrs, ac Ivonne yn eu cyfieithu i’r Sbaeneg a darllen y rheini. Roedd y plant yn dda, chwarae teg – yn adrodd ac yn dawnsio!
Ac yn y gystadleuaeth olaf ond un, cefais innau gyfle i ymddangos ar y llwyfan, gyda Chôr Merched yr Ysgol Gerdd. Ro’n i fis yn rhy hen i gystadlu gyda’r Côr Cymysg (gwae!), ond gan nad oedd cyfyngiad oedran ar gyfer y corau merched,cefais wahoddiad i ymuno â nhw. Dwi’n credu fod yr hynaf o’r merched eraill ddeng mlynedd yn iau na fi, felly llwyddais ar fy mhen fy hun i godi cyfartaledd oedran y côr o ryw 15 i tua 23. Trist. ‘Y Trydydd Dydd’ oedd y darn, ac enillon ni! Dwi ddim yn gwybod beth enillon ni, ond cefais i ddau dystysgrif am feirniadu, a darn o deisen ddu wedi’i gorchuddio mewn siocled! Afraid dweud fod pob briwsionyn wedi diflannu’n barod… Roedd e’n brynhawn penigamp, ac yn goron ar y cyfan oedd canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ i orffen. Da iawn disgyblion Ysgol Camwy!
Clecs Camwy
Ac yn olaf, mae rhifyn Mehefin 2011 'Clecs Camwy' yn barod! Bydd ar y we cyn bo hir, a chopiau'n cael eu dosbarthu ar hyd a lled Ddyffryn Camwy dros y diwrnodau nesaf...
Bydda i'n cadw fy llygaid am Clecs Camwy 2 er mwyn diweddaru'r blog/gwefan! Dwi'n hoff iawn o'r dylunio ar bosteri'r eisteddfodau acw - mae ffrind i mi a fuodd draw i'r Wladfa rhai blynyddoedd yn ol efo poster deniadol iawn yn ei gartref.
ResponderEliminar