Yr 28ain o Orffennaf yw un o’r dyddiadau pwysicaf ar galendr Patagonia. Ar y dyddiad yma yn 1865 angorodd y Mimosa ym Mhorth Madryn, ac ar ei bwrdd y Cymry cyntaf a ymsefydlodd yma. Mae’r Ariannin yn wlad sy’n ymfalchïo’n fawr iawn yn ei hanes, a dyw cychwyniadau’r Wladfa ddim yn eithriad, gyda phobl sydd heb unrhyw gysylltiadau Cymreig yn ymwybodol iawn o’r hanes yma. Mae nifer o strydoedd Patagonia wedi cael eu henwi yn ’28 de Julio’, a mae ’na hyd yn oed gwmni bysiau’n dwyn yr enw – felly mae’r atgof am y digwyddiad yn fyw iawn yn y cof. Mae’r 28ain o Orffennaf yn ddiwrnod o wyliau i’r dalaith gyfan - Chubut - er mwyn cofio, dathlu, a thalu teyrnged i’r ymsefydlwyr cyntaf. Er ei bod hi’n ddiwrnod o wyliau, roedd digon i’w wneud...
Noswyl Gŵyl y Glaniad cynhaliodd rhieni a chyfeillion Ysgol yr Hendre swper arbennig yn Nhrelew, a’r hyn o’dd y gwneud y swper hyd yn oed yn fwy arbennig oedd mai asado oedd ar y fwydlen! Ro’n i’n edrych mla’n at gladdu nannedd i’r cig ers wythnosau, a ches i ddim o fy siomi. Mae un person yn gweini ar bob bwrdd, gan gynnig plât ar ôl plât o gig ar ben cig i’r bwytawyr – roedd y pwdin gwaed, y selsig, a’r cig oen gawson ni yn fendigedig! Erbyn diwedd y pryd, dim ond at ein cornel ni o’r bwrdd fyddai’r weinyddes yn dod â’r cig, a dwi’n credu i ni gael dau neu dri rownd yn fwy na gweddill y bwrdd... Wrth i’r platiau gael eu clirio, cawson ni ein diddanu gan rai o blant yr Hendre yn canu ac yn dawnsio gwerin. Wedyn daeth ein tro ni i ddawnsio - twmpath i ddechrau, wedyn salsa, ac yna disgo! Ymunodd pawb yn y dawnsfeydd, oedd yn gyfrwng bendigedig o ddod â’r gwahanol ddiwylliannau at ei gilydd, ac roedden ni ar ein traed, yn llythrennol, tan oriau mân y bore.
Am 11 o’r gloch ar fore’r 28ain cynhaliwyd acto arbennig mewn ysgol ym Mryn Gwyn, lle’r oedd y neuadd yn orlawn. Dechreuodd y seremoni gyda gwahanol ysgolion, cymdeithasau, a sefydliadau yn cario'r Ddraig Goch a baner yr Ariannin, a chanwyd anthem yr Ariannin cyn cyflwyniad dwyieithog i’r hanes a chefndir y dathlu, cyfarchion wrth wahanol bobl a chymdeithasau – gan gynnwys Cymdeithas Cymru-Ariannin – a chafodd Edith Macdonald ei hanrhydeddu am ei gwaith diflino gyda’r diwylliant Cymreig. Yna cafwyd perfformiad uniaith Gymraeg yn deyrnged i fintai’r Mimosa, a’r cymunedau Cymreig sydd yma o hyd. Darllenais i’r gerdd ‘Y Dathlu’, a ysgrifennwyd gan Irma Hughes adeg canmlwyddiant y Wladfa, gyda gwahanol eitemau rhwng pob pennill – dawnsio gwerin gan yr Ysgol Gerdd, unawd gan Roberto Jones (fersiwn Patagonia o’r emyn ‘Finlandia’), a chôr Ysgol yr Hendre yn canu. Canwyd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ i gloi’r seremoni, cyn i ni i gyd symud i Gapel Bethel y Gaiman ar gyfer cwrdd diolchgarwch ddwyieithog. Diolch i Gymdeithas Dewi Sant am drefnu bore bendigedig, a’r cyfan yn rhoi gwir wefr i nifer fawr oedd yn bresennol yno, gan fy nghynnwys i.
Am dri o’r gloch brynhawn Gŵyl y Glaniad mae’r gwahanol gapeli Cymreig yn cynnal te Cymreig. Yn anffodus, maen nhw’n cael eu cynnal ar yr un pryd, a gan eu bod nhw ar wasgar dyw hi ddim yn bosib mynd o un i’r llall yn hawdd iawn. Felly benderfynon ni fynd i’r capel lleol, sef Bethel. Cafodd y te yma ei drefnu gan ddisgyblion Ysgol Camwy, ac adeilad yr Hen Gapel yn llawn dop o bobl ac o fwyd! Daethon ni o hyd i seddi wrth fwrdd lle’r oedd gwledd o fara menyn, caws, jamiau, a chacennau o bob lliw a llun yn aros amdanon ni – roedd cwpl o ferched yn dychwelyd bob hyn a hyn gyda phlatiau wedi’u hail-lenwi a thebotau yn llawn te. Bwyta, bwyta, bwyta. Yfed, yfed, yfed. Mae’n debyg mai eisteddiad gweddol gyflym yw’r arfer, ond arhoson ni yna am ddwy awr gyda thri grŵp gwahanol o bobl yn ymuno â ni ac yn gadael yn ystod y cyfnod hwnnw! Fues i’n bwyta fel brenhines, a’n yfed fel gwallgofddyn – dwi’n credu i fi gael pum paned o de yno... Ond cefais siom y diwrnod (a bron â bod siom y pum mis diwethaf) wrth y bwrdd hwnnw - gofynnodd menyw oedd yn eistedd ar fy mhwys i os mai Saeson oedden ni, a phan ddywedais i wrthi mai Cymry ydyn ni, gofynnodd hi a oedden ni’n ymwybodol o hanes y Cymry ym Mhatagonia! Afraid dweud mod i wedi llowcio darn mawr o gacen ar ôl y sgwrs yna.Wrth i bawb fwynhau eu te yn yr Hen Gapel, roedd Ffion, sy’n gwirfoddoli yma am ychydig wythnosau, yn canu’r ffidil yn y Capel Newydd. Felly aethon ni i wrando arni – roedd hi’n arbennig - cyn ymuno â hi i ganu emynau Cymreig yn Gymraeg ac yn Sbaeneg, ac amryw yn mynd a dod i wrando. Erbyn i ni adael y capel, roedd hi wedi dechrau bwrw glaw! Dwi ddim yn gwybod os oedd gan ein canu ni unrhyw beth i’w wneud gyda hyn... Ac ar ôl prynhawn o loddesta ar gacennau a nofio mewn paneidiau o de, ble nesaf...? Wel i dŷ te, wrth gwrs! Ac ym Mhlas-y-Coed yfais i baned arall o de, a bwyteais i ddarn arall o deisen – ro’n ni yn dathlu, wedi’r cyfan!
Ond nid dyna ddiwedd y dathlu, o bell ffordd! Y prynhawn canlynol, cynhaliodd Ysgol Feithrin y Gaiman ac Ysgol 415 ddathliad arbennig yn y gampfa. Ar ôl ychydig o ganu, rhannodd y plant yn grwpiau gwahanol er mwyn paratoi at y te parti – rhai yn taenu menyn ar fara, eraill yn llenwi crempogau gyda jam llaeth, a fues i’n gwneud crempogau gyda rhai o’r plantos. Cafodd pob un ei dro yn rhoi blawd a siwgr yn y fowlen cyn cymysgu pob peth arall iddi yn eu tro - a dim ond un plentyn gafodd ei ddwylo ar ŵy a chwalu’r plisgyn! Wrth i fi fwrw ati i goginio’r crempog, aeth y plant i chwarae amrywiaeth o gêmau, oedd yn cynnwys dartiau, pysgota, ŵy ar lwy (ond gan ddefnyddio pêl), a bowlio deg. Cefais fy nghyfweld ar gyfer y teledu lleol hefyd ynglŷn â fy argraffiadau i o'r gwahanol ddathliadau - yn Gymraeg, gyda Rebeca White yn cyfieithu i'r Sbaeneg! Yn anffodus, ro’dd yn rhaid i fi adael cyn amser te.
Roeddwn i’n bwriadu mynd i de Gŵyl y Glaniad yn Comodoro ar y dydd Sadwrn, ac yn edrych ymlaen yn fawr ers rhai wythnosau at y dathlu a chwrdd â phobl yn y ddinas. Mae Comodoro yn daith o ryw bedair awr a hanner ar y bws, a dwi heb gael cyfle i ymweld â hi hyd yn hyn – a bydd yn rhaid i fi aros yn hirach, gan fod eira mawr yn ystod yr wythnos wedi cau’r ffordd rhwng Trelew a Comodoro. Siom o’r mwyaf, yn enwedig ar ôl gweld y lluniau. Ond fues i mewn cyngerdd arbennig yng Nghapel Bethesda gyda'r nos, felly do'dd y diwrnod ddim yn gwbl ofer!
Cawson ni ddiwrnodau gwefreiddiol yn dathlu Gŵyl y Glaniad, ac roedd cymaint mwy o bethau’n cael eu cynnal ar hyd a lled y dalaith – ac ambell ddathliad yng Nghymru. Dwi ddim wedi mynd i fanylder ynglŷn â hanes a datblygiadau’r Wladfa, ond hoffwn i annog pawb i ddarllen amdano achos mae’n hynod o ddiddorol. Dwi wedi sefyll yn y fan y glaniodd y Mimosa ym Mhorth Madryn, y gwynt yn chwythu a’r oerfel yn gafael, ac mae’n anodd dychmygu sut oedd y fintai gyntaf yna’n teimlo wrth gamu ar y lan yng nghanol gaeaf a gweld diffeithwch. Dwi’n edmygu eu natur benderfynol a’r holl waith gyflawnon nhw yn ystod y blynyddoedd cyntaf hynny wrth ddechrau bywydau a chymunedau newydd, ac am ddiogelu’r iaith Gymraeg a’r traddodiadau Cymreig. Ond mae’n bwysig cofio mai dim ond y cychwyn oedd y Mimosa – mae 146 o flynyddoedd wedi bod ers hynny! Mae’r ffaith fod y cymunedau hynny’n dal yn fyw ac yn iach heddiw, fod y Gymraeg yn dal i gael ei siarad, a’r traddodiadau’n cael eu harddel, yn deyrnged i ymdrech a gweledigaeth y cyndeidiau - ac ymdrech diflino eu disgynyddion ar hyd y blynyddoedd, hyd heddiw. Dyma (fwy neu lai) eiriau Maer y Gaiman, Gabriel Restucha, yn yr acto ym Mryn Gwyn: ‘Heddiw ry’n ni’n dathlu y Cymry yn cyrraedd ar y Mimosa, ond ry’n ni’n glanio ym Mhatagonia bob dydd.'
Hir Oes i Gymry Patagonia!
No hay comentarios:
Publicar un comentario