jueves, 1 de septiembre de 2011

Hwyl y Gwyliau!

Wow. Mae’n anodd credu mod i ym Mhatagonia ers bron i chwe mis erbyn hyn! Gan ddefnyddio’r hen ystrydeb, mae amser wedi hedfan - yn enwedig y deufis diwethaf. Dyma rywfaint o’r hyn nes i fis Gorffennaf...

Cawl a Chân

Gyda gwyliau’r gaeaf ar y gorwel fis Gorffennaf, drefnais i Noson Cawl a Chân – wedi fy ysbrydoli gan y nosweithiau llawn hwyl yn Neuadd Rhydypennau flynyddoedd yn ôl! Felly draw i’r gimnasio i logi’r ‘confiteria’. Diolch byth, ro’dd hi’n rhydd ar y noson dan sylw. ‘Ond bydd rhaid i ti dalu,’ dywedodd un o’r dynion wrtha i yn Sbaeneg. ‘Faint?’ ofynnes i, yn Sbaeneg. Trodd y dyn at ei gyd-weithiwr, a gofyn yr un cwestiwn. ‘Pa fath o noson yw hi?’ gofynnodd yntau i fi. ‘Noson Gymreig, gyda bwyd a dawnsio traddodiadol.’ ‘Wel, os felly, gei di’r ystafell am ddim.’ ‘Beth? Go iawn?!’ ‘Wrth gwrs – fy nghyfenw i yw Hughes a’i gyfenw fe yw Thomas!’ Do’n i ddim yn gallu credu nghlustiau. Er nad oedd un ohonyn nhw’n gallu siarad Cymraeg, roedd ganddyn nhw gymaint o barch tuag at eu cyndeidiau a’r ymdrech sy’n cael ei wneud er budd y gymuned Gymraeg, ro’n nhw’n fwy na pharod i gefnogi’r achos.




A beth well ar noson oer a gaeafol ond bwyta bowlenaid ar ôl bowlenaid o gawl a dawnsio twmpath? A daeth rhyw ddeg ar hugain i’r ‘confiteria’ gyda’u bowlenni, eu llwyau a’u cawsiau yn barod at y wledd! Ac roedd amrywiaeth o gawl yn ffrwtian ar y ffwrn – cawl pwmpen, cawl llysiau, cawl cennin a chawl traddodiadol. Roedd rhai, fel fi, yn ddigon mentrus i gymysgu’r pedwar! Ond cyn mentro dawnsio gyda’n boliau’n llawn, rhannwyd yn dri thîm ar gyfer cwis – roedd y rownd gyntaf, ‘Cawl’, yn canolbwyntio ar gawl (wrth gwrs), a’r ail rownd, ‘Cân’, yn ymwneud â cherddoriaeth o Gymru a’r Ariannin. Llongyfarchiadau i’r tîm buddugol, sef Judith Jones, Ariela Gibbon, Gonzalo Lizama, Nia Griffith a Mavis Griffiths – a chwarae teg iddyn nhw am rannu eu gwobr o ddanteithion gyda phawb arall! Ond roedd pawb ar eu hennill o ddysgu mai yn y 14g yr ymddangos y gair ‘cawl’ yn ysgrifenedig am y tro cyntaf, a bod Frank Sinatra (yn ôl y sôn) yn mynnu bowlen o gawl cyw iâr a reis yn ei ystafell newid cyn perfformio! A daeth ein tro ni i berfformio, wrth i Judith Jones arwain y twmpath. Sôn am sbort, a digon o fara brith i bawb! Roedd hi’n noson braf iawn, ac yn gyfle da i ffarwelio â ffrindiau cyn y gwyliau.





Diwrnod Annibyniaeth – 9 Gorffennaf

Un o ddyddiadau pwysicaf calendr yr Ariannin yw’r 9fed o Orffennaf – Diwrnod Annibyniaeth. Mewn tŷ yn Tucumán (gogledd y wlad) ar y dyddiad yma yn 1816, chwe blynedd ar ôl i’r gwrthryfel ddechrau, cyhoeddwyd fod yr Ariannin yn wlad rydd. Gofynnwyd i mi gyfieithu stori blant am yr hanes i’r Gymraeg, er mwyn ei darllen yn yr Ysgol Feithrin. Ac felly y bu - ‘Y Daith i Tucuman’. Cynhaliodd yr ysgol feithrin gyngerdd i ddathlu, ond roeddwn i’n gweithio yn Nhrelew. Cefais i wybod yn ddiweddarach mai ‘Y Daith i Tucumán’ oedd sail y cyngerdd – darllenwyd y llyfr wrth i’r plant actio’r hanes mewn gwisgoedd arbennig! Ar fore’r 9fed, cynhaliwyd acto yn gimnasio’r Gaiman. Yn ystod rhan gyntaf y seremoni codwyd y faner, canwyd yr anthem, cariodd cynrychiolwyr o’r ysgolion lleol faneri, ac anerchwyd y dorf gydag ychydig o hanes yr annibyniaeth. Yn dilyn hyn, daeth tro’r Ysgol Gerdd i wneud perfformiad ynghlwm wrth y digwyddiad - a chefais i fy ngwahodd i ymuno â nhw, yn fy siwmper ‘Ysgol Gerdd y Gaiman’ newydd! Cariai pob aelod o’r côr ieuenctid blac gydag enwau mawr yn hanes yr Ariannin i’r llwyfan yn eu tro, cyn ffurfio côr i ganu ‘Libertad’. Borges oeddwn i’n ei gario, oedd yn awdur ac yn llenor dylanwadol yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Ar ddiwedd yr acto, yfodd pawb y siocled poeth traddodiadol! Hwn oedd yr acto cyntaf i fi gymryd rhan ynddo, ac yn brofiad a hanner. Gobeithio rhyw ddiwrnod y galla i, a Chymry’r dyfodol, gynnal seremonïau tebyg yng Nghymru.



Gwyliau

A daeth y gwyliau! Bron i bedwar mis union ar ôl cyrraedd Patagonia, gadewais hi am bythefnos. A’r lleoliad cyntaf oedd Mendoza - 22 awr i ffwrdd! Gan fod y teithiau mor hir, mae bysiau’r Ariannin bron fel gwestai ar olwynion. Mae’r cadeiriau esmwyth yn sythu’n welyau, mae ’na ddynion yn gweini bwyd a diod arnoch chi, maen nhw’n dangos ffilmiau, ac yn cynnal gêm fach o bingo! Yn Mendoza ro’n ni’n dilyn cwrs carlam Sbaeneg am bum niwrnod. Felly dwy wers dwy awr bob bore, a gweithgareddau opsiynol bob prynhawn i ymarfer ac ymestyn ein gafael ar yr iaith – ‘intercambio’, gwylio ffilm Archentaidd, coginio empanadas, dawnsio, ac asado ar y prynhawn olaf. Ac wrth gwrs, gwaith cartref gyda’r nos...
Cawson ni hefyd gyfle i wylio gêm bêl-droed rhwng Chile a Pheriw yn y Copa America yn Stadiwm Malvinas Argentinas, lle’r oedd y dorf yn un don goch o gefnogwyr Chile. Chile 3 – 0 Periw o’dd y sgôr derfynol, a ffrwydrodd y stadiwm – yn llythrennol, gyda’r holl dân gwyllt! Dwi’n dal i ganu, hymian, neu chwibanu ‘Vamos, vamos Chilenos’ yn ddiarwybod i’n hunan bob hyn a hyn! Ond nid yn ddigon uchel i unrhyw Archentwr sy’n digwydd bod yn agos i nghlywed i... Cyn gadael Mendoza, fuon ni ar daith o amgylch y bodegas (gwinllannoedd) ar gefn beic. Do’n i ddim yn sylweddoli tan rai wythnosau cyn mynd yno fod Mendoza’n enwog am ei gwin, ac mae’r gwinllannoedd yma’n atyniad mawr! Roedd y golygfeydd yn odidog – disgleiriai’r haul yn danbaid ar ein cefnau wrth i ni feicio ar hyd y ffyrdd caregog, ac yn y pellter ro’dd copaon gwynion y mynyddoedd yn y golwg! Ges i amser gwych yn Mendoza, ac os y’ch chi’n darllen hwn, sy’n golygu eich bod chi’n deall Cymraeg, wnewch chi ddim darganfod faint o Sbaeneg ddysgais i...



Taith o Mendoza i Iguazu – 37.5 awr! Er mor foethus yw’r bysiau, does dim cawodydd arnyn nhw. Felly’r peth cyntaf wnaethon ni ar ôl cyrraedd ein hostel oedd cael cawod! Roedd ardal Iguazu yn dipyn gwyrddach na’r ardaloedd buon ni iddyn nhw cyn hynny, a chawson ni dipyn o law yn ystod ein harhosiad ’na. Atyniad mawr Iguazu yw’r rhaeadrau sydd ar y ffin rhwng yr Ariannin a Brasil, a dyna pam deithion ni ar fws am ddiwrnod a hanner! Dreulion ni ddiwrnod yn y parc sydd ynghlwm wrth y rhaeadrau ar ochr yr Ariannin, ac ar ôl ciwio am ryw awr y tu allan i’r prif fynedfa aethon ni i weld y rhaeadr cyntaf – ‘Garganta del Diablo’. Mae’n hawdd deall pam iddo gael yr enw yma, sef ‘Llwnc y Diafol’ – mae’n debyg i gafn anferthol a dwfn gyda’r dŵr yn llifo lawr yr ochrau gyda’r fath rym a sŵn , mae’n anhygoel o frawychus! Ac yna, bob hyn a hyn, mae’r dŵr yn cael ei boeri allan o grombil y rhaeadr dros bawb a phopeth, a’r sŵn fel rhywun yn carthu ei lwnc. Aruthrol.

O ran y rhaeadrau eraill, galla i ddim dweud mwy nag ‘anhygoel’. Roedd y golygfeydd yn odidog, a dyw lluniau ddim yn gwneud cyfiawnder â nhw – i’w profi’n llawn rhaid gweld y ‘panorama’ cyfan, teimlo’r dafnau o ddŵr yn goglais eich wyneb, a chlywed rhuo’r tonnau. Aethon ni gam ymhellach, a mynd ar gwch i grombil dau ohonyn nhw. Roeddwn i’n wlyb stêcs at fy nghroen, ond roedd e werth pob diferyn!


Un peth dynnodd fy sylw i: Cawson ni becyn bwyd cynhwysfawr gan yr hostel, ac roedd nifer o deuluoedd wedi dod â picnic gyda nhw. Ond cefais fy synnu gan y ffaith fod sawl teulu yn paratoi eu picnic yn y fan a’r lle! Yn hytrach na pharatoi brechdanau, roedden nhw wedi pacio torth o fara, pecyn o ham, jar o ‘mayonnaise’, caws, pot o fenyn, a chyllyll – ac ro’dd un teulu yn palu mewn i gacen siocled gyfan! Diddorol.

Mae Iguazu yn ardal y ‘Tres Fronteres’ – hynny yw, mae’r ffin rhwng yr Ariannin, Brasil, a Pharaguay yn agos iawn at ei gilydd. Mae hi’n bosib gweld y rhaeadrau o ochr Brasil hefyd, ond yn ôl nifer o bobl, dyw’r golygfeydd o’r ochr yna ddim cystal. Felly treulion ni ein hail ddiwrnod yn croesi’r ffiniau. Mae ’na dipyn o fynd a dod o un wlad i’r llall, ac mae’n eithaf hawdd gan nad oes wir angen stampio’ch pasbort er mwyn gwneud hyn – neidio ar y bws, a bant â chi. Ond roedden ni eisiau stampiau, felly neidio ar y bws, a bant â ni yn y swyddfeydd mewnfudo. Dreulion ni ychydig oriau yn Foz do Iguaçu, Brasil, yn yfed Sprite tipyn mwy lemwnaidd nag yn yr Ariannin, ac yn chwilio am gardiau post yn atgof o’r daith – gredech chi fyth pa mor anodd o’dd hi i ddod o hyd i rai! Gan ein bod ni mor agos i’r Ariannin, roedden nhw’n siarad Sbaeneg, gydag acen Portiwgaleg. Ro’n i’n siomedig iawn fod yr ychydig Bortiwgaleg ddysges i yn ystod fy obsesiwn gyda thîm Brasil adeg Cwpan y Byd Ffrainc 1998 bellach wedi mynd i ebargofiant!




Ar ôl dod o hyd i’r cardiau post, ar y bws i Cuidad del Este yn Paraguay. Wel, sôn am brysurdeb! Roedd y strydoedd yn fôr o bobl yn prynu a gwerthu nwyddau amrywiol, a do’dd y ffaith fod Paraguay yn chwarae yn y Copa America’r noson honno ddim yn lleddfu ar y cyffro. Mae’n debyg fod nifer o siopwyr yn ymweld â’r ddinas hon i brynu nwyddau trydanol, gan eu bod nhw mor rhad. O achos y prysurdeb, benderfynon ni aros yn y bws tan yr orsaf fysiau lle byddwn ni’n gallu sefyll ar dir Paraguay, prynu atgof, a dal y bws nôl. A dyna wnaethon ni, fwy neu lai. I dorri stori hir yn fyr, groeson ni bont o Baraguay i Frasil ar droed, gan deimlo fel ffoaduriaid gyda’n paciau ar ein cefn ac wedi ein hamgylchynu gan fôr o bobl! Antur a hanner, galla i ddweud wrthych chi! Ond gyrhaeddon ni’r Ariannin mewn pryd ar gyfer asado i ddathlu Diwrnod y Ffrindiau. Fwyteais i gymaint o gig, ro’dd fy nant yn brifo am rai diwrnodau...

Ar ôl rhyw 20 awr arall ar y bws, dreulion ni’r diwrnod yn Buenos Aires, cyn dal bws arall drachefn. Ac ugain awr yn ddiweddarach, gyrhaeddais i Gaiman. Am wyliau gwych! Ac mae'n wych bod nôl!

1 comentario: