Wel wir, ma ’na amser hirfaith ers i fi ddiweddaru’r blog a chymaint o bethau wedi digwydd dros y deufis diwethaf! Ond yn gyntaf rhaid dychwelyd at un digwyddiad hynod o bwysig fu ddiwedd mis Gorffennaf, sef Gŵyl y Glaniad.
Fel dwi wedi sôn droeon, mae calendr yr Ariannin yn llawn diwrnodau arbennig i goffáu pobl neu ddigwyddiadau hollbwysig yn hanes y wlad. Mae rhai o’r rhain, megis Diwrnod Annibyniaeth yn wyliau cenedlaethol tra bo eraill, megis Diwrnod y Petrol yn daleithiol – dyma’r diwrnod y cafodd petrol ei gloddio gyntaf yn Comodoro, felly mae’n ddiwrnod o wyliau yn nhalaith Chubut. Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud mai’r 28ain o Orffennaf yw gŵyl bwysicaf Chubut, sef Gŵyl y Glaniad. Ar y dyddiad hwn yn y flwyddyn 1865 y sefydlwyd y dalaith, a hynny gan mai dyma pryd y glaniodd y Cymry yma am y tro cyntaf. Gadawodd llong y Mimosa (nid hon oedd y dewis cyntaf, gyda llaw) borthladd Lerpwl ar yr 28ain o Fai 1865 gyda dros 150 o Gymry ar ei bwrdd yn llawn gobaith a disgwyliadau am ddyfodol gwell ar eu cyfer nhw a’u disgynyddion, gan droi eu cefn ar y gorthrwm yng Nghymru. Ar ôl deufis o hwylio’r Iwerydd, angorodd y Mimosa yn y Bae Newydd sydd ar arfordir ddwyreiniol yr Ariannin. Dyma lle mae Porth Madryn heddiw, ond yn groes i gred nifer nid dyma’r dref gyntaf i’r Cymry ei sefydlu - Caer Antur oedd honno, a newidiodd ei henw maes o law i Drerawson ond sydd bellach yn dwyn yr enw Rawson. Wynebodd y Cymry hyn flynyddoedd o galedi a dioddefaint wrth iddyn nhw geisio sicrhau bywoliaeth ac yn wir fywyd iddyn nhw eu hunain. Doedd dim dewis ond brwydro, ac oni bai am y Cymry hyn, ni fyddai Chubut fel mae hi heddiw, ac mae trigolion y dalaith yn talu teyrnged i’r Cymry hynny a'u dyfalbarhad.
Mae’r cofio yn dechrau cyn yr 28ain o Orffennaf, gydag ysgolion y dalaith yn dysgu am yr hanes a rhai ohonyn nhw’n cynnal gwahanol weithgareddau, maegis te Cymreig. Aeth Ysgol yr Hendre gam ymhellach a chynnal swper arbennig yng Nghanolfan Amaeth Trelew y noson gynt, ac roedd y seddi yn llawn pobl oedd yn barod i fwynhau asado ac adloniant. Roedd y cig a baratowyd gan griw Bryn Gwyn yn hynod o flasus, fel arfer, ac ro’n i’n falch iawn o groesawu plât ar ôl plât o gig blasusfawr a ddeuai i’r bwrdd! Pan oedd boliau pawb yn llawn a’r platiau yn wag, dechreuodd yr adloniant. Roedd Elliw a Sara wedi llunio parodi o ‘Blaenau Ffestiniog’ gyda geiriau addas yn ymwneud â’r Cymry yn cyrraedd Patagonia, a chafodd gryn gymeradwyaeth! Chwarae teg iddyn nhw! Yna gwahoddwyd dwy ferch i ddawnsio, a ches i dipyn o syndod pan gyhoeddwyd y byddan nhw’n dawnsio dawns Arabaidd – mewn geiriau eraill, ‘Belly Dance’! Dwi ddim yn gwadu nad oedden nhw’n gallu dawnsio, ond do’n i ddim yn gallu gweld y cysylltiad rhwng hyn a Gŵyl y Glaniad, a go brin mai dyma sut y byddai’r Cymry cyntaf wedi dychmygu eu disgynyddion yn dathlu eu dyfodiad i’r Ariannin... Ta waeth, roedd pawb i’w gweld yn mwynhau a chafodd rhai o blant yr ysgol gyfle i ymuno â nhw. Yn dilyn hyn gostyngwyd y golau a chodwyd y gerddoriaeth wrth i’r disgo ddechrau, a bu dawnsio tan oriau mân y bore!
Ychydig oriau yn ddiweddarach agorodd drysau Neuadd Dewi Sant Trelew ar gyfer seremoni arbennig Gŵyl y Glaniad. Roedd yr ystafell fawr yn orlawn, a chafodd pawb fathodyn baneri Cymru a’r Ariannin yn rhodd i gofio’r diwrnod. A bod yn onest, ro’n i wedi fy siomi’n fawr gan y ffaith mai uniaith Sbaeneg oedd yr anerchiad a’r siarad, ond canodd côr plant ‘Lleisiau Bach y Dref’ a phedwarawd ‘Hogia’r Wilber’ ganeuon Cymraeg, a pherfformiodd Dawnswyr Gwanwyn ddawns werin Gymreig. Ar ôl i eiriau angerddol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ lenwi’r neuadd, parhaodd y dathlu gyferbyn â Neuadd Dewi Sant wrth i nifer fynd i Gapel Tabernacl ar gyfer cymanfa ganu. Roedd y gwasanaeth hwn, y croeso, y darlleniad a’r emynau yn ddwyieithog gyda'r canu yn angerddol - yn enwedig wrth i ni ganu yr emyn olaf a gyfansoddwyd gan Llewelyn Griffiths ar gyfer Gŵyl y Glaniad:
Mae Popeth yn Dda
Pob Cymro drwy'r dyffryn sydd heddiw o'r bron
Yn dathlu Gŵyl Glaniad yn llawen a llon.
Gŵyl glanio;r dewr fintai a di-droi-yn-ôl
Laniasant ym Madryn flynyddoedd yn ôl.
Cytgan Cymraeg:
Mae popeth yn dda.
Mae popeth yn dda.
Mae Iesu'n fy ngharu,
Mae popeth yn dda.
Mewn Dyffryn bach clyd o ddwndwr y byd,
Gŵyl cofio y glanio sy'n aros o hyd.
Cwpanaid o de a 'chat' onide,
A phawb fel pe'n barod i floeddio - 'Hwrê!'
Cytgan Sbaeneg:
Ya todo está bien.
Ya todo está bien.
Si, Cristo me ama -
Ya todo está bien.
Nid oes yma'n aros dim un o'r rhai hyn;
Maent oll wedi croesi trwy gymoedd y glyn.
Ac na foed i ninnau sy'n byw yn y wlad
Fyth, byth ag anghofio arloeswyr ein gwlad.
Am dri o’r gloch y prynhawn ar ddiwrnod Gŵyl y Glaniad daw cyfle am gwpanaid o de a 'chat' gyda'r rhan fwyaf o gapeli Cymreig Dyffryn Camwy yn agor eu drysau gan ddarparu te mawreddog ar gyfer ymwelwyr. Yn anffodus, gan fod pob capel yn cynnal eu te yr un pryd dyw hi ddim yn bosib crwydro o un i’r llall! Eleni penderfynon ni fynd i Gapel Bethlehem Treorci, ac er i ni gyrraedd yno tua chwarter wedi tri roedd tir y capel yn llawn ceir a nifer o bobl yn aros eu tro wrth y drws! Aros fu’n rhaid i ni felly, ac er mai ni oedd y nesaf am ran helaetha’r amser buon ni a’n stumogau ar bigau’r drain am awr gyda mwy a mwy o bobl yn ymuno â’r gynffon - syrthiodd ambell bluen eira yn y cyfamser gna ychwanegu rhywfaint o gyffro at yr achlysur! A phan ddaeth ein tro ni i gamu dros y trothwy, aeth yr aros i ebargofiant wrth i ni weld bwrdd wedi’i osod yn hyfryd gyda phlataiau o fara menyn a chacennau arno. Teisen lemwn, teisen blât afal, teisen siocled, teisen gyda jam llaeth, teisen gydag eirin gwlanog, teisen hufen, teisen ddu... Dyna’r rhai dwi’n cofio eu blasu, beth bynnag, a hynny rhwng nifer di-ri o baneidiau! Gydag ond briwsion yn weddill ar y platiau a dail te ar waelod y cwpanau, gadawon ni Gapel Bethlehem a gwneud ein ffordd draw at Gapel Bethel y Gaiman. Ond nid i loddesta.Roedd arlwy’r capel hwn yn cynnwys canu yn y Capel Newydd, a phan gyrhaeddon ni roedd nifer o ymwelwyr yn eistedd yno gan weiddi rhifau gwahanol emynau, cyn i rai o griw ifanc Bethel ffurfio côr i ganu ambell gân fawl Sbaeneg. Aethon nhw yn eu blaen i berfformio mewn gwahanol gapeli, a gadawon ni am Gapel Bryn Crwn lle’r oedd cynegrdd yn cael ei gynnal – unawdau, deuawdau, adrodd, offerynnau, a sgets! Diwedd gwych i ddiwrnod arbennig!
Dwi wrth fy modd gyda Gŵyl y Glaniad. Mae ’na naws Nadoligaidd yn perthyn i’r diwrnod, wrth fynychu oedfa yn y bore ai deuluoedd y gwahanol gapeli ddod at ei gilydd i ddathlu ac i fwynhau'r diwrnod – ac i fwyta! Ond yn fwy na hynny, mae’n hyfryd fod pobl yn dal i gofio am y Cymry dewr hynny a fentrodd dros y moroedd ar fwrdd y Mimosa 147 o flynyddoedd yn ôl ar drywydd bywyd newydd, boed yn ddisgynyddion iddyn nhw ai peidio, gan ymfalchïo yn eu gwreiddiau Cymreig. Oni bai amdanyn nhw a’u gwaith caled a diflinio byddai dim un ohonom ni yma yn y Wladfa heddiw - byddwn i bendant ddim wedi cael y profiadau anhygoel a gwefreiddiol dwi wedi eu cael dros y flwyddyn a hanner diwethaf, na chwrdd â'r bobl arbennig dwi wedi cael y fraint o ddod i'w hadnabod dros y cyfnod hwnnw.
Hir Oes i Gymry Patagonia!
Hynt a helynt Lois a´i gwaith gyda Menter Patagonia yn Nyffryn Camwy.
sábado, 29 de septiembre de 2012
lunes, 27 de agosto de 2012
Y Gymraeg yn y Gwyliau
Mae distawrwydd diweddar y blog ar gyfri’r ffaith mod i wedi bod ar fy ngwyliau. Felly gadewch i ni droi’n golygon yn ôl i’r gorffennol ac i fis Gorffennaf...
Fel y soniais yn y blog diwethaf, bu pythefnos o wyliau gaeaf yn yr Ariannin ddechrau mis Gorffennaf. Gan y byddwn i’n hel fy mhac ym mis Awst, bûm i’n gweithio yn ystod y pythefnos hwnnw. Ond wrth gwrs, doedd dim ysgol na dosbarthiadau yn cael eu cynnal felly lluniais raglen o weithgareddau a dosbarthiadau yn Nhŷ Camwy ar gyfer y cyfnod hwnnw, dan yr enw ‘Y Gymraeg yn y Gwyliau’.
Deuai plant rhwng tair ac wyth oed i Dŷ Camwy ar gyfer ‘Cylch Camwy’ am ychydig oriau bob prynhawn. Roedd hi’n dipyn o waith meddwl am weithgaredd wahanol ar eu cyfer nhw bob dydd, ond cawson ni dipyn o hwyl yn chwarae gyda jig-sôs, canu, paentio’r fferm gyda stensiliau ac anifeiliaid gyda siâp y llaw, tynnu lluniau, gwneud collage o ddynion eira a bowlenni paper mache; er nad oedd y paper mache yn union fel y dylai fod! Roedd y plant wrth eu bodd yn gwylio cartŵnau a rhaglenni Cymraeg, ac yn gofyn am ‘Wmff’ a ‘Mwnci’n Dweud, Mwnci’n Gwneud’ bob dydd – diolch yn fawr iawn i wefan Golyg.com am ddarparu’r rhaglenni hyn. Roedd rhieni un o’r plant wedi trefnu ymweliad â Phorth Madryn un diwrnod, ond gwrthododd y ferch yn lân â mynd gan ei bod hi eisiau dod i Dŷ Camwy yn lle!
Mae’r dosbarthiadau Cymraeg yma yn y Wladfa yn dilyn y cwrs WLPAN, ond unwaith yr wythnos yn unig mae hi’n bosib eu cynnal nhw yma yn hytrach na chynnig cwrs carlam. Felly penderfynais gynnal arbrawf a chynnig y cwrs i ddechreuwyr am ddwyawr y dydd yn ystod yr wythnos gyntaf. Fel mae’n digwydd, roedd y sawl a ddangosodd ddiddordeb yn y dosbarth eisoes wedi mynychu rhai dosbarthiadau Cymraeg, felly newidiodd y cwrs o Gymraeg i Ddechreuwyr i Gymraeg Sylfaenol gyda’r pwyslais ar ymarfer a datblygu sgiliau siarad. Ac am awr ar ôl y dosbarth hwn roedd cyfle i’r sawl sydd eisoes yn siarad Cymraeg yn rhugl roi rhywfaint o sglein ar eu hiaith lafar ac ysgrifenedig mewn dosbarth Gloywi Iaith. Wel, ro’n i wedi drysu fy hunan gydag ambell bwynt gramadegol, heb sôn am y myfyrwyr! Yn ystod ail wythnos y gwyliau cynhaliwyd gweithdai nosweithiol oedd yn seiliedig ar gystadlaethau’r eisteddfodau yma ym Mhatagonia – cyfieithu, ysgrifennu adolygiad llyfr a hunangofiant, dadansoddi ‘Ystrad Fflur’ sy’n ddarn adrodd, a gweithdy ysgrifennu creadigol gyda golwg ar gystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer trigolion y Wladfa. Gobeithio’n wir y bydd y beirniaid yn derbyn sawl ymgais yn y gwahanol gystadlaethau eleni!
Ar ben y sesiynau hyn, daeth amryw bobl i Dŷ Camwy ar wahanol nosweithiau cymdeithasol, a’r gyntaf oedd gwylio’r ffilm ‘Poncho Mam-gu’, sydd yn ffilm ddogfen yn seiliedig ar y llyfr ‘Nel Fach y Bwcs’. Cynhaliwyd dwy noson goginio, oedd yn boblogaidd iawn! Dangosodd Elliw sut i wneud y pwdin bara menyn traddodiadol gyda swltanas yn y gyntaf, ond manteisiodd bawb ar y cyfle i flasu un ro’dd hi wedi’i baratoi ymlaen llaw – yng ngwir ysbryd Blue Peter – gyda jam llaeth yn lle’r menyn ac eirin gwlanog yn disodli’r swltanas. Que rico! A pharatois i gacen gaws lemwn a phice’r maen oren, fel mae Mam-gu yn eu gwneud. Roedd hefyd cyfle i flasu’r rhain yn eu tro!Trannoeth y Noson Goginio hon, cynheliais de prynhawn yn Nhŷ Camwy yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd i sgwrsio dros baned, yn ogystal â chael gwared â’r danteithion a gynhyrchwyd y noson gynt. Daeth mwy na’r disgwyl a phawb fel sardîns o gwmpas y bwrdd, a rhaid oedd ailddefnyddio rhai o’r platiau a darparu llwyau te plastig i ambell un. Er gwaetha’r cyfarwyddyd i beidio dod ag unrhyw beth i’r te, ymddangosodd pwdinau semolina, teisen foron, tarten afalau, a theisen jam llaeth, felly roedd mwy o felysion yn y tŷ ar ôl i bawb adael na chyn iddyn nhw gyrraedd! Ond roedd y prynhawn yn un llwyddiannus ac yn gyfle da i gymdeithasu. Yr wythnos ganlynol dychwelodd rhai ar gyfer yr ail Noson Goginio, ac ambell wyneb newydd yn ein plith. Y tro hwn, paratôdd Elliw gacen oergell, sef barau o siocled a bisgedi, a gwnes innau ‘frownies’ a chrymbl afalau. Unwaith eto, roedd croeso i bawb flasu’r danteithion!
Daeth yr wythnos i’w therfyn gyda Noson Gêmau. Rhannwyd yn ddau dîm i fynd benben â’i gilydd mewn chwe rownd, oedd yn cynnwys symud cymaint o ‘Rocklets’ â phosib o un fowlen i’r llall gyda gwelltyn diod, rhoi trefn ar linellau cymysg ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, a cheisio adnabod pobl a llefydd mewn lluniau! Llongyfarchiadau i’r tîm buddugol a enillodd gryno ddisg o gerddoriaeth Gymraeg!
Roedd y pythefnos yn aruthrol o brysur, y gwrthwyneb llwyr i wyliau! Ond dwi’n hapus dros ben gyda’r fenter hon. Felly diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth i’r Gymraeg yn y Gwyliau!

jueves, 26 de julio de 2012
Annibyniaeth, Buddugoliaeth, Cyngerdd a Chymanfa...
A minnau bellach wedi dychwelyd i Batagonia ers pedwar mis, dwi bron iawn â chyrraedd hanner ffordd! Roedd pwy bynnag ddywedodd 'mae amser yn hedfan' gyntaf yn llygad ei le, ac mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn llawn prysurdeb amrywiol, megis...
Eisteddfod MiniBethel
Bythefnos yn unig ar ôl MicroEisteddfod Camwy, cynhaliwyd ail eisteddfod y flwyddyn, sef Eisteddfod MiniBethel. Hen Gapel Bethel oedd cartre'r eisteddfod hon hefyd, a'r capel ei hun a'i threfnodd. Ro'n i ar bwyllgor yr eisteddfod, a dewisais y testunau llenyddiaeth Gymraeg a'r darnau adrodd Cymraeg - o'r herwydd, ni chystadlais ynddyn nhw. Ond ro'n i'n awyddus i fentro yn un o'r cystadlaethau coginio, sef y deisen foron. Yr unig broblem oedd fod yn rhaid mynd â'r danteithion i'r capel rhwng 5 a 7 ar y dydd Iau, ddeuddydd cyn yr eisteddfod, a dwi'n cynnal dosbarth yn y tŷ rhwng 5 a 7 bob prynhawn Iau. Penderfynwyd y byddai'r plant yn coginio ar gyfer yr eisteddfod yn ystod y wers honno, ac felly hysbysais gadeiryddes y pwyllgor y byddai'r pethau bach melys yn cyrraedd rhyw 5/10 munud yn hwyr. Cawsom bardwn! Felly pobais y deisen foron gyda'r bwriad o'i hanfon i'r capel gyda gwaith y plant. Roedd gwahanol gategorïau ar gyfer gwahanol oedrannau, a gan fod trawstoriad o oedrannau yn cael eu cynrychioli yn yr ôl-feithrin, trodd Tŷ Camwy yn ffatri! Ymunodd y dosbarth lleiaf sy fel arfer yn cael eu gwersi yn yr Ysgol Feithrin â ni i baratoi bisgedi cnau, ac aeth merched fy nosbarth i ati i wneud pepas, sef bisgedi bach gydag ychydig o jam arnyn nhw. Cyrhaeddodd un o'r bechgyn hynaf yn gynnar, felly dechreuodd e ar y magdalenas. Afraid dweud fod yr ystafell flaen yn edrych fel bod y fasged siopa wedi ffrwydro! Daeth awr y merched i ben gyda'r tair yn llyfu'r llwyau a'r fowlen yn braf, ac yn bwyta'r jam oedd yn weddill heb gyfle i wneud y pice bach. Wedyn cyrhaeddodd gweddill y plant hŷn i orffen y magdalenas, a thra bo'r cacennau yn y popty aethon ni ati i ymarfer y cydadrodd, 'Y Gerdd Werdd' am y tro olaf, gan ychwanegu props a symudiadau. Erbyn diwedd yr ymarfer roedd y cacennau a'r bisgedi i gyd yn barod, ond cyn i fi droi rownd roedd un o'r athrawesau eraill wedi mynd â nhw i'r capel yn ei char. Felly a hithau bellach yn ddeng munud wedi saith, dyna lle safwn i yn yr ystafell flaen wedi fy amgylchynu gan flawd, siwgr, wyau, menyn, cnau a jam, a chlamp o deisen foron yn segur ar y bwrdd heb ffordd i'w chludo i'r capel. Ond daeth Esyllt a'i chamioneta i achub y dydd, ac am 7.45 (dri chwarter awr yn hwyr) gyrhaeddais i a fy nheisen foron y capel, lle'r oedd un o'r beirniaid yn aros amdanaf! Mae'r cystadlaethau hyn i fod yn anhysbys, ond dywedodd 'tyrd a fo yma' wrtha i cyn diflannu i'r gegin. Ynghanol holl brysurdeb y prynhawn ches i ddim cyfle i feddwl am ffugenw heb sôn am ei nodi, felly ymddangosodd beirniad drachefn i ofyn am ffugenw - Sali Mali ddaeth i fy meddwl i'n gyntaf! Doedd y canlyniadau ddim yn cael eu cyhoeddi tan yr eisteddfod ddydd Sadwrn, ond arhosais yno i gynorthwyo gyda'r addurno a pharatoi'r gwobrau.
Am 14.00 ar brynhawn Sadwrn y 30ain o Fehefin fe ddechreuodd eisteddfod MiniBethel ac roedd yr ystafell yn llawn dop o deuluoedd a ddaeth i gefnogi'r amryw blant fyddai'n ymddangos ar y llwyfan i ganu ac adrodd yn Gymraeg ac yn Sbaeneg. Gan nad o’n i’n berniadu nac yn cystadlu dreuliais i’r prynhawn yn ffilmio gwahanol gystadlaethau, ond symudais i'r sedd flaen pan oedd fy nghriw yn cydadrodd 'Y Gerdd Werdd'. Ro'n i'n teimlo fel rhiant eisteddfodol! Gwnaethon nhw'n arbennig o dda, a chipio'r wobr gyntaf! Wel, nid ymddangosodd y ddau grŵp arall oedd wedi rhoi eu henwau i gystadlu - mae'n siŵr eu bod nhw wedi clywed ein bod ni'n cystadlu... Yn anffodus, prin iawn oedd y cystadleuwyr wrth i'r oedrannau fynd yn hŷn gyda rhai categorïau heb unrhyw gystadleuwyr o gwbl. Câi canlyniadau'r gwahanol gystadlaethau 'gwaith cartref' eu cyhoeddi o'r llwyfan drwy'r prynhawn, a daeth tro'r deisen foron. Roedd rhyw bum teisen wedi'u pobi at y gystadleuaeth ac yn ôl y beirniaid roedd y canlyniad yn un agos iawn, felly allwn i ddim credu 'nghlustiau pan ddywedon nhw mai Sali Mali oedd yn fuddugol! Dyma deyrnged i Mam, sef ein Brenhines Bobi ni sy wedi ennill amryw wobrau a thlws am bobi yn Sioe Rhydypennau, ac mae'r dystysgrif ar y silff ben tân. Doedd dim llawer o bobl ar ôl erbyn diwedd y prynhawn a gorffennodd yr eisteddfod yn gynharach nag arfer, am tua 7 o'r gloch. Ond llanwyd yr Hen Gapel gyda lleisiau angerddol yn canu 'Hen Wlad Fy Nhadau'.
Hogia'r Wilber
Noswyl Eisteddfod MiniBethel, cynhaliwyd cyngerdd arbennig yn nhŷ te Tŷ Gwyn. Hwn oedd y tro cyntaf i Hogai'r Wilber ganu yn y Gaiman ers iddyn nhw ailffurfio gydag aelod newydd. Efallai fod rhai ohonoch chi'n gyfarwydd â nhw yn ôl yr enw '4Patagonia' - rhyddhaodd Sain eu cryno ddisg rai blynyddoedd yn ôl, sy'n gymysgedd o ganeuon Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Roedd y tocynnau i gyd wedi cael eu gwerthu ymlaen llaw, a'r neuadd yn orlawn erbyn i ni gyrraedd - diolch byth fod Esyllt wedi cadw seddi ar ein cyfer ni. Ychydig ddyddiau cyn y cyngerdd daeth un o'r hogia ata i gyda chopi Cymraeg o'r rhaglen i fi ei brawfddarllen erbyn y noson, a phan gyrhaeddon ni'r tŷ te cefais i, Sara ac Esyllt gopïau o'r rhaglen honno gan sylweddoli mai cyfieithiad o'r esboniadau y byddai'r hogia yn eu rhoi rhwng y caneuon ydoedd er mwyn sicrhau y byddwn ni'n deall popeth! Chwarae teg. Caneuon nhw amryw o ganeuon yn y tair iaith, yn bedwarawd ac yn unawdau, e.e. 'Eidelweiss', 'Las Golondrinas', 'Ti a dy ddoniau'. Wel, roedd y dorf wrth eu bodd a phawb ar eu traed yn cymeradwyo ar y diwedd! Dwi'n edrych ymlaen at eu perfformiad nesaf, fydd o fewn ychydig ddyddiau...
Diwedd Tymor
Tra bod plant ac athrawon Cymru yn edrych ymlaen at ddiwedd tymor yr haf a chwe wythnos o wyliau, cafodd plant ac athrawon yr Ariannin bythefnos o wyliau gaeaf fis Gorffennaf. Does dim y fath beth â hanner tymor yn bodoli yma; pan fydd yr ysgolion yn agor ddiwedd mis Chwefror fydd y drysau ddim yn cau tan ail wythnos Gorffennaf – heblaw penwythnosau a dyddiau gŵyl fan hyn a fan draw, wrth gwrs. Felly ar ôl dros bedwar mis, roedd pawb yn fwy na pharod am y gwyliau! Trefnodd amryw ysgolion a dosbarthiadau bartïon i ddathlu diwedd y tymor, a doedd ein dosbarth ôl-feithrin ni ddim yn eithriad. Ar ôl rhannu tystysgrifau a gwobrau’r ddwy eisteddfod a bwyta bwyd parti, chwaraeon ni ambell gêm; y ffefryn o bell ffordd oedd ‘Delwau Cerddorol’. Roedd yn rhaid bod yn ofalus iawn yn chwarae’r gêm hon ar loriau pren Tŷ Camwy sy dros eu cant oed, ond cafwyd tipyn o sbort! A’r noson ganlynol trefnais i Noson Sosial yn Nhŷ Camwy i groesawu’r gwyliau ac yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd am sgwrs a hwyl cyfrwng Cymraeg. Roedd fy ffrind Mari Elin wedi dod i ymuno fel rhan o’i thaith o amgylch y byd, felly roedd yn gyfle da iddi hi gwrdd ag amryw o bobl. Roedd hon yn noson hwylus yn llawn bwyd a siarad, ac yn gyfle i ni ffarwelio â’n gilydd cyn y gwyliau.
Cymanfa Ganu Rawson
Cafodd Cymanfa Ganu Cymdeithas Dewi Sant ei chynnal yn Rawson fis Gorffennaf. Trerawson yw prifddinas talaith Chubut a’r dref gyntaf i’r Cymry ei sefydlu pan gyrhaeddon nhw Batagonia – nid Porth Madryn, fel mae nifer o bobl yn tybio. Ro’n i wedi bod i Rawson bedair gwaith yn y gorffennol – unwaith ar ein ffordd i Playa Union i brynu cubanitos (pethau blasus!), unwaith i’r sw, a dwywaith i stampio fy mhasbort. Felly roedd hi’n braf cael rheswm arall i fynd yno, a hwn oedd y tro cyntaf i fi fod i Gapel Berwyn. Nid hwn oedd capel cyntaf y dref, cafodd hwnnw ei ddifrodi gan lifogydd felly cyfrannodd Richard Jones Berwyn arian i adeiladu’r capel gwyn a'i ddrysau gwyrdd sy'n sefyll yno heddiw – a dyna i chi hanes yr enw hefyd. Mae Rawson ryw awr a hanner o’r Gaiman, ac roedd hi’n ddiwrnod braf i deithio drwy’r ffermydd a gweld y golygfeydd godidog nes cyrraedd ffyrdd unsyth y dref. Doedd dim llawer wedi teithio i Rawson ar gyfer y gymanfa, a dweud y gwir, ond wnaeth hynny ddim effeithio ar y canu. Yn ôl yr arfer, daeth gwahanol bobl i flaen yr ystafell i arwain y dorf mewn amryw emynau a'r rheini'n Gymraeg ac yn Sbaeneg; unwaith y mis dwi'n cael cyfle i ganu emynau Cymraeg mewn oedfaon, felly dwi'n aml yn canu pob emyn yn y cymanfaoedd yn Gymraeg, os oes fersiynau Cymraeg ohonyn nhw, wrth gwrs! Cafwyd hefyd ddarlleniadau, ond yn anffodus ni lwyddodd y pregethwr gwadd i gyrraedd er mwyn ein hannerch - rhywbeth i'w wneud gyda'r bysiau - felly canwyd mwy o emynau. Wrth i fi ysgrifennu'r pwt bach yma, dwi wedi bod yn trio cyfri'r nifer o'r capeli Cymreig dwi wedi ymweld â nhw. Ers dydd Sadwrn, dwi'n meddwl mai dim ond Capel Seion Bryn Gwyn sydd ar ôl...
Diwrnod Annibyniaeth
Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud mai’r 9fed o Orffennaf yw’r dyddiad pwysicaf ar galendr yr Ariannin, sef Diwrnod Annibyniaeth. Mewn tŷ yn Tucumán, gogledd y wlad, ar y dyddiad hwn yn 1816 wedi chwe blynedd ers dechrau Gwrthryfel Mai, cyhoeddwyd fod yr Ariannin yn wlad rydd ac annibynnol. Felly i nodi’r achlysur hanesyddol bwysig, mae seremonïau neu weithgareddau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad ar y 9fed bob blwyddyn, gan gynnwys y Gaiman. Eleni cefais i wahoddiad i gynrychioli’r Ysgol Feithrin yn yr acto (seremoni) oedd yn cael ei chynnal yn y ganolfan hamdden, a derbyniais yn llawen – cyn sylweddoli beth fyddai’n rhaid i ni ei wneud... Byddai athrawon, plant, a rhieni yr Ysgol Feithrin yn croesawu pobl i’r neuadd mewn gwisgoedd traddodiadol yr Ariannin! Wel, do’n i ddim yn gwybod beth fyddai pobl yn meddwl o ryw Gymraes benfelen wedi’i gwisgo fel 'dama antigua Argentina'(Archentwraig o’r ddeunawfed ganrif). Wel, bues i’n chwerthin ac yn chwerthin wrth edrych ar fy hun yn y drych y bore hwnnw – ond ar y llaw arall ro’n i eisiau cadw’r ffroc! Diolch byth mod i’n ca’l lifft draw at y ganolfan hamdden gyda Rebeca – ond ges i sioc wrth gerdded at y car achos bod rhyw ddyn wrth y llyw, cyn sylweddoli mai Rebeca ei hun oedd hi wedi’i gwisgo fel Archentwr o’r ddeunawfed ganrif! Gwych! Felly cyrraedd y ganolfan hamdden gan sylweddoli ymhen hir a hwyr mai dim ond pedair ohonom ni athrawon oedd mewn gwisg, tri phlentyn, a dim un rhiant. Roedd wynebau’r bobl yn werth eu gweld wrth iddyn nhw gamu dros y trothwy a’n gweld ni’n sefyll yno, a thynnwyd sawl llun – dywedodd un fenyw dwi’n ei nabod wrtha i ei bod hi wrth ei bodd mod i’n dathlu eu diwylliant gyda nhw, felly do’n i ddim yn teimlo fel cymaint o ffŵl wedyn! Ein prif swyddogaeth oedd tywys y pwysigion i’w seddi ym mlaen y neuadd, gan gerdded fraich ym mraich at y rhes flaen cyn eistedd yn ein seddi ni oedd ar ochr y llwyfan. Roedd nifer o bobl eisoes wedi cychwyn ar eu taith am y gwyliau, ond roedd tipyn o bobl yn y neuadd i nodi’r achlysur. Ac ar ôl i’r maer godi’r faner gorymdeithiodd cynrychiolwyr o wahanol ysgolion lleol i flaen y neuadd yn cario baneri, fel sy’n digwydd ar ddechrau pob seremoni neu agoriad swyddogol, a chanwyd yr anthem genedlaethol. Dwi dal ddim yn gwybod y geiriau i gyd, ac ro’dd y camera teledu’n pwyntio aton ni ‘damas antiguas’ wrth i’r cyflwyniad hir gael ei chwarae; ond symudodd cyn i ni gymryd yr anadl gyntaf. Cenais y llinellau dwi’n eu gwybod yn groch gan dawelu yn y mannau ansicr, a chanu’r llinell olaf yn groch cyn i bawb gymeradwyo ac eistedd i lawr. Canolfan Diwylliant y Gaiman drefnodd yr adloniant, ac yn eu tro daeth dawnswyr tango, dawnswyr traddodiadol, a grŵp canu i’r llwyfan. Ar ddiwedd yr acto roedd siocled poeth yn cael ei weini yng nghefn y neuadd, sydd hefyd yn draddodiad!
Yn anffodus, daeth hi’n bryd diosg y wisg. A threuliais y prynhawn yn mynd am dro yn y car drwy’r dyffryn gyda Luned, Tegai ac Elliw, gan yrru ar hyd ffyrdd oedd yn anghyfarwydd iddyn nhw eu dwy yn ogystal ag ymweld â Pharc Paleontolegol Bryn Gwyn – aethon ni ddim mewn i'r parc, ond roedd yr olygfa o’r dyffryn yn odidog o dan yr awyr las.
Teimlais fraint fawr o gael bod yn rhan o ddathliad sydd mor bwysig i’r Ariannin a’i phobl. Ac mewn cyfnod lle’r oedd y Jiwbili yn cael ei ddathlu ym Mhrydain, y Gêmau Olympaidd a holl helynt ‘Team GB’ ar y gorwel, mae'n torri 'nghalon i nad oes gyda ni Gymry gyfle cyffelyb i ddathlu ein hunaniaeth - nac yn wir, annibyniaeth - a bod nifer fawr wedi dewis arddel eu Prydeindod yn hytrach na'u Cymreictod yn ddiweddar. Afraid dweud mod i'n hynod falch mai yng Ngwladfa Gymreig Patagonia ac nid yng Nghymru ydw i ar hyn o bryd. Ac mae hynny ynddo'i hun hefyd yn ddigon i dorri'r galon.

jueves, 28 de junio de 2012
Mehefin - Madryn, Eisteddfod, Hawddamor, Emynau, (y) Faner, Iwan, Nadolig
Bois bach, ma mis Mehefin bron iawn â throi'n fis Gorffennaf! Dyma ambell hanesyn diweddar...
MicroEisteddfod Camwy
Wel mae tymor yr eisteddfodau wedi dechrau, ac eisteddfod gynta'r flwyddyn oedd MicroEisteddfod Camwy. Yn wahanol i ysgolion Cymru, nid disgyblion yn cynrychioli gwahanol lysoedd wrth gystadlu yn erbyn ei gilydd yw'r eisteddfod ysgol hon, ond yn hytrach pwyllgor o ddisgyblion yn trefnu rhaglen lle gallai unrhyw un rhwng blwydd a phump ar hugain oed gystadlu - yn ogystal ag ambell gystadleuaeth agored. Hen Gapel Bethel y Gaiman oedd y lleoliad ar yr 16eg o Fehefin ac a bod yn onest doedd dim llawer o bobl yno, gydag un ymgeisydd, os hynny, yn rhai o'r cystadlaethau. Trueni, yn enwedig wrth ystyried holl waith diflino'r bobl ifanc. Ond ges i yn un modd i fyw yn gwylio plant yr Ysgol Feithrin yn dawnsio gwerin, a phlant a phobl ifanc o bob oedran yn canu ac yn adrodd - yn enwedig fy nisgyblion i! Penderfynodd yr ysgol gynnwys gweithgaredd wahanol yn y rhaglen eleni, sef Gêmau Menter Patagonia. Diolch byth, roedd Iwan wedi dod o'r Andes i estyn help llaw gwerthfawr tu hwnt, ac mewn tri sesiwn rhwng y cystadlu cawson ni dipyn o hwyl gyda'r gêmau. Gan fod hyn yn rhywbeth newydd a gwahanol, roedd hi'n amlwg nad oedd y gynulleidfa'n rhy siŵr o'r hyn oedd yn digwydd a'r plant yn dringo'r llwyfan yn betrusgar ar gyfer y gêm gyntaf.Y gêm 'After Eights' oedd y gyntaf, sef pan ry'ch chi'n gosod un o'r siocledi ar eich talcen ac yn ceisio'i arwain at eich ceg heb ddefnyddio'ch dwylo - dwi'n mwynhau chwarae hon bob Nadolig gyda'r brodyr a'r chwiorydd! Ond does dim After Eights yma rhagor (rhywbeth i'w wneud gyda rheolau mewnfudo), felly cafodd y chwe ymgeisydd oedd ar ddau dim gwahanol fisgen siocled yr un. Dyw hyn ddim yn gymaint o sbort heb ôl y siocled yn toddi dros yr wyneb, ond ro'dd y plant am y gorau i gael eu dannedd yn y bisgedi a'r dorf yn gweiddi eu cefnogaeth! Y gêmau eraill oedd garglo cân (Calon Lân o'dd y dewis gwreiddiol, ond doedd yr ymgeiswyr ddim yn ei gwybod, felly dewiswyd un Sbaeneg) a chafodd y meicroffon gawod dda yn ystod y gystadleuaeth honno! Mewn gêm arall dewisai Iwan anifail a byddai'n rhaid i'r ddau dîm wneud siâp yr anifail hwnnw gyda'i gilydd, wedyn gêm Rocklets rhwng athrawon lle'r oedd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio gwelltyn i symud un o'r peli siocled i ben arall y llwyfan yn eu tro - tasg dipyn yn anoddach na'r disgwyl! Roedd hefyd cystadleuaeth limbo, rhestru cymaint o eiriau Cymraeg â phosib sy'n dechrau gyda'r llythrennau 'A' ac 'C', a phan fyddwn ni'n gweiddi dilledyn roedd hi'n ras rhwng y ddau dîm i ddod â'r dilledyn hwnnw i'r llwyfan. Wel, ro'dd pawb wedi dod i hwyl y peth a phobl o bob oedran yn taflu menig, sgarffiau, siwmperi, sanau ayyb ar y llwyfan! Hwyl a sbri. A chawson ni dystysgrif a tharten jam cartref am ein gwaith! Diolch o galon i MicroEisteddfod Camwy, a llongyfarchiadau i'r pwyllgor ar eu gwaith caled.
Diwrnod y Faner
Enw arall ar yr 20fed o Fehefin yn yr Ariannin yw 'Día de la Bandera', neu 'Diwrnod y Faner'. Ar y diwrnod hwn mae'r genedl gyfan yn cofio am ddylunydd y faner, Manuel Belgrano, fu farw ar y dyddiad hwn yn 1880, ac mae'n wyliau cenedlaethol. Felly ar brynhawn dydd Mawrth y 19eg o Fehefin cynhaliodd Ysgol Feithrin y Gaiman acto yn nodi'r achlysur arbennig hwn. Dechreuodd y seremoni, fel pob seremoni arall, gyda defod y faner - cerddodd tri phlentyn i'r ystafell dan gario baner yr Ariannin a thri arall yn cario'r Ddraig Goch. Yn yr ystafell roedd y plant, yr athrawon, a nifer o'r rhieni wedi ymgasglu ac ymunodd pawb i ganu anthem yr Ariannin wrth i ddau o'r plant godi'r faner las a gwyn. Ar ôl estyn croeso i bawb a rhoi cyflwyniad byr yn esbonio pam ein bod yn dathlu Diwrnod y Faner, daeth y perfformiad. Roedd Rebeca wedi paratoi sgript o hanes Belgrano a'r faner i fi ei darllen (yn uniaith Gymraeg), a thra mod i'n ei darllen roedd Lovaine yn dangos lluniau i gydfynd â'r hanes a'r plant yn defnyddio gwahanol offerynnau i gyfleu'r synau - darnau o bren ar gyfer carnau'r ceffylau, clychau ar gyfer tonnau'r môr, a chlychau, pren, a thamborîn ar gyfer y rhyfel - yn ogystal â chanu 'Heno, heno, hen blant bach' wrth sôn am Belgrano yn blentyn bach. Unwaith i bawb weiddi 'Viva la Patria!' roedd yn rhaid i fi ei heglu hi o 'na er mwyn dal y bws i Drelew, felly does gen i ddim syniad sut ddaeth y seremoni i'w therfyn! Llongyfarchiadau i'r Ysgol Feithrin ar ei holl waith.
Clwb Trafod
Fel mae'r enw'n awgrymu, ry'n ni'n trafod amryw bethau yn y Clwb Trafod. Ry'n ni eisoes wedi trafod rhaglenni teledu a chân, a'r wythnos hon penderfynais bod yn fentrus a thrafod 'Mis Mai a Mis Tachwedd' gan Dafydd ap Gwilym. Modiwl ar gerddi Dafydd ap Gwilym oedd un o fy hoff bynciau yn y brifysgol, ond dwi ddim wedi edrych yn iawn arnyn nhw ers hynny - rhyw saith mlynedd yn ôl! Dechreuais drwy roi cyflwyniad byr iawn i Dafydd ap Gwilym a beirdd yr uchelwyr, ac ro'n i braidd yn betrusgar wrth ddidoli'r papurau, a bod yn onest, gan nad o'n i'n gwybod beth fyddai eu hymateb i'r iaith estron oedd ar y ddalen. Ond cefais fy synnu ar yr ochr orau gyda phawb yn trafod yr hanes, y delweddau, a'r ystyron yn llawn brwdfrydedd. A gofynnodd criw y Gaiman am esboniad ar y gynghanedd! Felly cawson nhw gyflwyniad syml dros ben o'r pedair prif gynghanedd, gan chwilio am enghreifftiau o'r cywydd. Gofynnodd rhywun a fyddai'n iawn iddyn nhw ddechrau cyfarch ei gilydd gyda 'Hawddamor'! Roedd hi'n werth mentro. Ac fel y dywedodd un ohonyn nhw, 'Fuaswn i ddim wedi darllen cerdd Gymraeg o'r 14eg ganrif fel arall!'
Porth Madryn
Dwi'n ceisio mynd i ymweld â Phorth Madryn unwaith y mis gyda'r gwaith, a hyd yn hyn dwi wedi llwyddo - wythnos diwethaf oedd yr ail ymweliad! Ond ynghanol y prysurdeb a gofynion eraill, fe adewais Drelew am 17.30 i gyrraedd Madryn am 18.35 mewn pryd i ddechrau'r gweithgareddau am 19.00. Roedd saith ohonom yn Nhŷ Toschke, gan gynnwys un (o dras Gymreig) oedd yn dod i ddosbarth/weithgaredd Gymraeg am y tro cyntaf, a rhai cyfeillion dwi heb eu gweld ers dychwelyd! Felly dechreuodd y noson gyda sgwrsio am hyn, llall, ac arall dros baned a danteithion. Roedd Dad wedi rhoi dis i fi cyn dod allan ac arno chwe gair gofynnol - Pwy? Ble? Pam? Sut? Pryd? Beth? - a chawson ni lawer o hwyl yn ei daflu a gofyn cwestiynau i'n gilydd. Rhywsut llwyddodd cwestiynau mor syml â 'Sut wyt ti'n mynd adre heno?' yn sgyrsiau am wleidyddiaeth a phobl yn torheulo'n borcyn! A dyma wnaethon ni am ryw awr a hanner, gyda llawer o chwerthin! Am 21.30 deliais y bws drachefn tua Threlew, cyn teithio ar fws arall a chyrraedd y Gaiman am 23.20. Diolch i griw Madryn am eu brwdfrydedd a'u hwyl!
Cymanfa Ganu
Cafodd Cymanfa Ganu Cymdeithas Dewi Sant ei chynnal yng Nghapel Salem sydd yn ardal Lle Cul fis Mehefin. Roedd yn achlysur arbennig i'r capel gan ei fod yn dathlu ei ben blwydd yn 100 oed, ac ychydig o ddiwrnodau cyn y gymanfa ges i gais i rannu'r neges yn ystod y gwasanaeth. Yn y Sbaeneg fyddai neges y cymanfaoedd yn cael eu traddodi fel arfer, felly teimlwn fraint o gael gwahoddiad i siarad yn Gymraeg, ac fe'i derbyniais yn llawen. Roedd tipyn o bobl yn bresennol i lenwi'r capel gyda chanu angerddol - emynau Cymraeg a Sbaeneg - i gyfeiliant yr organ a'r sacsoffon. 'Heddwch' yw thema'r cymanfaoedd eleni, ar ôl canolbwyntio ar Iesu Grist y Tywysog Tangnefedd y llynedd. Felly canolbwyntiais i ar y cwestiwn 'Sut allwn ni gael heddwch?' gan ddod i'r casgliad mai dim ond gyda Iesu Grist y gallwn ni ei gael. 'Oherwydd ef yw ein heddwch ni', mae Effesiaid 2:14 yn ei ddweud. Pen Blwydd Llawen Capel Salem!
Oedfaon Cymraeg
Y diwrnod canlynol oedd pedwerydd Sul y mis, sy'n golygu oedfaon Cymraeg. Felly am 9.30 esgynais y bws tua Threlew a chyrraedd Capel y Tabernacl erbyn 10.00. Hwn oedd y tro cyntaf i fi gynnal oedfa yno ers dychwelyd, ac roedd hi'n fendith cael bod gyda'r selogion unwaith eto. Ac am 17.00 traddodais yr un neges yng Nghapel Bethel y Gaiman. Yr wythnos diwethaf fe ddysgon ni ddau emyn, neu yn hytrach ganeuon mawl newydd dwi wedi dod gyda fi o Gymru, sef 'Abba Dad' a 'Mor fawr yw cariad Duw y Tad', felly gymeron ni'r cyfle i ymarfer yr ail un y tro hwn. Roedd pawb yn chwibanu neu yn hymian y dôn wrth adael y capel, a dywedodd un wraig wrtha i ei bod hi'n ddiffael yn troi at ganu 'Milgi Milgi' ar ôl ychydig o nodau! Dyma lun o'r clustog oedd ar gadair yn sedd fawr Capel Tabernacl!
Ai hyn yw'r Nadolig?
Dros y mis diwethaf dwi wedi cael amryw brofiadau sy fel arfer yn golygu fod y Nadolig ar droed. Y peth cyntaf oedd y tywydd rhewllyd ry'n ni wedi'i gael yn achlysurol dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys deng munud o eira mân, ac oherwydd hyn dechreuon ni ganu 'Winter Wonderland' gyda'r Côr Merched, a chawson ni ginio Nadolig gan Iwan yn Esquel ddiwedd mis Mai! Yn ogystal, gerddais i heibio i adeilad yn y Gaiman oedd ag addurniadau Nadolig yn y ffenestr a dros y penwythnos fues i mewn dwy siop oedd â thinsel neu addurniadau tebyg yn hongian o'r silffoedd, dwi wedi cael lifft gan ffrind pan ddaeth carol Nadolig ar y cd, ac roedd rhywun wedi ysgrifennu 'Feliz Navidad' ar wal yr ysbyty! Y profiad diweddaraf oedd bwyta mins peis (sy ddim i'w cael yn yr Ariannin ar unrhyw adeg o'r flwyddyn) ym Mhorth Madryn y penwythnos diwethaf! Soniodd un wraig sy'n mynychu'r dosbarthiadau a'r gweithgareddau Cymraeg yno wrtha i o'r blaen ei bod hi'n hoff o wneud mins peis, a hi oedd wedi paratoi'r mins hefyd. Re blasus. Ond dyw'r Nadolig byth yn cyrraedd. Mae'n fy atgoffa o'r 'Llew a'r Wrach' pan mae Mr Tumnus yn dweud wrth Lucy 'it's always winter but never Christmas' yn Narnia (mae'n aeaf o hyd, ond does byth Nadolig). Dwi'n gobeithio mai ymweliad Siôn Corn fydd y profiad nesaf...

martes, 19 de junio de 2012
Arholiad, Bryn Gwyn, Clwb Trafod, Chwarae, Dolavon - a llawer mwy...
Dwi yma bellach ers rhyw ddeufis a hanner, a dyma rywfaint o fy hynt a fy helynt dros yr wythnosau diwethaf...
Dolavon
Mae Cylch Chwarae Dolavon wedi ailddechrau, o'r diwedd! Dyw'r ystafell lle buon ni'n cynnal yr weithgaredd y llynedd ddim ar gael i ni eleni, ac ar ôl bron i ddeufis o chwilio a disgwyl ry'n ni wedi cael ystafell yn Ysgol William Morris y pentref. Ry'n ni wedi cwrdd bedair gwaith hyd yn hyn, a dwi wrth fy modd yn gweld selogion y llynedd yn dychwelyd - gyda gwên ar eu hwynebau!
Penderfynais fod angen strwythur dynnach i'r Cylch Chwarae, felly bob wythnos ry'n ni'n dechrau trwy adolygu ac ymestyn brawddegau, e.e. 'Sut wyt ti?' 'Da iawn, diolch', neu 'Wedi blino', yn canu caneuon, megis 'Clap, clap - un, dau, tri', ac 'Un a dau a thri banana'. Cefais fy synnu gan gymaint roedd rhai ohonyn nhw'n ei gofio, a chefais fy ngwefreiddio gan eu diddordeb. Yn dilyn y dysgu daw'r chwarae, a'r hoff gêm ar hyn o bryd yw 'Faint o'r gloch ydy hi Mistar Blaidd?' - ond rhaid oedd treulio ychydig o amser yr wythnos hon yn sicrhau eu bod yn gofyn y cwestiwn yn gywir. Dyma nhw'n chwifio'r pensiliau Cymru a roddais iddyn nhw'n ddiweddar!
Clwb Trafod
Mae'r Clwb Darllen ro'n i'n ei gynnal bob pythefnos y llynedd wedi cael ei weddnewid yn Glwb Trafod wythnosol. Bob dydd Mawrth am 16.30 yn adeilad Ysgol yr Hendre yn Nhrelew ac am 20.30 yn Nhy Camwy yn y Gaiman mae criw bach ohonom yn dod at ein gilydd i drafod amryw bethau. Rhifyn cyntaf y gyfres 'Cof Patagonia' oedd pwnc trafod y cyfarfod cyntaf, sy'n gyfres am hanes y Cymry ym Mhatagonia ar ffurf cyfweliadau ond lluniau yn unig sydd i'w gweld. Roedd mynychwyr y ddau gyfarfod wedi mwynhau'r rhaglen yn fawr, a llais ambell un i'w glywed yn siarad dros yr amryw luniau a ymddangosai ar y sgrin i gyfleu'r hanes. Mae'r rhaglen gyntaf yn canolbwyntio fwy neu lai ar ddegawd gynta'r ugeinfed ganrif, gyda hanes y Plebiscito (Refferendwm) yn yr Andes, llifogyddion yn Nyffryn Camwy, ymfudo ac allfudo, a Chwmni Masnachol Camwy yn cael eu hadrodd. Cododd trafodaethau diddorol iawn o'r rhaglen wrth i bawb rannu'r hyn roedden nhw wedi'i glywed am yr hanesion hynny. 'Adra' gan Gwyneth Glyn oedd dan sylw yn yr ail gyfarfod. Dechreuon ni trwy wrando yn astud ar y gân er mwyn llenwi'r bylchau ar ddarn o bapur, a chododd dehongliadau diddorol ohoni yn ystod y drafodaeth. Gwrandawon ni arni sawl tro, a dwi'n credu ein bod ni i gyd bellach yn gwybod y geiriau gyd! Dechreuodd Clwb Trafod Dolavon yr wythnos diwethaf hefyd. Sgwrsio'n braf wnaethon ni yn y cyfarfod cyntaf, ac un o'r gwragedd yn meddwl mod i'n 17 oed! Dyna beth oedd dechrau da.
Arholiad
Mae nifer fawr o ddosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yng nghymunedau Cymreig Chubut - ac un yn La Plata, sy ryw bedair awr i'r gogledd o Buenos Aires. Yn achlysurol, mae rhai o'r myfyrwyr hyn yn sefyll arholiadau Cymraeg CBAC, a daeth tro pedwar o Ddyffryn Camwy ddechrau mis Mehefin. Cynorthwyais i arsylwi ac i arholi profion llafar y llynedd, ond gan fod Clare yn cynnal yr arholiad yn yr Andes ar yr un diwrnod eleni, cefais i'r cyfrifoldeb o'i gynnal yn y Gaiman.
Caiff y papurau eu dosbarthu i'r gwahanol ganolfannau yng Nghymru ac felly gorchwyl yr arholwyr yno yw agor yr amlenni a dosbarthu'r papurau cyn ei casglu a'u rhoi yn yr amlenni drachefn. Ond wrth gwrs, dyw pethau ddim cyn hawsed a hynny ym Mhatagonia... Anfonwyd y papurau i gyd mewn ebost a olygai fod yn rhaid i ni eu hargraffu a sicrhau bod digon o gopïau ohonyn nhw, a gan mai Cymraeg/Sbaeneg yw'r paprau, lluniodd Clare gyfieithiad Sbaeneg o'r rhannau Saesneg ar gyfer yr ymgeiswyr Archentaidd. Wel, ro'dd pili-palas yn fy stumog i drwy'r wythnos yn poeni y byddai rhyw broblem gyda'r papurau - dim digon o gopïau, tudalennau ar goll, neu bapur 2011 yn lle 2012... Ond diolch byth, aeth popeth yn iawn gyda'r Darllen a Llenwi Bylchau, y Gwrando a'r Ysgrifennu! Wedyn daeth pob un i'r ystafell yn ei dro ar gyfer y prawf Llafar a gâi ei recordio ar beiriant MP3. Yr orchwyl nesaf oedd anfon y papurau a'r ffeiliau sain, ac roedd yn rhaid i fi gael llygad-dyst er mwyn sicrhau mod i wedi eu hanfon yn iawn! Dwi ddim yn siŵr pryd fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi, ond llongyfarchiadau mawr i'r pedwar am sefyll yr arholiad! Ac yn ystod wythnos lle'r oedd Prydeindod y Jiwbili yn cael ei rwbio yn wynebau'r Cymry adref, roedd y bore hwn yn un i wirioneddol godi calon. Diolch.
Wythnos yr Ysgolion Meithrin
Roedd yr 28ain o Fai hyd y 1af o Fehefin yn Wythnos yr Ysgolion Meithrin yma yn yr Ariannin, felly bu ysgolion meithrin ar hyd a lled y wlad yn cynnal gwahanol weithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr wythnos honno. Gan fy mod yn gweithio yn Ysgol Feithrin y Gaiman ddau ddiwrnod yr wythnos, ges i fod yn rhan o ddwy o'i gweithgareddau hi. Ar y dydd Mercher daeth y plant i'r ysgol mewn gwisg ffansi a chwarae teg, roedd pawb wedi gwneud ymdrech fawr. Yn y Dosbarth Gwyrdd roedd dau Spiderman, môr-leidr, Buzz Lightyear, a chwe thywysoges - ges i fod yn dywysoges hefyd! Doedd dim llawer o awydd dosbarth arnyn nhw, gyda'r tywysogesau yn hoffi dangos a chymharu eu dillad, y môr-leidr yn mwynhau saethu pawb, a Buzz Lightyear a'r ddau Spiderman yn rhedeg ac yn neidio o gwmpas yr ystafell! Y diwrnod canlynol, roedd yr ysgol feithrin Gymraeg yn ymuno ag ysgol feithrin Sbaeneg y Gaiman am y prynhawn. Y dasg gyntaf oedd cyrraedd yr ysgol arall, felly gyda phawb yn y dosbarth wedi gwisgo'n gynnes bant â ni am dro drwy'r Gaiman law yn llaw gyda'n gilydd. Buon ni'n canu ac yn adrodd dan gerdded, a'r plant wrth eu bodd yn gweld baneri'r Ariannin neu'r Ddraig Goch mewn gwahanol lefydd ar hyd y daith.
Ar ôl cyrraedd Ysgol Feithrin 415, dechreuon ni i gyd ganu. Roedd hyn yn debyg i ryw gystadleuaeth, wrth i ni ganu cân Gymraeg ry'n ni'n ei chanu yn yr ysgol wedyn tro'r ysgol feithrin Sbaeneg a nôl a mlaen fel'na am rai munudau! Wedyn daeth hi'n amser coginio pice'r maen. Doedd hon ddim yn dasg hawdd gyda dros hanner cant o blant, ond cawson nhw lawer o hwyl yn chwarae gyda'r cynhwysion a thorri siapau o'r toes. Wrth i'r pice bobi ar y maen cawson ni sesiwn arall o ganu. Roedd yn rhaid i fi adael cyn i'r pice gael eu gweini, a diolch byth achos do'n i ddim wir ffansi eu blasu ar ôl i'r plant fod yn eu byseddu...
Bryn Gwyn
Mae'r dosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yn Ysgol Bryn Gwyn (neu Ysgol 61 neu Ysgol Abraham Mathews i roi ei henwau eraill arni) rhwng 1.00 a 3.00 bob dydd, felly dwi'n trio mynd yno ar ddiwrnod gwahanol bob wythnos i estyn help llaw. Yn ddiweddar cefais y cyfle i fynd yno ar brynhawn Gwener am y tro cyntaf, pan fydd plant y Meithrin yn cael gwers Gymraeg. Roedd y plant tair a phedair oed wrthi'n brwsio'u dannedd pan gyrhaeddais i a Virginia'r ystafell ddosbarth, a gyda cheg pawb yn ffres fe ffurfion ni gylch yn barod i ganu.
Ond rhaid cyfarch yn gyntaf, ac ro'n i wrth fy modd gyda'r floedd o 'Prynhawn da' a atseiniodd fy nghyfarchiad i! Wedyn daeth y canu, ac roedd y plant - rhyw 20 ohonyn nhw - eisoes yn gwybod 'Pnawn da! Sut wyt ti?' 'Clap, clap - un, dau, tri' a 'Pen, ysgwyddau coesau traed' yn dda, gyda chais am 'mas rapido' ar gyfer y gan olaf - roedden nhw'n chwifio'u breichiau dros y lle i gyd pan gyflymwyd y tempo! Ynghanol y canu penderfynodd un bachgen tair oed weiddi 'Te amo' arna i drosodd a throsodd, cyn rhedeg draw a phlannu clamp o sws wleb ar fy moch! Wedyn aethon ni ati i ddysgu'r rhifau a'r gan 'Un a dau a thri banana', cyn mynd ati i liwio taflen ac arni'r rhifau. Dechreuodd rhai o'r plant gyfrif ar eu pen eu hunain, a gofyn i fi gyfieithu lliwiau'r crayons i'r Gymraeg ac ailadrodd o'u gwirfodd. Ar ddiwedd y deugain munud, aeth y plant ieuengaf drws nesaf wrth i'r ystafell lenwi drachefn gyda rhwng ddeg ar hugain o blant pump oed. Dilynwyd yr un drefn yn ystod y wers hon, ac ar ol canu llond llaw o ganeuon gofynnais i'r plant a wydden nhw unrhyw ganeuon Cymraeg eraill. 'Wachiturros' oedd ateb un ohonyn nhw, sef band Cumbia (math arbennig o gerddoriaeth) enwog iawn yn yr Ariannin ar hyn o bryd...
Y Ffair Lyfrau
Cynhaliwyd y Ffair Lyfrau yng Nghanolfan Hamdden y Gaiman dros benwythnos cyntaf mis Mehefin, lle'r oedd Menter Patagonia yn rhannu stondin gydag Ysgol Feithrin y Gaiman a'r Dosbarthiadau Cymraeg. Treuliwyd wythnosau lawer yn paratoi at y ffair - misoedd i rai - a ges i'r gwaith o lunio amserlen o'r holl ddosbarthiadau Cymraeg yn nhalaith Chubut ac yn La Plata. Bois bach, roedd hyn yn llawer iawn mwy o waith nag o'n i wedi'i ragweld a dwi wir yn gobeithio y bydd mwy yn mynychu'r dosbarthiadau ar ol i'r rhain gael eu dosbarthu. Os bydd un dysgwr Cymraeg newydd ym Mhatagonia, fydd yr holl waith wedi bod yn werth chweil! Cafodd y ffair ei hagor ar nos Iau y 7fed o Fehefin, a'r agoriad swyddogol oedd diben pennaf y noson hon - seremoni'r faner gyda chynrychiolwyr o'r gwahanol ysgolion lleol yn cario baner yr Ariannin, canu'r anthem, a nifer o bobl swyddogol yn siarad. Roedd nos Wener a dydd Sadwrn y ffair yn weddol dawel, a dweud y gwir. Ond roedd ein stondin ni'n brysur dros ben gan fod cyfle i blant ddod yno i liwio lluniau - y Ddraig Goch, Smot, Sam Tân, Sali Mali, Jac y Jwc - a phaentio eu hwynebau. Des i o hyd i daflenni o sticeri 'Dwi'n ffrind i Mistar Urdd' mewn bocs yn ddiweddar, ac fe'u dosbarthwyd i blant yn y Ffair Lyfrau.
Dyw sticeri o'r fath ddim yn gyffredin yma felly doedd y rhan fwyaf o'r plant ddim yn siŵr beth i'w wneud gyda'r sticer - gwahanol iawn i mhrofiadau i o ruthro o un stondin i'r llall mewn eisteddfodau flynyddoedd yn ôl i orchuddio pob defnyn o nillad! Doedd gyda ni ddim paent addas i wneud campweithiau uchelgeisiol ar wynebau'r plant, ond roedd Mistar Urdd yn ddewis poblogaidd a sawl plentyn i'w weld yn crwydro'r neuadd gyda'i foch yn goch, gwyn, a gwyrdd. Ro'n i hefyd wedi ymuno yn y gweithgareddau oedd ar gael ac wrth i fi eistedd gyda'r plant i liwio llun o Sam Tân, trodd un ata i a gofyn i fi, 'vos hablas en un otro idioma?' ('wyt ti'n siarad mewn iaith arall?!')Ymunais yn hwyl y paentio hefyd gyda nifer o lygaid yn edrych arna i ddwywaith yn y siop lungopïau, fel pe baen nhw erioed wedi gweld rhywun mewn oed gyda blodau lliwgar ar un foch a'r ddraig goch ar y llall... Gwnes i'r camgymeriad dwl o roi rhwydd hynt i rai o'r plant baentio fy nwylo, a'r peth nesaf ro'n i'n edrych fel beiciwr modur gyda lluniau'n gorchuddio mreichiau A buan iawn y cofiais nad oedd dŵr wedi bod yn llifo o dapiau'r tŷ drwy'r dydd! Ond diolch byth roedd y sefyllfa wedi'i gwirio erbyn i fi gyrraedd adref, a ches i fynd i'r gwely gyda breichiau glân.
Am dri o’r gloch ar y prynhawn Sadwrn cynhaliwyd panel o bedwar athro o’r Gaiman sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i fynd ar gwrs arsylwi yng Nghymru dros y flwyddyn diwethaf – Rebeca Henry, Caren Jones, Juan (Siôn) Davies ac Angelica Evans. Paratôdd y pedwar ohonyn nhw gyflwyniad yn olrhain eu profiadau a’u hargraffiadau o fyd addysg yng Nghymru (dim ond un yn Gymraeg); mae dipyn yn wahanol i’r system yma yn yr Ariannin. Cafodd pob un eu syfrdannu gan y byrddau gwyn rhyngweithiol, a hwythau wedi arfer ag ystafelloedd dosbarth moel heb unrhyw beth ar y waliau, heb sôn am dechnoleg o’r fath! Nid yn unig hynny, teimlai’r pedwar eu bod wedi elwa’n fawr o’r cyfle a bod hynny wedi cael dylanwad ar eu dull o ddysgu Cymraeg ers dychwelyd i’r Gaiman. Mae’n drueni nad oedd mwy o bobl wedi dod i wrando ar y pedwar, ond roedd y sawl a ddaeth wedi magu cryn ddiddordeb yn yr hyn oedd ganddyn nhw i’w ddweud a chododd trafodaeth ddiddorol o’r cwestiynau a holwyd i’r athrawon ar ddiwedd y sesiwn. Mae’r bont hon sy’n cysylltu Cymru a Phatagonia yn un werthfawr iawn, a gobeithio y bydd nifer o athrawon y dyfodol yn cael yr un cyfle.

Pen Blwydd Hapus Clecs Camwy!
Mae Clecs Camwy yn dathlu ei ben blwydd yn flwydd oed! Hip hip hwrê! Darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan Menter Patagonia: www.menterpatagonia.org

Dolavon
Mae Cylch Chwarae Dolavon wedi ailddechrau, o'r diwedd! Dyw'r ystafell lle buon ni'n cynnal yr weithgaredd y llynedd ddim ar gael i ni eleni, ac ar ôl bron i ddeufis o chwilio a disgwyl ry'n ni wedi cael ystafell yn Ysgol William Morris y pentref. Ry'n ni wedi cwrdd bedair gwaith hyd yn hyn, a dwi wrth fy modd yn gweld selogion y llynedd yn dychwelyd - gyda gwên ar eu hwynebau!
Clwb Trafod
Mae'r Clwb Darllen ro'n i'n ei gynnal bob pythefnos y llynedd wedi cael ei weddnewid yn Glwb Trafod wythnosol. Bob dydd Mawrth am 16.30 yn adeilad Ysgol yr Hendre yn Nhrelew ac am 20.30 yn Nhy Camwy yn y Gaiman mae criw bach ohonom yn dod at ein gilydd i drafod amryw bethau. Rhifyn cyntaf y gyfres 'Cof Patagonia' oedd pwnc trafod y cyfarfod cyntaf, sy'n gyfres am hanes y Cymry ym Mhatagonia ar ffurf cyfweliadau ond lluniau yn unig sydd i'w gweld. Roedd mynychwyr y ddau gyfarfod wedi mwynhau'r rhaglen yn fawr, a llais ambell un i'w glywed yn siarad dros yr amryw luniau a ymddangosai ar y sgrin i gyfleu'r hanes. Mae'r rhaglen gyntaf yn canolbwyntio fwy neu lai ar ddegawd gynta'r ugeinfed ganrif, gyda hanes y Plebiscito (Refferendwm) yn yr Andes, llifogyddion yn Nyffryn Camwy, ymfudo ac allfudo, a Chwmni Masnachol Camwy yn cael eu hadrodd. Cododd trafodaethau diddorol iawn o'r rhaglen wrth i bawb rannu'r hyn roedden nhw wedi'i glywed am yr hanesion hynny. 'Adra' gan Gwyneth Glyn oedd dan sylw yn yr ail gyfarfod. Dechreuon ni trwy wrando yn astud ar y gân er mwyn llenwi'r bylchau ar ddarn o bapur, a chododd dehongliadau diddorol ohoni yn ystod y drafodaeth. Gwrandawon ni arni sawl tro, a dwi'n credu ein bod ni i gyd bellach yn gwybod y geiriau gyd! Dechreuodd Clwb Trafod Dolavon yr wythnos diwethaf hefyd. Sgwrsio'n braf wnaethon ni yn y cyfarfod cyntaf, ac un o'r gwragedd yn meddwl mod i'n 17 oed! Dyna beth oedd dechrau da.Arholiad
Mae nifer fawr o ddosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yng nghymunedau Cymreig Chubut - ac un yn La Plata, sy ryw bedair awr i'r gogledd o Buenos Aires. Yn achlysurol, mae rhai o'r myfyrwyr hyn yn sefyll arholiadau Cymraeg CBAC, a daeth tro pedwar o Ddyffryn Camwy ddechrau mis Mehefin. Cynorthwyais i arsylwi ac i arholi profion llafar y llynedd, ond gan fod Clare yn cynnal yr arholiad yn yr Andes ar yr un diwrnod eleni, cefais i'r cyfrifoldeb o'i gynnal yn y Gaiman.
Wythnos yr Ysgolion Meithrin
Roedd yr 28ain o Fai hyd y 1af o Fehefin yn Wythnos yr Ysgolion Meithrin yma yn yr Ariannin, felly bu ysgolion meithrin ar hyd a lled y wlad yn cynnal gwahanol weithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr wythnos honno. Gan fy mod yn gweithio yn Ysgol Feithrin y Gaiman ddau ddiwrnod yr wythnos, ges i fod yn rhan o ddwy o'i gweithgareddau hi. Ar y dydd Mercher daeth y plant i'r ysgol mewn gwisg ffansi a chwarae teg, roedd pawb wedi gwneud ymdrech fawr. Yn y Dosbarth Gwyrdd roedd dau Spiderman, môr-leidr, Buzz Lightyear, a chwe thywysoges - ges i fod yn dywysoges hefyd! Doedd dim llawer o awydd dosbarth arnyn nhw, gyda'r tywysogesau yn hoffi dangos a chymharu eu dillad, y môr-leidr yn mwynhau saethu pawb, a Buzz Lightyear a'r ddau Spiderman yn rhedeg ac yn neidio o gwmpas yr ystafell! Y diwrnod canlynol, roedd yr ysgol feithrin Gymraeg yn ymuno ag ysgol feithrin Sbaeneg y Gaiman am y prynhawn. Y dasg gyntaf oedd cyrraedd yr ysgol arall, felly gyda phawb yn y dosbarth wedi gwisgo'n gynnes bant â ni am dro drwy'r Gaiman law yn llaw gyda'n gilydd. Buon ni'n canu ac yn adrodd dan gerdded, a'r plant wrth eu bodd yn gweld baneri'r Ariannin neu'r Ddraig Goch mewn gwahanol lefydd ar hyd y daith.
Ar ôl cyrraedd Ysgol Feithrin 415, dechreuon ni i gyd ganu. Roedd hyn yn debyg i ryw gystadleuaeth, wrth i ni ganu cân Gymraeg ry'n ni'n ei chanu yn yr ysgol wedyn tro'r ysgol feithrin Sbaeneg a nôl a mlaen fel'na am rai munudau! Wedyn daeth hi'n amser coginio pice'r maen. Doedd hon ddim yn dasg hawdd gyda dros hanner cant o blant, ond cawson nhw lawer o hwyl yn chwarae gyda'r cynhwysion a thorri siapau o'r toes. Wrth i'r pice bobi ar y maen cawson ni sesiwn arall o ganu. Roedd yn rhaid i fi adael cyn i'r pice gael eu gweini, a diolch byth achos do'n i ddim wir ffansi eu blasu ar ôl i'r plant fod yn eu byseddu...Bryn Gwyn
Mae'r dosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yn Ysgol Bryn Gwyn (neu Ysgol 61 neu Ysgol Abraham Mathews i roi ei henwau eraill arni) rhwng 1.00 a 3.00 bob dydd, felly dwi'n trio mynd yno ar ddiwrnod gwahanol bob wythnos i estyn help llaw. Yn ddiweddar cefais y cyfle i fynd yno ar brynhawn Gwener am y tro cyntaf, pan fydd plant y Meithrin yn cael gwers Gymraeg. Roedd y plant tair a phedair oed wrthi'n brwsio'u dannedd pan gyrhaeddais i a Virginia'r ystafell ddosbarth, a gyda cheg pawb yn ffres fe ffurfion ni gylch yn barod i ganu.
Ond rhaid cyfarch yn gyntaf, ac ro'n i wrth fy modd gyda'r floedd o 'Prynhawn da' a atseiniodd fy nghyfarchiad i! Wedyn daeth y canu, ac roedd y plant - rhyw 20 ohonyn nhw - eisoes yn gwybod 'Pnawn da! Sut wyt ti?' 'Clap, clap - un, dau, tri' a 'Pen, ysgwyddau coesau traed' yn dda, gyda chais am 'mas rapido' ar gyfer y gan olaf - roedden nhw'n chwifio'u breichiau dros y lle i gyd pan gyflymwyd y tempo! Ynghanol y canu penderfynodd un bachgen tair oed weiddi 'Te amo' arna i drosodd a throsodd, cyn rhedeg draw a phlannu clamp o sws wleb ar fy moch! Wedyn aethon ni ati i ddysgu'r rhifau a'r gan 'Un a dau a thri banana', cyn mynd ati i liwio taflen ac arni'r rhifau. Dechreuodd rhai o'r plant gyfrif ar eu pen eu hunain, a gofyn i fi gyfieithu lliwiau'r crayons i'r Gymraeg ac ailadrodd o'u gwirfodd. Ar ddiwedd y deugain munud, aeth y plant ieuengaf drws nesaf wrth i'r ystafell lenwi drachefn gyda rhwng ddeg ar hugain o blant pump oed. Dilynwyd yr un drefn yn ystod y wers hon, ac ar ol canu llond llaw o ganeuon gofynnais i'r plant a wydden nhw unrhyw ganeuon Cymraeg eraill. 'Wachiturros' oedd ateb un ohonyn nhw, sef band Cumbia (math arbennig o gerddoriaeth) enwog iawn yn yr Ariannin ar hyn o bryd...Y Ffair Lyfrau
Cynhaliwyd y Ffair Lyfrau yng Nghanolfan Hamdden y Gaiman dros benwythnos cyntaf mis Mehefin, lle'r oedd Menter Patagonia yn rhannu stondin gydag Ysgol Feithrin y Gaiman a'r Dosbarthiadau Cymraeg. Treuliwyd wythnosau lawer yn paratoi at y ffair - misoedd i rai - a ges i'r gwaith o lunio amserlen o'r holl ddosbarthiadau Cymraeg yn nhalaith Chubut ac yn La Plata. Bois bach, roedd hyn yn llawer iawn mwy o waith nag o'n i wedi'i ragweld a dwi wir yn gobeithio y bydd mwy yn mynychu'r dosbarthiadau ar ol i'r rhain gael eu dosbarthu. Os bydd un dysgwr Cymraeg newydd ym Mhatagonia, fydd yr holl waith wedi bod yn werth chweil! Cafodd y ffair ei hagor ar nos Iau y 7fed o Fehefin, a'r agoriad swyddogol oedd diben pennaf y noson hon - seremoni'r faner gyda chynrychiolwyr o'r gwahanol ysgolion lleol yn cario baner yr Ariannin, canu'r anthem, a nifer o bobl swyddogol yn siarad. Roedd nos Wener a dydd Sadwrn y ffair yn weddol dawel, a dweud y gwir. Ond roedd ein stondin ni'n brysur dros ben gan fod cyfle i blant ddod yno i liwio lluniau - y Ddraig Goch, Smot, Sam Tân, Sali Mali, Jac y Jwc - a phaentio eu hwynebau. Des i o hyd i daflenni o sticeri 'Dwi'n ffrind i Mistar Urdd' mewn bocs yn ddiweddar, ac fe'u dosbarthwyd i blant yn y Ffair Lyfrau.
Dyw sticeri o'r fath ddim yn gyffredin yma felly doedd y rhan fwyaf o'r plant ddim yn siŵr beth i'w wneud gyda'r sticer - gwahanol iawn i mhrofiadau i o ruthro o un stondin i'r llall mewn eisteddfodau flynyddoedd yn ôl i orchuddio pob defnyn o nillad! Doedd gyda ni ddim paent addas i wneud campweithiau uchelgeisiol ar wynebau'r plant, ond roedd Mistar Urdd yn ddewis poblogaidd a sawl plentyn i'w weld yn crwydro'r neuadd gyda'i foch yn goch, gwyn, a gwyrdd. Ro'n i hefyd wedi ymuno yn y gweithgareddau oedd ar gael ac wrth i fi eistedd gyda'r plant i liwio llun o Sam Tân, trodd un ata i a gofyn i fi, 'vos hablas en un otro idioma?' ('wyt ti'n siarad mewn iaith arall?!')Ymunais yn hwyl y paentio hefyd gyda nifer o lygaid yn edrych arna i ddwywaith yn y siop lungopïau, fel pe baen nhw erioed wedi gweld rhywun mewn oed gyda blodau lliwgar ar un foch a'r ddraig goch ar y llall... Gwnes i'r camgymeriad dwl o roi rhwydd hynt i rai o'r plant baentio fy nwylo, a'r peth nesaf ro'n i'n edrych fel beiciwr modur gyda lluniau'n gorchuddio mreichiau A buan iawn y cofiais nad oedd dŵr wedi bod yn llifo o dapiau'r tŷ drwy'r dydd! Ond diolch byth roedd y sefyllfa wedi'i gwirio erbyn i fi gyrraedd adref, a ches i fynd i'r gwely gyda breichiau glân. Pen Blwydd Hapus Clecs Camwy!
Mae Clecs Camwy yn dathlu ei ben blwydd yn flwydd oed! Hip hip hwrê! Darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan Menter Patagonia: www.menterpatagonia.org

lunes, 4 de junio de 2012
Penwythnos Pen Blwydd Patagonaidd
Y 25ain o Fai yw un o'r dyddiadau pwysicaf yn hanes yr Ariannin gan ei fod yn nodi dechrau'r rhyfel am annibyniaeth yn 1810 - ysgrifennais hanes hyn yn y blog y llynedd, felly dwi ddim am ymhelaethu. Y 27ain o Fai yw un o'r dyddiadau pwysicaf yn fy hanes i, gan mai ar y diwrnod hwnnw y ces i fy ngeni. Felly gan fod dydd Gwener y 25ain yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol es i, Elliw a Sara ar ein gwyliau i'r Andes ar y bws! Prin mod i wedi eistedd cyn i'r dyn yn y sedd drws nesaf i fi ddweud (yn Sbaeneg), 'Gad i fi ddyfalu... Almaenes?' Dwi wedi cael sawl sgwrs debyg yn y gorffennol, a doedd arna i ddim awydd un ar ddechrau'r gwyliau. Rhestrodd wahanol wledydd Sgandinafaidd cyn ildio a gofyn o le dwi'n dod, a phan esboniais wrtho ein bod ni'n Gymry disgleiriodd ei wyneb cyn iddo ddatgan, 'Dwi'n Roberts!' Ar ôl sgwrsio am ychydig, gofynnodd a oeddwn i wedi ymweld â bedd y Malacara ar fy ymweliadau blaenorol â'r Andes. 'Do,' atebais. 'Wel,' dywedodd yntau, 'y Malacara oedd ceffyl fy hen hen daid i.' 'Felly dy hen hen daid di oedd John Daniel Evans?' 'Ie'. Roedd John Daniel Evans yn flaenllaw yn hanes y Wladfa, yn enwedig hanes cymunedau Cymreig yr Andes. Hwyliodd i'r Ariannin ar fwrdd y Mimosa pan oedd yn dair oed ac yn 1885 roedd yn un o'r 'rifleros', sef y dynion farchogodd ar draws y paith er mwyn dod o hyd i fwy o dir ffrwythlon i'w wladychu - a sefydlu Cwm Hyfryd lle mae Esquel a Threvelin heddiw. Ei gartref ef oedd tŷ cyntaf Trevelin, ac mae croeso i ymweld â 'Cartref Taid' lle mae bedd y Malacara. Yn ôl yr hanes, aeth John Daniel Evans a thri Chymro arall i chwilio am aur pan ymosodwyd arnynt gan Indiaid. Dihangodd John Daniel Evans wrth i'w geffyl, Malacara ('wyneb hyll') neidio yn wyrthiol dros ddibyn serth, ond lladdwyd y tri arall a'u claddu mewn man a elwir 'Dyffryn y Merthyron'. Teimlwn yn eithaf 'star struck' yn siarad gydag ef, a dweud y gwir! Ond dyw gor gor ŵyr John Daniel Evans ddim yn siarad Cymraeg - heblaw 'bara menyn' - a meddyliais ei fod yn drueni nad yw disgynydd gŵr oedd mor flaengar yn hanes y Cymry ym Mhatagonia yn gallu'r Gymraeg. Cafodd ef ei synnu'n fawr a'i siomi pan esboniais wrtho mai ychydig iawn o boblogaeth Cymru sy'n gallu'r Gymraeg, a rhoddodd hynny bersbectif gwahanol ar bethau.
Gyrhaeddon ni pen ein taith am 8 o'r gloch fore Gwener ac ar ôl rhyw awr o gwsg a gwledd o frecwast yn y cabaña yng nghwmni'r mynyddoedd, casglodd Victor a Clare ni er mwyn mynd am dro i'r parc cenedlaethol. Mae Los Alerces yn ymestyn dros 2,630km sgwâr ar hyn y ffin a Chile, ac yn ogystal â choed yr alerce mae yn y parc nifer fawr o atyniadau byd natur a dim ond cornel o'r parc lwyddon ni i'w weld mewn bore. Fues i yn y parc gydag Ysgol Camwy y llynedd, ond roedd y golygfeydd yr un mor drawiadol - y rhaeadrau'n rhuthro, y llyn llonydd, y coed tal cadarn, y mynyddoedd eang a'u copaon gwynion. Mae rhyw ddistawrwydd hudol yn perthyn i'r lle, ac ar ôl i niwl y bore godi cawson ni bicnic ar lan y traeth cyn mynd am dro drwy'r coed. Yn dilyn noson o deithio a bore o awyr iach, cysgon ni siesta bach haeddiannol cyn mynd i Ysgol Gymraeg Trevelin gydag Iwan a pharatoi gwledd ar gyfer Noson i'r Ifanc. Bwrgeri oedd ar y fwydlen ac ro'n nhw'n hynod o flasus!Gysgon ni'n weddol hwyr y bore canlynol, cyn i Clare a Victor ein casglu drachefn. Aethon ni i'w cartref y tro hwn lle mae ganddyn nhw ddau geffyl(yn ogystal â chi a dwy gath) sef Harri ar gyfrif patshyn gwyn ar ei dalcen a Moreira sy'n enw ar gaucho enwog yn yr Ariannin. Ges i wisgo 'chaps' i farchogaeth, a diolch byth achos byddai'n legins i wedi bod yn dwll oni bai amdanyn nhw! Cawson ni ein tair dro yn marchogaeth Harri drwy'r ardd, ac at fan sy'n edrych dros yr afon a rhan o Drevelin. Braf. Wedi cwpl o oriau o farchogaeth roedden ni i gyd yn barod am ein cinio, a neb yn ei haeddu yn fwy na'r ceffylau - llowcion nhw'r moron a'r afalau, a bron iawn i ni golli ein bysedd ar gyfrif eu chwant bwyd! A beth oedd ein cinio ni? Bwrgeri! Be well ar ôl prynhawn arall o awyr iach a llond ein bol o fwyd ond cysgu siesta i gyfeiliant y glaw'r tu allan?!
Roedd Iwan wedi estyn gwahoddiad i ni gael swper yn ei fflat yng Nghanolfan Gymraeg Esquel y noson honno, ond roedd e'n gwrthod yn lân â datgelu'r fwydlen i ni. Felly roedd hyn yn amlwg yn peri pryder! Wrth gamu dros drothwy'r ganolfan croesawyd ein clustiau gan sain cerddoriaeth Nadolig a'n ffroenau gan arogl coginio cartrefol cyfarwydd, a chawson ni ein croesawu gan Iwan - 'Nadolig Llawen!' Yn dilyn sylw ysgrifennais i ar y we'r wythnos flaenorol yn dweud fod 'na naws Nadoligaidd i Batagonia ar gyfrif yr oerfel, cafodd Iwan syniad cyfrinachol i baratoi cinio Nadolig ar ein cyfer ni! A dyna lle'r oedd y cyw iâr yn dynwared twrci yn y ffwrn, wedi'i lenwi a stwffin a'i amgylchynnu gan datws rhost. Roedd tatws melys, brocoli a moron yn berwi'n braf, ffriwyd cennin mewn cryn dipyn o tsili, a pharatowyd saws bara a saws afalau - a phwdin Nadolig - ymlaen llaw. Am syniad penigamp! Roedd y cyfan yn flasus dros ben, ond fel sy'n digwydd bob Nadolig, fe fwytaodd bawb ormod - a difaru dim. Gyda'n boliau'n llawn aethon ni i Hotel Argentino a chwarae ambell gem o pŵl. A dwi'n falch iawn o gyhoeddi fod Tîm y Dyffryn wedi curo Tîm yr Andes! Ond collodd y Tîm dros 26 yn erbyn y Tîm dan 26; doedd hynny ddim yn ddechrau delfrydol i'r pen blwydd...
Ro'n i wedi pacio bagiau te Glengettie at y daith er mwyn cael paned o de Cymreig ar fy mhen blwydd. A dyna beth oedd dathliad mewn cwpan! Llwyddais i wasgu pob diferyn o'r bag a mwynhau tri phaned. Ar ôl siarad dros Skype gyda'r teulu oedd yn dathlu fy mhen blwydd dan heulwen Ystrad Meurig, ymddangosodd Sara ac Elliw gyda theisen gynta'r dydd ac ynddi gannwyll dan ganu 'Pen Blwydd Hapus'! Am ryw hanner dydd gyrhaeddon ni i gartref Clare a Victor ar droed lle'r oedd amrywiaeth o gig yn prysur goginio ar y parilla - salchicha, morsilla, bola de lomo a chorizo. Bu'n bwrw glaw yn sobr iawn felly ni ellid cael asado awyr agored, a llanwyd y ty ag arogl sawrus dros ben. Ymhen hir a hwyr daeth yn amser i ni eistedd wrth y bwrdd bwyd a llenwi ein platiau gyda'r gwahanol saladau a'r cig a weiniwyd gan Victor. Wawi sôn am flasus! Wna i fyth flino ar asado, ac oni bai mod i'n gwybod fod teisen ar y ffordd buaswn i wedi plannu nannedd mewn sawl darn arall o'r cig gyda saws chimichuri wedi'i daenu drosto. Ond stopio fu raid ac ar ôl seibiant tra bod Clare yn trio cuddio'r ffaith ei bod hi'n addurno cacen, ymddangosodd ail gacen y dydd - un siocled gyda llenwad hufen ac eirin gwlanog, a chant a mil drosti! Diolch byth roedd y glaw wedi peidio erbyn ganol prynhawn, felly gerddon ni i Gapel Bethel Trevelin a chyrraedd i weld enfys yn ymestyn drosto. Roeddwn i wedi trefnu gydag Isaias y bydden ni'n cynnal oedfa ddwyieithog yn y capel, a daeth rhyw ugain o bobl i'r gwasanaeth a gwahanol rai yn cymryd rhan wrth ddarllen a gweddïo. Bendith fawr oedd cael rhannu'r efengyl gyda nhw. Darllenodd Isaías gyfieithiad Sbaeneg o'r neges, ac ar ôl traddodi'r fendith ganodd bawb 'Pen Blwydd Llawen' cyn mynd i'r ysgol am de parti - a dyna lle'r oedd cacennau rhif tri a phedwar! Roedd hwn yn ddiwedd braf dros ben i benwythnos bythgofiadwy, ac wedi lleddfu rhywfaint ar y broses o heneiddio...
Diolch yn fawr i bawb am y cyfarchion, y cwmni a'r caredigrwydd! x

Suscribirse a:
Entradas (Atom)