‘Mae bywyd hamddenol y Wladfa yn brysur iawn, tydi?’ dywedodd Luned wrtha i’r wythnos diwethaf. Gallwn i ond cytuno â hi. Ac mae’r digwyddiadau ychwanegol sydd wedi cael eu cynnal dros yr wythnos diwethaf wedi bod yn enghraifft dda o hyn!
Ymweliad y Llysgenhades
Daeth y Llysgenhades Brydeinig, Shan Morgan i ymweld â Dyffryn Camwy er mwyn ffarwelio â'r gymuned Gymraeg cyn iddi orffen ei chyfnod o dair blynedd a hanner yn Buenos Aires ddydd Sul nesaf. Rhwng ei hymweliadau â Chapel Bethel, Ysgol yr Hendre, Amgueddfa’r Gaiman, yr Ysgol Feithrin ac Ysgol Camwy, daeth hi am de prynhawn gyda'r athrawesau Cymraeg i Dŷ Camwy - fi, Elliw, Clare a Sara. Er mai ‘paned o de a phlât o bice bach’ oedd yr archeb, paratôdd Elliw bwdin bara a finnau’r pice bach a theisen foron. Diolch i Irma am y rysáit! Taenwyd lliain dros fwrdd yr ystafell flaen a gosodwyd y llestri gorau arno'n soffistigedig reit, yn ogystal â’r danteithion. Cyrhaeddodd y Llysgenhades a llifodd y te wrth i ni sgwrsio am hyn llall ac arall yn hamddenol braf. Taith fer yn unig oedd hon i'r dyffryn, ond roedd hi wrth ei bodd ac yn falch iawn o'r cyfle i ymweld â'r gymuned Gymraeg cyn iddi adael gan fynegi pwysigrwydd y cysylltiadau rhyngddi hi a Phrydain. Dim ond am ryw awr fu hi gyda ni cyn cael ei thywys yn ôl i Drelew. Bwytaodd hi ddwy bice, ond gystyngodd eu nifer a diflannodd y ddwy deisen arall yn raddol wrth i'r te parti barhau. Tybed pryd fydd y lliain bwrdd a'r llestri'n cael eu defnyddio nesaf...
Diwrnod Rhyngwladol Twm Siôn Cati
Eleni yw'r trydedd flwyddyn i Ddiwrnod Rhyngwladol Twm Siôn Cati gael ei ddathlu, a'r trydydd tro i ddisgyblion Ysgol yr Hendre siarad gyda phlant Ysgol Gynradd Tregaron dros Skype. Trefnais y digwyddiad ac ymunais â Sara a blynyddoedd 5 a 6 yr Hendre wrth iddyn nhw sgwrsio gyda'r plant yng Nghymru gan rannu profiadau am eu diwrnod. Roedd plant Tregaron wedi gwneud taith gerdded tair milltir o amgylch y dref y bore hwnnw (cymerais ran yn y daith gerdded wrth ffilmio eitem arni ddwy flynedd yn ôl), a phlant yr Hendre wedi darllen stori am hanes Twm Siôn Cati a llunio proffil ar ei gyfer. Er gwaetha'r trafferthion technegol, llwyddodd y plant i gynnal sgwrs ddifyr am ryw hanner awr gan sicrhau cysylltiad llwyddiannus arall rhwng y ddwy ysgol.
Diwrnod yr Amgueddfeydd
Roedd y 18fed o Fai yn Ddiwrnod yr Amgueddfeydd a derbyniais alwad ffôn ychydig ddiwrnodau ynghynt yn fy ngwahodd i ymuno ag Amgueddfa'r Gaiman mewn digwyddiad arbennig roedden nhw'n mynd i'w gynnal i nodi'r achlysur. Felly ar fore'r 18fed paratois does pice'r maen (tamaid bach fel Blue Peter) a'u torri'n gylchoedd bach yn barod i'w pobi ar faen oedd wedi bod yn cynhesu ar ffwrn hynafol yn yr amgueddfa ers teirawr. Felly gwisgais i ffedog â'r Ddraig Goch arni (diolch Elliw) a Tegai ei ffedog wen hithau, yn barod i bobi! Roedd mynediad i'r amgueddfa am ddim a'r sawl a ddaeth yn cael eu croesawu gan wynt cartrefol y pice, ac wrth gwrs yn cael cynnig i'w blasu. Paratowyd arddangosfa o agarraderas ('potholders') a wnaed gan wragedd lleol hefyd, gyda rhyw ugain ohonyn nhw'n hongian yn lliwgar ar y waliau. A bod yn onest, rhyw hanner dwsin o bobl ddaeth i'r amgueddfa yn ystod yr awr y buon ni wrthi'n pobi, ac yn eu plith y wraig sy'n tynnu lluniau ar gyfer y papur lleol! Credai pob un fod y syniad yn un da, gan fwynhau'r pice bach. Dosbarthwyd copïau o'r rysáit hefyd er mwyn iddyn nhw allu rhoi cynnig ar eu gwneud eu hunain. Anfonwyd llun a phwt bach am y digwyddiad at rywun pwysig yn Buenos Aires, ac mae'n debyg i'r digwyddiad gael derbyniad da!
Porth Madryn
Yn syth bin ar ôl i fi ddiosg fy ffedog, ges i a fy mhac lifft i orsaf fysiau Trelew lle’r o’n i’n dal y bws i Borth Madryn. Lorena yw’r unig athrawes Gymraeg ym Madryn, ac mae hi’n cynnal dau ddosbarth ar nos Wener; dau sy’n mynychu’r cwrs WLPAN (y naill newydd ddechrau a’r llall yn dysgu ers blwyddyn) a thair yn yr Uwch. Dwi’n mynd yno’n achlysurol i gynnal gweithgareddau Cymraeg gyda’r sawl sy’n mynychu’r dosbarthiadau ac i unrhyw siaradwr Cymraeg sydd eisiau cyfle i ymarfer. Pan gyrhaeddon ni Dŷ Toschke (cartref y dosbarthiadau Cymraeg a Chymdeithas Gymreig Porth Madryn) roedd ’na wynt hyfryd yn dod o’r gegin gan fod Betty wrthi’n pobi sgons, ac roedd y bwrdd wedi cael ei osod yn daclus a chroesawgar ar gyfer te. Teimlwn fel llysgenhades! Felly cyn gwneud unrhyw beth arall cawson ni baned, bara menyn a jam (y tro cyntaf i fi flasu jam grawnwin) a sgons wrth sgwrsio’n hamddenol braf – am fwyd a choginio yn bennaf! Roedd hi'n braf eu clywed yn siarad gyda'i gilydd, ac ambell un roeddwn i wedi cwrdd â nhw y llynedd yn siarad gyda chymaint mwy o hyder a rhwyddineb eleni. Ar ôl i bawb gyrraedd, wyth ohonom, dechreuon ni ar y gweithgareddau. Y peth cyntaf oedd i bawb gyflwyno’u hunain ond ro’n i wedi dosbarthu darnau o bapur gydag ansoddair gwahanol ar bob un. Roedd yn rhaid i’r gweddill ddyfalu pa ansoddair oedd yn cael ei gyfleu, a diddorol oedd gweld dehongliadau o ‘crac’, ‘oer’ ac ‘araf’!Roedd y te yn dal i lifo a'r gwynt yn chwythu'n gryf y tu allan wrth i ni ddarllen Clecs Camwy a gwneud gweithgareddau yn seiliedig ar y darnau hynny, cyn i ni setlo i wylio rhifyn cyntaf y rhaglen 'Cof Patagonia' - diolch i S4C am y dvd. Canolbwyntiai'r rhifyn hwn ar flynyddoedd cynnar y Wladfa ac mae'r gyfres gyfan yn cael ei chyfleu trwy luniau a chyfweliadau. Roeddwn i wedi'i gwylio ymlaen llaw, ond roedd hi'n brofiad gwahanol ei gwylio gyda rhai o ddisgynyddion y bobl oedd yn yr hen luniau, wrth iddyn nhw bwyntio at wahanol bobl gan ddatgan 'fy hen daid', neu 'fy hen fodryb', a chafodd un llun ei dynnu o briodas hen fam-gu a thad-cu un ohonyn nhw! Roeddwn i wedi paratoi rhyw hanner dwsin o gwestiynau iddyn nhw eu hateb ar ôl gwylio'r rhaglen, a chafwyd trafodaeth fer ond difyr ar ei chynnwys cyn i ni fentro allan i wynt y nos. Es i a Lorena allan am swper i fwyty lle'r oedd tîm pêl-droed Madryn yn swpera - y diwrnod canlynol enillon nhw o gôl i ddim yn erbyn River Plate, sef un o brif dimau'r Ariannin!
Cymanfa Ganu Glan Alaw
Doedd dychwelyd i'r Gaiman ddim yn weithred rhwydd y bore canlynol. Cyrhaeddai'r bws o Fadryn bum munud ar ôl i'r bws adael Trelew, felly rhaid oedd aros deugain munud am y nesaf, ac ar ôl gollwng ambell deithiwr ar hyd y ffordd gwrthododd y bws ailddechrau rhyw bum munud y tu allan i'r Gaiman. Diolch byth, daeth bws arall i'n cludo ymhen ugain munud gan droi taith awr a hanner yn daith deiawr! Ond cyrhaeddais i Dŷ Camwy yn ddiogel. Rhyw awr a hanner yn ddiweddarach bant â ni i Gapel Glan Alaw lle’r oedd Cymanfa Ganu arbennig yn cael ei chynnal. Ar 15 Mai roedd y capel yn dathlu 125, a bydd rhywfaint o’i hanes yn y rhifyn nesaf o Clecs Camwy! Hwn yw’r lleiaf o’r capeli Cymreig ac afraid dweud ei fod yn orlawn gyda rhai yn sefyll wrth y drws a hyd yn oed y tu allan wrth i’r canu ddechrau. Cyfuniad o’r Gymraeg a’r Sbaeneg oedd yr emynau eto, a phob un yn cael eu cyflwyno’n ddwyieithog. Ac roedd y canu yn drawiadol fendigedig! Ond Sbaeneg oedd rhan helaetha’r gwasanaeth gyda neges y Parch. Carlos Ruiz yn sôn am bwysigrwydd yr addoldy fel lle i lawenhau, i gydgyfarfod ac i addoli. Rhannodd ambell un hanesion eu teulu a phrofiadau personol o fynychu Capel Glan Alaw, a chyflwynodd Cymdeithas Dewi Sant blac i’r capel i nodi'r achlysur arbennig a ddadorchuddiwyd yn ystod y gymanfa. Oherwydd y doreth o eitemau parodd y gymanfa ddwy awr, a doedd fy newis i o ddarlleniad Cymraeg ddim yn help! Darllenais Effesiaid 2:1-23 gan mai ‘heddwch yng Nghrist’ yw thema’r cymanfaoedd eleni. Roedd hi’n fraint cael rhannu gair Duw gyda’r dorf os oedden nhw’n ei ddeall ai peidio. Ar ôl canu’r emyn olaf, ‘Calon Lân’, darparwyd te ar dir y capel gan nad oes yno festri. Ond fe adawon ni cyn hyn achos...
Noson Gyri
Mae pobl wedi bod yn gofyn i fi pryd fydd Nosn Gyri yn cael ei chynnal ers yr un diwethaf fis Ebrill 2011 ac o'r diwedd, fis Mai 2012 daeth diwedd ar yr holi! Y tro hwn cynigion ni wers ar sut i goginio cyri ychydig oriau cyn y digwyddiad ei hun, ac roedd rhyw hanner dwsin ohonon ni yng nghegin Plas-y-Coed yn paratoi cyri cyw iâr, bara naan a phwdinau gyda'n gilydd. Roedd tri chyri - cyw iâr, cig eidion a phwmpen - llond y lle o reis, bara naan a gwahanol fathau o gatwad yn barod erbyn i ryw hanner cant o blant ac oedolion gyrraedd! Diolch byth, roedd digon o fwyd i bawb (ac ail blataid i rai) felly doedd dim angen rhedeg i'r siop drwy'r drws cefn fel y llynedd. Ac o, roedd y bwyd yn flasus dros ben! Diolch i Ana ac Esyllt. Ar ôl clirio'r platiau gwag daeth y pwdin, sef swis rôl gyda dewis o jam llaeth neu hufen a mefus i'r sawl oedd wedi cadw lle ar ôl y wledd! Ac wrth gnoi'r pwdin rhannwyd yn dimau i gnoi cil dros gwestiynau roedd Elliw wedi'u paratoi ar gyfer y Cwis Bwyd. Roedd y cwis yn un addysgiadol dros ben - pwy wyddai mai'r afon farch (hipopotomws) oedd cynhwysyn y cawl cyntaf, fod angen deuddeg gwenynen i gynhyrchu llwy de o fêl, a bod gwartheg yn bwyta am wyth awr y dydd? 'Blodyn' oedd y tîm buddugol, a'r aelodau yn ennill cryno ddisg Cymraeg yr un. Aeth y noson yn ei blaen i gyfeiliant Billy a'i gitâr, ac ymunodd pawb i ganu amryw ganeuon traddodiadol Cymraeg ac Archentaidd - 'Milgi Milgi', 'Moliannwn', 'Y Mochyn Du', a 'Las Golondrinas' i enwi ond ychydig. Roedd yr awyrgylch a'r mwynhad yn wefreiddiol, a'r gân i gloi'r noson oedd 'Hen Wlad Fy Nhadau, wrth gwrs. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau. Mae ambell un wedi dechrau holi am Noson Gyri nesaf yn barod!
Oedfa Gymraeg
Ar bedwerydd Sul y mis mae Capel y Tabernacl Trelew a Chapel Bethel y Gaiman yn cynnal oedfaon Cymraeg - y naill yn y bore a'r llall yn y prynhawn. Mae Dyffryn Camwy wedi cael ei bendithio gan waith diflino sawl pregethwr o Gymru dros y blynyddoedd, ond does neb wedi bod yma ers Awst 2010. Felly cefais i wahoddiad i gynnal yr oedfaon cyfrwng Cymraeg y llynedd, a phrofais i wir fendith dro ar ôl tro wrth rannu gair Duw gydag aelodau'r ddau gapel. Does dim pregethwr wedi dod eleni chwaith, a derbyniais y gwahoddiad yn llawen unwaith eto. Ond mae pedwerydd Sul mis Mai yn ystod penwythnos hir a bydda i ar fy ngwyliau yn yr Andes, felly cynhaliwyd oedfa Gymraeg Capel Bethel am 5 o'r gloch ar brynhawn y trydydd Sul. Er gwaetha'r oerfel y tu allan roedd rhyw ddeunaw ohonom ni yn y Capel, sy'n anarferol o uchel a bod yn deg. Hebreaid 12:1-13 oedd testun y gwasanaeth, gan ganolbwyntio ar adnodau 1-2 wrth roi pwyslais ar gadw ein golwg ar Iesu ac ar annog ein gilydd wrth i ni redeg y ras. Yn ôl ein harfer, aeth chwech ohonom ni wragedd am baned a sgwrs i Siop Bara ar ôl yr oedfa yn dechrau wythnos arall.
Felly i'r sawl sy'n meddwl mai'r 'mañana mañana' sy'n llwyodraethu yn y Wladfa, dwi'n gobeithio fod y cofnod hwn yn profi i'r gwrthwyneb!
Hynt a helynt Lois a´i gwaith gyda Menter Patagonia yn Nyffryn Camwy.
miércoles, 23 de mayo de 2012
lunes, 14 de mayo de 2012
Anifeiliaid, Bwyta, Cyflenwi, Chwarae, Diolch...
Dwi nôl ym Mhatagonia ers dros fis bellach, a dyma hanes ambell beth dwi wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar...
Cyflenwi
Dwi wedi bod yn gwisgo capan yr athrawes gyflenwi yn ddiweddar. Yn ystod fy wythnos gyntaf gymerais i ddosbarth Pellach gyda chriw arddegau Ysgol Camwy, lle cafodd pob un ohonom funud i siarad am ein gwyliau haf (neu aeaf yn fy achos i) cyn i bawb arall eu holi am y gwyliau. Treuliodd pob un ohonyn nhw amser ar y traeth, a gofynnwyd i fi, ‘Buest ti ar y traeth?’ Esboniais nad yw torheulo ar draeth Aberystwyth ganol mis Ionawr yn syniad call! Mae Ana newydd ddychwelyd ar ôl treulio tair wythnos yng Nghymru, a chyflenwais dau o’i dosbarthiadau. Ffrindiau i fi sy’n mynychu’r cwrs Uwch yn Nhrelew, felly dreulion ni’r rhan fwyaf o’r amser yn ‘ymarfer ein Cymraeg’ drwy sgwrsio dros bice’r maen a mate cyn troi at y gwaith roedd Ana wedi’i adael i ni. Un weithgaredd oedd eu bod nhw’n dewis cwestiynau gosod i’w gofyn i fi o restr – ‘Oes diddordebau gyda ti?’, ‘Beth wyt ti’n meddwl o’r teulu brenhinol?’, ‘Beth wyt ti’n meddwl o operâu sebon?’ Dwi'n falch mod i'n colli dathliadau'r Jiwbili. Dwi´n gweld eisiau Pobol y Cwm. Mae´r IPPI yn Nhrelew yn goleg sy´n hyfforddi athrawon Saesneg, ac yn rhan o´u cwrs mae´n rhaid i´r myfyrwyr ddysgu iaith arall – Cymraeg. Maen nhw'n ddechreuwyr pur oedd ond wedi cael tair gwers cyn i fi gwrdd â nhw, ond roedden nhw´n frwd iawn. Treulion ni dipyn o amser yn adolygu cyflwyno ein hunain a´r gwahanol gyfarchion cyn mynd ati i ddysgu ´Dwi eisiau´ ac ´Maen nhw eisiau´. Dwi erioed wedi rhoi gwers WLPAN o´r blaen, felly roedd cynnal dosbarth am ddwy awr yn dipyn o her. Ond fe ddaethon ni drwyddi gyda´n gilydd trwy chwarae gêmau, drilio, sgwrsio a chwerthin - a´r cyfan dros sawl rownd o fate, wrth gwrs!
Mae dwy athrawes i bob dosbarth yn Ysgol Feithrin y Gaiman, ac mae un o’r rhai sy’n dysgu Dosbarth Gwyrdd yn gwneud deufis o brofiad gwaith ar hyn o bryd. Felly dwi’n cymryd y dosbarth hwnnw (3-5 oed) am yr awr a hanner cyntaf bob dydd Mercher ac Iau nes bod yr athrawes arall yn cyrraedd o Ysgol Bryn Gwyn. Dwi heb fod i ddechrau’r Meithrin o’r blaen, a dyma drefn yr awr a hanner cyntaf... Wrth i’r plant gyrraedd maen nhw’n cael cyfle i chwarae’n rhydd am dri chwarter awr, felly gemau bwrdd, jig-so, lliwio, ac ry’n ni hefyd yn canu weithiau. Am 2.30 mae’r ddau ddosbarth hynaf yn ffurfio trên er mwyn mynd allan i’r iard yn daclus i godi’r faner – mae hyn yn feunyddiol orfodol ym mhob ysgol yn yr Ariannin, dan ganu ‘Cân y Faner’. Dwi’n cael gwefr o wrando ar y plant 2-5 oed yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ wedyn hefyd! Ac am yr 20 munud nesaf mae plant Dosbarth Gwyrdd yn cael ‘chwarae allan’, fel maen nhw’n hoffi dweud, nes i Cinthia gyrraedd. Dwi’n ymuno â nhw yn y chwarae, wrth gwrs, er mai cynnig help llaw i rai ar y llithren uchel dwi’n ei wneud gan amlaf! Ar ôl chwarae allan ar ddydd Iau dwi’n mynd o un dosbarth i’r llall yn darllen stori. ´Smot´, 'Lliwiau'r Gath' ac ‘Y Teigr Bach Unig’ oedd llyfrau'r wythnos diwethaf i gydfynd â´r thema Anifeiliaid. Ac aeth Dosbarth Gwyrdd ar drip ysgol i Sw Rawson, a ches i fynd gyda nhw! A bod yn onest, dwi ddim yn credu mai 'sw' fydden i'n galw'r lle. Roedd yn debycach i Anifeilfa Borth gyda'i amrywiaeth randym o anifeiliaid - mwnci, arth, condoriaid, moch cwta, ffesantod, pain, ceffyl, gwanacos, llwynogod, geifr, ceirw, piwmas, moch, dyfrgi, a theigr oedd yn cysgu allan o'r golwg! Doedd dim llawer o le ganddyn nhw i ymestyn eu coesau, adenydd neu gynffonnau a dweud y gwir, ond roedd y plant wrth eu bodd yn gweld y gwahanol anifeiliaid! Cawson ni bicnic gyda'n gilydd a chyfle i chwarae yn y parc cyn dychwelyd i'r Gaiman ar y bws.
Noson yn Neuadd Dewi Sant
Y noson honno cynhaliwyd noson arbennig yn Neuadd Dewi Sant Trelew. Roedd hi'n gyfuniad o'r llon a'r lleddf - llon wrth i ni groesawu Sara yn athrawes newydd Ysgol yr Hendre, a'r lleddf gan ein bod ni'n ffarwelio â Pedr sydd wedi bod yn dysgu yn yr ysgol ers mis Chwefror. Roedd y neuadd yn llawn hyd yr ymylon, ac i ddechrau hwyl a miri'r noson arweiniodd Pedr bawb ar gân, 'Calon Lân' a 'Sosban Fach'. Wedyn ymunodd pobl o bob oed mewn twmpath, oedd yn ddigon o ddawnsio i godi chwant bwyd. A diolch byth fod pawb wedi dod â chyfraniadau, ac roedd y byrddau'n gwegian dan bwysau empanadas, pitsas, brechdanau, a chreision. Mae dewis empanadas yn anodd gyda'r gwahanol lenwadau posib, ac mae'n amhosib gwybod pa lenwad sy'n cuddio tu fewn i'r toes heb eu trio. Felly dyna fy esgus i am fwyta pedwar! Roedd hi'n ben blwydd ar Elliw, felly ymddangosodd gacen wrth i ni ganu 'Pen Blwydd Llawen' iddi, a dosbarthwyd gwahanol gacennau wrth i'r twmpath barhau. Does gen i ddim esgus am yr holl gacennau fwyteais i! Trodd y gersdoriaeth werin yn cumbia gyda'r sawl oedd yn weddill ddawnsio wrth i ni glirio a glanhau. A pharhau wnaeth y gerddoriaeth gydag ymweliad â chlwb carioci i ddathlu pen blwydd Elliw - a do, cododd y Cymraesau i ganu! Mae'n drueni nad o'n i'n gallu canu yn Sbaeneg (neu'n Gymraeg) fel pawb arall. 'Don't stop me now' oedd ein cân ni...
Pen Blwydd Hapus Dad!
Roedd fy annwyl dad yn dathlu pen blwydd go arbennig yr wythnos diwethaf, a gan na allwn i ymuno yn y dathliadau gyda'r teulu gwnes i gais arbennig am gyfarchion iddo ar raglen radio Tegai a Luned. Cytunwyd, ond yn fwy na hynny, ges i ddewis cân a mynd gyda nhw i'r orsaf radio! Dwi'n credu mai hwn oedd y pedwerydd, os nad pumed tro i fi fod yn Radio Chubut a gyrhaeddon ni yno gydag ond rhyw chwe munud cyn i'r rhaglen gael ei darlledu'n fyw. Yn ôl yr arfer dechreuwyd gyda'r 'fallicimientos' (marwolaethau) a chwarae ambell gân, wedyn daeth y cumpeaños. Roedd sawl cyfarchiad pen blwydd, a chyn rhoi'r ddau olaf esboniwyd nad y'n nhw'n dymuno 'pen blwydd hapus' i bobl sy'n iau nag 80 oed fel arfer ond eu bod nhw'n gwneud eithriad y diwrnod hwnnw! Felly dymunwyd 'Pen Blwydd Hapus Iawn' i Elliw yn gyntaf, a wedyn Elgan Philip Davies - 'el papa de Lois Dafydd!' Dyna oedd fy nghiw i ddod ar y meic a chyfarch Dad cyn iddyn nhw chwarae 'Dinas Dinlle', gan fod Dad yn aelod o Hergest. Rhaglen gerddoriaeth Gymraeg yw hi gyda chaneuon gwerin neu gorawl yn cael eu chwarae gan amlaf, felly roedd chwarae cân roc a phop yn fentrus. Ond bu Luned wrthi'n symud ei breichiau a Tegai'n tapio'i throed ar y llawr - 'Doedd o ddim yn ffôl!' Felly Pen Blwydd Hapus Iawn Dad! X
Diolchgarwch
Mae'r tymor diolchgarwch yn parhau yma yn Nyffryn Camwy. Ar y 6ed o Fai cynhaliwyd oedfa yng Nghapel Bryn Crwn ac ar y 13eg yng Nghapel Bethlehem Treorci. Cenais i gyda chriw o bobl ifanc yng Nghapel Treorci, sef yr unig gapel sy'n darparu te ar ôl pob oedfa! 'Mae fel Gŵyl y Glaniad' oedd ymateb un wraig i'r wledd o de, brechdanau a chacennau oedd wedi cael eu gosod ar y bwrdd!
Helfa Drysor
Bythefnos yn ôl gofynnodd blant dosbarth ieuengaf yr ôl-feithrin am helfa drysor yn y fan a'r lle, gudag ond pum munud o'r wers yn weddill! Felly addewais baratoi un erbyn y tro nesaf. Does dim llawer o sgôp ar dir Ysgol Camwy na Thŷ Camwy i greu helfa ddiddorol, felly roedd meddwl am leoliadau a chlowiau yn anodd. Ond dwi'n falch fod y ddwy a ddaeth wedi mwynhau rhedeg o un lle i'r llall i ddod o hyd i'r cliwiau - a chael rhwber y ddraig goch yn drysor! Wnaethon nhw fwynhau cymaint nes iddyn nhw ofyn am un arall erbyn y wers nesaf. Tybed a fyddan nhw'n sylwi pe bawn i'n defnyddio'r un cliwiau...
Gwener Gwenu
Mae Cymraeg yn bwnc gorfodol ar gyfer tair blynedd cyntaf ysgolion uwchradd Camwy ac Aliwén, gyda'r naill wedi'i lleoli yng nghanol y Gaiman a'r llall ar ei chyrion. Penderfynodd athrawes Gymraeg y ddwy ysgol, Caren Jones, ddod â dosbarth cynta'r ddwy ysgol at ei gilydd ar gyfer prynhawn o weithgareddau cyfrwng Cymraeg o'r enw 'Gwener Gwenu'. Felly am 1.50 brynhawn Gwener yr 11eg o Fai esgynnais y bws gyda 35 o ddisgyblion Camwy a mynd i Ganolfan Arturo Roberts lle'r oedd tua'r un nifer o ddisgyblion Aliwén yn ein disgwyl! Dwi'n siŵr fod yr un perh yn wir ym mhob pentref, tref neu ddinas lle mae mwy nag un ysgol, fod 'na ryw elyniaeth rhyngddyn nhw, ac mae'r un peth yn wir am y ddwy ysgol hon. Felly yn ogystal ag annog y plant i ddefnyddio'r hyn o Gymraeg maen nhw wedi'i ddysgu dros y deufis diwethaf, roedd y prynhhawn hefyd yn gyfle i geisio meithhrin perthynas rhwng y ddwy ysgol. Ond wrth i bawb eistedd ar lawr y neuadd, ffurfiodd afon lydan rhyngddyn nhw, a thipyn o gamp oedd ceisio adeiladu pont drosti! Canu oedd y weithgaredd gyntaf, ac ar ôl i bawb ddysgu'r geiriau canon ni 'Pnawn da! Pnawn da! Sut wyt ti? Sut wyt ti? Da iawn, diolch. Da iawn, diolch. Sut wyt ti? Sut wyt ti?' ar dôn gron. Wedyn ffurfiwyd y Cylch Siarad, sef dau gylch yn wynebu ei gilydd mewn parau a phawb yn dilyn sgerbwd o sgwrs oedd wedi cael ei rhoi ar bapur cyn rhannu´n bedwar grŵp ar gyfer y gêmau. Gan ei bod hi mor oer a gwyntog, cynhaliwyd y gêmau i gyd dan do - dwy gêm rifau, un gêm fwyd, a gêm liwiau. Fi a´r parasiwt oedd yn gyfrifol am y gêm liwiau, felly ro´dd pob grŵp yn dechrau trwy ddysgu´r lliwiau - coch, glas, melyn, gwyrdd - cyn chwarae´r gêm gyfnewid. Byddai pawb yn codi´r parasiwt gyda´i gilydd a finnau´n gweiddi lliw, a´r sawl oedd ar y lliw hwnnw´n rhedeg o dan y parasiwt i gyfnewid lle. Bois bach am sŵn, ac ar ôl ei chwarae gyda phedwar grŵp am 10 munud yr un afraid dweud nad oedd gen i lais nag egni ar ôl! Rhannwyd yn ddau grŵp i ddod â´r prynhawn i´w therfyn, a thra roedd un yn llenwi holiadur werthuso roedd y llall yn dawnsio gwerin. Wel sôn am strach - doedd y merched ddim eisiau dawnsio gyda´r bechgyn, a doedd y bechgyn ddim eisiau dawnsio gyda´r merched! A bod yn deg, pan o´n i´n mynd i Langrannog yn ddeuddeg oed do´n i ddim eisiau dawnsio gyda´r bechgyn chwaith! Cafodd bawb alfajor i´w fwyta wrth adael y ganolfan, a dwi´n credu fod pawb yn gwenu wrth esgyn y bws am adref.
Clecs Camwy
Mae rhifyn Ebrill Clecs Camwy bellach wedi´i hargraffu ac yn cael ei dosbarthu. Ac wrth gwrs, mae ar gael i´w ddarllen ar wefan Menter Patagonia: www.menterpatagonia.org

miércoles, 2 de mayo de 2012
Cropian y Capeli, ac Anturiaethau Eraill
Roedd y penwythnos diwethaf yn ‘fin de semana larga’, sef penwythnos hir gan fod y dydd Llun a’r dydd Mawrth yn ddiwrnodau o wyliau. A dyma pam...
Ar y 30ain o Ebrill mae Chubut gyfan yn cofio’r ‘Plebiscito’, sy’n nodi digwyddiad pwysig yn hanes yr Ariannin gyfan, mewn gwirionedd. Ar drothwy´r 20fed ganrif, roedd anghydweld ynglŷn â lle’r oedd y ffin rhwng yr Ariannin a Chile. Honnai rhai y câi’r gwledydd eu diffinio yn ôl rhediad mynyddoedd yr Andes tra mynnai eraill mai llif yr afon oedd y ffin. Byddai’r penderfyniad yn effeithio ar ddyfodol cymunedau Cymreig yr Andes, gydag un yn cadw´r cymunedau yn yr Ariannin a´r llall yn golygu eu bod bellach yn rhan o Chile. Ar 30 Ebrill 1902, pleidleisiodd y bobl leol (sef y Cymry) o blaid aros yn yr Ariannin. Felly ar y 30ain o Ebrill bob blwyddyn mae acto yn cael ei gynnal yn Nhrevelin i gofio’r digwyddiad hanesyddol hwn, gan ddiolch i’r Cymry mai Archentwyr ydyn nhw o hyd. Ac mae gweddill y dalaith yn mwynhau diwrnod o wyliau. Enw arall ar y 1af o Fai yw Diwrnod y Gweithiwr, sy’n golygu fod gweithwyr yr Ariannin yn cael diwrnod o wyliau. Roedden ni’n bwriadu treulio’r gwyliau yma yn yr Andes, ond yn anffodus golygodd salwch nad oedd unrhyw siâp arnom ni i deithio ar hyd y paith. Felly arhoson ni yn y dyffryn, ac ar ôl deuddydd o orffwyso yn YsbyTŷ Camwy, cawson ni gwpl o ddiwrnodau i’w cofio hefyd...
Fel y nodais yn y blog diwethaf, mae 16 o ‘gapeli Cymreig’ yn y dyffryn a dwi’n credu mod i wedi bod i dri ar ddeg ohonyn nhw hyd yn hyn. Fuon ni´n ´Cropian y Capeli´ brynhawn Llun er mwyn ychwanegu dau arall at y rhestr, sef Capel Ebeneser a Chapel Bethel Tir Halen. Ond cyn hynny aethon ni i Fethel y Gaiman am snŵp gan fod criw ffilmio yn addurno’r festri ar gyfer un olygfa! Maen nhw wrthi’n ffilmio cyfres deledu yn seiliedig ar hanes John Daniel Evans, sef un o’r rifleros a sefydlodd Gwm Hyfryd yn yr Andes. Roedd y criw wrthi’n trawsnewid y festri yn lleoliad parti a gynhaliwyd yn Rawson i groesawu’r rifleros yn ôl o’u hantur yn 1886, felly roedd yno faneri Cymru, ac addurniadau coch, gwyn, a gwyrdd. Cawson ni gyfle i holi un gweithiwr oedd yn ffan mawr iawn o Gorky’s Zygotic Mynci, ond ar ôl treulio mis hir (ac un mis i fynd) ar y gyfres hon doedd e ddim yn rhy hoff o unrhyw beth arall sydd ag unrhyw gysylltiad â Chymru a braidd yn ddifrïol o´r Gymraeg wrth ei chymharu â´r hieroglyff – a doedd e ddim yn rhy swil i ddatgan hynny. Wel do’n ni ddim yn rhy hapus o glywed hynny a dweud y lleiaf, a bant â ni!
Mae ffermydd y dyffryn wedi cael eu rhannu’n sgwariau mawr, gyda ffyrdd caregog yn rhedeg rhyngddyn nhw. Felly mewn ardal eang a gwledig fel Tir Halen mae’r corneli i gyd yn edrych yn hynod o debyg – a doeddwn ni ddim yn gwybod ar ba gornel safai Capel Ebeneser! Ond daethon ni o hyd i Gapel Bethel yn ddidrafferth, er bod hwn hefyd ar ei ben ei hun y tu ôl i goed ar gornel pellennig. Er bod mwyafrif y capeli mewn lleoliadau diarffordd, mae ganddyn nhw osgo mor urddasol a chadarn sy´n ennyn parch ac edmygedd wrth i chi agosáu atyn nhw. O’r fan hon aethon ni i fynwent Tir Halen, sy wirioneddol yn bell o bob man. Yn ôl y sôn, dywedodd un dyn nad oedd e am gael ei gladdu ym Mynwent Tir Halen rhag ofn na fyddai’n gallu clywed y corn olaf! Dyw’r fynwent ddim yn fawr iawn, ac roedd yno feddi Cymraeg, Sbaeneg a Saenseg– mae’n debyg fod un garreg fedd Gymraeg yn denu ymwelwyr, sef un Jeremiah Jeffries (os dwi´n cofio´r enw´n iawn!) gafodd ei daro gan fellten pan oedd wrth ei waith yn trin y tir.
Amgueddfa Tir Halen oedd ein stop nesaf, sy’n un ystafell fawr yn llawn hanes y Cymry ym Mhatagonia. Eu ffordd o fyw, addysg, Cristnogaeth, diwylliant, gwisgoedd a gwaith, ac mae yno bob math o bethau sydd wedi cael eu rhoi i’r amgueddfa gan wahanol bobl, yn bennaf oll pobl o ardal Tir Halen - celfi (popty, gwely, cadeiriau, cypyrddau), offer cegin a llestri, peiriannau gwnïo, llyfrau, mapiau, a lluniau, ymysg nifer o bethau eraill. Mae’n lle diddorol dros ben, sy’n dangos cymaint mae nifer o drigolion yn ymfalchïo yn eu hunaniaeth Gymreig sydd mor gyfoethog.
Wrth i ni droi’n ôl am y Gaiman rhoddon ni un cynnig arall ar Gapel Ebeneser, gan gyrraedd y cornel cywir y tro hwn! Fyddwn i fyth wedi dod o hyd iddo y tu ôl i’r coed, ac edrychai fel tŷ ar droi’n adfail gyda phentwr o friciau ac offer y tu allan. Ond y rheswm dros hyn yw fod Capel Ebeneser yn cael ei atgyweirio ar hyn o bryd. A gan nad oes drysau i’r adeilad ar hyn o bryd, mewn â ni. Dim ond y festri oroesodd llifogydd 1899, a dyna fu´r addoldy ers hynny. Mae rhywfaint rhagor o hanes Capel Ebeneser yn rhifyn Ebrill Clecs Camwy! Mae tipyn i’w wneud cyn i’r gwaith gael ei gwblhau, ac o weld y nenfwd pren crand mae’n argoeli i fod yn adeilad trawiadol.Bron i flwyddyn yn ôl ffrwydrodd llosgfynydd yng ngogledd Chile a phoeri lludw tua Dyffryn Camwy, a bob hyn a hyn mae’r awyr yn troi’n llwydaidd gan ei gwneud hi’n amhosib gweld amlinelliad y bryniau. A diwrnod ych-a-fi fel ´na fuodd hi ddydd Llun, gyda’r gwynt cynnes yn chwythu’r lludw i bob man. Ond erbyn i ni gyrraedd Capel Glan Alaw roedd yr haul wedi llwyddo i wthio´i fysedd trwy rywfaint o´r lludw, gan agor ffenest fechan ar gyfer yr awyr las. Glan Alaw yw’r capel lleiaf o’r capeli Cymreig, a bydd yn dathlu ei ben blwydd yn 125 ar y 15fed o Fai. Efallai fod rhai ohonoch yn ei adnabod o´r ffilm ´Patagonia´.
Ar y ffordd nôl i’r Gaiman alwon ni yn nhŷ Ieuan ac Irma Williams er mwyn gofyn cwestiwn ynglŷn â rhywbeth, ac arhoson ni yno am bron i ddwy awr yn cloncian, yfed sawl paned o de a bwyta sawl darn o deisen – teisen blât a theisen foron. Que rico! Dwi wedi cael rysáit y deisen foron ac yn edrych ymlaen yn fawr at roi cynnig arni... Ddydd Mawrth daeth Sara, sef athrawes newydd Ysgol yr Hendre i ymweld â’r Gaiman am y tro cyntaf, felly roedd pwysau mawr ar fy ysgwyddau i ac Elliw wrth i ni ei thywys o amgylch y pentref. Ond a hithau’n Ddiwrnod y Gweithiwr, roedd pob gweithiwr ar ei wyliau a phob man ar gau! Felly y bont bren, Afon Camwy, muriau allanol y Tŷ Cyntaf a’r Amgueddfa, a muriau mewnol y twnnel, yr orsaf betrol (yr unig le oedd ar agor) a Thŷ Camwy oedd y rhaglen! Aethon ni hefyd i sbecian ar y criw ffilmio yng Nghapel Bethel unwaith eto, ond sefyllian oedd pawb felly troesom am adref yn barod i´r gweithwyr ddychwelyd i´n gwaith y diwrnod canlynol.

jueves, 26 de abril de 2012
¿Qué pasó?*
Dyma beth ddigwyddodd* yr wythnos hon...
Cymanfa Ganu
Ymhlith nifer o resymau eraill, ymsefydlodd y Cymry yn Nyffryn Camwy er mwyn cael rhyddid i addoli yn eu hiaith eu hunain. Felly yn ystod degawdau ola’r 19g a dechrau’r 20g adeiladwyd nifer o gapeli ar hyd a lled y dyffryn. Adeiladwyd y cyntaf yn Nhrerawson yn 1873 (neu Gaer Antur, i roi enw’r Cymry ar y dref) ond does dim olion ohono yno heddiw, ac yn ôl y sôn mae rhywun wedi dwyn y plac oedd yn nodi lleoliad y capel. Bellach mae 16 o ‘gapeli Cymreig’ ar hyd a lled y dyffryn, e.e. yn Nhreorci, Bryn Crwn, Trelew, Bryn Gwyn, Dolafon, Tir Halen, Gaiman, Bethesda, Drofa Dulog, Lle Cul. Mae´r mwyafrif ohonyn nhw mewn lleoliadau eithaf unig a diarffordd, a hynny gan iddyn nhw gael eu hadeiladu gan deuluoedd oedd yn byw ar y ffermydd cyfagos. Byddai teuluoedd niferus yn mynychu oedfaon yn y capeli hyn bob dydd Sul, ond erbyn hyn achlysurol yw´r gwasanaethau sy´n cael eu cynnal ynddyn nhw - er bod Bethel yn y Gaiman a´r Tabernacl yn Nhrelew yn cynnal dwy oedfa´r Sul.
Mae Cymdeithas Dewi Sant yn cynnal cymanfaoedd canu misol yn y capeli hyn, a thro Eglwys Dewi Sant Dolafon oedd hi fis Ebrill. Eglwys fach yw hon mewn cuddfan ynghanol y coed, ac edrychai’n ddigon hudolus wrth i ddail yr hydref gwympo o’i chwmpas fel plu eira lliwgar. Dwi´n dwlu ar sŵn crenshian dan draed. Hwn oedd y tro cyntaf i fi gamu dros y trothwy, ac os oedd hi’n edrych yn fach o’r tu allan, edrychai hyd yn oed yn llai ar y tu fewn! Does dim ffenestri lliw iddi nac unrhyw addurniadau crand ar y waliau – ac eithrio´r fedyddfaen, a siapau’r ffenestri a´r nenfwd, edrychai’n debyg i gapel a dweud y gwir. Roedd pob sedd yn llawn, ac ambell un yn sefyll yn y cefn wrth i’r gymanfa ddechrau. Sbaeneg oedd iaith y darlleniadau a’r neges, ond roedd y canu’n ddwyieithog gydag ambell emyn yn uniaith Gymraeg, eraill yn uniaith Sbaeneg, a rhai yn neidio o un i’r llall. Ond teimlwn i reidrwydd i ganu pob pennill o ‘Dyma gariad’ (mae ‘na drydydd pennill i’r emyn yn y llyfrau yma, dwi heb ei weld o’r blaen), a ‘Cwm Rhondda’ ar dop fy llais yn Gymraeg. A dan ganu ‘O, am aros! Yn Ei gariad ddyddiau f’oes’ cerddodd y gynulleidfa drwy’r drysau derw ac allan i’r byd mawr.
Cwrdd Diolchgarwch
Ddydd Sul yr 22ain o Ebrill cynhaliwyd cyrddau diolchgarwch yng Nghapel Bethel y Gaiman, sef y capel dwi’n ei fynychu. Cwrdd Sbaeneg oedd yn y bore, a’r sedd fawr yn llawn gwahanol fwydydd – cyfrennais i ddau zapallito, sef pwmpenni bach. Cenais i ddwy gan o fawl gyda chriw ieuenctid y capel, a chafwyd neges ar Salm 100. Am 6 o’r gloch y prynhawn daeth tro’r cwrdd Cymraeg, a bûm i’n ei gyd-drefnu. Cafwyd darlleniadau, unawd, parti llinynnol, parti cyd-adrodd, a chefais i’r fraint o rannu neges gyda’r sawl oedd wedi dod i’r capel. Canolbwyntiais ar Salm 107:8-9 gan dynnu sylw at y ffaith mai Iesu yw bara’r bywyd ac mai fe sy’n rhoi’r dŵr bywiol i ni. Diolch o galon i bawb am eu cyfraniadau i’r cwrdd. Ar ôl y gwasanaeth, cynorthwyais i rannu’r rhoddion rhwng gwahanol focsys i’w dosbarthu i gartrefi yn y Gaiman
Trannoeth y cwrdd diolchgarwch fe lwythais i a Luned ei char gyda’r bocsys a’u cludo i’r gwahanol gartrefi. Doedd pethau ddim yn edrych yn rhy addawol ar y dechrau, gan fod rhai pobl ddim adre, a chi yn ein rhwystro rhag cael mynediad i un tŷ! Ond cawson ni groeso cynnes mewn un cartref yn Gaiman Newydd lle mae Jane Ellen yn lletya gyda gwraig sy’n gofalu amdani. Bydd hi’n dathlu ei phen blwydd yn 95 fis nesaf, ac er ei bod hi’n ansicr ar ei thraed ac ychydig yn drwm ei chlyw, roedd ganddi gof da a Chymraeg yn naturiol a choeth – a hynny er nad oedd ganddi unrhyw i siarad Cymraeg â nhw.Yn ogystal â’r bocs o roddion, ro’n ni hefyd yn rhoi copïau o Clecs Camwy ac o raglen y Cwrdd Diolchgarwch i bob un. Felly cafodd Jane Ellen ei chyfweld ar gyfer rhifyn mis Ebrill o Clecs (fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir), cyn i Luned ofyn iddi, ‘Ydych chi eisiau i ni ganu emyn i chi?’ Do’n ni ddim wedi trafod hyn ymlaen llaw! Felly ganeuon ni ddeuawd o ‘Cyfrif y Bendithion’ yn y fan a’r lle! Ma´n siŵr mod i wedi gwrido, ond toddodd yr embaras wrth weld y mwynhad a befriai ar wyneb Jane Ellen. Buon ni i lond llaw o gartrefi eraill dros y ddwy awr dilynol a chael sgyrsiau braf a diddorol gan sawl person. Dim ond mewn un cartref arall gynigiodd Luned ein bod ni´n canu a gan nad oedd copiau o´r rhaglen ar ôl, disodlwyd sawl gair gan ´la la la´ y tro hwn wrth i´r ddeuawd droi´n driawd.
Bryn Gwyn
Mae nifer o bobl wedi bod yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Bryn Gwyn dros y blynyddoedd, a’r wythnos diwethaf dechreuodd fy ffrind, Virginia, gynnal dosbarthiadau yno bob dydd rhwng 1.00 a 3.00. O hyn ymlaen, bydda i’n mynd gyda hi ar brynhawniau Mawrth ond fe es i ddydd Llun yr wythnos hon hefyd i gynnig help llaw. Mae Bryn Gwyn yn ardal wledig sy ar gyrion y Gaiman lle mae nifer o ffermydd ar wasgar, a gyferbyn â Chapel Seion mae Ysgol Bryn Gwyn. Bydd Virr yn cynnal dwy wers awr o hyd bob dydd i bob blwyddyn yn ei thro - o’r Meithrin hyd flwyddyn chwech. Tro blynyddoedd tri ac un oedd hi ddydd Llun a blynyddoedd pump a dau ddydd Mawrth, a gan mai dyma wersi Cymraeg cynta’r flwyddyn adolygu wnaethon ni bennaf. Roedd rhai o’r plant wedi cael gwersi yn y gorffennol ac yn cofio tipyn – y cyfarchion, teimladau, y lliwiau, a ‘pen-ôl ar y gadair’! Ges i lifft i’r ysgol ddydd Llun, gan ddychwelyd i’r Gaiman ar y bws ysgol. Ond fentrais i yno ar gefn y beic ddydd Mawrth! Yn dilyn problem gychwynnol gyda’r gadwyn, gyrhaeddais i ben fy nhaith mewn rhyw 40 munud yn erbyn y gwyntoedd cryfion. Dwi heb reidio beic ers bron i flwyddyn, felly roedd fy nghoesau fel jeli wrth i fi gerdded i’r ystafell ddosbarth! Pan ddaeth hi’n amser troi am adref, arhosais i’r ceir a’r bysiau adael cyn esgyn y ceffyl haearn, heb sylweddoli fod un bws yn troi rownd mewn man cyfagos. Dywedodd Virr wrtha i fod y plant ar y bws yn dweud wrth basio(yn Sbaeneg), ‘Edrychwch, mae’r athrawes Gymraeg ar gefn beic!’
Tir Halen
Ardal arall yn Nyffryn Camwy, sy rhyw 27km o’r Gaiman yw Tir Halen. Rhoddwyd yr enw hwn ar y lle yn fuan wedi i’r Cymry gyrraedd yno – ar ôl dyfrio’r tir ac i’r dŵr anweddu, gadewid haenen o halen ar y tir. Ddegawdau mawr yn ôl, cafodd yr ardal ei hailenwi yn 28 de Julio (‘28ain o Orffennaf’, sef y dyddiad y glaniodd y Cymry ym Mhorth Madryn). Ond Tir Halen yw’r enw o hyd ar dafod leferydd Cymry Patagonia. Pentref fechan iawn sydd yn ei chanol, gydag ysgol, capel, amgueddfa ac ambell dŷ, ond mae Tir Halen ei hun yn ymestyn dros ardal enfawr gyda ffermydd yn frith drwyddi. A’r wythnos hon aethon ni ar drywydd un o’r ffermydd hyn. Cynigiodd ein cyfaill, Ricardo, fynd â ni am dro o amgylch Tir Halen, gan alw ar ffermwr oedd wedi prynu pwmp dŵr ganddo. Rhys Roberts sy´n byw yn ‘Bod Unig’, ac wedi enwi´r fferm ar ôl cartref ei daid ger Blaenau Ffestiniog cyn iddo ymfuo i Batagonia. Prin yw´r cyfleon mae Rhys a´i wraig yn eu cael i siarad Cymraeg erbyn hyn, ond ar ôl ambell frawddeg rydlyd llifodd eu Cymraeg yn rhwydd a siaradai Rhys Roberts gydag acen ogleddol gref! Dyw e erioed wedi bod i Gymru. Cawson ni sgwrs a thot o fate yn y gegin, lle´r oedd copi o Clecs Camwy ar y bwrdd! Ar ein ffordd yn ôl i’r Gaiman welon ni dyrbin Crocet (system drydanu gynta’r dyffryn), enfys yn yr awyr, pont grog fechan, a dulog marw.
Ysgol Feithrin
Dwi wedi ailddechrau darllen stori yn yr Ysgol Feithrin, ond ar brynhawn Iau yn hytrach na Gwener eleni. Bois bach, ma rhai o´r plantos wedi tyfu a chymaint o wynebau bach newydd yno! Maen nhw´n dilyn thema ´Fy Nghorff´ ar hyn o bryd, felly´r wythnos diwethaf ddarllenais i ´Bath Mawr Coch´ iddyn nhw, a´r wythnos hon ddarllenon ni ´Cyfrinach y Bwgan Brain´ - mae hi´n bosib cysylltu´r ddwy stori gyda´r corff! Cafodd y plant hŷn hwyl yn canu ´Pen, ysgwyddau, coesau, traed´ ar ras, a dynwared bwgan brain. On cwympodd un o´r plant lleiaf i gysgu.
Teisen Ddu
Ges i rysáit ar gyfer teisen ddu´r wythnos diwethaf, a neithiwr bues i wrthi´n pobi! Er ei bod hi´n edrych fel teisen ddu, y blas sy´n cyfri...

sábado, 21 de abril de 2012
Empesamos...
Dwi bellach wedi goroesi´r pythefnos cyntaf o waith! Wel doedden nhw ddim yn wythnosau arferol o waith, a dweud y gwir, gan nad yw´r amserlen yn derfynol eto a mod i wedi cael fy siarsio i fwynhau wythnos gyntaf dawel er mwyn dadflino ac ymgartrefu unwaith eto. Er hynny, mae wedi bod yn gyfnod prysur! Wele ddetholiad...
Gaiman dan gerdded
Dechreuais i weithio ar brynhawn Sadwrn y 7fed o Ebrill mewn gwirionedd, wrth i fi ac Elliw gynnal taith gerdded o amgylch y Gaiman ar gyfer Pat McCarthy. Mae e´n gwneud taith o Ushuaia i Alaska ar gefn ei feic modur, Idris, er budd Unicef (http://patonabike.blogspot.com.ar/), ac roedd arno eisiau gweld ‘popeth’ yn y Gaiman. Doedd awr a hanner ar brynhawn Sadwrn y Pasg ddim yn amser delfrydol i weld ´popeth´, ond wnaethon ni’n gorau – y twnel (y trydedd gwaith i fi fentro i’r tywyllwch, a’r ail waith i fi gyrraedd goleuni’r pen draw), Ysgol Camwy, Tŷ Camwy, Capel Bethel, Cylch yr Orsedd, yr Ysgol Feithrin, a Thŷ Cyntaf y Gaiman. Er i mi ei edmygu o’r tu allan lawer tro, hwn oedd y tro cyntaf i mi gamu dros drothwy’r tŷ cyntaf a adeiladwyd gan David Roberts yn 1874. Pedair ystafell gweddol o faint sydd ynddo – y cyntedd/cegin/ystafell fwyta, yr ystafell wely (lle cysgai teulu o bump), y pantri lle cynhyrchid caws a menyn, a’r swyddfa. Yr unig beth o eiddo David Roberts ei hun yno oedd cist fawr ddu a gariodd gydag ef o Gymru, ac roedd gweddill y celfi a´r offer yn deillio o tua´r un cyfnod. Ac ystyried mai hwn oedd yr unig dŷ a safai yn y Gaiman pan y’i hadeiladwyd, mae bellach mewn man digon diarffordd a chuddiedig rhwng tai a thyfiant. Mae nifer o olygfeydd y ffilm ´Poncho Mam-gu’ wedi cael eu ffilmio yn y tŷ! Roedd hi´n braf ailymweld â’r llefydd hyn, a theimlwn fel tipyn o arbenigwraig ar y Gaiman a’r Wladfa wrth dywys ein cyfaill o un lle i’r llall gan adrodd gwahanol hanesion - er nad ydw i’n hollol siŵr a oedd fy ffeithiau’n gywir bob tro!
Côr Merched
Ddydd Llun fues i yn ymarfer y Côr Merched, a chefais groeso braf yn yr Ysgol Gerdd. Efallai mai’r bag o Mini Eggs oedd gen i’n anrheg ar gyfer y merched oedd y rheswm dros hynny! Er bod chwe mis tan Eisteddfod y Wladfa, mae’r côr wedi dechrau ymarfer caneuon ar ei chyfer yn barod, ac ro’n i wedi anghofio mor anodd yw hi i ddysgu cân Sbaeneg o’r newydd, yn enwedig un sydd â thipyn o fynd iddi. Erbyn mis Rhagfyr y llynedd ro’n i wedi meistroli sawl cân Tango a hyd yn oed wedi dysgu ambell i gân ar fy nghof. Ond ro’n i’n baglu dros fy ngeiriau fan hyn, fan draw, a fan ‘co ddydd Llun! Diolch byth fod cymaint o amser tan yr eisteddfod!
Noson Groesawu
Y noson honno cynhaliwyd noson groesawu gyfrinachol i fi ac Elin Rhys, sy’n ymweld â’r Wladfa am y tro cyntaf ers iddi fod yn athrawes yma yn 2007. Felly ar ôl cytuno i fynd gydag Ariela i brynu ham a chaws, aeth hi â fi i Breuddwyd lle’r oedd llond y lle o bobl, hwyl a bwyd yn ein disgwyl! Am syrpreis hyfryd, a chyfeillion nad oeddwn i wedi eu gweld ers dychwelyd. Felly bu llawer o sgwrsio, bwyta a chwerthin! Diben arall y noson oedd tynnu raffl mawreddog. Mae pobl (Esyllt, Ana, ac Elliw yn bennaf) wedi bod yn brysur ers wythnosau’n gwerthu tocynnau raffl a chasglu gwobrau er mwyn codi arian i brynu peiriant golchi newydd i Dŷ Camwy. Cefais i ac Elin y fraint o dynnu’r enwau lwcus o’r ‘het’, a phlymiais fy llaw i ganol y degau ar ddegau ar ddegau o docynnau disgwylgar, gan wirioneddol dwrio cyn tynnu un allan. Rhoddais waedd o chwerthin cyn cyhoeddi’r enw... Lois Dafydd, Tŷ Camwy! Er i mi fynnu eu bod yn tynnu eto, mynnodd Esyllt mod i’n derbyn y wobr, sef cacen o siop gacennau Blasus - roedd pob briwsionyn ohoni wedi diflannu o fewn deuddydd!Ymhlith y gwobrau eraill oedd sychwr gwallt, gwerth $200 o betrol, pryd i ddau yn Gwalia Lân, te Cymreig i ddau yn Nhŷ Gwyn, basged o ddanteithion o Blas-y-Coed, a $300 i’w wario yn siop El Pato. Ar ôl y cyffro a’r diolchiadau, aeth y noson rhagddi gyda chanu a sgwrsio. A da yw cyhoeddi fod y raffl wedi codi digon o arian i brynu peiriant golchi newydd! Tair bloedd i lendid, a diolch i bawb am eu cefnogaeth. Mae Tŷ Camwy’n prysur droi yn dipyn o balas gyda pheiriant golchi newydd, gwresogydd newydd (diolch i griw y Bwthyn), teledu, a gosodwyd wi-fi yma’r wythnos diwethaf – mae peryg na fydda i’n gadael y tŷ eleni, heb sôn am gyflawni unrhyw waith...
Ôl-feithrin
Mae´r dosbarthiadau ôl-feithrin wedi ailddechrau yn y Gaiman ac yn Nhrelew. Dwi´n mynd i chwarae gyda phlant rhwng 5 a 9 oed yn Ysgol yr Hendre bob prynhawn dydd Mawrth, ac ry´n ni wedi bod yn cael tipyn o hwyl yn rasio mewn gwahanol ffyrdd - neidio, dawnsio, hercian, hedfan - a chwarae ´Oer / Poeth´ gyda charreg. Bu´r plant yn chwerthin cryn dipyn wrth fy ngweld i´n dringo´r ffrâm ddringo i chwilio am y garreg mewn coeden! Ac am ddwy awr ar brynhawniau Iau dwi´n chwarae gyda phlant rhwng 8 a 12 oed yn Ysgol Camwy. Ry´n ni´n dechrau trwy ymarfer siarad gan ofyn cwestiynau i´n gilydd er mwyn ymarfer ein Cymraeg, a´r wythnos hon benderfynon ni fabwysiadau gwahanol bersonoliaethau - yn ein plith oedd Sali Mali, Bufanda (sgarff), Cristina Kirchner, Patricia Sosa a Susana Gimenez! Yn dilyn hyn chwaraeon ni amryw o gemau, gan gynnwys cuddio, Y Cawr yn y Castell, a´r parasiwt lliwgar yw´r ffefryn, cyn mynd ati i ymarfer darn adrodd ar gyfer y Cwrdd Diolchgarwch.
Dolavon
Dyw´r gweithgareddau yn Nolavon heb ailddechrau eto, ond bûm am dro yno am y tro cyntaf yr wythnos hon gyda Luned a Tegai. Bydd y ffosydd yn cael eu cau ddechrau mis Mai, felly roedd hi´n gyfle i weld y melinau dŵr ar waith cyn i hynny ddigwydd. Aethom i ymweld â gwraig sy´n byw yno ac yn dipyn o arbenigwraig ar bobi teisen ddu, felly cawson ni sgwrs ddifyr ar ei hanes a´r dull o´i phobi. Mae´r deisen ddu yn tarddu o fara brith - dyw bara brith ddim yn bodoli yn y Wladfa - ond mae hi´n fwy o deisen, ac yn cynnwys cnau, mwy o amrywiaeth o ffrwythau sych, a rhywfaint o alcohol. Roedd gan bob teulu Cymreig eu rysáit eu hunain ar gyfer y deisen hon, a nifer ohonyn nhw wedi cael eu pasio´n gyfrinachol o un genhedlaeth i´r llall, felly mae hi´n anodd cael gafael ar rysáit. Cawson ni deisen ddu fawr yn anrheg gan y wraig yn Nolavon, a ches i ddod â´i hanner hi adref i Dŷ Camwy. Hon yw fy hoff deisen Batagonaidd, felly ro´n i wrth fy modd! Ac afraid dweud fod pob briwsionyn o hon wedi hen ddiflannu erbyn hyn hefyd. Dwi bron â marw eisiau rhoi cynnig ar pobi teisen ddu, a bellach wedi cael amryw ryseitiau ar ei chyfer. Felly efallai fydd gen i rysáit gyfrinachol ar gyfer cenedlaethau i ddod cyn bo hir...
Clecs Camwy
Mae Clecs Camwy cynta´r flwyddyn wedi cael ei gyhoeddi! Er mawr syndod i fi, ro´dd gweithwyr yr argraffdy (siop lungopïo yn Nhrelew) yn fy nghofio i a´r papur, felly doedd dim angen i fi drio esbonio´r hyn ro´n i ei eisiau. Er hynny, a´r ffaith fod y deg rhifyn diwethaf wedi cael eu hargraffu yno, deuai´r papur allan o´r peiriant bob siâp! Bob yn ail dudalen wyneb-i-waered, wedyn dim ond y dudalen gyntaf yn cael ei hargraffu ddeg o weithiau, cyn i bob tudalen ymddangos yn gymysgfa lwyr! Roedd hi´n amlwg fod y dyn mewn penbleth, ond yn gwrthod cyfaddef hynny wrtha i, a phenderfynodd mae o law mai llungopïo 200 o gopïau (2,000 tudalen) oedd yr unig ffordd. A threuliais i´r bore canlynol yn stafflo´r 200 copi cyn eu dosbarthu o amgylch Dyffryn Camwy. Mae fersiwn pdf o Clecs Camwy mis Mawrth ar gael i´w ddarllen ar wefan Menter Patagonia - www.menterpatagonia.org

viernes, 13 de abril de 2012
Y Briodas, Buenos Aires, Bws, a Bienvenida!
'Hasta luego' oedd geiriau olaf y blogiad diwethaf, nôl ym mis Rhagfyr. Dri mis a hanner yn ddiweddarach, ac mae´r 'luego' hwnnw wedi cyrraedd - a dwi wedi cyrraedd Patagonia unwaith eto!
Mewn gwirionedd, fe ddylen i fod wedi dychwelyd ddiwedd Chwefror gan mai dyna pryd mae blwyddyn academaidd yr Ariannin yn dechrau. Ond yr hyn sy'n cael y bai am hyn, neu'r diolch gan rai efallai, yw priodas fy chwaer! Cawson ni ddiwrnod arbennig gyda gwasanaeth hyfryd a bendithiol yng Nghapel Soar y Mynydd, a gwledd a hanner yn Neuadd Goffa Tregaron. Ro´n i´n forwyn briodas. Llongyfarchiadau Esyllt a Ben! (Llun: http://wholepicture.wordpress.com/)
Ddeuddydd yn unig ar ôl y briodas cychwynnais ar fy nhaith: Bow Street (9.30, 2/4/12) - Treorci - Caerdydd - Llundain - São Paulo - Buenos Aires - Trelew - Gaiman (13.30, 5/4/12).
Dim ond diwrnod dreuliais i ym Muenos Aires eleni, a threuliais y rhan helaeth o'r ymweliad yn cysgu. Pryd gysga i siesta arall 5 awr o hyd rhwng nawr a Rhagfyr, gwedwch?! Ond cwrddais â fy ffrind, Sara yno cyn dal y bws yng ngorsaf Retiro - a oedd hanner awr yn hwyr! Ma'n siŵr mod i wedi crybwyll fy hoffter o fysiau'r Ariannin gwpl o weithiau o´r blaen - cadeiriau esmwyth, bwyd, ffilmiau, bingo - felly eisteddais yn fy sedd yn barod am 20 awr o orffwyso ysblennydd... Ond nid felly y bu. Ryw awr yn unig ar ôl gadael y brifddinas, gwelais y fellten fwyaf i fi ei gweld erioed yn yr awyr! Edrychai'n fygythiol o brydferth, fel gwe pry cop euraidd yn cydio yn yr awyr. Ac ychydig funudau'n ddiweddarach trodd yr awyr yn ddu a llifodd y glaw ohoni wrth i un fellten ar ôl y llall fflachio fan hyn a fan draw. Ymddangosai pawb arall yn ddigon hamddenol a hapus eu byd gan barhau i wylio'r ffilm (ofnadwy), a chafodd bwyd ei weini i ni hyd yn oed - ond ro'dd arna i lond twll o ofn. Ro'n i ond yn gobeithio nad oedd unrhyw un o'r teithwyr yn gwisgo esgidiau gyda gwaelodion metel iddyn nhw, ac er y gwyddwn yn iawn fod teiars rwber yn ddiogel, gallwn ni ddim stopio meddwl am y ffaith ein bod ni mewn bocs o fetel yn symud drwy'r storm erchyll! Bu felly am o leiaf dwy awr, a'r diwrnod canlynol darllenais fod o leiaf 14 o bobl wedi marw yn y storm, a nifer fawr o dai ac adeiladau wedi cael eu difrodi. http://www.bbc.co.uk/news/world-latin-america-17633113 Ond gyrhaeddon ni ben ein taith yn ddiogel, er bod hynny ryw ddwy awr yn hwyr.
Wrth yrru trwy Ddyffryn Camwy gyda´i ffyrdd llydan, ei choed talwyrdd, ei bryniau brown a´i hawyr las, roedd hi´n anodd credu fod dros dri mis ers i mi fod yn eu cwmni ddiwethaf. Y prif wahaniaeth hyd yn hyn yw´r ffaith mod i mewn llety newydd eleni, sef Tŷ Camwy. Efallai nad ´newydd´ yw´r gair priodol gan ei fod ymhlith rhai o dai hynaf y Gaiman. Tŷ teulu oedd e´n wreiddiol, ond ers blynyddoedd bellach mae wedi bod yn gartref i nifer fawr o athrawon Cymraeg a phregethwyr sy´n dod i weithio yn y Dyffryn. Mae mewn lleoliad hyfryd ar ben uchaf Heol Michael D. Jones a´r drws nesaf i Ysgol Camwy. Pwy sydd angen gosod larwm pan fydd rhyw ddau gant o blant ysgol yn cerdded heibio i ffenest eich ystafell wely toc cyn 8 bob bore? Dwi´n rhannu gydag Elliw, sef athrawes Gymraeg 2012, ac yn hapus iawn yma!
Roedd hi´n wyliau Pasg pan gyrhaeddais i (amseru da!), felly cefais ddeuddydd i ymgartrefu, cwrdd â chyfeillion, a bwyta teisen ddu, empanadas a chig eidion! Ma´i mor braf gweld pawb eto, ac mae´r ´croeso nôl´ dwi wedi ei gael wedi bod yn dwymgalon. Mynychais Oedfa Basg Sbaeneg yn y Tabernacl fore Sul. Cefais fy nghroesawu o´r sedd fawr, gyda´r gweinidog yn cyhoeddi mod i wedi dychwelyd i aros! Daeth nifer ata i ar ddiwedd y gwasanaeth gan holi a oedd hynny´n wir. Wel, mae´n newyddion i fi!
Mae´r gwaith bellach wedi dechrau, ond cewch chi wybod rhagor am hynny cyn bo hir...

sábado, 10 de diciembre de 2011
Hasta luego...
Wel dyma ni, yr ohebiaeth olaf o'r Wladfa am eleni gydag ambell hanesyn ar ôl i'w hadrodd. Felly bant â ni!
Ma ’na ddwy Eisteddfod dwi heb eu crybwyll eto, sef Eisteddfod y Bobl Ifanc ac Eisteddfod y Wladfa...
Eisteddfod y Bobl Ifanc
Fis Medi cynhaliwyd yr eisteddfod hon ar gyfer pobl ifanc hyd 25 oed, felly’n anffodus, ro’n i bedwar mis yn rhy hen i gystadlu ynddi. Ond doedd hynny ddim yn golygu na fyddai’n rhaid i mi weithio, achos cefais wahoddiad i fod yn feirniad yr adrodd Cymraeg. Er i mi fod yn feirniad yn yr eisteddfodau blaenorol, dyma’r tro cyntaf i mi feirniadu mewn rhagbrofion ac ymddangosodd degau o blant a phobl ifanc ar y llwyfan. Ymgeisiodd 38 yn y gystadleuaeth o dan bedair oed – sut yn y byd mae beirniadu'r gystadleuaeth honno, gwedwch?? Wel, erbyn diwedd y dydd roedd y sawl fyddai’n ymddangos ar y llwyfan drannoeth wedi cael eu dewis.
Am bedwar o’r gloch y diwrnod canlynol, roedd gimnasio y Gaiman dan ei sang gyda chystadleuwyr a chefnogwyr o bob cwr o’r wlad, a’r naws yn gyffro disgwylgar drwy’r neuadd. Ro'dd 'na sglein ar yr eisteddfod hon, ac o'r agoriad hyd ryw hanner nos aeth y cystadlu rhagddo’n llyfn a threfnus – yn ystod yr eisteddfod hon y clywais i’r geiriau ‘caewch y drysau yn y cefn’ a ‘pob chwarae teg i’r cystadleuydd nesaf’ yma am y tro cyntaf, yn Sbaeneg! Yr unig beth do'n i ddim yn hoffi am yr eisteddfod hon oedd fod y beirniaid yn cael eu ffilmio wrth draddodi eu beirniadaethau, a'r lluniau'n cael eu taflu ar sgrin fawr ar flaen y neuadd. Erchyll! Er gwaethaf hynny, a'r ffaith i mi gael trafferth mawr i ddewis enillwyr ar adegau, a druan bach â’r cyfieithwyr wrth i fi lunio beirniadaethau cyn eu newid yn gyfan gwbl, cefais i wir wefr wrth weld plentyn ar ôl plentyn yn dod i’r llwyfan ac yn adrodd cerddi Cymraeg. Ailddechreuodd y cystadlu’n gynnar y prynhawn canlynol, ac er gwaethaf toriad trydan yn ystod un ddawns werin, llifodd y cystadlu’n rhwydd unwaith eto. Cystadleuaeth olaf ond un yr adrodd Cymraeg oedd dan 18oed, a phedwar yn dod i’r llwyfan – roedd y safon mor uchel, fel na allwn i'n lân â dewis enillydd o’u plith! Ro’n i’n chwys domen yn ysgrifennu beirniadaeth, tynnu llinell ddu drwyddi, ysgrifennu beirniadaeth arall, cyn taflu’r papur... A'r arweinwyr yn galw am y feirniadaeth o'r llwyfan ryw hanner dwsin o weithiau cyn i fi fod yn barod i'w thraddodi! Efallai na cha'i wahoddiad nôl y flwyddyn nesaf...
Eisteddfod y Wladfa
Cynhaliwyd uchafbwynt y calendr eisteddfodol dros benwythnos olaf mis Hydref, sef Eisteddfod y Wladfa 2011. Roedd rhai wedi fy rhybuddio i am brysurdeb y cyfnod yma, ond gallai dim fod wedi fy mharatoi ar ei gyfer – bûm yn ymarfer gyda phum côr (dau gôr cymysg, côr merched, côr Capel, côr Saesneg), tair dawns werin, adrodd unigol a chân actol am wythnosau lawer! Ac o’r diwedd, cynhaliwyd bore o ragbrofion yn Nhrelew, a syndod o'r mwyaf i fi oedd cael llwyfan ar ddawns werin ac ar yr adrodd! Dwi heb adrodd ers oeddwn i yn yr ysgol, a'r un oedd y feirniadaeth bob tro - 'Mae angen i Lois bwyllo wrth adrodd'. Felly'r neges o gefnogaeth ges i wrth Mam oedd, 'Cofia adrodd yn araf!' Yn hwyrach y diwrnod hwnnw agorodd deuddydd o eisteddfota yng Nghwlb Racing Trelew. Does dim maes, ond mae ’na gaffi’r tu allan ac ambell stondin y tu fewn - y cystadlu yw’r canolbwynt. Ac o’r gystadleuaeth gyntaf hyd yr olaf aeth y cyfan yn chwim, a fues i’n rhedeg o gwmpas y lle fel gwallgofddyn yn paratoi ac yn newid ar gyfer y gwahanol gystalaethau! Ynghanol hyn oll, fethais i un gystadleuaeth côr. Prin oedd amser oedd gen i rhwng un gystadleuaeth a’r llall ac ro’n i wedi amseru cyfle yn dda i fynd i’r tŷ bach, newid, cael rhywbeth i’r fwyta, a dychwelyd i’r neuadd mewn pryd. Ond pan agorais i’r drws, welais i’r côr ar y llwyfan yn barod i ganu! O’n i’n teimlo’n swp sâl, a’n trio osgoi’r arweinyddes weddill y noson. Heblaw hynny aeth popeth yn weddol llyfn a llwyddiannus ar y cyfan, gyda’r ymddangosiad cyntaf ar lwyfan yr eisteddfod yn gwisgo poncho’r Orsedd yn ystod seremoni’r Cadeirio – Geraint Edmunds o Drelew, sef Llywydd yr Orsedd oedd yn fuddugol. Roedd hi'n bosib gwylio'r cystadlu yn fyw ar y we gyda llygaid Mam wedi'u gludo i'r sgirn am oriau, ac arhosodd hi ar ei thraed tan rhyw 3 o'r gloch y bore (amser Cymru) i wylio cystadleuaeth yr adrodd - chwarae teg. Cydradd drydydd ges i, gyda llaw - ac o'dd hi braidd yn lletchwith sefyll ar y llwyfan yn aros i ganu gydag un o'r corau wrth i'r feirniadaeth gael ei thraddodi!
Roedd yr Eisteddfod hon yn werth chweil ac o safon uchel iawn! Mae rhestr testunau Eisteddfod y Wladfa 2012 ar gael nawr...
Taith yr Urdd
Daeth criw o 20 person ifanc o wahanol rannau o ogledd Cymru allan yn ddiweddar, ar daith oedd yn cyd-fynd ag Eisteddfod y Wladfa. Ro'dd Iwan a fi wedi llunio amserlen y daith, gyda chyfnod yn yr Andes gyntaf cyn teithio dros y paith i'r Dyffryn at Eisteddfod y Wladfa. Cawson ni lawer o hwyl, a'r amserlen yn llawn dop - ac i ddarllen mwy am y daith, gwelwch adroddiad Anest Evans yn rhifyn cyfredol ‘Clecs Camwy’: www.menterpatagonia.org
Yr Andes
Ges i'r fraint o ymuno â disgyblion 3º Pol Ysgol Camwy ar eu taith i'r Andes ddiwedd mis Tachwedd. Treulion ni'r diwrnod cyntaf yn teithio ar hyd y paith ar y bws, gan stopio mewn gwahanol lefydd ar y ffordd - 'Rocky Trip' sy'n rhan o hanes y Cymru'n croesi'r paith dros ganrif yn ôl, olion paent y brodorion, a bedd arweinydd un o lwythi'r Indiaid. A thrwy'r wythnos buon ni'n ymweld â gwahanol atyniadau - amgueddfeydd, dringo mynyddoedd, rhaeadrau, y parc cenedlaethol, a La Trochita sef trên yn Esquel. Roedd 'na reilffordd yn rhedeg o Borth Madryn at yr Andes ar un adeg, ond yn ystod y 60au neu'r 70au cafodd ei gau - a does dim trenau yn rhedeg yn yr Ariannin, heblaw'r metro yn Buenos Aires, a theithiau byr i ymwelyr fel La Trochita! Felly mynd ar y trên bach stêm yma yw profiad cyntaf, os nad unig brofiad nifer fawr o Archentwyr o deithio ar drên.
Roedd yr wythnos hon hefyd yn cydfynd â dathliadau pen blwydd Trevelin, ar y 25ain o Dachwedd. Yn 1885, teithiodd y 'Rifleros' ar hyd y paith ar gefn eu ceffylau i ddod o hyd i dir ffrwythlon ac ar y dyddiad yma cyrhaeddon nhw gopa Craig Goch a gweld y cwm islaw. Mae'n debyg i un dyn ddatgan, 'Dyma Gwm Hyfryd!' Ac mae'n cael ei adnabod yn ôl yr enw hwnnw fyth ers hynny.Ac i nodi'r achlysur mae 'na daith yn cael ei threfnu bob 24ain o Dachwedd i ddringo Craig Goch er cof am yr ymsefydlwyr cyntaf hynny. Ond gallwch chi ddim dringo craig ar stumog wag, felly rhaid oedd cael asado! Ac am asado - unwaith oedd y cig yn barod roedd pawb yn heidio ato gyda'i gyllell mew un llaw a darn o fara yn y llall! Wrth gwrs, ddilynais i'r drefn - er o'dd yn rhaid i fi fenthyg cyllell rhywun arall. Wedyn dringo am ddwyawr. Do'dd hi ddim yn hawdd, ond ro'dd cyrraedd y copa ac edrych i lawr dros y cwm yn gwneud pob cam werth chweil - ac ro'n i'n deall i'r dim pam fod yr ardal yn cael ei alw'n Cwm Hyfryd. Y diwrnod canlynol ro'dd gorymdaith trwy Drevelin gyda gwahanol sefydliadau a chymdeithasau'n cymryd rhan, a ches i fenthyg siwmper yr ysgol i orymdeithio gydag Ysgol Camwy! A'r noson honno cawson ni asado arall, lle fuon ni'n chwarae gemau a dysgu 'Hen Wlad Fy Nhadau'! Am wythnos 'piola', diolch yn fawr i Ysgol Camwy a 3º Pol.
Gwasanaeth Nadolig
Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y Dosbarthiadau Cymraeg yng Nghapel Bethel Gaiman brynhawn Sul y 4ydd o Ragfyr. Bûm wrthi'n trefnu'r rhaglen gyda Luned, a chwarae teg i bawb am gytuno i gymryd rhan, boed yn ddarllen carol, unawd, darlleniad o'r Beibl, canu offerynnau a phartïon. Oherwydd hynny roedd 20 eitem ar raglen y gwasanaeth, a finnau'n poeni y byddai'n para bron i ddwy awr! Prin oedd seddi gwag y capel, a chymerodd pob un ei dro i berfformio neu ddarllen yn y sedd fawr yn ddidrafferth - a profiad rhyfedd dros ben oedd rhannu neges am y Nadolig mewn fflip-fflops a ffroc haf! Roedd hi'n wasanaeth arbennig, a diolch i bawb a ddaeth i gymryd rhan ac i rannu'r achlysur gyda ni. Nadolig Llawen i bawb!
Audición Radio Chubut
Pan gyrhaeddais i Batagonia ar y 13eg o Fawrth eleni, dywedodd Luned Gonzalez wrtha i na fyddwn i’n cael fy nghyfweld ar y radio’r wythnos honno gan fod yr etholiadau’n cael eu cynnal a phawb yn rhy brysur ar gyfer unrhyw beth arall. Felly er i mi fynd gyda hi a Tegai i’r orsaf radio, ches i ddim siarad. Yn fuan wedi hynny, ddechreuais i weithio ar brynhawniau Gwener, ar union amser y rhaglen radio, felly doedd cyfweliad ddim yn bosib... tan yr wythnos hon! Ro'n i'n llawn cyffro a nerfau wrth gyrraedd yr orsaf, ond ro'dd Luned wedi narbwyllo i na fyddai'r cwestiynau'n rhai cas. A gwir oedd ei gair - holi am y teulu a bywyd yng Nghymru, cyn siarad am y gwaith gyda Menter Patagonia, a rhoi adolygiad ar y pryd o'r rhifyn diweddaraf o 'Clecs Camwy'! A ches i'r fraint o ddewis tair carol i'w chwarae hefyd. Dwi'n teimlo fod y profiad wedi cloi'r naw mis yn dda.
Y Diwedd
Er na fydd yr ysgolion yn cau am ryw wythnos arall, mae gweithgareddau Menter Patagonia wedi dod i ben am y flwyddyn! Cawson ni bicnic gydag ôl-feithrin yr Hendre, gweithdai gydag Ysgol Feithrin y Gaiman, coginio bisgedi gydag ôl-feithrin y Gaiman, gemau a phicnic gyda Chylch Chwarae Dolavon, a te parti gyda Sgwrs Trelew!
A nos Lun nesaf (12 Rhagfyr), bydd Iwan a fi'n cloi gweithgarwch Menter Patagonia am y flwyddyn gyda Noson Gymraeg yn Buenos Aires - ry'n ni'n edrych mla'n yn fawr at gwrdd â nhw.
Mae'r naw mis diwethaf wedi bod yn aruthrol. Felly diolch i bawb am eu croeso, eu cyfeillgarwch, a'u cefnogaeth - heb hynny buasai ngwaith i wedi bod yn anodd dros ben. A gobeithio fod y blog yma wedi dangos fod 'na fwy i Batagonia na the, cacs, paith, capeli, gauchos ayyb - mae'n gymaint mwy na hynny, a dwi'n edrych ymlaen yn barod at ddychwelyd fis Ebrill. Felly tan hynny:
Hasta luego! x

Suscribirse a:
Entradas (Atom)