lunes, 27 de agosto de 2012

Y Gymraeg yn y Gwyliau

Mae distawrwydd diweddar y blog ar gyfri’r ffaith mod i wedi bod ar fy ngwyliau. Felly gadewch i ni droi’n golygon yn ôl i’r gorffennol ac i fis Gorffennaf...

Fel y soniais yn y blog diwethaf, bu pythefnos o wyliau gaeaf yn yr Ariannin ddechrau mis Gorffennaf. Gan y byddwn i’n hel fy mhac ym mis Awst, bûm i’n gweithio yn ystod y pythefnos hwnnw. Ond wrth gwrs, doedd dim ysgol na dosbarthiadau yn cael eu cynnal felly lluniais raglen o weithgareddau a dosbarthiadau yn Nhŷ Camwy ar gyfer y cyfnod hwnnw, dan yr enw ‘Y Gymraeg yn y Gwyliau’.

Deuai plant rhwng tair ac wyth oed i Dŷ Camwy ar gyfer ‘Cylch Camwy’ am ychydig oriau bob prynhawn. Roedd hi’n dipyn o waith meddwl am weithgaredd wahanol ar eu cyfer nhw bob dydd, ond cawson ni dipyn o hwyl yn chwarae gyda jig-sôs, canu, paentio’r fferm gyda stensiliau ac anifeiliaid gyda siâp y llaw, tynnu lluniau, gwneud collage o ddynion eira a bowlenni paper mache; er nad oedd y paper mache yn union fel y dylai fod! Roedd y plant wrth eu bodd yn gwylio cartŵnau a rhaglenni Cymraeg, ac yn gofyn am ‘Wmff’ a ‘Mwnci’n Dweud, Mwnci’n Gwneud’ bob dydd – diolch yn fawr iawn i wefan Golyg.com am ddarparu’r rhaglenni hyn. Roedd rhieni un o’r plant wedi trefnu ymweliad â Phorth Madryn un diwrnod, ond gwrthododd y ferch yn lân â mynd gan ei bod hi eisiau dod i Dŷ Camwy yn lle!





















Mae’r dosbarthiadau Cymraeg yma yn y Wladfa yn dilyn y cwrs WLPAN, ond unwaith yr wythnos yn unig mae hi’n bosib eu cynnal nhw yma yn hytrach na chynnig cwrs carlam. Felly penderfynais gynnal arbrawf a chynnig y cwrs i ddechreuwyr am ddwyawr y dydd yn ystod yr wythnos gyntaf. Fel mae’n digwydd, roedd y sawl a ddangosodd ddiddordeb yn y dosbarth eisoes wedi mynychu rhai dosbarthiadau Cymraeg, felly newidiodd y cwrs o Gymraeg i Ddechreuwyr i Gymraeg Sylfaenol gyda’r pwyslais ar ymarfer a datblygu sgiliau siarad. Ac am awr ar ôl y dosbarth hwn roedd cyfle i’r sawl sydd eisoes yn siarad Cymraeg yn rhugl roi rhywfaint o sglein ar eu hiaith lafar ac ysgrifenedig mewn dosbarth Gloywi Iaith. Wel, ro’n i wedi drysu fy hunan gydag ambell bwynt gramadegol, heb sôn am y myfyrwyr! Yn ystod ail wythnos y gwyliau cynhaliwyd gweithdai nosweithiol oedd yn seiliedig ar gystadlaethau’r eisteddfodau yma ym Mhatagonia – cyfieithu, ysgrifennu adolygiad llyfr a hunangofiant, dadansoddi ‘Ystrad Fflur’ sy’n ddarn adrodd, a gweithdy ysgrifennu creadigol gyda golwg ar gystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer trigolion y Wladfa. Gobeithio’n wir y bydd y beirniaid yn derbyn sawl ymgais yn y gwahanol gystadlaethau eleni!



Ar ben y sesiynau hyn, daeth amryw bobl i Dŷ Camwy ar wahanol nosweithiau cymdeithasol, a’r gyntaf oedd gwylio’r ffilm ‘Poncho Mam-gu’, sydd yn ffilm ddogfen yn seiliedig ar y llyfr ‘Nel Fach y Bwcs’. Cynhaliwyd dwy noson goginio, oedd yn boblogaidd iawn! Dangosodd Elliw sut i wneud y pwdin bara menyn traddodiadol gyda swltanas yn y gyntaf, ond manteisiodd bawb ar y cyfle i flasu un ro’dd hi wedi’i baratoi ymlaen llaw – yng ngwir ysbryd Blue Peter – gyda jam llaeth yn lle’r menyn ac eirin gwlanog yn disodli’r swltanas. Que rico! A pharatois i gacen gaws lemwn a phice’r maen oren, fel mae Mam-gu yn eu gwneud. Roedd hefyd cyfle i flasu’r rhain yn eu tro!
Trannoeth y Noson Goginio hon, cynheliais de prynhawn yn Nhŷ Camwy yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd i sgwrsio dros baned, yn ogystal â chael gwared â’r danteithion a gynhyrchwyd y noson gynt. Daeth mwy na’r disgwyl a phawb fel sardîns o gwmpas y bwrdd, a rhaid oedd ailddefnyddio rhai o’r platiau a darparu llwyau te plastig i ambell un. Er gwaetha’r cyfarwyddyd i beidio dod ag unrhyw beth i’r te, ymddangosodd pwdinau semolina, teisen foron, tarten afalau, a theisen jam llaeth, felly roedd mwy o felysion yn y tŷ ar ôl i bawb adael na chyn iddyn nhw gyrraedd! Ond roedd y prynhawn yn un llwyddiannus ac yn gyfle da i gymdeithasu. Yr wythnos ganlynol dychwelodd rhai ar gyfer yr ail Noson Goginio, ac ambell wyneb newydd yn ein plith. Y tro hwn, paratôdd Elliw gacen oergell, sef barau o siocled a bisgedi, a gwnes innau ‘frownies’ a chrymbl afalau. Unwaith eto, roedd croeso i bawb flasu’r danteithion!



Daeth yr wythnos i’w therfyn gyda Noson Gêmau. Rhannwyd yn ddau dîm i fynd benben â’i gilydd mewn chwe rownd, oedd yn cynnwys symud cymaint o ‘Rocklets’ â phosib o un fowlen i’r llall gyda gwelltyn diod, rhoi trefn ar linellau cymysg ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, a cheisio adnabod pobl a llefydd mewn lluniau! Llongyfarchiadau i’r tîm buddugol a enillodd gryno ddisg o gerddoriaeth Gymraeg!


Roedd y pythefnos yn aruthrol o brysur, y gwrthwyneb llwyr i wyliau! Ond dwi’n hapus dros ben gyda’r fenter hon. Felly diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth i’r Gymraeg yn y Gwyliau!