lunes, 28 de marzo de 2011

De Todo Un Poco

Enw siop yn Gaiman yw ‘De Todo un Poco’, sy’n yn golygu ‘tipyn bach o bopeth’. Ond ma fe hefyd yn adlewyrchu’n amser i ym Mhatagonia hyd yn hyn – felly dyma bigion o’r hyn dwi wedi’i neud ers cyrraedd...

Ddeuddydd ar ôl i fi gyrraedd Gaiman, cyrhaeddodd fws llawn pobl o’r Unol Daleithiau i glywed Tegai Roberts yn rhoi sgwrs ar hanes y Wladfa yng Nghapel Bethel. Er mai’r bwriad o’dd eistedd yn y cefn yn gwrando, ges i ngalw i ddarllen Salm 23 iddyn nhw yn Gymraeg, cyn rhoi cyflwyniad byr o ngwaith gyda Menter Patagonia, ac ateb eu cwestiynau!



Ma Côr Gaiman yn ymarfer am 9.00 bob nos Lun a nos Fercher yn yr Ysgol Gerdd, a fi yw’r aelod diweddara - contralto! Dwi ddim am ddweud unrhyw beth pellach am hyn, heblaw mod i’n mwynhau bod yn rhan o’r côr, achos bydd Eisteddfod Trevelin yn ca’l ei chynnal ddiwedd Ebrill, a dwi ddim am i gorau eraill ddwyn unrhyw syniadau!

Dwi’n cynnal ambell wers yn ystod yr wythnos, ac wedi gwneud dau ddosbarth ôl-feithrin hyd yn hyn – un yn y Gaiman ac un yn Nhrelew. Ma oedran y plant yn amrywio o 5 i 9, ac yn hytrach na’u dysgu nhw, fy swydd i yw chwarae gyda nhw’n Gymraeg – gwych!



Wrth gwrs, ro’dd Cymru yn herio Ffrainc yng ngêm ola’r Chwe Gwlad, felly benderfynais i y bydde’n syniad da ca’l criw at ei gilydd i’w gwylio hi. Dewiswyd ‘Touring’ yn Nhrelew fel lleoliad, a 4.30 yn amser cwrdd. Ry’n ni deirawr tu ôl i Gymru – pedair ers troi’r clociau! Wel, ar ôl i griw bach ohonon ni gyrraedd ’na, sylweddolwyd fod y gêm yn ca’l ei dangos ‘as live’ ar ESPN+ am 7.00. Felly yn lle hynny, gethon ni ein tywys i’r ystafell wely yn y gwesty lle mae’n debyg i Butch Cassidy aros ynddi un tro – o be wi wedi’i glywed am y gêm, weden i fod hynna wedi bod yn 80 munud llawer mwy diddorol...

Ro’dd Cynog a Llinos Dafis, a Gareth a Gina Miles yn ymweld â Phatagonia ddechre’r wthnos diwethaf, felly manteisiodd Menter Patagonia ar hyn. A chytunodd Cynog Dafis a Gareth Miles i roi sgwrs fach yn Salon Cultural Gaiman nos Lun – y naill ar ddatganoli yng Nghymru, a’r llall ar fywyd llenor. Ro’dd hi’n noson ddifyr iawn, gyda rhyw 30 o bobl yn bresennol, a Ricardo Iranni yn cyflwyno copïau o’i lyfr ‘1865’ i’r ddau i gofio’r noson. A phrynhawn Mawrth siaradodd Llinos Dafis yn Ysgol Camwy ar ei gyrfa hi ynghlwm wrth ddwyieithrwydd yng Nghymru. Ma Cynog a Llinos Dafis yn byw yn Bow Street, felly cafon nhw groeso brwd iawn!




Brynhawn Gwener, fues i am dro i Radio Chubut er mwyn gweld Tegai Roberts a Luned Gonzalez yn gwneud eu rhaglen radio wythnosol – rhyw awr o hyd yn adrodd cyfarchion amrywiol a chwarae caneuon Cymraeg. Bydda i’n ca’l fy nghyfweld ar y rhaglen mewn ychydig wythnosau!




A nos Wener ro’dd cyfarfod cyntaf ‘Clwb’ yn Gaiman ar gyfer y bobl ifanc. Wyth ohonon ni o’dd ’na, gyda phawb yn dod â bwyd (cacennau yn bennaf - hwre!) a diodydd, a gwylio ‘Separado’. Do’n i ddim wedi gweld y ffilm, ac ro’dd hi’n ddiddorol ei gwylio ym Mhatagonia a finnau bellach yn ’nabod rhai o’r bobl a’r lleoliadau! Ond siom fawr o’dd fod y ffilm yn targedu cynulleidfa Saesneg, a’i bod hi’n eithaf anodd ei dilyn os nag y’ch chi’n deall Saesneg. Ro’dd hi’n noson dda, a gobeithio bydd y clwb yn parhau’n un wythnosol, gyda bwriad o ddechrau un yn Nhrelew hefyd.


Felly dwi yn gweithio draw ’ma! Fydd hi ddim yn wyth mis o galafantio – ddim yn llwyr ta beth...

martes, 22 de marzo de 2011

Todo Gaiman X

Ar ôl cyrraedd Patagonia (dros wythnos nôl erbyn hyn), ro´dd hi´n amlwg fod rhywbeth mawr ar feddwl pawb - a buan y sylweddolais i fod etholiad ar droed...

Diben yr etholiad o´dd penodi ´gobernor´ newydd i´r dalaith (Chubut), ac ro´dd pob maer lleol yn ca´l ei ethol hefyd. Ro´dd yr ymgyrchu i´w weld bob man - posteri ar y waliau, polion lamp, ffenestri; baneri; ´billboards´; enwau ar y waliau, pontydd a´r ffyrdd; a cherbydau´n crwydro´r stryoedd gydag uchelseinydd swnllyd!

Ddydd Sul (20/3/11) daeth diwrnod mawr y pleidleisio! Felly es i mas i fusnesa...

Ma hi´n orfodol i bobl yr Ariannin sy dros eu deunaw bleidleisio. Os na fyddwch chi´n gwneud ´ny, am ba reswm bynnag, wedyn fydd gyda chi 60 diwrnod i lenwi ffurflen yn cyfiawnhau hynny. Felly ro´dd pobl yn ciwio i bleidleisio yn Gaiman, a´r strydoedd yn llawn - hyd yn oed yn ystod y ciesta! Ond erbyn ganol y prynhawn (6.00 fan hyn!), ro´dd y gorsafoedd pleidleisio wedi´u cau a phawb wedi cilio i´w cartrefi i gnoi eu hewinedd tra bo´r pleidleisiau´n ca´l eu cyfri. Erbyn rhyw 7.00 ro´dd ´na naws ddisgwylgar yn cropian drwy´r dre, a phobl yn dechrau ymddangos ar y strydoedd yn aros yn eiddgar am y canlyniad...


Ymhen rhyw awr, ro´dd Gaiman yn ferw gwyllt! Ro´dd sylw pawb wedi´i hoelio ar fan penodol lle´r o´dd torfeydd wedi ymgynnull tu fas, a rhagor yn glystyrau ar gorneli´r strydoedd cyfagos. Ro´dd y traffig wedi dod i stop, a gyrwyr y cerbydau o´dd yn symud naill ai´n hongian mas o´r ffenestri neu´n twtio´u cyrn! A bois, bach o´dd y cwn yn wyllt!! Er bod tân gwyllt wedi dechrau ca´l eu cynnau a phobl yn dechrau dathlu, chafodd y canlyniadau ddim eu cyhoeddi tan yn ddiweddarach. Ro´dd chwe ymgeisydd yn sefyll i fod yn faer Gaiman, a´r ras yn un agos iawn rhwng y ddau geffyl blaen...

Gabriel Restucha (Gabro) enillodd, sef y maer presennol.

Ma Gabro yn siarad Cymraeg!

domingo, 20 de marzo de 2011

Bws, bingo a ´busted´.

Ma ’na ddwy ffordd o gyrraedd Patagonia o Buenos Aires – ar awyren (rhyw 2 awr) neu fws (19 awr). Ethon ni ar y bws! Ond do’dd e ddim yn rhyw Draws Cambria o fws – o na…

Ma’r seddi ar y ‘coche cama’ yn rhai mawr a chyfforddus, sy’n agor bron i’r llawr, gyda blanced a chobennydd, a lle i orffwyso’ch traed. Ro’n nhw hefyd yn darparu snac, swper a brecwast i ni, yn dangos dvds, a buon ni hyd yn oed chwarae gêm fach o bingo! Ar ôl i’r ddau berson cynta weiddi ‘Bingo!’ tynnodd pawb o’dd ag ond un rhif ar ôl rif arall o fag am gyfle i ennill gwobr... a dim ond un rhif o’dd ar ôl ’da fi - 78! Ond yn anffodus, dynnodd rhywun arall y rhif lwcus o’r bag. Do’s ’da fi ddim syniad be o’dd y gwobrau!




Gymerodd y daith 22 awr yn y diwedd. Ar ôl croesi’r ffin i dalaith Chubut, dda’th swyddog ar y bws gyda chi yn edrych am gyffuriau, ac a’th y ci a’i drwyn yn syth at sedd y boi o’dd yn eistedd gyferbyn â fi! Felly bant â’r dyn, a welon ni ddim ohono fe wedyn! Ond gyrhaeddodd y gweddill ohonon ni ben ein taith yn ddiogel.

Buenos Aires

O’r diwedd, wi wedi llwyddo i greu blog! Felly bant â ni…

Ar 9 Mawrth, rhyw 26 awr ar ôl gadael Cymru, glaniais i ac Iwan yn Buenos Aires! Y peth cynta nes i o’dd cymryd ‘ciesta’ – jyst er mwyn taflu’n hunan i ganol y diwylliant o’r cychwyn cynta. Ond wedodd rhywun wrtha i’n ddiweddarach nag yw pobl Buenos Aires yn cymryd ciestas! O wel.




Dreulion ni rai diwrnodau yn y brif ddinas, yn ymddwyn fel twristiaid go iawn – Sbaeneg fratiog, bwyta ar amserau hollol wahanol i bawb arall, llosgi yn yr haul, a theithio ar y bws heb do o gwmpas y ddinas gyda’n mapiau. Ethon ni i stadiwm bêl-droed y Boca Juniors, a cha'l cip arnyn nhw'n hyfforddi wrth fynd heibio ar y bws!  Fuon ni hefyd yn ymweld â mynwent enwog Recolta, lle ma Eva Peron (Evita) wedi ca’l ei chladdu. Lle rhyfedd iawn. Ro’dd e’n debycach i dre’r meirw na mynwent, gyda’i rhesi o feddau fel tai crand ond llwm, ac ro’dd cerdded ar hyd y ‘strydoedd’ yn brofiad eithaf anesmwyth.





Ond y profiad mwya rhyfedd a chofiadwy o´dd ymweld â´r Llysgenhades, Shan Morgan, sy´n hanu o Aberaeron.  Dda´th car du gyda ´tinted windows´ i´n casglu ni o´r gwesty, a dyn o´r Cyngor Prydeinig yn aros amdanon ni wrth gatiau´r Llysgenhadaeth.  A mewn â ni!  Cafon ni ein tywys ar hyd carped coch y grisiau a’r coridorau posh at ryw fath o feranda marmor o´dd yn edrych dros yr ardd.  A ´na le o´dd bwtler yn aros amdanon ni yn ei siaced wen a´i fow-tei!  Ymunodd Shan Morgan â ni am baned o goffi, gwydred o ddŵr a phlated fach yr un gyda chacen lemwn, cacen siocled, a bisgen arnyn nhw – dim Ferrero Roches! A ’na le fuon ni’n sgwrsio am y Wladfa, gwaith Menter Patagonia ayyb – ma hi’n frwd iawn dros y gwaith. Trwy gydol y sgwrs o ryw 3/4 awr, ro´dd y bwtler yn sefyll yn eiddgar yng nghornel y ´stafell - bron iawn iddo fe redeg draw at y Llysgenhades pan o´dd hi´n trio tynnu´i siaced! O’dd e’n rhy hwyr, ond gosododd e’r siaced ar gefn cadair arall yn gelfydd!





Dwi ar ddeall fod rhyw 13 miliwn yn byw yn Buenos Aires a rhyw 10 miliwn yn ychwanegol ar y cyrion (40 miliwn yw poblogaeth yr Ariannin), ac ro’dd pobl yn synnu pan fydden i’n gweud wrthyn nhw mai ond 3 miliwn yw poblogaeth Cymru gyfan. Ond ges i’n synnu gan gymaint o’r Archentwyr sy wedi clywed am Gymru a’r Gymraeg – a hynny achos Patagonia. Galla i ddim gweud pa mor braf yw dod i wlad lle nag o’s angen esbonio le ma Cymru a nag yw hi’n rhan o Loegr, nac esbonio beth yw ‘Cymraeg’ a pham mod i’n ei siarad hi!