lunes, 27 de junio de 2011

¿Qué pasa?

Wel, dyma beth sy wedi bod yn digwydd yn ddiweddar...

Lludw
Ysgrifennais i flog yn ddiweddar ddiwrnod ar ôl i'r lludw o losgfynydd Puyehue-Cordon Caulle gyrraedd. Dair wythnos yn ddiweddarach, ac mae’n dal yma! Roedd yr wythnos gyntaf yn un ddigon ansicr - a chyffrous - a dweud y gwir. Cuddiodd pawb yn eu tai drwy’r dydd Sul cyntaf, felly arhosodd y lludw’n garped llonydd dros yr ardal. Er bod yr ysgolion wedi’u cau ar y dydd Llun a rhybudd i beidio â gadael eich tai os nad oedd raid, roedd rhai wedi mentro allan yn eu moduron, ac eraill yn sgubo’r palmentydd. Felly cododd y lludw i'r aer. Ail agorodd yr ysgolion ddydd Mawrth, ond erbyn y prynhawn roedd naws felynaidd iawn i'r byd - fel bod mewn llun sepia. A dechreuodd y gwynt chwythu! Bois bach, ’na beth oedd gwynt. Hyd yn oed os oeddech chi’n gwneud eich gorau glas i guddio’r darn lleiaf o groen – het fawr, sgarff fwy, sbectol, mwgwd i'ch ceg a'ch trwyn, roedd hi’n anochel fod eich gwallt, eich clustiau, eich llygaid, eich trwyn, a’ch ceg yn llawn lludw! Roedd y deuddydd nesaf yn ddigon tebyg, ac erbyn y dydd Gwener roedd y sefyllfa wedi setlo rhywfaint a’r ysgolion wedi eu hail agor. Mae rhagor o ludw wedi cyrraedd ers hynny gan fod y gwynt wedi troi cwpl o weithiau, ond dyw’r sefyllfa ddim cynddrwg ag oedd hi bythefnos nôl. Mae rhai yn dweud mai fel hyn fydd hi am ychydig wythnosau, eraill yn sôn fod rhagor ar ei ffordd ac y bydd hi fel hyn am rai misoedd, tra bod eraill wedi crybwyll y gair ‘blynyddoedd’! Hyd yn oed os na fydd rhagor yn cyrraedd, dwi’n siŵr y bydd pobl yn dod o hyd i ludw mewn ambell dwll a chornel am rai blynyddoedd…

Empanadas
Fel dwi wedi sôn o’r blaen, mae criw ôl-feithrin y Gaiman yn rhoi cynnig ar goginio bob pythefnos, a'r tro diwethaf cawson ni hwyl yn coginio empanadas! Daeth pob un â’i gynhwysyn – toes, ham, a chaws – a phawb yn gwneud ei ran wrth eu paratoi. Roedd hi fel ffatri yng nghegin Tŷ Camwy! Roedd un yn torri’r caws wrth i un arall ei rolio mewn ham, a’r lleill yn eu gosod yn y toes yn barod i'w rhoi yn y ffwrn. Mae’n siŵr ein bod ni wedi gwneud dros ugain o empanadas, ac wrth gwrs, roedd yn rhaid eu blasu! Felly eisteddon ni o gwmpas y bwrdd i’w bwyta gyda’n gilydd. Ac o, am flasus oedden nhw – chwarae teg i ni! Wel, galla i ddim cymryd unrhyw glod achos y plant wnaeth y gwaith caled. Tybed be goginiwn ni’r tro nesaf…


Diwrnod y Llyfr
Roedd y 15fed o Fehefin yn Ddiwrnod y Llyfr yma yn yr Ariannin, a chafodd Ysgol Feithrin y Gaiman amser bednigedig yn dathlu. Gwisgodd nifer o’r plant yn arbennig at yr achlysur – Eira Wen, Zorro, arth wen, Ben 10, tywysgoes… Daeth y plant â llyfr gyda nhw i ddangos i weddill yr ysgol, a darllenais i un o’r llyfrau Cymraeg iddyn nhw - ‘Mali a’r trên’ - cyn i un o'r athrawesau, Rebeca White, ddarllen llyfr Sbaeneg am fochyn yn bwyta gormod o lysiau. Bu’r plant hefyd yn adrodd ac yn canu i gloi amser gwych a lliwgar gyda’n gilydd. Dwi’n gobeithio fod y plant wedi mwynhau eu hunain, ac y bydd rhywbeth yn cael ei gynnal bob Diwrnod y Llyfr o hyn ymlaen.

Diwrnod y Faner / Día de la Bandera
Mae 20 Mehefin yn ddiwrnod pwysig iawn yn yr Ariannin, sef Diwrnod y Faner. Diwrnod arall o wyliau – hwrê! Mae’r diwrnod yn nodi marwolaeth Manuel Belgrano yn 1820, sef crewr baner yr Ariannin, ac ar y dyddiad yma bydd ysgolion ledled y wlad yn cynnal seremoni lle bydd pob plentyn blwyddyn 4 yn addo’i deyrngarwch i’r faner. Fues i ddim mewn seremoni, a bydda i'n onest gyda chi a chyfaddef (yn llawn cywilydd a balchder) mai’r rheswm dros hyn oedd mod i wedi cysgu tan 11 o’r gloch! Dyma’r hwyraf i fi gysgu ers cyrraedd y Wladfa - ac ar ôl bod mewn cyfarfod tan un o’r gloch y bore’r noson gynt, roedd e’n werth chweil. Roedd hi’n ddiwrnod o wyliau, wedi’r cyfan! Ond y noson honno fues i mewn cyngerdd yn Nhrelew lle ro’dd fy ffrind, Ariela, yn canu gyda chôr y brifysgol. Ond nid cyngerdd cyffredin mohono. Roedd un gân am ddyn yn ceisio gwneud galwad ffôn, ac felly’n llawn ‘bîps’ a rhifau, a chân arall lle’r oedd pawb yn cwympo i gysgu. Dyma’r adroddiad ymddangosodd yn un o’r papurau newydd yn ystod yr wythnos! Gyda llaw, ro’n i’n gwisgo streips…


Eisteddfod Mini Bethel

Daeth tro Capel Bethel i gynnal eisteddfod ar y 18fed o Fehefin. Mae’n cael ei galw’n Mini Bethel, gan ei bod hi’n llai na’r eisteddfod gyffredin. Agorodd drysau’r hen gapel (mae dau adeilad i Gapel Bethel, sef yr hen a’r newydd – yn yr adeilad newydd mae’r oedfaon) am 2 o’r gloch y prynhawn. A bois bach, roedd y lle yn orlawn! Dwi ar ddeall fod o leiaf 150 o docynnau plant wedi cael eu gwerthu, a phan ry’ch chi’n ystyried faint o gefnogwyr sydd gan bob un – Mam, Dad, Mam-gu, Tad-cu, Anti, Wncwl… - does dim rhyfedd ein bod ni i gyd fel sardîns!


Cefais i'r fraint o agor yr eisteddfod mewn gair o weddi yn Gymraeg, cyn i Judith weddïo’n Sbaeneg, a phawb ganu anthem yr Ariannin. Wedyn ymlaen â’r cystadlu! Y gystadleuaeth gyntaf oedd adrodd y plant lleiaf, sef ‘Dau Dderyn’. Wel, dwi’n cofio canu’r darn ’ma ar un o fy niwrnodau cyntaf yn Ysgol Dop Rhydypennau – ‘Dau dderyn bach ar ben y to. Dyma Jim, a dyma Jo…’ Penderfynodd pwyllgor yr eisteddfod mai cydadrodd deulais fyddai’r plant er mwyn arbed amser. Ac wrth weld rhyw dri deg o blant yn llenwi’r llwyfan, ro’n i – a sawl un arall, mae’n siŵr - yn cymeradwyo’r pwyllgor yn dawel bach. Do’n i ddim yn beirniadu tan un o’r cystadlaethau olaf, felly cefais i eistedd nôl a mwynhau’r adloniant – unawdau, partïon , corau, canu teuluol, eitem gan Ysgolion Sul. Ro’n i'n cystadlu gydag Ysgol Sul Capel Bethel yn y gystadleuaeth hon - ac enillon ni! Dyw’r ffaith mai ni oedd yr unig gystadleuwyr yn golygu dim, a fwynheuon ni gacen siocled yn fuddugoliaethus yn yr Ysgol Sul y bore canlynol!


Daeth fy nhro i feirniadu, sef y sgets. Un grŵp oedd yn cystadlu, a’r sgets yn seiliedig ar y lludw, a ro’n i yn fy nagrau yn chwerthin! Ro’n nhw’n fendigedig, ac yn llawn haeddu’r wobr gyntaf. Daeth y cystadlu i ben gyda ‘Chanu Emyn’, ac am 19.30 canodd pawb oedd wedi aros tan y diwedd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ cyn troi am adref. Bendigedig.










Arholiadau
Cynhaliwyd dau ddiwrnod o arholiadau Cymraeg CBAC yma yn ddiweddar. Ar 10 Mehefin, safodd pump arholiad Mynediad yn Nhrelew, a’r wythnos ganlynol safodd deg arholiad Sylfaen yn y Gaiman, a bues innau’n arsylwi. Cyrhaeddodd pawb Ysgol Gerdd y Gaiman erbyn 9 o’r gloch, ac ar ôl gosod y byrddau (a thynnu llun!), bant â’r cart! Darllen a Deall oedd y papur cyntaf, cyn taclo’r Ysgrifennu. Yn ystod y papur hwn, cafwyd toriad trydan - roedd digon o olau yn dod drwy’r ffenestri, ond Gwrando oedd y papur nesaf! Diolch byth, dychwelodd y trydan mewn pryd i wrando ar rywun yn llogi neuadd ar gyfer noson Salsa, rhywun arall yn trefnu gwyliau gwersylla, a Tania Tomos yn cwyno am JetAir! Dim ond eistedd yng nghefn yr ystafell fues i yn ystod yr arholiad, ac ro’n i wedi blino ar ôl dwy awr a hanner o hynny – druan â’r rhai oedd yn sefyll yr arholiad! Ar ôl seibiant o hanner awr, ymlaen at y llafar. Gan fod deg o ymgeiswyr, roedd Clare wedi gofyn a fydden i’n barod i rannu’r gwaith gyda hi. Ar ôl hyfforddiant cyflym ar sut i recordio ar yr MP3, aethon ni ati i siarad. Dwi’n credu mod i'n fwy nerfus na’r ymgeiswyr cyn dechrau! Ond llwyddodd pawb i ymlacio unwaith i ni ddechrau – er i fi ac un o’r merched ga’l ffit o gigls ar ôl un o’i hatebion! Roedd gweld cymaint yn sefyll yr arholiad, a naw ohonyn nhw dan 17oed, yn rhoi gwefr. Da iawn nhw!

No hay comentarios:

Publicar un comentario