jueves, 26 de abril de 2012

¿Qué pasó?*

Dyma beth ddigwyddodd* yr wythnos hon...

Cymanfa Ganu
Ymhlith nifer o resymau eraill, ymsefydlodd y Cymry yn Nyffryn Camwy er mwyn cael rhyddid i addoli yn eu hiaith eu hunain. Felly yn ystod degawdau ola’r 19g a dechrau’r 20g adeiladwyd nifer o gapeli ar hyd a lled y dyffryn. Adeiladwyd y cyntaf yn Nhrerawson yn 1873 (neu Gaer Antur, i roi enw’r Cymry ar y dref) ond does dim olion ohono yno heddiw, ac yn ôl y sôn mae rhywun wedi dwyn y plac oedd yn nodi lleoliad y capel. Bellach mae 16 o ‘gapeli Cymreig’ ar hyd a lled y dyffryn, e.e. yn Nhreorci, Bryn Crwn, Trelew, Bryn Gwyn, Dolafon, Tir Halen, Gaiman, Bethesda, Drofa Dulog, Lle Cul. Mae´r mwyafrif ohonyn nhw mewn lleoliadau eithaf unig a diarffordd, a hynny gan iddyn nhw gael eu hadeiladu gan deuluoedd oedd yn byw ar y ffermydd cyfagos. Byddai teuluoedd niferus yn mynychu oedfaon yn y capeli hyn bob dydd Sul, ond erbyn hyn achlysurol yw´r gwasanaethau sy´n cael eu cynnal ynddyn nhw - er bod Bethel yn y Gaiman a´r Tabernacl yn Nhrelew yn cynnal dwy oedfa´r Sul.
Mae Cymdeithas Dewi Sant yn cynnal cymanfaoedd canu misol yn y capeli hyn, a thro Eglwys Dewi Sant Dolafon oedd hi fis Ebrill. Eglwys fach yw hon mewn cuddfan ynghanol y coed, ac edrychai’n ddigon hudolus wrth i ddail yr hydref gwympo o’i chwmpas fel plu eira lliwgar. Dwi´n dwlu ar sŵn crenshian dan draed. Hwn oedd y tro cyntaf i fi gamu dros y trothwy, ac os oedd hi’n edrych yn fach o’r tu allan, edrychai hyd yn oed yn llai ar y tu fewn! Does dim ffenestri lliw iddi nac unrhyw addurniadau crand ar y waliau – ac eithrio´r fedyddfaen, a siapau’r ffenestri a´r nenfwd, edrychai’n debyg i gapel a dweud y gwir. Roedd pob sedd yn llawn, ac ambell un yn sefyll yn y cefn wrth i’r gymanfa ddechrau. Sbaeneg oedd iaith y darlleniadau a’r neges, ond roedd y canu’n ddwyieithog gydag ambell emyn yn uniaith Gymraeg, eraill yn uniaith Sbaeneg, a rhai yn neidio o un i’r llall. Ond teimlwn i reidrwydd i ganu pob pennill o ‘Dyma gariad’ (mae ‘na drydydd pennill i’r emyn yn y llyfrau yma, dwi heb ei weld o’r blaen), a ‘Cwm Rhondda’ ar dop fy llais yn Gymraeg. A dan ganu ‘O, am aros! Yn Ei gariad ddyddiau f’oes’ cerddodd y gynulleidfa drwy’r drysau derw ac allan i’r byd mawr.

Cwrdd Diolchgarwch
Ddydd Sul yr 22ain o Ebrill cynhaliwyd cyrddau diolchgarwch yng Nghapel Bethel y Gaiman, sef y capel dwi’n ei fynychu. Cwrdd Sbaeneg oedd yn y bore, a’r sedd fawr yn llawn gwahanol fwydydd – cyfrennais i ddau zapallito, sef pwmpenni bach. Cenais i ddwy gan o fawl gyda chriw ieuenctid y capel, a chafwyd neges ar Salm 100. Am 6 o’r gloch y prynhawn daeth tro’r cwrdd Cymraeg, a bûm i’n ei gyd-drefnu. Cafwyd darlleniadau, unawd, parti llinynnol, parti cyd-adrodd, a chefais i’r fraint o rannu neges gyda’r sawl oedd wedi dod i’r capel. Canolbwyntiais ar Salm 107:8-9 gan dynnu sylw at y ffaith mai Iesu yw bara’r bywyd ac mai fe sy’n rhoi’r dŵr bywiol i ni. Diolch o galon i bawb am eu cyfraniadau i’r cwrdd. Ar ôl y gwasanaeth, cynorthwyais i rannu’r rhoddion rhwng gwahanol focsys i’w dosbarthu i gartrefi yn y Gaiman


Trannoeth y cwrdd diolchgarwch fe lwythais i a Luned ei char gyda’r bocsys a’u cludo i’r gwahanol gartrefi. Doedd pethau ddim yn edrych yn rhy addawol ar y dechrau, gan fod rhai pobl ddim adre, a chi yn ein rhwystro rhag cael mynediad i un tŷ! Ond cawson ni groeso cynnes mewn un cartref yn Gaiman Newydd lle mae Jane Ellen yn lletya gyda gwraig sy’n gofalu amdani. Bydd hi’n dathlu ei phen blwydd yn 95 fis nesaf, ac er ei bod hi’n ansicr ar ei thraed ac ychydig yn drwm ei chlyw, roedd ganddi gof da a Chymraeg yn naturiol a choeth – a hynny er nad oedd ganddi unrhyw i siarad Cymraeg â nhw.
Yn ogystal â’r bocs o roddion, ro’n ni hefyd yn rhoi copïau o Clecs Camwy ac o raglen y Cwrdd Diolchgarwch i bob un. Felly cafodd Jane Ellen ei chyfweld ar gyfer rhifyn mis Ebrill o Clecs (fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir), cyn i Luned ofyn iddi, ‘Ydych chi eisiau i ni ganu emyn i chi?’ Do’n ni ddim wedi trafod hyn ymlaen llaw! Felly ganeuon ni ddeuawd o ‘Cyfrif y Bendithion’ yn y fan a’r lle! Ma´n siŵr mod i wedi gwrido, ond toddodd yr embaras wrth weld y mwynhad a befriai ar wyneb Jane Ellen. Buon ni i lond llaw o gartrefi eraill dros y ddwy awr dilynol a chael sgyrsiau braf a diddorol gan sawl person. Dim ond mewn un cartref arall gynigiodd Luned ein bod ni´n canu a gan nad oedd copiau o´r rhaglen ar ôl, disodlwyd sawl gair gan ´la la la´ y tro hwn wrth i´r ddeuawd droi´n driawd.

Bryn Gwyn
Mae nifer o bobl wedi bod yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Bryn Gwyn dros y blynyddoedd, a’r wythnos diwethaf dechreuodd fy ffrind, Virginia, gynnal dosbarthiadau yno bob dydd rhwng 1.00 a 3.00. O hyn ymlaen, bydda i’n mynd gyda hi ar brynhawniau Mawrth ond fe es i ddydd Llun yr wythnos hon hefyd i gynnig help llaw. Mae Bryn Gwyn yn ardal wledig sy ar gyrion y Gaiman lle mae nifer o ffermydd ar wasgar, a gyferbyn â Chapel Seion mae Ysgol Bryn Gwyn. Bydd Virr yn cynnal dwy wers awr o hyd bob dydd i bob blwyddyn yn ei thro - o’r Meithrin hyd flwyddyn chwech. Tro blynyddoedd tri ac un oedd hi ddydd Llun a blynyddoedd pump a dau ddydd Mawrth, a gan mai dyma wersi Cymraeg cynta’r flwyddyn adolygu wnaethon ni bennaf. Roedd rhai o’r plant wedi cael gwersi yn y gorffennol ac yn cofio tipyn – y cyfarchion, teimladau, y lliwiau, a ‘pen-ôl ar y gadair’!
Ges i lifft i’r ysgol ddydd Llun, gan ddychwelyd i’r Gaiman ar y bws ysgol. Ond fentrais i yno ar gefn y beic ddydd Mawrth! Yn dilyn problem gychwynnol gyda’r gadwyn, gyrhaeddais i ben fy nhaith mewn rhyw 40 munud yn erbyn y gwyntoedd cryfion. Dwi heb reidio beic ers bron i flwyddyn, felly roedd fy nghoesau fel jeli wrth i fi gerdded i’r ystafell ddosbarth! Pan ddaeth hi’n amser troi am adref, arhosais i’r ceir a’r bysiau adael cyn esgyn y ceffyl haearn, heb sylweddoli fod un bws yn troi rownd mewn man cyfagos. Dywedodd Virr wrtha i fod y plant ar y bws yn dweud wrth basio(yn Sbaeneg), ‘Edrychwch, mae’r athrawes Gymraeg ar gefn beic!’

Tir Halen
Ardal arall yn Nyffryn Camwy, sy rhyw 27km o’r Gaiman yw Tir Halen. Rhoddwyd yr enw hwn ar y lle yn fuan wedi i’r Cymry gyrraedd yno – ar ôl dyfrio’r tir ac i’r dŵr anweddu, gadewid haenen o halen ar y tir. Ddegawdau mawr yn ôl, cafodd yr ardal ei hailenwi yn 28 de Julio (‘28ain o Orffennaf’, sef y dyddiad y glaniodd y Cymry ym Mhorth Madryn). Ond Tir Halen yw’r enw o hyd ar dafod leferydd Cymry Patagonia. Pentref fechan iawn sydd yn ei chanol, gydag ysgol, capel, amgueddfa ac ambell dŷ, ond mae Tir Halen ei hun yn ymestyn dros ardal enfawr gyda ffermydd yn frith drwyddi. A’r wythnos hon aethon ni ar drywydd un o’r ffermydd hyn. Cynigiodd ein cyfaill, Ricardo, fynd â ni am dro o amgylch Tir Halen, gan alw ar ffermwr oedd wedi prynu pwmp dŵr ganddo. Rhys Roberts sy´n byw yn ‘Bod Unig’, ac wedi enwi´r fferm ar ôl cartref ei daid ger Blaenau Ffestiniog cyn iddo ymfuo i Batagonia. Prin yw´r cyfleon mae Rhys a´i wraig yn eu cael i siarad Cymraeg erbyn hyn, ond ar ôl ambell frawddeg rydlyd llifodd eu Cymraeg yn rhwydd a siaradai Rhys Roberts gydag acen ogleddol gref! Dyw e erioed wedi bod i Gymru. Cawson ni sgwrs a thot o fate yn y gegin, lle´r oedd copi o Clecs Camwy ar y bwrdd! Ar ein ffordd yn ôl i’r Gaiman welon ni dyrbin Crocet (system drydanu gynta’r dyffryn), enfys yn yr awyr, pont grog fechan, a dulog marw.



Ysgol Feithrin
Dwi wedi ailddechrau darllen stori yn yr Ysgol Feithrin, ond ar brynhawn Iau yn hytrach na Gwener eleni. Bois bach, ma rhai o´r plantos wedi tyfu a chymaint o wynebau bach newydd yno! Maen nhw´n dilyn thema ´Fy Nghorff´ ar hyn o bryd, felly´r wythnos diwethaf ddarllenais i ´Bath Mawr Coch´ iddyn nhw, a´r wythnos hon ddarllenon ni ´Cyfrinach y Bwgan Brain´ - mae hi´n bosib cysylltu´r ddwy stori gyda´r corff! Cafodd y plant hŷn hwyl yn canu ´Pen, ysgwyddau, coesau, traed´ ar ras, a dynwared bwgan brain. On cwympodd un o´r plant lleiaf i gysgu.

Teisen Ddu
Ges i rysáit ar gyfer teisen ddu´r wythnos diwethaf, a neithiwr bues i wrthi´n pobi! Er ei bod hi´n edrych fel teisen ddu, y blas sy´n cyfri...


No hay comentarios:

Publicar un comentario