lunes, 14 de mayo de 2012

Anifeiliaid, Bwyta, Cyflenwi, Chwarae, Diolch...

Dwi nôl ym Mhatagonia ers dros fis bellach, a dyma hanes ambell beth dwi wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar...

Cyflenwi
Dwi wedi bod yn gwisgo capan yr athrawes gyflenwi yn ddiweddar. Yn ystod fy wythnos gyntaf gymerais i ddosbarth Pellach gyda chriw arddegau Ysgol Camwy, lle cafodd pob un ohonom funud i siarad am ein gwyliau haf (neu aeaf yn fy achos i) cyn i bawb arall eu holi am y gwyliau. Treuliodd pob un ohonyn nhw amser ar y traeth, a gofynnwyd i fi, ‘Buest ti ar y traeth?’ Esboniais nad yw torheulo ar draeth Aberystwyth ganol mis Ionawr yn syniad call! Mae Ana newydd ddychwelyd ar ôl treulio tair wythnos yng Nghymru, a chyflenwais dau o’i dosbarthiadau. Ffrindiau i fi sy’n mynychu’r cwrs Uwch yn Nhrelew, felly dreulion ni’r rhan fwyaf o’r amser yn ‘ymarfer ein Cymraeg’ drwy sgwrsio dros bice’r maen a mate cyn troi at y gwaith roedd Ana wedi’i adael i ni. Un weithgaredd oedd eu bod nhw’n dewis cwestiynau gosod i’w gofyn i fi o restr – ‘Oes diddordebau gyda ti?’, ‘Beth wyt ti’n meddwl o’r teulu brenhinol?’, ‘Beth wyt ti’n meddwl o operâu sebon?’ Dwi'n falch mod i'n colli dathliadau'r Jiwbili. Dwi´n gweld eisiau Pobol y Cwm. Mae´r IPPI yn Nhrelew yn goleg sy´n hyfforddi athrawon Saesneg, ac yn rhan o´u cwrs mae´n rhaid i´r myfyrwyr ddysgu iaith arall – Cymraeg. Maen nhw'n ddechreuwyr pur oedd ond wedi cael tair gwers cyn i fi gwrdd â nhw, ond roedden nhw´n frwd iawn. Treulion ni dipyn o amser yn adolygu cyflwyno ein hunain a´r gwahanol gyfarchion cyn mynd ati i ddysgu ´Dwi eisiau´ ac ´Maen nhw eisiau´. Dwi erioed wedi rhoi gwers WLPAN o´r blaen, felly roedd cynnal dosbarth am ddwy awr yn dipyn o her. Ond fe ddaethon ni drwyddi gyda´n gilydd trwy chwarae gêmau, drilio, sgwrsio a chwerthin - a´r cyfan dros sawl rownd o fate, wrth gwrs!
Mae dwy athrawes i bob dosbarth yn Ysgol Feithrin y Gaiman, ac mae un o’r rhai sy’n dysgu Dosbarth Gwyrdd yn gwneud deufis o brofiad gwaith ar hyn o bryd. Felly dwi’n cymryd y dosbarth hwnnw (3-5 oed) am yr awr a hanner cyntaf bob dydd Mercher ac Iau nes bod yr athrawes arall yn cyrraedd o Ysgol Bryn Gwyn. Dwi heb fod i ddechrau’r Meithrin o’r blaen, a dyma drefn yr awr a hanner cyntaf... Wrth i’r plant gyrraedd maen nhw’n cael cyfle i chwarae’n rhydd am dri chwarter awr, felly gemau bwrdd, jig-so, lliwio, ac ry’n ni hefyd yn canu weithiau. Am 2.30 mae’r ddau ddosbarth hynaf yn ffurfio trên er mwyn mynd allan i’r iard yn daclus i godi’r faner – mae hyn yn feunyddiol orfodol ym mhob ysgol yn yr Ariannin, dan ganu ‘Cân y Faner’. Dwi’n cael gwefr o wrando ar y plant 2-5 oed yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ wedyn hefyd! Ac am yr 20 munud nesaf mae plant Dosbarth Gwyrdd yn cael ‘chwarae allan’, fel maen nhw’n hoffi dweud, nes i Cinthia gyrraedd. Dwi’n ymuno â nhw yn y chwarae, wrth gwrs, er mai cynnig help llaw i rai ar y llithren uchel dwi’n ei wneud gan amlaf! Ar ôl chwarae allan ar ddydd Iau dwi’n mynd o un dosbarth i’r llall yn darllen stori. ´Smot´, 'Lliwiau'r Gath' ac ‘Y Teigr Bach Unig’ oedd llyfrau'r wythnos diwethaf i gydfynd â´r thema Anifeiliaid. Ac aeth Dosbarth Gwyrdd ar drip ysgol i Sw Rawson, a ches i fynd gyda nhw!
A bod yn onest, dwi ddim yn credu mai 'sw' fydden i'n galw'r lle. Roedd yn debycach i Anifeilfa Borth gyda'i amrywiaeth randym o anifeiliaid - mwnci, arth, condoriaid, moch cwta, ffesantod, pain, ceffyl, gwanacos, llwynogod, geifr, ceirw, piwmas, moch, dyfrgi, a theigr oedd yn cysgu allan o'r golwg! Doedd dim llawer o le ganddyn nhw i ymestyn eu coesau, adenydd neu gynffonnau a dweud y gwir, ond roedd y plant wrth eu bodd yn gweld y gwahanol anifeiliaid! Cawson ni bicnic gyda'n gilydd a chyfle i chwarae yn y parc cyn dychwelyd i'r Gaiman ar y bws.

Noson yn Neuadd Dewi Sant
Y noson honno cynhaliwyd noson arbennig yn Neuadd Dewi Sant Trelew. Roedd hi'n gyfuniad o'r llon a'r lleddf - llon wrth i ni groesawu Sara yn athrawes newydd Ysgol yr Hendre, a'r lleddf gan ein bod ni'n ffarwelio â Pedr sydd wedi bod yn dysgu yn yr ysgol ers mis Chwefror. Roedd y neuadd yn llawn hyd yr ymylon, ac i ddechrau hwyl a miri'r noson arweiniodd Pedr bawb ar gân, 'Calon Lân' a 'Sosban Fach'. Wedyn ymunodd pobl o bob oed mewn twmpath, oedd yn ddigon o ddawnsio i godi chwant bwyd. A diolch byth fod pawb wedi dod â chyfraniadau, ac roedd y byrddau'n gwegian dan bwysau empanadas, pitsas, brechdanau, a chreision. Mae dewis empanadas yn anodd gyda'r gwahanol lenwadau posib, ac mae'n amhosib gwybod pa lenwad sy'n cuddio tu fewn i'r toes heb eu trio. Felly dyna fy esgus i am fwyta pedwar! Roedd hi'n ben blwydd ar Elliw, felly ymddangosodd gacen wrth i ni ganu 'Pen Blwydd Llawen' iddi, a dosbarthwyd gwahanol gacennau wrth i'r twmpath barhau. Does gen i ddim esgus am yr holl gacennau fwyteais i! Trodd y gersdoriaeth werin yn cumbia gyda'r sawl oedd yn weddill ddawnsio wrth i ni glirio a glanhau. A pharhau wnaeth y gerddoriaeth gydag ymweliad â chlwb carioci i ddathlu pen blwydd Elliw - a do, cododd y Cymraesau i ganu! Mae'n drueni nad o'n i'n gallu canu yn Sbaeneg (neu'n Gymraeg) fel pawb arall. 'Don't stop me now' oedd ein cân ni...


Pen Blwydd Hapus Dad!
Roedd fy annwyl dad yn dathlu pen blwydd go arbennig yr wythnos diwethaf, a gan na allwn i ymuno yn y dathliadau gyda'r teulu gwnes i gais arbennig am gyfarchion iddo ar raglen radio Tegai a Luned. Cytunwyd, ond yn fwy na hynny, ges i ddewis cân a mynd gyda nhw i'r orsaf radio! Dwi'n credu mai hwn oedd y pedwerydd, os nad pumed tro i fi fod yn Radio Chubut a gyrhaeddon ni yno gydag ond rhyw chwe munud cyn i'r rhaglen gael ei darlledu'n fyw. Yn ôl yr arfer dechreuwyd gyda'r 'fallicimientos' (marwolaethau) a chwarae ambell gân, wedyn daeth y cumpeaños. Roedd sawl cyfarchiad pen blwydd, a chyn rhoi'r ddau olaf esboniwyd nad y'n nhw'n dymuno 'pen blwydd hapus' i bobl sy'n iau nag 80 oed fel arfer ond eu bod nhw'n gwneud eithriad y diwrnod hwnnw! Felly dymunwyd 'Pen Blwydd Hapus Iawn' i Elliw yn gyntaf, a wedyn Elgan Philip Davies - 'el papa de Lois Dafydd!' Dyna oedd fy nghiw i ddod ar y meic a chyfarch Dad cyn iddyn nhw chwarae 'Dinas Dinlle', gan fod Dad yn aelod o Hergest. Rhaglen gerddoriaeth Gymraeg yw hi gyda chaneuon gwerin neu gorawl yn cael eu chwarae gan amlaf, felly roedd chwarae cân roc a phop yn fentrus. Ond bu Luned wrthi'n symud ei breichiau a Tegai'n tapio'i throed ar y llawr - 'Doedd o ddim yn ffôl!' Felly Pen Blwydd Hapus Iawn Dad! X

Diolchgarwch
Mae'r tymor diolchgarwch yn parhau yma yn Nyffryn Camwy. Ar y 6ed o Fai cynhaliwyd oedfa yng Nghapel Bryn Crwn ac ar y 13eg yng Nghapel Bethlehem Treorci. Cenais i gyda chriw o bobl ifanc yng Nghapel Treorci, sef yr unig gapel sy'n darparu te ar ôl pob oedfa! 'Mae fel Gŵyl y Glaniad' oedd ymateb un wraig i'r wledd o de, brechdanau a chacennau oedd wedi cael eu gosod ar y bwrdd!

Helfa Drysor
Bythefnos yn ôl gofynnodd blant dosbarth ieuengaf yr ôl-feithrin am helfa drysor yn y fan a'r lle, gudag ond pum munud o'r wers yn weddill! Felly addewais baratoi un erbyn y tro nesaf. Does dim llawer o sgôp ar dir Ysgol Camwy na Thŷ Camwy i greu helfa ddiddorol, felly roedd meddwl am leoliadau a chlowiau yn anodd. Ond dwi'n falch fod y ddwy a ddaeth wedi mwynhau rhedeg o un lle i'r llall i ddod o hyd i'r cliwiau - a chael rhwber y ddraig goch yn drysor! Wnaethon nhw fwynhau cymaint nes iddyn nhw ofyn am un arall erbyn y wers nesaf. Tybed a fyddan nhw'n sylwi pe bawn i'n defnyddio'r un cliwiau...







Gwener Gwenu
Mae Cymraeg yn bwnc gorfodol ar gyfer tair blynedd cyntaf ysgolion uwchradd Camwy ac Aliwén, gyda'r naill wedi'i lleoli yng nghanol y Gaiman a'r llall ar ei chyrion. Penderfynodd athrawes Gymraeg y ddwy ysgol, Caren Jones, ddod â dosbarth cynta'r ddwy ysgol at ei gilydd ar gyfer prynhawn o weithgareddau cyfrwng Cymraeg o'r enw 'Gwener Gwenu'. Felly am 1.50 brynhawn Gwener yr 11eg o Fai esgynnais y bws gyda 35 o ddisgyblion Camwy a mynd i Ganolfan Arturo Roberts lle'r oedd tua'r un nifer o ddisgyblion Aliwén yn ein disgwyl! Dwi'n siŵr fod yr un perh yn wir ym mhob pentref, tref neu ddinas lle mae mwy nag un ysgol, fod 'na ryw elyniaeth rhyngddyn nhw, ac mae'r un peth yn wir am y ddwy ysgol hon. Felly yn ogystal ag annog y plant i ddefnyddio'r hyn o Gymraeg maen nhw wedi'i ddysgu dros y deufis diwethaf, roedd y prynhhawn hefyd yn gyfle i geisio meithhrin perthynas rhwng y ddwy ysgol. Ond wrth i bawb eistedd ar lawr y neuadd, ffurfiodd afon lydan rhyngddyn nhw, a thipyn o gamp oedd ceisio adeiladu pont drosti! Canu oedd y weithgaredd gyntaf, ac ar ôl i bawb ddysgu'r geiriau canon ni 'Pnawn da! Pnawn da! Sut wyt ti? Sut wyt ti? Da iawn, diolch. Da iawn, diolch. Sut wyt ti? Sut wyt ti?' ar dôn gron. Wedyn ffurfiwyd y Cylch Siarad, sef dau gylch yn wynebu ei gilydd mewn parau a phawb yn dilyn sgerbwd o sgwrs oedd wedi cael ei rhoi ar bapur cyn rhannu´n bedwar grŵp ar gyfer y gêmau. Gan ei bod hi mor oer a gwyntog, cynhaliwyd y gêmau i gyd dan do - dwy gêm rifau, un gêm fwyd, a gêm liwiau. Fi a´r parasiwt oedd yn gyfrifol am y gêm liwiau, felly ro´dd pob grŵp yn dechrau trwy ddysgu´r lliwiau - coch, glas, melyn, gwyrdd - cyn chwarae´r gêm gyfnewid. Byddai pawb yn codi´r parasiwt gyda´i gilydd a finnau´n gweiddi lliw, a´r sawl oedd ar y lliw hwnnw´n rhedeg o dan y parasiwt i gyfnewid lle. Bois bach am sŵn, ac ar ôl ei chwarae gyda phedwar grŵp am 10 munud yr un afraid dweud nad oedd gen i lais nag egni ar ôl!
Rhannwyd yn ddau grŵp i ddod â´r prynhawn i´w therfyn, a thra roedd un yn llenwi holiadur werthuso roedd y llall yn dawnsio gwerin. Wel sôn am strach - doedd y merched ddim eisiau dawnsio gyda´r bechgyn, a doedd y bechgyn ddim eisiau dawnsio gyda´r merched! A bod yn deg, pan o´n i´n mynd i Langrannog yn ddeuddeg oed do´n i ddim eisiau dawnsio gyda´r bechgyn chwaith! Cafodd bawb alfajor i´w fwyta wrth adael y ganolfan, a dwi´n credu fod pawb yn gwenu wrth esgyn y bws am adref.

Clecs Camwy
Mae rhifyn Ebrill Clecs Camwy bellach wedi´i hargraffu ac yn cael ei dosbarthu. Ac wrth gwrs, mae ar gael i´w ddarllen ar wefan Menter Patagonia: www.menterpatagonia.org





No hay comentarios:

Publicar un comentario