jueves, 28 de junio de 2012

Mehefin - Madryn, Eisteddfod, Hawddamor, Emynau, (y) Faner, Iwan, Nadolig

Bois bach, ma mis Mehefin bron iawn â throi'n fis Gorffennaf! Dyma ambell hanesyn diweddar...

MicroEisteddfod Camwy
Wel mae tymor yr eisteddfodau wedi dechrau, ac eisteddfod gynta'r flwyddyn oedd MicroEisteddfod Camwy. Yn wahanol i ysgolion Cymru, nid disgyblion yn cynrychioli gwahanol lysoedd wrth gystadlu yn erbyn ei gilydd yw'r eisteddfod ysgol hon, ond yn hytrach pwyllgor o ddisgyblion yn trefnu rhaglen lle gallai unrhyw un rhwng blwydd a phump ar hugain oed gystadlu - yn ogystal ag ambell gystadleuaeth agored. Hen Gapel Bethel y Gaiman oedd y lleoliad ar yr 16eg o Fehefin ac a bod yn onest doedd dim llawer o bobl yno, gydag un ymgeisydd, os hynny, yn rhai o'r cystadlaethau. Trueni, yn enwedig wrth ystyried holl waith diflino'r bobl ifanc. Ond ges i yn un modd i fyw yn gwylio plant yr Ysgol Feithrin yn dawnsio gwerin, a phlant a phobl ifanc o bob oedran yn canu ac yn adrodd - yn enwedig fy nisgyblion i! Penderfynodd yr ysgol gynnwys gweithgaredd wahanol yn y rhaglen eleni, sef Gêmau Menter Patagonia. Diolch byth, roedd Iwan wedi dod o'r Andes i estyn help llaw gwerthfawr tu hwnt, ac mewn tri sesiwn rhwng y cystadlu cawson ni dipyn o hwyl gyda'r gêmau. Gan fod hyn yn rhywbeth newydd a gwahanol, roedd hi'n amlwg nad oedd y gynulleidfa'n rhy siŵr o'r hyn oedd yn digwydd a'r plant yn dringo'r llwyfan yn betrusgar ar gyfer y gêm gyntaf.
Y gêm 'After Eights' oedd y gyntaf, sef pan ry'ch chi'n gosod un o'r siocledi ar eich talcen ac yn ceisio'i arwain at eich ceg heb ddefnyddio'ch dwylo - dwi'n mwynhau chwarae hon bob Nadolig gyda'r brodyr a'r chwiorydd! Ond does dim After Eights yma rhagor (rhywbeth i'w wneud gyda rheolau mewnfudo), felly cafodd y chwe ymgeisydd oedd ar ddau dim gwahanol fisgen siocled yr un. Dyw hyn ddim yn gymaint o sbort heb ôl y siocled yn toddi dros yr wyneb, ond ro'dd y plant am y gorau i gael eu dannedd yn y bisgedi a'r dorf yn gweiddi eu cefnogaeth! Y gêmau eraill oedd garglo cân (Calon Lân o'dd y dewis gwreiddiol, ond doedd yr ymgeiswyr ddim yn ei gwybod, felly dewiswyd un Sbaeneg) a chafodd y meicroffon gawod dda yn ystod y gystadleuaeth honno! Mewn gêm arall dewisai Iwan anifail a byddai'n rhaid i'r ddau dîm wneud siâp yr anifail hwnnw gyda'i gilydd, wedyn gêm Rocklets rhwng athrawon lle'r oedd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio gwelltyn i symud un o'r peli siocled i ben arall y llwyfan yn eu tro - tasg dipyn yn anoddach na'r disgwyl! Roedd hefyd cystadleuaeth limbo, rhestru cymaint o eiriau Cymraeg â phosib sy'n dechrau gyda'r llythrennau 'A' ac 'C', a phan fyddwn ni'n gweiddi dilledyn roedd hi'n ras rhwng y ddau dîm i ddod â'r dilledyn hwnnw i'r llwyfan. Wel, ro'dd pawb wedi dod i hwyl y peth a phobl o bob oedran yn taflu menig, sgarffiau, siwmperi, sanau ayyb ar y llwyfan! Hwyl a sbri. A chawson ni dystysgrif a tharten jam cartref am ein gwaith! Diolch o galon i MicroEisteddfod Camwy, a llongyfarchiadau i'r pwyllgor ar eu gwaith caled.

Diwrnod y Faner
Enw arall ar yr 20fed o Fehefin yn yr Ariannin yw 'Día de la Bandera', neu 'Diwrnod y Faner'. Ar y diwrnod hwn mae'r genedl gyfan yn cofio am ddylunydd y faner, Manuel Belgrano, fu farw ar y dyddiad hwn yn 1880, ac mae'n wyliau cenedlaethol. Felly ar brynhawn dydd Mawrth y 19eg o Fehefin cynhaliodd Ysgol Feithrin y Gaiman acto yn nodi'r achlysur arbennig hwn.
Dechreuodd y seremoni, fel pob seremoni arall, gyda defod y faner - cerddodd tri phlentyn i'r ystafell dan gario baner yr Ariannin a thri arall yn cario'r Ddraig Goch. Yn yr ystafell roedd y plant, yr athrawon, a nifer o'r rhieni wedi ymgasglu ac ymunodd pawb i ganu anthem yr Ariannin wrth i ddau o'r plant godi'r faner las a gwyn. Ar ôl estyn croeso i bawb a rhoi cyflwyniad byr yn esbonio pam ein bod yn dathlu Diwrnod y Faner, daeth y perfformiad. Roedd Rebeca wedi paratoi sgript o hanes Belgrano a'r faner i fi ei darllen (yn uniaith Gymraeg), a thra mod i'n ei darllen roedd Lovaine yn dangos lluniau i gydfynd â'r hanes a'r plant yn defnyddio gwahanol offerynnau i gyfleu'r synau - darnau o bren ar gyfer carnau'r ceffylau, clychau ar gyfer tonnau'r môr, a chlychau, pren, a thamborîn ar gyfer y rhyfel - yn ogystal â chanu 'Heno, heno, hen blant bach' wrth sôn am Belgrano yn blentyn bach. Unwaith i bawb weiddi 'Viva la Patria!' roedd yn rhaid i fi ei heglu hi o 'na er mwyn dal y bws i Drelew, felly does gen i ddim syniad sut ddaeth y seremoni i'w therfyn! Llongyfarchiadau i'r Ysgol Feithrin ar ei holl waith.

Clwb Trafod
Fel mae'r enw'n awgrymu, ry'n ni'n trafod amryw bethau yn y Clwb Trafod. Ry'n ni eisoes wedi trafod rhaglenni teledu a chân, a'r wythnos hon penderfynais bod yn fentrus a thrafod 'Mis Mai a Mis Tachwedd' gan Dafydd ap Gwilym. Modiwl ar gerddi Dafydd ap Gwilym oedd un o fy hoff bynciau yn y brifysgol, ond dwi ddim wedi edrych yn iawn arnyn nhw ers hynny - rhyw saith mlynedd yn ôl!
Dechreuais drwy roi cyflwyniad byr iawn i Dafydd ap Gwilym a beirdd yr uchelwyr, ac ro'n i braidd yn betrusgar wrth ddidoli'r papurau, a bod yn onest, gan nad o'n i'n gwybod beth fyddai eu hymateb i'r iaith estron oedd ar y ddalen. Ond cefais fy synnu ar yr ochr orau gyda phawb yn trafod yr hanes, y delweddau, a'r ystyron yn llawn brwdfrydedd. A gofynnodd criw y Gaiman am esboniad ar y gynghanedd! Felly cawson nhw gyflwyniad syml dros ben o'r pedair prif gynghanedd, gan chwilio am enghreifftiau o'r cywydd. Gofynnodd rhywun a fyddai'n iawn iddyn nhw ddechrau cyfarch ei gilydd gyda 'Hawddamor'! Roedd hi'n werth mentro. Ac fel y dywedodd un ohonyn nhw, 'Fuaswn i ddim wedi darllen cerdd Gymraeg o'r 14eg ganrif fel arall!'


Porth Madryn
Dwi'n ceisio mynd i ymweld â Phorth Madryn unwaith y mis gyda'r gwaith, a hyd yn hyn dwi wedi llwyddo - wythnos diwethaf oedd yr ail ymweliad! Ond ynghanol y prysurdeb a gofynion eraill, fe adewais Drelew am 17.30 i gyrraedd Madryn am 18.35 mewn pryd i ddechrau'r gweithgareddau am 19.00. Roedd saith ohonom yn Nhŷ Toschke, gan gynnwys un (o dras Gymreig) oedd yn dod i ddosbarth/weithgaredd Gymraeg am y tro cyntaf, a rhai cyfeillion dwi heb eu gweld ers dychwelyd! Felly dechreuodd y noson gyda sgwrsio am hyn, llall, ac arall dros baned a danteithion. Roedd Dad wedi rhoi dis i fi cyn dod allan ac arno chwe gair gofynnol - Pwy? Ble? Pam? Sut? Pryd? Beth? - a chawson ni lawer o hwyl yn ei daflu a gofyn cwestiynau i'n gilydd. Rhywsut llwyddodd cwestiynau mor syml â 'Sut wyt ti'n mynd adre heno?' yn sgyrsiau am wleidyddiaeth a phobl yn torheulo'n borcyn! A dyma wnaethon ni am ryw awr a hanner, gyda llawer o chwerthin! Am 21.30 deliais y bws drachefn tua Threlew, cyn teithio ar fws arall a chyrraedd y Gaiman am 23.20. Diolch i griw Madryn am eu brwdfrydedd a'u hwyl!



Cymanfa Ganu
Cafodd Cymanfa Ganu Cymdeithas Dewi Sant ei chynnal yng Nghapel Salem sydd yn ardal Lle Cul fis Mehefin. Roedd yn achlysur arbennig i'r capel gan ei fod yn dathlu ei ben blwydd yn 100 oed, ac ychydig o ddiwrnodau cyn y gymanfa ges i gais i rannu'r neges yn ystod y gwasanaeth. Yn y Sbaeneg fyddai neges y cymanfaoedd yn cael eu traddodi fel arfer, felly teimlwn fraint o gael gwahoddiad i siarad yn Gymraeg, ac fe'i derbyniais yn llawen.
Roedd tipyn o bobl yn bresennol i lenwi'r capel gyda chanu angerddol - emynau Cymraeg a Sbaeneg - i gyfeiliant yr organ a'r sacsoffon. 'Heddwch' yw thema'r cymanfaoedd eleni, ar ôl canolbwyntio ar Iesu Grist y Tywysog Tangnefedd y llynedd. Felly canolbwyntiais i ar y cwestiwn 'Sut allwn ni gael heddwch?' gan ddod i'r casgliad mai dim ond gyda Iesu Grist y gallwn ni ei gael. 'Oherwydd ef yw ein heddwch ni', mae Effesiaid 2:14 yn ei ddweud. Pen Blwydd Llawen Capel Salem!

Oedfaon Cymraeg
Y diwrnod canlynol oedd pedwerydd Sul y mis, sy'n golygu oedfaon Cymraeg. Felly am 9.30 esgynais y bws tua Threlew a chyrraedd Capel y Tabernacl erbyn 10.00. Hwn oedd y tro cyntaf i fi gynnal oedfa yno ers dychwelyd, ac roedd hi'n fendith cael bod gyda'r selogion unwaith eto. Ac am 17.00 traddodais yr un neges yng Nghapel Bethel y Gaiman. Yr wythnos diwethaf fe ddysgon ni ddau emyn, neu yn hytrach ganeuon mawl newydd dwi wedi dod gyda fi o Gymru, sef 'Abba Dad' a 'Mor fawr yw cariad Duw y Tad', felly gymeron ni'r cyfle i ymarfer yr ail un y tro hwn. Roedd pawb yn chwibanu neu yn hymian y dôn wrth adael y capel, a dywedodd un wraig wrtha i ei bod hi'n ddiffael yn troi at ganu 'Milgi Milgi' ar ôl ychydig o nodau! Dyma lun o'r clustog oedd ar gadair yn sedd fawr Capel Tabernacl!














Ai hyn yw'r Nadolig?
Dros y mis diwethaf dwi wedi cael amryw brofiadau sy fel arfer yn golygu fod y Nadolig ar droed. Y peth cyntaf oedd y tywydd rhewllyd ry'n ni wedi'i gael yn achlysurol dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys deng munud o eira mân, ac oherwydd hyn dechreuon ni ganu 'Winter Wonderland' gyda'r Côr Merched, a chawson ni ginio Nadolig gan Iwan yn Esquel ddiwedd mis Mai! Yn ogystal, gerddais i heibio i adeilad yn y Gaiman oedd ag addurniadau Nadolig yn y ffenestr a dros y penwythnos fues i mewn dwy siop oedd â thinsel neu addurniadau tebyg yn hongian o'r silffoedd, dwi wedi cael lifft gan ffrind pan ddaeth carol Nadolig ar y cd, ac roedd rhywun wedi ysgrifennu 'Feliz Navidad' ar wal yr ysbyty! Y profiad diweddaraf oedd bwyta mins peis (sy ddim i'w cael yn yr Ariannin ar unrhyw adeg o'r flwyddyn) ym Mhorth Madryn y penwythnos diwethaf! Soniodd un wraig sy'n mynychu'r dosbarthiadau a'r gweithgareddau Cymraeg yno wrtha i o'r blaen ei bod hi'n hoff o wneud mins peis, a hi oedd wedi paratoi'r mins hefyd. Re blasus. Ond dyw'r Nadolig byth yn cyrraedd. Mae'n fy atgoffa o'r 'Llew a'r Wrach' pan mae Mr Tumnus yn dweud wrth Lucy 'it's always winter but never Christmas' yn Narnia (mae'n aeaf o hyd, ond does byth Nadolig). Dwi'n gobeithio mai ymweliad Siôn Corn fydd y profiad nesaf...



No hay comentarios:

Publicar un comentario