viernes, 23 de septiembre de 2011

Awst - Andes, (g)Wylio Morfilod, Simposio, Twmpath

Wel mae mis Medi wedi cyrraedd, a’r gwanwyn a’r droed! Erbyn hyn dwi’n byw ac yn gweithio ym Mhatagonia ers dros chwe mis, a llai na thri mis ar ôl! Ond cyn meddwl ymlaen, dyma ambell hynt a helynt mis Awst...

Simposio Madryn
Yn ystod wythnos gyntaf Awst, roedd llygaid y byd corawl ar Borth Madryn, achos dyna gartref Simposio Corau’r Byd 2011. Dechreuodd y Simposio yn Fienna, Awstria yn 1987, ac eleni oedd y tro cyntaf iddo gael ei gynnal yn Ne America, gyda chorau a chynrychiolwyr o dros chwedeg o wledydd wedi dod i Fadryn ar gyfer wythnos o gyngherddau a gweithdai rhyngwladol. A phwy gynrychiolodd Gymru yn y cyngerdd agoriadol...?

Roedd Hector Ariel Macdonald wedi cyfansoddi darn o waith yn arbennig ar gyfer y noson agoriadol, oedd yn olrhain hanes Patagonia trwy gyfrwng cerddoriaeth Archentaidd – y tango a’r zamba – darn o gerddoriaeth Tehuelche, a threfniant arbennig o’r emyn ‘Pantyfedwen’. Ac ar ôl misoedd o ymarfer ar wahân, daeth aelodau ‘Côr Unedig Chubut’ at ei gilydd i ymarfer ym Madryn – dros ddau gant o gantorion o Borth Madryn, Trelew, Rawson, Esquel, Comodoro, Dolavon, Sarmiento, Trevelin, a’r Gaiman. Byddai’r bws yn gadael Ysgol Gerdd y Gaiman am chwech o’r gloch i gyrraedd Madryn erbyn saith, ac roedd y daith fel bod ar drip ysgol – pawb yn eistedd fesul dau gyda’u bocsys bwyd, ac yn sgwrsio neu’n canu. Os mai yng Nghymru fyddai hyn, byddai’r bocsys bwyd wedi cael eu hagor yn syth bin ar y ffordd draw a dim un briwsionyn ar ôl erbyn cyrraedd pen y daith, gan mai dyna amser swper. Ond mae’r patrwm bwyta’n wahanol yma, felly ar y daith adref fyddai’r bwyd yn dod i’r golwg – am un ar ddeg neu ddeuddeg o’r gloch y nos! Roedd pice’r maen a brechdanau’n cael eu pasio o amgylch y seddi, a fflasgiau o de twym yn cael eu harllwys – i gwpanau Tsieina! Gwych.


A daeth y cyngerdd agoriadol. Roedd Gampfa Ddinesig Porth Madryn yn orlawn – rhwng y côr, y gerddorfa, a’r gynulleidfa doreithiog – a’r nerfau’n hofran o fewn y waliau! Ar ôl i gôr merched o Ganada a cherddorfa o Neuquén ddiddanu’n dorf, daeth ein tro ni i serennu. Gan fod cymaint ohonon ni ar y llwyfan, ro’n i yn teimlo fel sardîns braidd, ond dechreuodd y gerddoriaeth ac ymlaen â’r gân. ‘Pantyfedwen’ oedd y drydedd gân, ac wrth i Billy Hughes ganu unawd, a’r delyn, yna gweddill y gerddorfa, ymuno ag ef... wel, dechreuodd fy llygaid ddyfrio! Troediodd ias i lawr fy nghefn wrth gael fy amgylchynu gan ddau gant o leisiau’n canu ‘Mae’r Haleliwia yn fy enaid i, a rhoddaf Iesu bob mawrhad i ti’. Roedd dawnswyr ar lawr y neuadd hefyd, yn cyfleu hanes y caneuon – wrth gwrs, y Cymry’n cyrraedd Patagonia oedd byrdwn y gân hon. Doedd dim posib i fi weld y dawnswyr o’r llwyfan , ond wrth i ni ddal yr ‘Amen’ olaf, roedd y Ddraig Goch a baner yr Ariannin yn chwifio’n uchel yn yr awyr. Ar y foment honno, dihangodd deigryn o’n llygaid i!


Ar y Sadwrn canlynol, roedd Côr Cymysg y Gaiman yn cymryd rhan mewn gweithdy o ganu cynulleidfaol yn y Simposio. Felly ar y bws unwaith eto i Fadryn. Roedd rhyw dri chôr arall yn cymryd rhan yn y gweithdy yma, lle’r oedd cyfrol wedi cael ei dosbarthu i fynychwyr y Simposio oedd yn cynnwys y caneuon fyddai’n rhan o’r gweithdai – a’n cân ni oedd ‘Calon Lân’, yn Gymraeg ac yn Sbaeneg. Felly i’r llwyfan â ni i’w chanu, cyn i Marli, ein harweinyddes, esbonio’r cynnwys i’r gynulleidfa, a hwythau’n ymuno â ni i’w chanu drachefn. Afraid dweud fod deigryn arall wedi dianc wrth weld torf o wahanol wledydd – yr Almaen, Awstralia, yr Ariannin, a Brasil – yn gwneud eu gorau glas i ddilyn y geiriau gyda ni...

Morfilod
Wythnos yn ddiweddarach, ro’n i’n ôl ym Madryn – ond hamddena’r tro hwn! Roedd Amanda a Rhian yn ymweld ar y pryd, a chefais i hwyl fawr yn eu cwmni nhw’r wythnos honno. Yn gynnar fore Sadwrn, aethon ni a Nia ar daith i weld y morfilod. Wel, er ei bod hi’n bosib eu gweld nhw o’r traeth ym Madryn pan fo’r llanw’n uchel, yn Piramides, sydd rhyw hanner awr ymhellach, gallwch chi fynd ar gwch i’w canol nhw ar y môr. A dyna wnaethon ni. Cyn camu ar y cwch, roedd yn rhaid cael yr offer pwrpasol, sef siaced bywyd. Ro’n i’n gobeithio’i fod e’n gweithio, achos byddai dim posib nofio gyda’r siaced wedi’i chlymu mor dynn amdanon ni! Rhyw ugain ohonon ni o’dd ar y cwch, ond mae’n debyg ei fod e’n dal 75 o bobl. Roedd hi’n anodd dychmygu bod ar gwch llawn - pan fyddai’r tywysydd yn pwyntio at fan yn y môr lle’r oedd e wedi gweld morfil, byddai pawb yn heidio i’r ochr yna a thynnu’r cwch i lawr. Dwi’n credu fydden ni wedi bod yn nofio gyda’r morfilod petai hynny wedi digwydd ar gwch llawn. Ond diolch byth, doedd dim angen profi gallu’r siaced!

Cyn i ni fynd, dywedodd rhywun wrthyn ni fod y morfilod yn dod at y cwch i ddweud ‘Bore da!’ A wir i chi, ro’n nhw yn llygad eu lle! Roedd rhai ohonyn nhw’n dod mor agos nes mod i bron yn disgwyl iddyn nhw wneud ‘Free Willy’ a llamu dros y cwch! Ar un adeg, nofiodd un o danon ni ac ro’n i’n ofni y byddai’n llamu o’r dŵr gyda ni ar ei drwyn. Mae’n debyg fod rhyw 30 o forfilod o’n cwmpas ni’r bore hwnnw, ac ro’dd hi’n olygfa odidog yn eu gweld nhw’n poeri dŵr, yn nofio, ac yn taflu eu cynffonau i’r awyr. Dwi wrth fy modd gyda siâp eu cynffonau nhw’n plymio i’r môr! Ac eithrio’r ffaith fod Amanda wedi dioddef ychydig o salwch môr, a fod ffôn Nia wedi cwympo i ganol y tonnau, roedd e’n brofiad bythgofiadwy. A chawson ni dystysgrif!

Diwrnod y Gaiman
Roedd y 14eg o Awst yn Ddiwrnod y Gaiman, a chafodd nifer o weithgareddau eu cynnal i ddathlu pen blwydd y pentref yn 137 oed. Cynhaliodd yr Ysgol Feithrin gyngerdd arbennig yn y gimnasio ar gyfer rhieni a chyfeillion, lle'r oedd y plant yn canu, yn adrodd, ac yn dawnsio gwerin. Roedden nhw’n wych! Ar ôl i’r plant orffen, daeth tro’r rhieni i ddangos eu symudiadau ar y llawr dawnsio – mewn twmpath. A phwy oedd yn galw’r twmpath?! Doeddwn i erioed wedi galw twmpath yn fy mywyd, a’r unig dwmpathau i fi fod ynddyn nhw oedd priodas Gwenno a Polu (ac ambell briodas arall), a nosweithiau Cawl a Chân Ysgol Rhydypennau – ro’n i’n gobeithio na fyddai’n rhaid i fi droi at yr ‘Hokey-Cokey’! Diolch byth roedd un o athrawesau’r Ysgol Feithrin wedi rhoi menthyg CD i fi gyda cherddoriaeth a chyfarwyddiau’r dawnsfeydd, felly treuliais i fore’r cyngerdd yn dilyn y cyfarwyddiadau o amgylch y quincho yn fy mhyjamas! Penderfynwyd ar ‘Jac y Do’ a ‘Ffansi’r Ffarmwr’ (efallai bod gyda’r enw lawer i’w wneud gyda’r ail ddewis!), a gan mai’r gyntaf yw’r hawsaf, daeth deg rhiant i ddawnsio honno. Felly ‘Ffansi’r Ffarmwr’ oedd nesaf, a dywedodd un o’r athrawon fod y plant eisiau dawnsio. Gallwch chi ond dychmygu sut olwg oedd arnon ni’n dawnsio gyda rhyw ugain o blant rhwng dwy a deg oed, i ddawns ar gyfer deg person oedd yn cynnwys sêr a phontydd... Ond cawson ni hwyl!


A’r diwrnod canlynol, cynhaliodd y côr de arbennig i ddathlu. Yn hytrach na gweini, y tro hwn fy swyddogaeth i oedd cymdeithasu gyda phobl oedd wedi dod. Mewn geiriau eraill, yfed te a bwyta cacennau! Dim problem. Ond yn ogystal â hynny, roedden ni’n canu. Felly ar ôl gwrando ar ddeuawd rhwng Ffion Bevan oedd yma’n gwirfoddoli (ffidil) a Hector Ariel (piano), ac unawdau – Billy Hughes, Sylvia Baldor, Marcelo Griffiths – daeth tro’r côr merched, dan arweiniad Edith Macdonald. Dyma’r tro cyntaf i fi ganu’n gyhoeddus gyda’r côr merched, ac ar ôl ymladd annwyd a pheswch drwy’r wythnos, ro’n i’n poeni y byddai llais gwrywaidd i’w glywed ymysg lleisiau swynol y merched eraill! Ac ar ôl y côr merched, canodd y côr cymysg ddetholiad o ganeuon – 'Hafan Gobaith', 'Calon Lân', ac 'Mae Ddoe Wedi Mynd'.


Gan fod etholiadau cenedlaethol yn cael eu cynnal ar y 14eg, cafodd yr orymdaith flynyddol drwy’r Gaiman ei chynnal ar yr 21ain. Ond fethais i â mynd, achos ro’n i yn yr Andes...


Yr Andes
Daeth Catrin Petherbridge i ymweld am wythnos. Hwre! Wnaethon ni gant a mil o bethau... mynd i Borth Madryn, gweld tŷ cyntaf y Gaiman, taith o amgylch capeli’r dyffryn, ymweld â’r amgueddfa, cerdded trwy (hanner) twnnel y Gaiman, bwyta cacennau... Buodd Catrin druan hefyd yn helpu gyda phob dosbarth a gweithgaredd! A gwnaethon ni benderfyniad munud olaf i dreulio’r penwythnos yn yr Andes. Felly croesi’r paith ar y bws dros nos, a mynd i Ganolfan Gymraeg Esquel mewn pryd i wylio Cymru v Ariannin - roedd hyn cyn Cwpan y Byd. Brynais i grys rygbi newydd Cymru cyn dod yn arbennig ar gyfer yr 80 munud yma!
Roedd Iwan yn cynnal ‘Noson Cawl a Chwis’ yn y ganolfan y noson honno, felly prynu llysiau a chig cyn bwrw ati i baratoi’r cawl. Ar ôl iddo fod yn ffrwtian, aeth Iwan â ni am daith o amgylch Trevelin – bedd y Malacara (ceffyl arwrol yn hanes y Wladfa), a Cartref Taid (tŷ cyntaf Trevelin), y felin (neu’r velin), Capel Bethel, a Thŷ’r Ysgol lle’r oedd pedwar ohonom ni Gymry’n mwynhau rhannu mate! A’r noson honno cawson ni noson hyfryd o fwyta cawl a chymryd rhan mewn cwis. Roedd y cwestiynau’n anodd, ond dwi’n falch i ddweud mod i ar y tîm buddugol, ac wedi mwynhau lolipop coch fel gwobr!



















Penderfynon ni fynd i sgïo ar y dydd Sul, felly rhaid oedd trefnu lle a llogi offer y noson cynt. Does gen i ddim byd addas ar gyfer sgïo – roedd gan Iwan got a thrywsus, ac roedd gan Nia a Catrin gotiau ac felly dim ond angen trywsus. Wrth gwrs, doedd dim digon o gotiau yn y siop i fi allu llogi cot a thrywsus – gallwch chi ond dychmygu’r olwg ar fy wyneb i pan ymddangosodd dyn y siop rownd y cornel yn cario rhywbeth alla i ond ei ddisgrifio fel ‘onesie shellsuit’. Pwy a ŵyr pryd wisges i ‘onesie’ na ‘shellsuit’ ddiwethaf, heb sôn am gyfuniad o’r ddau! Ond doedd dim dewis. Felly casglodd y bws ni’n gynnar o’r llety, a bant â ni i La Hoya. Yr unig dro arall i fi sgïo oedd yn Llangrannog c.1996, os gallwch chi alw llithro ar frwshys llawr gwyn yn sgïo. A’r unig beth dwi’n cofio o hynny oedd yr hyfforddwraig yn dweud wrthon ni am wneud siâp mwnci wrth fynd lawr y llethr. Mewn gwirionedd, plygu coesau, pwyso ymlaen, a chodi’r breichiau ychydig oedd hyn – does gen i ddim syniad pam ei fod yn cael ei alw’n ‘mwnci’, oni bai mod i’n hollol anwybodus ynglŷn â gallu unigryw’r anifail i blygu ei goesau a phwyso ymlaen?! Ta waeth, gan nad oedd un ohonon ni wedi sgïo o’r blaen, drefnon ni wers dwy awr i ddechreuwyr. Roedd hyn yn dipyn o sbort, ac ar ôl treulio rhyw awr yn dysgu sut i sgïo’n weddol lwyddiannus (chafodd y mwnci ddim ei grybwyll unwaith), penderfynodd yr athro ein bod ni’n barod i fentro ar y llethr. Yn bersonol, rhan waethaf sgïo yw aros i fynd ar y lifft. Mae’n debyg fod dros ddwy fil o bobl yn La Hoya y diwrnod hwnnw, felly afraid dweud fod y ciw yn hir a phawb yn trio dod o hyd i fwlch ar gyfer ei sgi er mwyn sgwosho heibio. Ond unwaith i chi gydio’n dynn yn y lifft, y gamp nesaf oedd gadael fynd yn llwyddiannus – ges i, a sawl un arall, ambell anffawd yn hynny o beth! Ond dim ond unwaith gwympais i ar fy mhen-ôl. Wedyn slalom lawr y llethr, a’r cyfan yn dechrau eto! Wnes i wirioneddol fwynhau’r sgïo, er gwaetha’r wisg, y ciwio, a’r haul crasboeth - ar ôl cyngor i wisgo haenau, ro’n i’n rhostio dan bump haenen! A’n goron ar y profiad oedd prynu ‘cubanitos’ a’u bwyta ar y bws, a bowlen o gawl twym yn aros amdanon ni yng Nghanolfan Gymraeg yr Andes. Be well?

No hay comentarios:

Publicar un comentario