viernes, 9 de diciembre de 2011

Camwy, Cacs, Cerddi, Comodoro...

Dwi wedi bod wrthi fel lladd nadredd dros y misoedd diwethaf, sy'n golygu fod llawer o bethau i'w nodi ond diffyg amser i wneud hynny! Felly o'r diwedd, ddeuddydd cyn i fi adael y Gaiman dyma ambell beth sydd wedi nghadw i'n brysur yn ddiweddar...

Ysgol Camwy
Ddechrau mis Medi wnes i rywbeth na fydden i erioed wedi meddwl y buaswn i'n ei wneud - rhoi gwersi Saesneg! Gan fod athrawes Saesneg Ysgol Camwy wedi cael llawdriniaeth roedd angen rhywun i gyflenwi, ac mae'n debyg mai fi oedd y person mwyaf cymwys yn yr ardal oedd ar gael! Prin dwi'n siarad Saesneg yng Nghymru, heb sôn am yn yr Ariannin. Mae pob disgybl yr ysgol - rhyw 200 - yn mynychu dosbarthiadau Saesneg, a finnau erioed wedi dysgu dosbarth o'r blaen, roedd wynebu ystafell o bobl yn eu harddegau yn agos at fod yn frawychus, ac ro'dd rhyw 35 mewn un dosbarth! Ond rhwng 8.00 a 1.10 am bythefnos bues i'n mynd o un dosbarth i'r llall wedi fy arfogi gyda llyfrau gwaith. Dechreuais i bob dosbarth gyda sesiwn holi ac ateb er mwyn iddyn nhw ymarfer eu Saesneg - gweithiodd hyn yn dda gan eu bod yn fwy awyddus i siarad na gwneud gwaith, a chefais i'r cyfle i i'w haddysgu am Gymru, y Gymraeg, y diwylliant a'r traddodiadau Cymreig, a gwaith Menter Patagonia. Mae'n siŵr gen i mai dyma'r tro cyntaf i Saesneg gael ei dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, a thu hwnt i Gymru o bosib, a dwi'n credu fod rhai o'r disgyblion wedi cael sioc. Roedd rhai eisiau gwella eu Cymraeg yn hytrach na'u Saesneg, a gwnes i ddim eu rhwystro yn y hynny o beth... Do'dd y profiad ddim mor frawychus â hynny - fwynheais i'n hunan mewn gwirionedd. Mae'n debyg fod rhai ohonyn nhw wedi mabwysiadu fy acen Saesneg i ar ôl hyn, gan bwysleisio'r cytseiniaid - yn enwedig yr 'r'! Wel, os oes rhaid iddyn nhw ddysgu Saesneg, o leiaf maen nhw'n ei siarad gydag acen Gymraeg!

Sadwrn Siarad Madryn
Cynheliais fore o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ym Mhorth Madryn fis Medi, a daeth criw o bobl i Dŷ Toschke i sgwrsio yn Gymraeg - dros frecwast oedd wedi'i baratoi gan rai o'r gwragedd! Ar ôl cyflwyno'n hunain a dod i adnabod ein gilydd yn well trwy weithgareddau sgwrsio, cawson ni gyfle i holi'r athrawes Gymraeg, Lorena, am ei chyfnod yng Nghymru ar gwrs Cymraeg yng Nghaerdydd. Wedyn ddarllenon ni bytiau o 'Clecs Camwy' dros baned arall o de, cyn defyddio'r darnau'n sail i gemau geiriau - a throdd ambell un at Gornel y Plant! Cawson ni wahoddiad i de arbennig yn y prynhawn, a derbynion ni'n llawen. Daeth y cwrs coginio i ben ddiwedd Awst, felly roedd cyfle i'r myfyrwyr roi cynnig ar y ryseitiau. A bois bach, am wledd - pice'r maen, bara cartref, teisen ddu, crempogau bach, bara llechwan, teisen hufen, teisen blât... Seren aur i bob un! Derbyniodd pob un dystysgrif a llyfr ryseitiau sy'n cynnwys holl ddanteithion y cwrs. A chwarae teg, fel diolch i ni am gynorthwyo gyda'r Gymraeg, derbynion ni gopi o'r llyfr ryseitiau hefyd. Dwi'n edrych ymlaen at roi cynnig ar y deisen hufen a'r deisen ddu (fy ffefryn) pan fydda i adre!


Eisteddfod Dwp
Mae calendr y Wladfa wirioneddol yn llawn eisteddfodau, ac ychwanegais i un at y casgliad. Nid eisteddfod gyffredin mo hon... ond Eisteddfod Dwp! Daeth criw da i Gwalia Lân y Gaiman, a rhannwyd yn ddau dîm - ‘Tello’ a ‘Fontana’. Cafodd pawb lawer o hwyl a sbri wrth i’r ddau dîm fynd benben â’i gilydd mewn cystadlaethau go anghyffredin... canu gwaethaf, adrodd dros 100 oed, dawnsio Tango, bwyta cracyrs, a garglo ‘Sosban Fach’. Paratôdd y ddau dîm eu fersiynau unigryw o’r Haca hefyd, y naill yn seiliedig ar ‘Calon Lân’ a’r llall ar ‘Mochyn Du’! ‘Y Lludw’ oedd testun amserol y sgets, a daeth y cystadlu i ben gyda chystadleuaeth y corau.
Ond yn hytrach na’r pedwar llais arferol, roedd gofyn i’r cantorion ganu fel anifeiliaid. Roedd yr ystafell yn debycach i fuarth fferm na bwyty, a go brin fod ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ erioed wedi cael ei chanu gan ddefaid, ieir, gwartheg, cŵn, a moch o’r blaen! Roedd y pwyntiau’n agos iawn drwyddi draw, a’r canlyniad yn dibynnu’n llwyr ar y gystadleuaeth olaf. Trwy gydol yr eisteddfod, bu’r ddau dîm yn brysur iawn yn cyfansoddi cerdd, a’r llinell gyntaf a roddwyd oedd ‘Nos Iau yn Gwalia Lân’. Cyhoeddodd y beirniad (Nia) mai cerdd tîm ‘Fontana’ oedd yn cipio’r wobr yn y gystadleuaeth hon, ac felly’n ennill yr eisteddfod - o drwch blewyn!

Yr Orsedd
Fis Hydref daeth un o uchafbwyntiau nghyfnod i ym Mhatagonia, ac un o anrhydeddau mwya 'mywyd i, sef cael fy nerbyn i Orsedd y Wladfa. Eleni roedd yr orsedd yn dathlu deng mlynedd ers ei hailsefydlu, a deuddeg ohonon ni’n cael ein derbyn. Mae Meini’r Orsedd yn y Gaiman, felly ymgynnull yng Nghapel Bethel ben bore i gael ein gwisg a dysgu trefn y seremoni. Yn wahanol i Orsedd Cymru mae gwisg pawb yr un peth, sef ‘poncho’ glas, ac yn hytrach nag Archdderwydd, Llywydd yr Orsedd sy’n arwain y seremoni - y Llywydd Dros Dro yw Ivonne Owen, sef perchennog fy llety, a’r unig wahaniaeth yn ei gwisg hi oedd ei bod hi’n gwisgo coron. Unwaith i bawb gael eu ponchos roedd yn rhaid paratoi at yr orymdaith – y gauchos Cymreig yn arwain ar gefn eu ceffylau gan chwifio baneri Cymru a’r Ariannin, gydag aelodau presennol yr Orsedd a’r aelodau newydd yn eu dilyn fesul pâr o’r Capel at Feini’r Orsedd, a’r dawnswyr y tu ôl i ni. Roedd aelodau o’r orsedd yng Nghymru, a’r Archdderwydd yn bresennol er mwyn nodi’r garreg filltir hon. Safai rhesi o bobl yn gwylio neu’n tynnu lluniau wrth i ni gerdded heibio, a thyrfa wedi ymgynnull wrth y meini. Mae Pwyllgor yr Orsedd wedi derbyn nawdd i ddatblygu Cylch yr Orsedd, ac er nad yw’r gwaith wedi cael ei gwblhau eto roedd y safle wedi ei gweddnewid. Ar ôl canu anthem yr Ariannin, ychydig eiriau gan y Llywydd, a chân gan y côr merched (ro’n i fod i ganu gyda nhw, ond yng nghanol yr holl gynnwrf wnes i ddim cyrraedd!), cawson ni ein derbyn un ar y tro. Ro’n i’n sefyll gydag Iwan a’r ddau ohonon ni’n aros dan boeni y bydden ni’n baglu. Daeth un o’r tywyswyr aton ni a gofyn, ‘Pwy sydd nesaf?’ ond doedd gennym ni ddim syniad. Felly edrychodd ar y rhestr cyn dweud, ‘Lois Dafydd, ti sydd nesaf!’ Ar hynny tywysodd fi at rimyn y cylch, pan glywon ni lais yn datgan o’r canol, ‘Nawr rydw i’n cyflwyno... Iwan Madog!’ Wel, chwarddodd Iwan yn uchel a gamais i’n ôl ar flaenau fy nhraed gan obeithio nad oedd unrhyw un wedi sylwi ar y camgymeriad... Pan ddaeth fy nhro i go iawn, cefais fy nhywys yr eildro at y rhimyn lle’r oedd y cledd yn cael ei dal fel mynediad i’r cylch, a Cheidwad y Cledd, Benito Jones, yn gofyn a ydw i’n barod i ymroi i ddatblygiad y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn y Wladfa. Pan gytunais i, codwyd y cledd gan agor y ffordd i mewn i’r cylch. Tra cherddwn i at y canol, darllenai Alwen Green bwt amdana i cyn cyhoeddi fy enw barddol, sef Lois Tŷ Glas. Dewisais yr enw yma’n syml iawn gan ein bod ni’n byw mewn tŷ glas yn Bow Street. Dyna lle ces i fy magu, lle dysgais i’r Gymraeg o'r crud, a lle ces i fy nhrwytho yn hanes, llên, diwylliant a thraddodiadau Cymru - bydda i’n fythol ddiolchgar i’n rhieni i am y fagwriaeth honno i fi, Esyllt, Gwenno, a Gwion.

Juan y Gwanaco
Mae eisteddfodau’n chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol y Wladfa gyda saith ohonyn nhw wedi cael eu cynnal eleni. Yn amlwg, mae angen dewis darnau gosod ar gyfer y gwahanol gystadlaethau ac anodd yw dod o hyd i gerddi Cymraeg addas i blant a phobl ifanc eu hadrodd gan fod llawer ohonyn nhw’n crybwyll pethau sy’n gwbl amherthnasol i fywyd y Wladfa, e.e. Nadolig gwyn a gaeafau oer. Felly ers rhyw ddwy flynedd mae Esyllt Roberts wedi bod yn gweithio ar gyfrol o farddoniaeth er mwyn diwallu’r angen yma. Cafodd y gyfrol, ‘Juan y Gwanaco a cherddi eraill’ ei lansio yng Nghapel Bethel i gydfynd â dathliadau 10 mlwyddiant Gorsedd y Wladfa, gyda darlleniadau o’r gyfrol a pherfformiad gan Gôr yr Urdd. Yn y gyfrol mae cerddi am anifeiliaid sy’n byw ym Mhatagonia (gwanaco, dulog, pengwin), bwydydd Archentaidd (empanadas, milanesas, jam llaeth), a gwahanol ardaloedd sydd yn y Wladfa (Dolavon, Drofa Dulog, Porth Madryn). Mae’n addas i ddarllenwyr ac adroddwyr rhwng 4 a 25 oed, yn ddysgwyr neu siaradwyr Cymraeg, gyda chyfranwyr o’r Ariannin a Chymru – un ohonyn nhw’n byw yn y Gaiman, ond yn wreiddiol o Bow Street...

Comodoro
Fe'n rhwystrwyd rhag ymuno â dathliadau Gŵyl y Glaniad Cymdeithas Gymraeg Comodoro gan eira fis Gorffennaf, felly ro'n i'n benderfynol o fynd yno cyn gadael Patagonia. A dwi'n falch dros ben i ddweud fod hynny wedi cael ei wireddu'n ddiweddar!
Datblygodd Comodoro yn sgil darganfod olew yn yr ardal, ac mae’r ddinas wedi tyfu’n aruthrol ar lan y môr. Ar ôl pedair awr yn y car (sy’n debyg i daith 10 munud ar ôl teithio ar fws am 37 awr), cwrddon ni a’n ffrind Agustina sy’n dysgu dawnsio gwerin yno ac wedi bod ar ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri eleni. Aeth hi a ni am dro o amgylch y ddinas cyn mynd draw at Ganolfan Dewi Sant.
Ymunodd criw â ni yno ar gyfer diwrnod o weithgareddau, gyda’r siaradwyr mwyaf rhugl yn ymuno mewn Sadwrn Siarad. Ar ôl sesiwn holi ac ateb, cymeron ni ein tro i ddarllen am lansiad ‘Juan y Gwanaco a cherddi eraill’ yn Clecs Camwy, cyn troi at y gyfrol ei hun i ddarllen rhai o’r cerddi. Joio! Erbyn diwedd y sesiwn yma, cyrhaeddodd y criw dawnsio gwerin Tân Bach a gan fod yr haul yn gwenu’n braf daeth pawb at ei gilydd yn yr ardd. Ar ôl iddyn nhw gystadlu Eisteddfod y Wladfa (maen nhw yn ddawnswyr gwefreiddiol, ac enillon nhw yn ein herbyn ni!) a chwrdd â chriw yr Urdd, mae’n nhw’n awyddus dros ben i ddysgu Cymraeg. Felly ers hynny mae naw ohonyn nhw, rhwng 14 ac 18 oed, wedi bod yn mynychu dosbarthiadau gydag Agustina! Ddechreuon ni trwy gyflwyno ein hunain a’n gilydd trwy daflu pêl mewn cylch, ac er mwyn dod i adnabod ein gilydd yn well rhannwyd yn barau a dilyn sgerbwd o sgwrs ar ddarn o bapur. Ro’n i wedi mynd â’r parasiwt lliwgar gyda fi, a chyffro’r criw yma cymaint â chyffro’r Cylch Chwarae! Felly dysgu’r lliwiau a rhedeg fel pethau gwyllt – diolch byth nag o’dd gwynt enwog Comodoro yn chwythu’r diwrnod hwnnw, neu pwy a ŵyr i le fydden ni wedi hedfan! Ar ôl picnic bach, cawson ni sesiwn holi ac ateb arall i ddod â’r gweithgarwch i ben.
Ro’dd gweld diddordeb a brwdfrydedd y criw yma yn y Gymraeg, a’u hawydd i ddysgu’r iaith wirioneddol yn ysbrydoledig! Felly dwi'n gobeithio y gallwn ni drefnu mwy o weithgareddau'r flwyddyn nesaf.

Ac ar hynny, hoffwn gloi’r rhifyn yma o’r blog – bydd un arall cyn i mi adael – gyda’r newyddion y bydda i’n dychwelyd i Ddyffryn Camwy gyda Menter Patagonia y flwyddyn nesaf!

No hay comentarios:

Publicar un comentario