sábado, 10 de diciembre de 2011

Hasta luego...

Wel dyma ni, yr ohebiaeth olaf o'r Wladfa am eleni gydag ambell hanesyn ar ôl i'w hadrodd. Felly bant â ni!

Ma ’na ddwy Eisteddfod dwi heb eu crybwyll eto, sef Eisteddfod y Bobl Ifanc ac Eisteddfod y Wladfa...

Eisteddfod y Bobl Ifanc
Fis Medi cynhaliwyd yr eisteddfod hon ar gyfer pobl ifanc hyd 25 oed, felly’n anffodus, ro’n i bedwar mis yn rhy hen i gystadlu ynddi. Ond doedd hynny ddim yn golygu na fyddai’n rhaid i mi weithio, achos cefais wahoddiad i fod yn feirniad yr adrodd Cymraeg. Er i mi fod yn feirniad yn yr eisteddfodau blaenorol, dyma’r tro cyntaf i mi feirniadu mewn rhagbrofion ac ymddangosodd degau o blant a phobl ifanc ar y llwyfan. Ymgeisiodd 38 yn y gystadleuaeth o dan bedair oed – sut yn y byd mae beirniadu'r gystadleuaeth honno, gwedwch?? Wel, erbyn diwedd y dydd roedd y sawl fyddai’n ymddangos ar y llwyfan drannoeth wedi cael eu dewis.
Am bedwar o’r gloch y diwrnod canlynol, roedd gimnasio y Gaiman dan ei sang gyda chystadleuwyr a chefnogwyr o bob cwr o’r wlad, a’r naws yn gyffro disgwylgar drwy’r neuadd. Ro'dd 'na sglein ar yr eisteddfod hon, ac o'r agoriad hyd ryw hanner nos aeth y cystadlu rhagddo’n llyfn a threfnus – yn ystod yr eisteddfod hon y clywais i’r geiriau ‘caewch y drysau yn y cefn’ a ‘pob chwarae teg i’r cystadleuydd nesaf’ yma am y tro cyntaf, yn Sbaeneg! Yr unig beth do'n i ddim yn hoffi am yr eisteddfod hon oedd fod y beirniaid yn cael eu ffilmio wrth draddodi eu beirniadaethau, a'r lluniau'n cael eu taflu ar sgrin fawr ar flaen y neuadd. Erchyll! Er gwaethaf hynny, a'r ffaith i mi gael trafferth mawr i ddewis enillwyr ar adegau, a druan bach â’r cyfieithwyr wrth i fi lunio beirniadaethau cyn eu newid yn gyfan gwbl, cefais i wir wefr wrth weld plentyn ar ôl plentyn yn dod i’r llwyfan ac yn adrodd cerddi Cymraeg. Ailddechreuodd y cystadlu’n gynnar y prynhawn canlynol, ac er gwaethaf toriad trydan yn ystod un ddawns werin, llifodd y cystadlu’n rhwydd unwaith eto. Cystadleuaeth olaf ond un yr adrodd Cymraeg oedd dan 18oed, a phedwar yn dod i’r llwyfan – roedd y safon mor uchel, fel na allwn i'n lân â dewis enillydd o’u plith! Ro’n i’n chwys domen yn ysgrifennu beirniadaeth, tynnu llinell ddu drwyddi, ysgrifennu beirniadaeth arall, cyn taflu’r papur... A'r arweinwyr yn galw am y feirniadaeth o'r llwyfan ryw hanner dwsin o weithiau cyn i fi fod yn barod i'w thraddodi! Efallai na cha'i wahoddiad nôl y flwyddyn nesaf...

Eisteddfod y Wladfa
Cynhaliwyd uchafbwynt y calendr eisteddfodol dros benwythnos olaf mis Hydref, sef Eisteddfod y Wladfa 2011. Roedd rhai wedi fy rhybuddio i am brysurdeb y cyfnod yma, ond gallai dim fod wedi fy mharatoi ar ei gyfer – bûm yn ymarfer gyda phum côr (dau gôr cymysg, côr merched, côr Capel, côr Saesneg), tair dawns werin, adrodd unigol a chân actol am wythnosau lawer! Ac o’r diwedd, cynhaliwyd bore o ragbrofion yn Nhrelew, a syndod o'r mwyaf i fi oedd cael llwyfan ar ddawns werin ac ar yr adrodd! Dwi heb adrodd ers oeddwn i yn yr ysgol, a'r un oedd y feirniadaeth bob tro - 'Mae angen i Lois bwyllo wrth adrodd'. Felly'r neges o gefnogaeth ges i wrth Mam oedd, 'Cofia adrodd yn araf!' Yn hwyrach y diwrnod hwnnw agorodd deuddydd o eisteddfota yng Nghwlb Racing Trelew. Does dim maes, ond mae ’na gaffi’r tu allan ac ambell stondin y tu fewn - y cystadlu yw’r canolbwynt.
Ac o’r gystadleuaeth gyntaf hyd yr olaf aeth y cyfan yn chwim, a fues i’n rhedeg o gwmpas y lle fel gwallgofddyn yn paratoi ac yn newid ar gyfer y gwahanol gystalaethau! Ynghanol hyn oll, fethais i un gystadleuaeth côr. Prin oedd amser oedd gen i rhwng un gystadleuaeth a’r llall ac ro’n i wedi amseru cyfle yn dda i fynd i’r tŷ bach, newid, cael rhywbeth i’r fwyta, a dychwelyd i’r neuadd mewn pryd. Ond pan agorais i’r drws, welais i’r côr ar y llwyfan yn barod i ganu! O’n i’n teimlo’n swp sâl, a’n trio osgoi’r arweinyddes weddill y noson. Heblaw hynny aeth popeth yn weddol llyfn a llwyddiannus ar y cyfan, gyda’r ymddangosiad cyntaf ar lwyfan yr eisteddfod yn gwisgo poncho’r Orsedd yn ystod seremoni’r Cadeirio – Geraint Edmunds o Drelew, sef Llywydd yr Orsedd oedd yn fuddugol. Roedd hi'n bosib gwylio'r cystadlu yn fyw ar y we gyda llygaid Mam wedi'u gludo i'r sgirn am oriau, ac arhosodd hi ar ei thraed tan rhyw 3 o'r gloch y bore (amser Cymru) i wylio cystadleuaeth yr adrodd - chwarae teg. Cydradd drydydd ges i, gyda llaw - ac o'dd hi braidd yn lletchwith sefyll ar y llwyfan yn aros i ganu gydag un o'r corau wrth i'r feirniadaeth gael ei thraddodi!

Roedd yr Eisteddfod hon yn werth chweil ac o safon uchel iawn! Mae rhestr testunau Eisteddfod y Wladfa 2012 ar gael nawr...

Taith yr Urdd
Daeth criw o 20 person ifanc o wahanol rannau o ogledd Cymru allan yn ddiweddar, ar daith oedd yn cyd-fynd ag Eisteddfod y Wladfa. Ro'dd Iwan a fi wedi llunio amserlen y daith, gyda chyfnod yn yr Andes gyntaf cyn teithio dros y paith i'r Dyffryn at Eisteddfod y Wladfa. Cawson ni lawer o hwyl, a'r amserlen yn llawn dop - ac i ddarllen mwy am y daith, gwelwch adroddiad Anest Evans yn rhifyn cyfredol ‘Clecs Camwy’: www.menterpatagonia.org


Yr Andes
Ges i'r fraint o ymuno â disgyblion 3º Pol Ysgol Camwy ar eu taith i'r Andes ddiwedd mis Tachwedd. Treulion ni'r diwrnod cyntaf yn teithio ar hyd y paith ar y bws, gan stopio mewn gwahanol lefydd ar y ffordd - 'Rocky Trip' sy'n rhan o hanes y Cymru'n croesi'r paith dros ganrif yn ôl, olion paent y brodorion, a bedd arweinydd un o lwythi'r Indiaid. A thrwy'r wythnos buon ni'n ymweld â gwahanol atyniadau - amgueddfeydd, dringo mynyddoedd, rhaeadrau, y parc cenedlaethol, a La Trochita sef trên yn Esquel. Roedd 'na reilffordd yn rhedeg o Borth Madryn at yr Andes ar un adeg, ond yn ystod y 60au neu'r 70au cafodd ei gau - a does dim trenau yn rhedeg yn yr Ariannin, heblaw'r metro yn Buenos Aires, a theithiau byr i ymwelyr fel La Trochita! Felly mynd ar y trên bach stêm yma yw profiad cyntaf, os nad unig brofiad nifer fawr o Archentwyr o deithio ar drên.
Roedd yr wythnos hon hefyd yn cydfynd â dathliadau pen blwydd Trevelin, ar y 25ain o Dachwedd. Yn 1885, teithiodd y 'Rifleros' ar hyd y paith ar gefn eu ceffylau i ddod o hyd i dir ffrwythlon ac ar y dyddiad yma cyrhaeddon nhw gopa Craig Goch a gweld y cwm islaw. Mae'n debyg i un dyn ddatgan, 'Dyma Gwm Hyfryd!' Ac mae'n cael ei adnabod yn ôl yr enw hwnnw fyth ers hynny.
Ac i nodi'r achlysur mae 'na daith yn cael ei threfnu bob 24ain o Dachwedd i ddringo Craig Goch er cof am yr ymsefydlwyr cyntaf hynny. Ond gallwch chi ddim dringo craig ar stumog wag, felly rhaid oedd cael asado! Ac am asado - unwaith oedd y cig yn barod roedd pawb yn heidio ato gyda'i gyllell mew un llaw a darn o fara yn y llall! Wrth gwrs, ddilynais i'r drefn - er o'dd yn rhaid i fi fenthyg cyllell rhywun arall. Wedyn dringo am ddwyawr. Do'dd hi ddim yn hawdd, ond ro'dd cyrraedd y copa ac edrych i lawr dros y cwm yn gwneud pob cam werth chweil - ac ro'n i'n deall i'r dim pam fod yr ardal yn cael ei alw'n Cwm Hyfryd. Y diwrnod canlynol ro'dd gorymdaith trwy Drevelin gyda gwahanol sefydliadau a chymdeithasau'n cymryd rhan, a ches i fenthyg siwmper yr ysgol i orymdeithio gydag Ysgol Camwy! A'r noson honno cawson ni asado arall, lle fuon ni'n chwarae gemau a dysgu 'Hen Wlad Fy Nhadau'! Am wythnos 'piola', diolch yn fawr i Ysgol Camwy a 3º Pol.



Gwasanaeth Nadolig
Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y Dosbarthiadau Cymraeg yng Nghapel Bethel Gaiman brynhawn Sul y 4ydd o Ragfyr. Bûm wrthi'n trefnu'r rhaglen gyda Luned, a chwarae teg i bawb am gytuno i gymryd rhan, boed yn ddarllen carol, unawd, darlleniad o'r Beibl, canu offerynnau a phartïon. Oherwydd hynny roedd 20 eitem ar raglen y gwasanaeth, a finnau'n poeni y byddai'n para bron i ddwy awr! Prin oedd seddi gwag y capel, a chymerodd pob un ei dro i berfformio neu ddarllen yn y sedd fawr yn ddidrafferth - a profiad rhyfedd dros ben oedd rhannu neges am y Nadolig mewn fflip-fflops a ffroc haf! Roedd hi'n wasanaeth arbennig, a diolch i bawb a ddaeth i gymryd rhan ac i rannu'r achlysur gyda ni. Nadolig Llawen i bawb!



Audición Radio Chubut
Pan gyrhaeddais i Batagonia ar y 13eg o Fawrth eleni, dywedodd Luned Gonzalez wrtha i na fyddwn i’n cael fy nghyfweld ar y radio’r wythnos honno gan fod yr etholiadau’n cael eu cynnal a phawb yn rhy brysur ar gyfer unrhyw beth arall. Felly er i mi fynd gyda hi a Tegai i’r orsaf radio, ches i ddim siarad. Yn fuan wedi hynny, ddechreuais i weithio ar brynhawniau Gwener, ar union amser y rhaglen radio, felly doedd cyfweliad ddim yn bosib... tan yr wythnos hon! Ro'n i'n llawn cyffro a nerfau wrth gyrraedd yr orsaf, ond ro'dd Luned wedi narbwyllo i na fyddai'r cwestiynau'n rhai cas. A gwir oedd ei gair - holi am y teulu a bywyd yng Nghymru, cyn siarad am y gwaith gyda Menter Patagonia, a rhoi adolygiad ar y pryd o'r rhifyn diweddaraf o 'Clecs Camwy'! A ches i'r fraint o ddewis tair carol i'w chwarae hefyd. Dwi'n teimlo fod y profiad wedi cloi'r naw mis yn dda.

Y Diwedd
Er na fydd yr ysgolion yn cau am ryw wythnos arall, mae gweithgareddau Menter Patagonia wedi dod i ben am y flwyddyn! Cawson ni bicnic gydag ôl-feithrin yr Hendre, gweithdai gydag Ysgol Feithrin y Gaiman, coginio bisgedi gydag ôl-feithrin y Gaiman, gemau a phicnic gyda Chylch Chwarae Dolavon, a te parti gyda Sgwrs Trelew!

A nos Lun nesaf (12 Rhagfyr), bydd Iwan a fi'n cloi gweithgarwch Menter Patagonia am y flwyddyn gyda Noson Gymraeg yn Buenos Aires - ry'n ni'n edrych mla'n yn fawr at gwrdd â nhw.

Mae'r naw mis diwethaf wedi bod yn aruthrol. Felly diolch i bawb am eu croeso, eu cyfeillgarwch, a'u cefnogaeth - heb hynny buasai ngwaith i wedi bod yn anodd dros ben. A gobeithio fod y blog yma wedi dangos fod 'na fwy i Batagonia na the, cacs, paith, capeli, gauchos ayyb - mae'n gymaint mwy na hynny, a dwi'n edrych ymlaen yn barod at ddychwelyd fis Ebrill. Felly tan hynny:

Hasta luego! x

2 comentarios:

  1. Wedi mwynhau'r blog yn fawr. Diolch i ti. Dy;ai fod yn ofynol i bawb sy'n dod draw acw i weithio i'r Fenter gynnal un!

    ResponderEliminar
  2. Diolch yn fawr, Rhys - am y sylwad ac am ddarllen!

    ResponderEliminar