miércoles, 3 de octubre de 2012

Dathliadau a digwyddiadau diweddar...

Trannoeth Gŵyl y Glaniad cychwynnais ar fy nhaith i Tonga. Bws 20 awr i Buenos Aires - awyren 2 awr i Santiago, Chile - awyren 13 awr i Auckland, Seland Newydd - awyren 3 awr i Tongatapu, prif ynys Tonga - awyren 50 munud i Vava'u. Mae fy mrawd-yng-nghyfraith, Polu, yn frodor o'r ynys honno a hwn oedd y tro cyntaf iddo fe a fy chwaer, Gwenno, ddychwelyd yno ers iddyn nhw briodi yn Nhachwedd 2010. Ac wrth gwrs, neidiodd gweddill y teulu ar y cyfle i fynd hefyd! Treulion ni ddeg diwrnod anhygoel o braf yno gyda theulu Polu ac roedd y lle yn hyfryd dros ben - dwy gêm ddiddorol o rygbi, mynychu oedfaon yn y capel, bwyta llawer gormod, snorclo, treulio diwrnod ar y môr mewn cwch, bwyta mwy... Fiefia! Roedd hi'n rhyfedd iawn ffarwelio gyda fy nheulu i ben draw'r byd cyn i fi ddychwelyd i'r Ariannin. Gydag 16 awr o wahaniaeth rhwng y ddwy wlad a chroesi'r llinell amser (gadewais i Auckland am 13.10 brynhawn Mawrth, a glanio yn Santiago am 11.30 fore'r Mawrth hwnnw) bûm yn dioddef o'r hen 'jetlag' am ryw bythefnos! Ond dychwelais i'r gwaith fwy neu lai yn syth...

Diwrnod y Gaiman
Roedd y diwrnod cyn i fi ddychwelyd o fy ngwyliau yn Tonga, sef y 14eg o Awst, yn ddiwrnod arbennig o bwysig yma yn y Gaiman, gan mai dyma ddiwrnod pen blwydd y pentref. Naw mlynedd ar ôl cyrraedd yr Ariannin, symudodd y Cymry yn bellach i’r tir mawr gan sefydlu pentref lle mae’r Gaiman heddiw. Adeiladodd dyn o’r enw David Roberts y tŷ cyntaf yno'r flwyddyn honno, ac mae’n dal i sefyll heddiw gyda’i ddrysau ar agor i ymwelwyr. Cafodd rhai o olygfeydd ‘Poncho Mam-gu’ eu ffilmio yno!
Mae’n debyg fod David Roberts wedi cael cyngor gan yr Indiaid i adeiladu ei gartref ar y safle hwnnw gan ei fod yn ddigon pell o Afon Camwy, ac mae’r ffaith fod y Gaiman – a’r dyffryn – wedi dioddef sawl llifogydd dinistriol dros y degawdau gyda nifer fawr o bobl yn colli eu cartrefi a’u heiddo, yn dangos fod yr Indiaid hynny yn llygaid eu lle! Yn y Gaiman y sefydlwyd cyngor cyntaf talaith Chubut, a hynny yn 1885. Enw Indiaidd ydy 'Gaiman' ac nid yw ei ystyr yn hollol glir, gyda rhai yn dweud mai ‘carreg hogi’ ydyw ac eraill yn dadlau mai ‘lle cul’ yw'r ystyr. Ond mae’n debyg mai ‘Pentref Sydyn’ oedd enw’r Cymry arno gan ei fod yn datblygu’r gyflym iawn yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac erbyn heddiw mae rhyw 10,000 o bobl yn byw yma. Cynhaliwyd wythnos o weithgareddau a digwyddiadau i nodi pen blwydd y Gaiman yn 138 oed ac yn anffodus, collais i’r mwyafrif helaeth ohonyn nhw.
Cyrhaeddais y Gaiman nos Fercher y 15fed, ac ar nos Iau yr 16eg roedd yr Ysgol Gerdd a'r Ysgol Feithrin yn cynnal twmpath dawns i ddathlu. Patrwm y noson oedd bod gwahanol ddosbarthiadau o'r ddwy ysgol yn perfformio dawns cyn i'r athro wahodd rhieni a chyfeillion i ymuno â nhw i ddysgu dawns newydd. Gofynnwyd i fi baratoi un ddawns i'w dysgu ar ddiwedd y noson, a dewisiais i 'Cylch y Cymry' gan ymarfer yn lolfa Tŷ Camwy y bore hwnnw. Wel ro'n i bron ar y llawr pan gydiodd un o'r athrawon eraill yn y meicroffon a dweud mai hon oedd y ddawns ro'dd hi'n mynd i'w dysgu iddyn nhw! Fy nhro i oedd nesaf felly penderfynais ddysgu 'Jac y Do' iddyn nhw, sef un o'r dawnsfeydd y dewiais y llynedd. Dwi ddim yn meddwl fod unrhyw un yn cofio, a daeth nifer o blant i'r blaen a chael tipyn o hwyl yn ei dawnsio!

Ar fore Sul y 19eg o Awst cynhaliwyd yr orymdaith flynyddol ar hyd brif stryd y Gaiman, sef Eugenio Tello. Gollais i hon y llynedd, felly ro’n i wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohoni eleni. Ro’n i'n gorymdeithio ar ran yr Ysgol Feithrin gyda Chymdeithas Dewi Sant, ac am ryw hanner awr wedi naw y bore hwnnw trawsnewidiwyd yr Ysgol Gerdd yn ystafell newid wrth i amryw ohonon ni fenthyg gwisgoedd dawnsio gwerin yr ysgol i gynrychioli’r Cymry cyntaf. Felly gyda’r sgert, ffedog, llewysau, cot, a’r boned yn eu lle, bant â ni i ben draw’r stryd yn barod i orymdeithio... Ond roedd yn rhaid i ni aros bron i ddwyawr cyn gallu gwneud hynny!
Do’s gyda fi ddim syniad pam fod cymaint o oedi, ond fel’na ma’i weithiau. Felly ar ôl i Glwb Rygbi Draig Goch, Clwb Pêl-droed, y Clwb Canŵio, y Clwb Tango, Clwb Rolyr-blêds, gwahanol ysgolion, ac amryw gymdeithasau eraill orymdeithio daeth ein tro ni gydag Ysgol yr Hendre, Grŵp Dawnsio Gwerin Gwanwyn a’r Ysgol Gerdd i gerdded heibio i’r torfeydd o bobl oedd wedi dod i wylio’r orymdaith liwgar. Roedd yr awyrgylch yn arbennig, ac mewn gwlad sy’n dathlu cymaint o wyliau cenedlaethol mae hi’n hyfryd eu gweld yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau a'u hanes lleol hefyd. Bydden i wrth fy modd yn gorymdeithio drwy Bow Street mewn gwisg Gymreig, ond does gen i ddim syniad pryd cafodd pentref gorau’r byd ei sefydlu!

Capel Salem yn 100 oed
Nôl ym mis Mehefin dathlodd Capel Salem Lle Cul ei ganmlwyddiant, a chynhaliwyd cymanfa ganu yno i nodi’r digwyddiad lle ces i’r fraint o rannu neges o’r Beibl gyda’r gynulleidfa. Ond brynhawn dydd Sadwrn olaf Awst cynhaliodd aelodau’r capel eu dathliad eu hun, ac roedd y capel yn orlawn gyda phobl yn sefyll yn erbyn y waliau a rhai’r tu allan wrth i’r gwasanaeth ddechrau. Aelodau’r capel a’u teuluoedd oedd yn bennaf gyfrifol am arlwy’r prynhawn - unawdau, darlleniadau, cyfarchion a deuawdau.
Ces i dipyn o sioc pan ddechreuodd parti o gyn-ddisgyblion yr Ysgol Sul ganu 'Draw draw yn Tsieina', ond ymunais i a phawb arall yn y gytgan! Dangoswyd cyflwyniad ‘powerpoint’ o wahanol luniau ar hanes y capel dros y blynyddoedd – dosbarthiadau Ysgol Sul, pregethwyr, cyngherddau, priodasau a dathliadau Gŵyl y Glaniad. Yn eu plith roedd llun o ferch o’r enw Lois Guilford, sef y ferch gyntaf o’r enw Lois i fi glywed amdani yn hanes y Wladfa! Dewisodd un o'r unawdwyr yr emyn 'Pwy fydd yma 'mhen can mlynedd?' ac roedd ef a phawb arall dan deimlad wrth ystyried geiriau'r emyn hwnnw. Maen nhw'r un mor berthnasol i ni heddiw, gan obeithio y bydd y capeli hyn yn llewyrchu dros y blynddoedd a'r degawdau nesaf ac yn orlawn ar gyfer dathliadau dauganmlwyddiant.

Cymanfaoedd Canu
Mae dwy Gymanfa Ganu wedi cael eu cynnal ers y cofnod diwethaf, ac roedd y gyntaf yng Nghapel Seion, Bryn Gwyn ar brynhawn Sadwrn y 18fed o Awst. Mae rhai o gapeli Cymreig Dyffryn Camwy wedi derbyn arian gan lywodraeth y dalaith i’w hadnewyddu, a bu adeiladwyr yn gweithio ar Gapel Seion drwy’r llynedd. Felly hwn oedd y tro cyntaf i fi fod yno, a gyda hynny dwi wrth fy modd gyda’r ffaith mod i bellach wedi bod i bob un o’r capeli Cymreig! Un ar bymtheg ohonyn nhw. Er bod tipyn o waith wedi cael ei wneud ar Gapel Seion mae’n debyg eu bod nhw wedi cadw popeth yn union yr un peth, ac roedd y llawr pren yn llithrig dan draed wrth i fi gerdded i’r blaen i weddïo. Roedd hi’n ddiwrnod braf felly gadawyd y drysau ar agor yn ystod y gwasanaeth, gyda’r canu yn llenwi'r awyr las a'r caeau'r tu allan.


Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, ar y 9fed o Fedi, cynhaliwyd Cymanfa Ganu yng Nghapel Bethlehem Treorci. Cyrhaeddodd Cowbois Rhos Botwnnog y diwrnod cynt (cewch fwy o hanes yr ymweliad yma maes o law), ac roedd eu perfformiad cyntaf nhw yn y gymanfa hon.
Cododd y tri brawd i flaen y capel gan ganu ‘Dwy Law yn Erfyn’ i gyfeiliant gitâr a bongos, a syrthiodd distawrwydd ar yr ystafell gyda’r gynulleidfa wedi’i swyno gan y perfformiad teimladwy. Roedd y canu cynulleidfaol hefyd yn werth ei glywed, gyda mwy o emynau Cymraeg wedi cael eu dewis na’r arfer, a thraddodais i’r weddi ar ôl i’r offrwm gael ei gasglu. Yn ôl yr arfer, cafodd llun ei dynnu o bawb y tu allan i’r capel, ond yn wahanol i’r arfer darparwyd te yn y festri ar ôl y gymanfa – Bethlehem yw’r unig gapel sy’n cynnig te yn ddiffael, a chewch chi fyth mo’ch siomi gan yr arlwy!

Pen Blwydd Llawen Ysgol Feithrin y Gaiman
Bob dydd Iau dwi'n mynd i Ysgol Feithrin y Gaiman i ddarllen stori Gymraeg i'r tri dosbarth yn eu tro. Dwi wrth fy modd yn mynd yno ac yn gweld cynnydd yn ymddygiad ac iaith y plant o un wythnos i'r llall. Ar y 23ain o Awst roedd yr ysgol yn dathlu ei phen blwydd yn bedair ar bymtheg oed, felly cynhaliwyd parti yn y 'pelotero', sef rhyw fath o hwylfa gyda chastell bownsio a lle i fwyta y tu fewn, a pharc a thŷ bach twt y tu allan.
Ges i wahoddiad i ymuno â'r dathlu, felly lawr â fi i chwarae gyda'r plant. Heblaw am siglo ambell blentyn ar y siglen yn genfigennus, treuliais i dipyn o amser gyda rhai o'r bechgyn hynaf (4-5 oed) oedd yn trio agor 'ffynnon' ro'n nhw wedi'i ddarganfod yng nghornel y maes chwarae! Ar ôl yr holl chwarae, daeth pawb at ei gilydd i ganu 'Pen Blwydd Llawen' i'r Ysgol Feithrin yng ngolau canhwyllau'r gacen oedd wedi cael ei phobi gan athrawes goginio'r ysgol - wedyn cawson ni ei blasu, wrth gwrs! Roedd hi'n hynod o flasus! Mae nifer fawr iawn o blant yr ardal wedi derbyn eu haddysg gynnar yn yr Ysgol Feithrin hon gydag athrawon gweithgar ac ymroddgar dros ben. Ac er nad yw nifer ohonyn nhw wedi parhau i fynychu dosbarthidau neu ymarfer eu Cymraeg ers ei gadael, maen nhw'n dal i gofio rhai geiriau, brawddegau a chaneuon, ac mae hynny'n beth gwerthfawr dros ben. Pen Blwydd Llawen i'r Ysgol Feithrin, a dymuniadau gorau am flynyddoedd lawer i ddod!

Oedfaon Cymraeg
Dwi ddim yn gwybod pryd ddechreuodd yr arferiad, ond ar bedwerydd Sul y mis mae Capel Tabernacl Trelew yn cynnal oedfa Gymraeg yn y bore a Chapel Bethel y Gaiman yn cynnal oedfa Gymraeg yn y prynhawn. Dwi wedi cael yr anrhydedd o wneud gwaith Duw yn yr oedfaon hyn ers mis Ebrill y llynedd, a dwi'n gwerthfawrogi'r cyfle yn fawr.
Penderfynodd aelodau Capel Bethel na fyddai oedfaon yn cael eu cynnal yno yn ystod y prynhawniau eleni, felly cytuniais i wneud dwy oedfa y mis yno. Mae'n dipyn o waith paratoi ar eu cyfer nhw, ond mae'n fendith fawr cael gwneud gwaith Duw a rhannu ei air gyda'r bobl, a chael treulio cymaint o amser yng nghwmni'r gair. Roedd pum Sul ym mis Medi, a gan mod i wedi treulio'r pedwerydd penwythnos yn yr Andes (lle cynhaliwyd oedfa Gymraeg yng Nghapel Seion Esquel y Sul hwnnw), cynhaliwyd ail oedfa Gymraeg Capel Bethel fis yma'r wythnos hon. Gyda'r gwanwyn bellach wedi cyrraedd Patagonia ac arwyddion o fywyd newydd, ac roedd y neges yn seiliedig ar Lasarus yn cael ei godi o'r bedd. Ac yn ôl ein harfer, es i a rhai o wragedd y capel am baned a sgwrs i Siop Bara.

Clecs Camwy
Mae'r papur bro Clecs Camwy yn dal i gael ei gyhoeddi yn fisol, a bydd rhifyn mis Medi yn cael ei argraffu a'i ddosbarthu dros y diwrnodau nesaf. Mae'r papur bellach yn cael ei argraffu siop yn y Gaiman ers ychydig fisoedd oherwydd ei phrisiau cystadleuol, a ges i sioc wrth gerdded drwy Drelew rai wythnosau yn ôl a gweld fod y siop lle ro'n i'n ei argraffu bellach yn wag! Tybed ai Clecs Camwy oedd yn cynnal y siop, a heb fy ngwasanaeth i ei bod hi wedi mynd i'r wal?! Ar ôl crybwyll y peth wrth un o fy ffrindiau, dywedodd hi eu bod nhw wedi symud i adeilad arall gyferbyn. Diolch byth. Cerddais heibio i'r adeilad hwnnw yn ddiweddar a gweld ei fod llawer yn fwy na'r llall a bod y siop wedi datblygu gryn dipyn! Felly dy'n nhw ddim wedi gweld fy eisiau i a fy Nghlecs Camwy o gwbl...










No hay comentarios:

Publicar un comentario