sábado, 13 de octubre de 2012

Eisteddfod y Bobl Ifanc 2012

Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi bod yn darllen y blog hwn mae eisteddfodau yn cael eu cynnal ym Mhatagonia drwy’r flwyddyn, a daeth tro Eisteddfod y Bobl Ifanc fis Medi. Mae hon, i bob pwrpas, yn cyfateb i Eisteddfod yr Urdd gan fod y cystadlu wedi cael ei gyfyngu i’r sawl sy’n iau na 25 oed. Felly dyna fi allan ohoni! Ac yn hytrach na chystadlu cefais i’r fraint o feirniadu yn yr eisteddfod hon eleni eto, a hynny yng nghystadlaethau’r adrodd Cymraeg.
Felly bant â fi i ganolfan hamdden y Gaiman erbyn 8.45 fore Iau y 13eg o Fedi ar gyfer y rhagbrofion. Yn wahanol i ragbrofion yr Urdd lle mae rhieni a’u plant yn crwydro coridorau ysgolion yn gwbl ddi-glem ar drywydd rhyw ystafell ddosbarth, roedd rhagbrawf pob cystadleuaeth yn cael eu cynnal ar lwyfan y ganolfan hamdden yn eu tro – a’r plant yn cael defnyddio meicroffon! Eleni oedd y tro cyntaf i ragbrofion rhanbarthol (Eisteddfod Gylch) gael eu cynnal mewn gwahanol ardaloedd ymlaen llaw gan fod cymaint o blant a phobl ifanc yn dod i’r Gaiman i gystadlu. Doedd dim rhagbrofion rhanbarthol ar gyfer yr adrodd Cymraeg gan nad oedd digon wedi cofrestru eleni (roedd 38 enw yn yr adrodd hyd 4 oed y llynedd) ac yn anffodus, dim ond ar gyfer dwy gystadleuaeth adrodd Cymraeg ac un gystadleuaeth canu Cymraeg y cynhaliwyd rhagbrofion y bore hwnnw. O leiaf ro’n i adref erbyn amser cinio ar ôl treulio’r diwrnod cyfan yn y rhagbrofion y llynedd!

Am ryw chwarter i chwech brynhawn Gwener y 15fed o Fedi (dyw chwech na saith o’r gloch ddim yn cael eu hystyried yn nos yma!) gyrhaeddais i'r ganolfan hamdden yn barod i'r eisteddfod ddechrau am chwech. Roedd y neuadd wedi cael ei thrawsnewid gydag arddangosfa o'r gweithiau celf yn y cyntedd (defnyddiwyd fy nghyflenwad i o 'Blu tack' gan nad oes y fath beth yn bodoli yma), rhesi ar resi o gadeiriau wedi cael eu gosod ar gyfer y gynulleidfa, a'r llwyfan wedi'i addurno yn ddeniadol iawn. Cefais fy nhywys at fwrdd y beirniaid lle'r oedd poteli o ddŵr a bowlenni o siocled yn disgwyl amdanom ni! Roedd copi o raglen y flwyddyn nesaf hefyd ar y bwrdd - cyfieithais dipyn o'i gynnwys ac mae ynddi dudalen o hysbyseb ar gyfer Menter Patagonia. Ond doedd dim llawer o bobl yno pan gyrhaeddais i ac fel sy'n dueddol o ddigwydd, ni ddechreuodd yr eisteddfod tan ryw 6.20 - erbyn hynny roedd y neuadd yn orlawn! Ond cyn i'r cystadlu ddechrau cafodd yr ŵyl ei hagor mewn gair o weddi, wedyn canodd pawb anthem yr Ariannin cyn i gôr ieuenctid Ysgol Gerdd y Gaiman, Hogia'r Wilber a Carlos Dante Ferrari dalu teyrnged i Atahualpa Yupanqui, sef canwr gwerin enwog yn yr Ariannin a fu farw ugain mlynedd yn ôl. Yn dilyn hyn fe ddaeth y bobl ifanc i’r llwyfan yn eu tro i gystadlu mewn gwahanol gategorïau – canu, dawnsio, adrodd, offerynnau, corau, partïon, caneuon actol... Cawson ni fodd i fyw yn eu gwylio!
Yr unig broblem gyda beirniadu yw 'mod i’n colli’r cystadlaethau oedd yn dilyn y rhai adrodd Cymraeg gan mod i’n ysgrifennu’r beirniadaethau unigol a Laura Henry oedd yn eu cyfieithu i’r Sbaeneg y noson honno. Dwi’n synnu ei bod hi wedi cytuno i gyfieithu eleni eto – dwi’n dueddol o newid fy meddwl yn aml wrth lunio’r beirniadaethau, sy’n ychwanegu at ei gwaith hi! Ond chwarae teg, roedd hi’n amyneddgar iawn ac yn gwneud gwaith rhagorol. Mae gofyn i’r beirniaid draddodi beirniadaeth unigol i bob cystadleuydd ar y meicroffon cyn cyhoeddi’r enillwyr, a dwi’n meddwl ei bod hi’n anoddach i’r beirniaid Cymraeg yn hynny o beth – mae’n rhai i ni ysgrifennu yn union yr hyn ry’n ni’n bwriadu ei ddweud er mwyn i’r cyfieithydd ei ddarllen yn Sbaeneg, lle gall y beirniaid eraill ysgrifennu nodiadau a thraddodi’r feirniadaeth yn seiliedig ar y nodiadau hynny. Ac oherwydd hyn, doeddwn i byth yn barod i draddodi’r feirniadaeth pan fyddai’r arweinwyr yn gofyn, ‘Lois, ydy beirniadaeth yr adrodd yn barod?’ Ta waeth, dwi wrth fy modd yn beirniadu ac mae’r plant a’r bobl ifanc yn gallu gwneud y gwaith hwnnw’n anodd tu hwnt ar adegau gyda’i safon. Daeth noson gynta’r cystadlu i ben yn weddol gynnar, a dychwelais adref gyda bag llawn o’r siocledi a ddarparwyd i ymlacio cyn diwrnod prysur o feirniadu.


Ailddechreuodd yr eisteddfod am ddau o’r gloch y prynhawn canlynol, a finnau wedi dychwelyd i fy sedd wrth fwrdd y beirniaid yn brydlon unwaith eto gyda Nivia Owen yn cyfieithu am y prynhawn. Yn anffodus, doedd dim siocled ar y bwrdd y diwrnod hwnnw ond bowlenni o losin mintys. Heddiw y cynhaliwyd cystadlaethau’r plant ieuengaf gyda’r categori ieuengaf ar gyfer plant hyd 4 oed (hyd 8 oed sydd yn yr Urdd), a’r gân Gymraeg ar eu cyfer nhw oedd ‘Yn ddistaw bach’. Nawr, pan oeddwn i’n bump oed ges i a fy nghyd-ddisgyblion yn Nosbarth B Ysgol Rhydypennau, Bow Street, a phlant Dosbarth C ein dewis i ganu ar gasét ‘Rala La La’ gyda Mair Tomos Ifans, sef caneuon yn seiliedig ar straeon Rala Rwdins. Gwnaethon ni hefyd lwyfannu cyngerdd Nadolig yr ysgol yn seiliedig ar y caneuon, lle’r o’n i’n llefarydd. Un o ganeuon y Llipryn Llwyd ar y casét (mae e ar ffurf cd erbyn hyn!) yw ‘Yn ddistaw bach’ a wir i chi, ro’n i bron yn fy nagrau yn gwrando ar blant yr Ysgol Feithrin yn canu’r gân hon dros ugain mlynedd yn ddiweddarach ar lwyfan eisteddfod ym Mhatagonia! Cystadleuaeth arall achosodd i fi deimlo’n emosiynol oedd un o rhai’r corau iau, sef ‘Canu Roc a Rôl’. Ro’n i a fy chwiorydd, dwi’n meddwl fod y brawd yn rhy ifanc, yn canu hon pan o’n ni’n iau wrth wrando ar gasetiau Caryl Parry Jones yn y tŷ ac yn y car – druan â Mam a Dad! A bois bach, o’n nhw’n dda ac yn amlwg yn mwynhau ei chanu.

Cafwyd awr o doriad am chwech o’r gloch ac roedd Côr Cymysg yr Ysgol Gerdd yn cynnal te yn yr oruwchystafell. Ges i docyn am ddim (un o perks beirniadu) i’w fynychu ond ro’dd yn rhaid i fi fynd adref yn gyntaf, felly gyrhaeddais i gyda deg munud yn weddill – a chael stŵr chwareus gan fy nghyd-aelodau am gyrraedd yn hwyr! Dim ond paned o’dd arna i ei eisiau a llowciais ddarn o deisen ddu cyn dychwelyd at fwrdd y beirniaid. Cyn i’r eisteddfod ailddechrau ges i un o’r profiadau mwyaf rhyfedd dwi wedi’i gael yn ystod y flwyddyn a hanner dwi wedi’u treulio yma, sef siarad gydag Wncwl Wyn! Mae Dr E. Wyn James yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd ac yn gyn-ddarlithydd arna i, ond yn fwy na hynny mae’n ffrind i’r teulu ers blynyddoedd maith gan fod ei wraig (yr Archdderwyddes newydd) yn un o ffrindiau pennaf Mam.
Roedd e ym Mhatagonia ar gyfer cynhadledd oedd yn cael ei chynnal ym Mhorth Madryn ar y Wladfa, lle’r oedd e’n annerch. Yn anffodus, ni lwyddais i fynychu’r gynhadledd oherwydd yr eisteddfod. Felly daeth Wncwl Wyn am dro i’r Gaiman i weld rhywfaint o’r cystadlu cyn teithio i Buenos Aires y diwrnod canlynol, ac am ryfedd o braf oedd sgwrsio gydag e yn y neuadd honno am gwta 10 munud. Cafodd e hefyd groeso o’r llwyfan, er iddo gael ei alw yn ‘Dr Wyn Jones’ sawl gwaith! Yna daeth Cowbois Rhos Botwnnog i'r llwyfan i agor sesiwn ola'r eisteddfod gyda thair cân, sef eu perfformiad olaf yn Nyffryn Camwy cyn teithio dros y paith i'r Andes y noson honno, ac roedd pawb wedi'u cyfareddu ganddyn nhw.

Aeth yr eisteddfod rhagddi weddill y noson gydag amryw gystadlaethau, gan gynnwys adrodd Cymraeg, wrth gwrs! Ro'n i'n hynod o falch fod rhywun wedi cystadlu ym mhob categori oedran eleni, er gwaetha'r ffaith mai dim ond un ymgeisydd oedd mewn dau ohonyn nhw. Dwi wir yn meddwl y gallai rhai ohonyn nhw gystadlu yn erbyn plant a phobl ifanc Cymry ar lwyfan yr Urdd dan ganu ac adroddYn goron ar y cyfan oedd y prif seremoni, sef Y Fedal. Mae gofyn i'r ymgeiswyr lunio cerdd Sbaeneg ar destun agored ac am yr ail flwyddyn yn olynol safodd fy nghyfaill Gonzalo ar yr alwad (doedd dim utgorn) a chael ei dywys i'r llwyfan. Llongyfarchiadau mawr iddo fe!

Fel sy'n digwydd ym mhob eisteddfod, y corau sy'n cloi'r cystadlu a nifer wedi aros i wrando arnyn nhw. Ond nid beirniadaeth y corau oedd yr olaf i gael ei thraddodi, ond yn hytrach yr adrodd Cymraeg 19-25 oed! Wel, ro'dd mwg bron â chodi o fy mhin 'sgwennu i gyda Nivia a Laura wrthi fel slecs yn cyfieithu. Ond penderfynwyd traddodi'r feirniadaeth yn uniaith Gymraeg er mwyn i bawb fynd i'r gwely, a hithau erbyn hynny'n ryw hanner nos. Ac ar ôl hyn cyhoeddwyd pwy oedd wedi rhagori ym mhob categori. Gary Pugh serennodd yn yr adran gerddoriaeth am ei unawd, Dylan Hughes yn yr adrodd Sbaeneg, a dewisais Martin Hughes am adrodd yn Gymraeg - roedd e'n wych! Llongyfarchiadau i'r tri. A than ganu 'Hen Wlad Fy Nhadau' daeth yr eisteddfod i'w therfyn am flwyddyn arall.


Dwi'n cofio cael fy ngwefreiddio gan safon Eisteddfod y Bobl Ifanc y llynedd, o ran y trefniadau a'r cystadlu, ac roedd eleni llawn cystal. Dwi'n drist wrth feddwl am y ffaith na fydda i yma i fwynhau Eisteddfod y Bobl Ifanc 2013...

No hay comentarios:

Publicar un comentario