miércoles, 21 de noviembre de 2012

Cacennau, Cowbois, Cacennau, Chile, Cacennau, Cloncan, Cacennau...

Unwaith eto, mae gwaith ac amser wedi mynd yn drech na fi. Felly unwaith eto, mae'n rhaid i fi grafu 'mhen er mwyn codi wythnosau (misoedd erbyn hyn) o weithgareddau i'r wyneb. A dyma rai ohonyn nhw...

Cowbois Rhos Botwnnog

Mae 'na dipyn o artistiaid wedi ymweld â Phatagonia dros y blynyddoedd gan gynnal cyngherddau yma - Brigyn, Bryn Fôn, Gwyneth Glyn, a Gruff Rhys i enwi ond llond llaw ohonyn nhw. A fis Medi eleni, daeth tro Cowbois Rhos Botwnnog. Menter Patagonia (Iwan a fi) oedd yn trefnu eu taith nhw, oedd wedi derbyn nawdd gan Celf Rhyngwladol Cymru, Teithiau Tango a Sbrigyn Ymborth. Mae hanes y daith yn y rhifyn diweddaraf o 'Clecs Camwy', felly ewch draw i wefan Menter Patagonia i ddarllen amdani - www.menterpatagonia.org

Ond dyma ambell sylw ychwanegol...

Am y tro cyntaf ers mis Mawrth ges i gwmni i wylio Pobol y Cwm a thrafod hynt a helynt y gwahanol gymeriadau gyda nhw, a gweld un rhaglen ar sgrin fawr ro'n ni wedi'i menthyg gan Ysgol Camwy i wylio Cymru v Gwlad Belg! Gwell peidio dweud rhagor am y gêm honno. Ac ambell uchafbwynt y tu hwnt i'r cyngherddau a'r gweithdai oedd un bachgen yn Ysgol yr Hendre yn gofyn iddyn nhw, 'Ydych chi'n canu roc a rôl?', un fenyw yn troi at ei chyfaill yn festri Capel Bethlehem Treorci gan ddweud wrthi,'Dwi wedi siarad Cymraeg gyda nhw, dy dro di yw hi nawr!' a gwraig yn ein gweld y tu allan i Siop Bara gan ofyn i fi ai o Gymru maen nhw'n dod. 'Ie,' dywedais i. Rhwbiodd hi ei llaw ar wyneb Iwan, ei arogli, a dweud - 'Ie, o Gymru maen nhw'n dod!' O ie, ac wrth gwrs canu caneuon Disney yng nghegin Iwan Madog yn Esquel tan ryw wyth o'r gloch y bore!



Penwythnos yn yr Andes

Diwrnod y Myfyrwyr yw'r 21ain o Fedi yn yr Ariannin (yn ogystal â diwrnod cynta'r gwanwyn), felly roedd hi'n ddiwrnod o wyliau i'r holl fyfyrwyr oedd yn golygu nad oedd ysgol! Gan fod dydd Llun y 24ain o Fedi hefyd yn ddiwrnod o wyliau i nodi 200 mlynedd ers brwydr Tucumán, oedd yn rhan o'r frwydr ehangach am annibyniaeth i'r Ariannin, treuliais i, Elliw a Sara benwythnos hir yn yr Andes. Felly bant â ni ar y bws dros nos dros y paith a chyrraedd Esquel am 6.00yb. Ond ar ôl gollwng ein bagiau yn yr hostel, nôl â ni i'r terminal i frecwasta (coffi a 'media lunas' blasusfawr) wrth inni a'n pasborts ddisgwyl am fws i Futaleufu, Chile. Rhyw awr a hanner o daith oedd hi at y ffin, ac wedi i ni gael stamp i adael yr Ariannin ac yna un i gael mynediad i Chile, aeth bws mini â ni i bentref Futaleufu sydd ryw 20 munud o'r ffin. Doedd y bws ddim yn dychwelyd i'r Ariannin tan 7 o'r gloch y noson honno, felly roedd gyda ni'r diwrnod cyfan i weld yr atyniadau... Yn anffodus, ro'n i wedi gweld y mwyafrif, os nad y cyfan erbyn 11 o'r gloch - y plaza, y llyn, ac ambell siop. Felly doedd dim i'w wneud ond dychwelyd i'r llyn gan chwarae yn y parc, dod i adnabod rhai o gŵn y pentref, ac edmygu'r golygfeydd godidog. Yn ogystal â hynny buom yn paneidia am gwpl o oriau mewn dau le gwahanol, prynu marshmallows hir a lliwgar tebyg i 'Flumps' am $1 yr un (llai nag 20c), dychwelyd i'r llyn ac i'r plaza gan chwarae 'Dwi'n gweld gyda fy llygaid bach i...', wedyn swpera am 5.30 cyn dal y bws yn ôl at y ffin am 7.00. Dyw Futaleufu ddim yn lle gwael, a dwi'n sylweddoli fod y disgrifiad uchod yn darllen braidd yn nawddoglyd, ond bydden i ddim yn argymell treulio rhyw 9 awr yno. O leia cawson ni a'n pasborts ddychwelyd i'r Ariannin yn ddiogel ac yn ddidrafferth am 90 diwrnod arall, a hynny mewn pryd i weld gig Cowbois Rhos Botwnnog yn nhafarn Moe yn Esquel!

Y diwrnod canlynol ro'n ni yn y terminal unwaith eto, ond y tro hwn cawson ni fws moethus er mwyn teithio i El Bolson mewn steil. Ac am olygfeydd godigog - copaon gwynion y mynyddoedd cadarn wedi'u paentio'n drawiadol ar ganfas las yr awyr difrycheulyd. Tref rhyw ddwyawr i'r gogledd o Esquel yw El Bolson, ac ar ambell ddiwrnod yr wythnos mae 'na farchnad yn cael ei chynnal yno - a diolch byth fod dydd Sadwrn yn un o'r diwrnodau hynny. Dim ond ychydig oriau oedd gyda ni yno gan dreulio'r rhan fwyaf o'r amser yn crwydro'r farchnad yn edmygu'r gemwaith oedd yno, a phrynu ambell beth, wrth gwrs. A dweud y gwir, ro'n i bron â phrynu holl stoc un stondin oedd yn gwerthu 'alfajores' o bob math; anrhegion, siŵr iawn! Ond bûm i'n prynu ac yn bwyta sawl siocledyn jyst wrth ddisgwyl i Elliw gyrraedd y stondin... Er i'r bws gyrraedd awr yn hwyr cawson ni ddiwrnod braf iawn yn El Bolson, a chyrhaeddon ni'n ôl i Esquel mewn pryd i glywed gig olaf Cowbois Rhos Botwnnog yn y Wladfa.

Roedd Billy wedi cynnig mynd â ni'n ôl i'r Dyffryn ar y dydd Llun, chwarae teg, a'r stop cyntaf oedd cartref ei deulu sy rhyw ugain munud y tu allan i Esquel. Er ei fod yn bell o bob man, mae fferm Gwyndy mewn lleoliad cyfareddol gyda chaeau gwyrddion eang o bob tu iddi lle mae defaid yn pori ac estrys yn rhedeg yn wyllt. Ar ôl i ni gael ein tywys drwy rhai o'r caeau roedd hi'n amser cinio, a be well mewn lleoliad o'r fath ar ddiwrnod mor braf ond asado?! Ac am y tro cyntaf yn fy mlwyddyn a hanner yma, fe estynnais i help llaw gyda'r paratoi... Wel, roedd Billy yn y tŷ a'r tân yn lleihau felly teflais frigau arno a'i brocio gyda pholyn metel! Diolch byth na wnaeth fy ymyrraeth i ymyrryd â blas y cig, achos roedd e'n flasus dros ben. Iym go iawn. Wedyn bant â ni yn y camioneta ar gyfer ein taith ar y paith. Ry'n ni fel arfer yn teithio rhwng yr Andes a'r Dyffryn gyda'r nos ac felly'n colli'r golygfeydd. Dwi wedi bod yn ffodus i'w gweld yng ngolau dydd ryw deirgwaith o'r blaen, ond dwi'n cael fy ngwefreiddio gan yr hyn dwi'n ei weld ac yn dysgu am yr hanes bob tro - a doedd y daith hon ddim yn eithriad. Chwarae teg, roedd Billy'n dywysydd da gan dynnu ein sylw at wahanol lefydd a'u hanesion, er enghraifft Nant y Pysgod lle cafodd Llwyd ap Iwan ei lofruddio, Hafn y Glo a enwyd am y stribyn du sydd yn y graig lle dechreuodd y Cymry gloddio am lo yn ofer, a stopion ni wrth fedd John Lewis sydd wrth ochr y ffordd. Yn Eisteddfod y Wladfa y llynedd adroddais y gerdd 'Bedd Unig y Paith' ac unwaith i fi ddod o'r llwyfan addawodd Billy fynd â fi i'r weld y bedd hwnnw (er nad yw'n glir at ba fedd mae'r bardd yn cyfeirio), felly dyma fe'n cyflawni'r addewid hwnnw. Yn wir, mae'r bedd mewn lleoliad unig dros ben er gwaetha'r amryw gerbydau sy'n teithio ar hyd y ffordd honno bob dydd - faint ohonyn nhw sy'n stopio i dalu teyrnged i John lewis, tybed? Ond y lleoliad mwyaf trawiadol oedd Dyffryn y Merthyron.
Mae'r fan yn dwyn yr enw hwnnw yn dilyn pennod erchyll yn hanes Cymry'r Wladfa, pan gafodd pedwar ohonyn nhw eu hymlid gan Indiaid oedd yn eu hamau o fod yn ysbïwyr, yn ôl pob tebyg. Cafodd tri ohonyn nhw eu lladd yn y fan a'r lle, ond dihangodd John Daniel Evans wrth i'r geffyl, Malacara ('wyneb hyll') neidio'n wyrthiol dros ddibyn a charlamu'n ddi-stop tua'r dyffryn. Dychwelodd John Daniel Evans i leoliad y trychineb gyda dynion eraill, ac mae'n debyg fod y tri wedi cael eu tynnu'n ddarnau. Felly fe'u claddwyd yn y fan a'r lle a chodwyd cofgolofn ar eu cyfer sy'n sefyll yno hyd heddiw - yn ogystal ag arwydd i goffáu camp y Malacara. Hwn oedd yr unig ddigwyddiad gwael a ddigwyddodd rhwng y Cymry a'r brodorion yn hanes y Wladfa, ac mae'n debyg fod y brodorion wedi sylweddoli eu camgymeriad wrth glywed y Cymry'n canu emynau ar lan y bedd. Roedd sefyll yno'n dychmygu llwyth o Indiaid yn carlamu tuag atoch chi gyda'u sgrechfeydd gan godi llwch yn ddigon i godi ias oer. Mae hanes y Wladfa yn un anhygoel!


Siarad Saesneg
Hefyd ym mis Medi cefais wahoddiad i siarad mewn ysgol uwchradd yn Nhrelew lle mae aelod o Gapel Tabernacl a Chôr Cymysg yr Ysgol Gerdd, Patricia, yn athrawes Saesneg. Y bwriad oedd i fi siarad am Gymru ac am fy ngwaith yma gyda Menter Patagonia, a hynny yn Saesneg - tasg digon anodd os nad y'ch chi wedi siarad Saesneg ers rhyw bum mis. Mae mwyafrif y gweithgareddau a'r dosbarthiadau dwi'n eu cynnal yn ystod y prynhawn, felly dwi ddim wedi arfer dal y bws am 8.30 y bore - diolch byth nad Saesneg oedd y wers gyntaf, gan fod yr ysgol yn dechrau am 7.30! Daeth dau ddosbarth at ei gilydd mewn un ystafell, felly roedd rhyw hanner cant o ddisgyblion rhwng 14 ac 16 yn eistedd gan edrych arna i a'r map o Gymru oedd wedi cael ei hongian ar y bwrdd du. Felly bant â fi, ac ar ôl fy nghyflwyno fy hun gofynnais a oedd unrhyw un yn gwybod lle mae Cymru (cefais fy synnu ar yr ochr orau fod ambell un yn gwybod ei lleoliad) cyn gofyn beth yw ei phoblogaeth. Deng miliwn oedd cynnig un, pum miliwn oedd cynnig rhywun arall, a chawson nhw dipyn o syndod fod cyn lleied â thair miliwn yn byw yng Nghymru - a hyd yn oed mwyn o syndod pan ddywedais wrthyn nhw y gellir gosod Cymru yn nhalaith Chubut ryw naw o weithiau! Daeth cyfle iddyn nhw wedyn ofyn cwestiynau - oedran, teulu, cariad, fy ngwaith yma, fy hoff bethau am yr Ariannin, Boca Juniors neu River Plate... Deugain munud yw hyd y wers a chanodd y gloch cyn i fi droi rownd! Daeth dwy ferch ata i ar y diwedd gyda'r naill yn dweud wrth y llall, 'Preguntale!' ('Gofynna iddi!'), ac yna daeth y cwetsiwn: 'Have you been to London? ' ('Wyt ti wedi bod i Lundain?') 'Ydw'. 'Do you know One Direction? They live yn London!' ('Wyt ti'n adnabod One Direction? Maen nhw'n byw yn Llundain.') Wel, galla i ddim disgrifio'r siom ar eu hwynebau pan ddywedais wrthyn nhw nad oeddwn i'n eu hadnabod! Fwynheuais i yno gyda nhw, er i mi wneud ambell gamgymeriad yn fy Saesneg, a ges i fẃg a theisen blât yn anrheg. Felly ar ôl dychwelyd adref ges i baned o de Cymreig a darn o'r deisen flasusfawr!

Mae cymaint mwy i'w nodi, ond rhag diflasu unrhyw un bydd rhagor o hanesion yn cael eu hadrodd yn fuan...

1 comentario:

  1. Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?
    Cofion,
    Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
    CorpwsCymraeg@gmail.com

    ResponderEliminar