lunes, 28 de enero de 2013

Eisteddfod y Wladfa 2012

Dwi wedi chwibanu'r gân 'Dwi'n mynd o 'steddfod i 'steddfod' droeon dros y ddwy flynedd diwethaf, sy ddim yn syndod ac ystyried fod un ar ddeg o eisteddfodau wedi cael eu cynnal yn y Wladfa rhwng Mawrth 2011 a Medi 2012. Ac ar benwythnos olaf mis Hydref cynhaliwyd Eisteddfod y Wladfa 2012.

Bu rhai corau'n ymarfer ar ei chyfer ers i fi ddychwelyd fis Ebrill, ond wrth i'r penwythnos mawr agosáu cynyddodd nifer y corau a nifer yr ymarferion. Ro'n i'n aelod o Gôr Cymysg yr Ysgol Gerdd, Côr Merched yr Ysgol Gerdd, Côr Capel Bethel (Cymraeg a Sbaeneg), côr cymysg a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr eisteddfod hon, a chôr yr Urdd. Ar ben hynny, ro'n i'n aelod o grŵp dawnsio gwerin yr Ysgol Gerdd, cân actol Trelew, a phenderfynais roi cynnig ar y prif adroddiad. Ro'n i hefyd yn meddwl y buasai'n syniad da ffurfio parti cydadrodd, ond ychydig a wyddwn tan yr ymarfer cyntaf fod cynnig y syniad hwn yn golygu 'mod i hefyd yn fy nghynnig fy hun yn arweinyddes ac yn hyfforddwraig! Dwi'n meddwl mai unwaith erioed dwi wedi cydadrodd cyn hyn, a hynny gyda llys Llywelyn Ysgol Penweddig pan o'n i yn ddeuddeg oed (galla i ddim cofio'r darn na'r canlyniad). Ond chwarae teg, roedd aelodau eraill y parti yn amyneddgar iawn - yn enwedig wrth i fi newid fy meddwl o un ymarfer i'r llall - ac yn cynnig eu syniadau eu hunain hefyd! 'Gwenoliaid' gan T. Gwynn Jones oedd y darn, a chawson ni, 'Gwenoliaid Gaiman', dipyn o hwyl yn ymarfer gyda'n gilydd am ryw hanner awr fan hyn a fan draw rhwng yr holl ymarferion eraill. Er gwaetha'r prysurdeb yma, doedd eleni ddim mor wallgof â'r llynedd.

Wrth gwrs, dim ymarferion a chystadlu yn unig yw Eisteddfod y Wladfa ac ar fore Iau yr ŵyl cynhelir Seremoni Gorsedd y Wladfa. Cefais fy nerbyn yn aelod o'r Orsedd y llynedd felly eleni gorymdeithiais o Gapel Bethel at Gerrig yr Orsedd yn y rheng flaen, ac yn cael ei dilyn gan yr aelodau newydd - pob un ohonom yn ein 'ponchos' yn cael ein harwain gan y 'gauchos Cymreig' yn chwifio'r Ddraig Goch a baner yr Ariannin ar gefn eu ceffylau.
Unwaith i ni gyraedd Cerrig yr Orsedd ymunais â gweddill y Côr Merched ben draw'r cylch yn barod i ganu 'Y Wladfa' yn rhan o'r seremoni. Wel wir, roedd y gwynt yn chwythu'r bore hwnnw a doedd ein 'ponchos' ni ddim yn ddigon trwchus i'n cadw ni'n gynnes yn yr oerfel... Mae'n debyg fod rhywbeth dramatig yn digwydd yn y seremoni bob blwyddyn (roedd Iwan a fi'n rhan o ddigwyddiad anffodus y llynedd), ac eleni torrodd cadair un aelod o'r orsedd - ond prin fod unrhyw un wedi sylwi a chafodd neb niwed, diolch byth. Aeth y seremoni rhagddi'n dda iawn wrth i bedwar aelod newydd ar ddeg gael eu derbyn a'u cyflwyno i Lywydd yr Orsedd yn eu tro, cyn i aelodau o Ysgol Gerdd y Gaiman ddawnsio yn y cylch - druan ohonyn nhw'n sefyll am dros hanner awr yn eu dillad ysgafn - ac i gloi'r cyfan canodd pawb 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Afraid dweud ein bod wedi rhuthro i Hen Gapel Bethel i gynhesu gyda chwpanaid o de a thamaid i'w fwyta, a sgwrs!


Y noson ganlynol - 26 Hydref 2012 - agorodd drysau Clwb Racing Trelew i groesawu nifer o eisteddfotwyr, boed yn gystadleuwyr, yn drefnwyr, neu'n ymddiddorwyr, ar gyfer noson o gystadlu. Ond roedd ambell beth arall i'w gwneud o'r llwyfan yn gyntaf. Ces i fraint aruthrol o fawr i draddodi'r weddi agoriadol yn Gymraeg o'r llwyfan, gyda'r Parch. Julio Ross yn rhoi gair o weddi yn Sbaeneg.
Ac yn dilyn hynny daeth y pedwarawd 'Hogia'r Wilber' a Dawnswyr Gwanwyn i'r llwyfan i gyflwyno'r perfformiad agoriadol. Am sioe wych yn cyfuno'r 'Gangam Style' gyda 'Mi welais Jac-y-do' a dawnsio gwerin, a ffrwydrodd y dorf yn eu gwerthfawrogiad a'u mwynhad o'r perfformiad bythgofiadwy hwnnw! Ac felly daeth hi'n amser cystadlu, gydag amryw unawdwyr, corau, adroddwyr a dawnswyr yn ceisio plesio'r beirniaid, yn ogystal â 'Gwenoliaid Gaiman'. Yn anffodus, ni oedd yr unig gystadleuwyr ond cawsom deilyngdod - dywedodd un wraig wrtha i mai dyna'i huchafbwynt hi o'r holl eisteddfod! A'r wobr? Teisen ddu. Trodd fy stumog gan mai ond wythnos oedd ers i fi feirniadau ym Mhencampwriaeth y Deisen Ddu. Aeth gweddill y noson yn dda ac yn drefnus gan orffen cyn hanner nos, yn gyfle i bawb ymlacio a dadflino cyn dychwelyd i'r Racing erbyn 2.00 y prynhawn canlynol.

Dechreuodd y diwrnod hwn gyda'r weddi agoriadol cyn i gystadleuwyr o bob lliw a llun ddod i'r llwyfan yn eu tro. Fues i'n rhedeg ac yn rasio i newid gwisgoedd - sgeirff a chrysau-T y gwahanol gorau, gwisg angel ar gyfer y gân actol, a'r 'poncho' ar gyfer y Cadeirio - ymarfer geiriau a chystadlu fwy neu lai drwy'r prynhawn. O'r holl gystadlaethau yr adrodd unigol oedd y profiad gwaethaf eleni eto wrth i 'nghoesau grynu fel jeli wrth drio 'nghario i ganol y llwyfan lle'r oedd golau llachar fy nallu. Ddes i drwyddi a chadw cysondeb trwy ddod yn gydradd drydydd unwaith eto!
Roedd amryw deithiau o Gymru wedi dod ar gyfer yr eisteddfod a braf oedd gweld aelodau 'Taith i'r Paith', sef criw o Ogledd Cymru, chriw yr Urdd yn cystadlu - cefais i ac Iwan le anrhydeddus yng Nghôr yr Urdd i ganu 'Cofio Dy Wyneb'. Cipiwyd y wobr gyntaf, er mai ni oedd yr unig gôr! Hon oedd un o'r cystadlaethau olaf, ac ar ôl i bawb godi ar eu traed i ganu 'Hen Wlad Fy Nhadau' gwagiodd y neuadd. Mae sawl un wedi dweud mai hon oedd yr eisteddfod orau iddyn nhw ei mynychu am wahanol resymau - roedd hi yn eisteddfod ragorol. Yn dilyn cynnwrf y cystadlu, croesodd nifer ohonom y ffordd i'r ysgol gyferbyn lle'r oedd bwyd a bwgi yn ein disgwyl, ac yno buom yn dawnsio tan ryw dri o'r gloch y bore cyn i'r bws ddod i'n cludo ni'n ôl i'r Gaiman.

Ond roedd y diwrnod canlynol yn llawn dop wrth i Gapel Bethel lenwi ar gyfer y gymanfa ganu flynyddol. Ro'n ni fel criw yr Urdd wedi paratoi emyn i'w ganu a'i ddysgu i'r gynulleidfa, 'Fe'th addolaf', a thraddodais i weddi. Yn dilyn y gymanfa cynhaliodd Ysgol yr Hendre asado blasusfawr yn y gampfa lle cafodd Iwan a fi gais munud olaf i alw twmpath! Yn dilyn rhyw awr o orffwys, cynullodd nifer o bobl yn Hen Gapel Bethel ar gyfer Noson Lawen yng nghwmni Taith i'r Paith, Criw yr Urdd, Hogia'r Wilber ac unawdwyr.

Penwythnos penigamp, ond nid hon oedd eisteddfod ola'r flwyddyn...

Llongyfarchiadau i bawb, a phob hwyl yn Eisteddfod y Wladfa 2013!

No hay comentarios:

Publicar un comentario