martes, 5 de marzo de 2013

Dad a Gwion ym Mhatagonia

Wel wir mae bron i dri mis ers i fi adael Patagonia yn barod! Ac oes, mae dal ambell hynt a helynt dal i'w cofnodi...

Daeth mis Tachwedd â Dad a Gwion i Batagonia. Ro'n ni yn yr Andes gyda chriw yr Urdd oedd draw ar gyfer yr eisteddfod, felly hedfannodd y ddau i Bariloche lle cawson nhw eu croesawu gen i a cherddorfa o Mendoza (nid fi drefnodd hyn) cyn i ni (heb y gerddorfa) ymlacio am bedair awr ar fws coche cama i Esquel. Dywedais i wrthyn nhw o'r cychwyn cyntaf nad gwyliau fyddai hwn ond ymweliad, a daethon nhw i ddeall hynny yn fuan iawn...



Fore trannoaeth cynhaliwyd oedfa Gymraeg yng Nghapel Bethel Trevelin lle cymerodd rhai o'r criw ran yn darllen emynau ac adnodau, gweddïodd Dad, a rhannais i'r neges yn seiliedig ar Effesiaid 2 yn ogystal ag arwain pawb i ganu 'Haleliw, Haleliw, Haleliw, Haleliwia - Molwn ein Duw'. Aethon ni i sbecian yn Ysgol Gymraeg yr Andes lle'r oedd copi o nofel gyntaf Dad, 'Trwy Goed y Cedyrn', ar un o'r silffoedd! Ar ôl ffarwelio'n emosiynol â chriw yr Urdd aethon ni am ginio mewn bwyty yn Nhrevelin, lle manteisiodd Dad a Gwion ar y cyfle i flasu milanesa am y tro cyntaf. Bois bach, ro'n nhw'n anferth ac yn edrych fel ôl-troed deinosor! Ar ôl treulio'r prynhawn yn crwydro Trevelin aethon ni am swper (er dal yn llawn ar ôl y milanesas cyn-hanesyddol!) o bizza gyda ffrindiau. Roedd Dad yn adnabod Mary ac Alwen Green ers eu cyfnod yng Nghymru rhyw 40 mlynedd yn ôl a hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw gwrdd ers hynny; roedd hi'n braf a diddorol gwrando arnyn nhw'n hel atgofion. Roedd gloddesta'r Sul yn galw am rywfaint o ymarfer corff felly diolch byth mod i wedi trefnu bore yn crwydro parc cenedlaethol Los Alerces at y dydd Llun, a diolch yn fawr i Clare a Victor am ein tywys drwy'r lleoliadau hanesyddol a phrydferth sydd yno ac at fan ar lan yr afon lle cawson ni bicnic oedd yn cynnwys gweddillion ein milanesas o'r diwrnod cynt! Mae'n drueni nad oedd gyda ni fwy o amser i'w dreulio yn yr Andes, ond roedd gwaith yn galw felly ar ôl prynhawn yn Esquel daeth hi'n amser i ni gamu ar y bws tua'r dyffryn.



Roedd hi'n gwawrio wrth i Dad a Gwion gael eu cip cyntaf ar y Gaiman, a gobeithio na chafodd unrhyw un o drigolion Heol Michael D. Jones eu dihuno gan sŵn olwynion y cesys yn rhowlio'r holl ffordd lan i Dŷ Camwy... Y prynhawn hwnnw dechreuodd y gwaith gydag ôl-feithrin yr Hendre yn Nhrelew, ac o hynny allan prin y cawson ni eiliad i ymlacio rhwng y gwaith, ymweliadau a bwyta. Ymunodd y ddau â fi yn y gwahanol ddosbarthiadau oedd yn cynnwys chwarae 'Faint o'r gloch yw hi Mistar Blaidd?' yn yr Hendre, taith gerdded o amgylch y Gaiman gyda'r ôl-feithrin, canu a chwarae yng Nghylch Chwarae Dolavon, a gwrando arna i'n darllen stori yn yr Ysgol Feithrin. Ond ges i saib o'r Clybiau Trafod gan fod Dad wedi cytuno i'w cynnal yn fy lle, chwarae teg. Daeth rhyw ugain o bobl i Dŷ Camwy i wrando arno'n rhannu ei brofiadau ac yn hel atgofion am ei gyfnod yn canu gyda Hergest yn ystod y 1970au, a'r wythnos ganlynol llanwyd siop lyfrau 'Un Amor Diferente' yn y Gaiman pan roddodd sgwrs ddiddorol ar ei yrfa fel awdur nofelau ditectif. Yn ogystal â hyn, cytunodd Dad i ddefnyddio'i brofiad o gynnal Sgwadiau Sgwennu mewn ysgolion yng Nghymru i gynnal gweithdy gyda phlant hynaf Ysgol yr Hendre - roedd hi'n wych eu gweld nhw'n bwrw ati i greu cymeriadau a llunio plot ar gyfer eu straeon. Cafodd y sesiynau hyn ymateb da iawn a diolch i Dad, a Gwion mewn gwirionedd, am gyfrannu at y gwaith yno!







Na phoener, ni threuliodd Dad a Gwion eu holl amser yn gweithio neu yn fy nilyn i wrth i fi weithio. Cawson ni ein tywys i ardal Tir Halen gan Ricardo a Vali ac o amgylch y capeli, Llain Las a'r bont grog gan Luned (a cholli rhan o'r car rywle ar y ffordd!). Roedd y tywydd yn hynod o braf y bore dreulion ni ym Mhorth Madryn gydag ambell forfil yn dod i ddweud 'helo' wrth i ni gerdded ar lan y môr tua'r ogofâu, a chawson ni bicnic bach uwchben y fan honno yn edrych allan dros y môr. Rhaid oedd rhuthro'n ôl i Drelew gan fod Dad a Gwion wedi cael gwahoddiad i gael eu cyfweld ar raglen radio Tegai a Luned cyn i ni fynd am baned yn y Touring a chael snŵp ar ystafell Butch Cassidy. Manteision ni ar un bore rhydd i weld rhagor o anifeiliaid a bywyd gwyllt Patagonia a mynd ar daith i Punta Tombo sy'n enwog am y miliynau o bengwiniaid sy'n dodwy wyau ar y traethau yno. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cyrraedd pan oedd hi'n amser codi i'r pengwiniaid gan fod pennau bach du a gwyn yn codi'n sydyn o dyllau fan hyn a fan draw, ac wrth i rai sefyll yno fel delwau roedd eraill yn wadlan eu ffordd tua'r môr i ymdrochi. Maen nhw'n greaduriaid bach doniol a diddorol ac er mod i'n hoffi Punta Tombo, unwaith i chi weld rhyw ddwsin o bengwiniaid ry'ch chi wedi'u gweld nhw i gyd! Welon ni estrys, cuis (llygod bach) a gwanacos (fy hoff anifail Patagonaidd) hefyd cyn troi am adref.







Dwi wedi crybwyll bwyd yn barod ac fel mae'r blog yma wedi dangos dros y ddwy flynedd diwethaf, mae gan fwyd le pwysig iawn ym mywyd yr Ariannin a gallwch chi ddim mynd i'r Wladfa heb flasu'r cig, empanadas, hufen-iâ, te Cymreig ac alfajores - gwnaeth Dad a Gwion (a fi) ddigon o hynny yn ystod y deg diwrnod dreulion nhw yno. Cawson nhw wahoddiad i wledda gyda chriw y Bwthyn (yn ôl Gwion, cafodd e'r daten orau erioed yno!) aeth criw mawr ohonom i fwyta yng Ngwalia Lân, cawson ni de blasus dros ben ar fferm hyfryd ffrindiau, a pharatôdd Gwion a fi sawl batsh o empanadas cig eidion. Que riquissimo! Efallai mai isafbwynt yr ymweliad oedd gwylio Cymru yn colli yn erbyn yr Ariannin yng ngemau Hydref y tîm rygbi, a ninnau'n dal y bws yn ôl i'r Gaiman yn ein crysau cochion... Ond dwi'n siŵr mai un o'r uchafbwyntiau i Dad oedd ymweld â stiwdio recordio Hector Ariel, sydd yn ffan mawr o Hergest!







Ro'n i mor hapus i allu croesawu Dad a Gwion i Batagonia ac i Dŷ Camwy, ac wrth fy modd yn treulio amser gyda nhw yno! Roedd yn gyfle iddyn nhw brofi'r bywyd fues i'n ei fyw am ddwy flynedd a chwrdd â phobl a llefydd maen nhw wedi clywed cymaint amdanyn nhw gan dderbyn un croeso a mwynhad dwi wedi'u cael, a dwi'n ddiolchgar i bawb am hynny. Er y byddwn ni'n eu gweld nhw ychydig wythnosau'n ddiweddarach, ro'n i dan deimlad yn ffarwelio â nhw yn y terminal yn Nhrelew. Pan ofynnais i Gwion beth oedd uchafbwynt ei ymweliad â Phatagonia, ei ateb ysgafn oedd 'y gath llygaid croes!' Oes, mae 'na gath sydd â llygaid croes i'w gweld ar Heol Michael D. Jones ac mae hi'n werth ei gweld, ond dywedodd ef a Dad yn ddidwyll eu bod nhw wedi cael amser bythgofiadwy yn y Wladfa ac yr hoffen nhw, fel sawl un arall sy'n ymweld, ddychwelyd yno ryw ddiwrnod.


No hay comentarios:

Publicar un comentario